Agenda a Chofnodion

Cyngor
Dydd Mercher, 24ain Gorffennaf, 2019 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

338.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau/Swyddogion canlynol:-

 

Y Cynghorydd D K Edwards

Y Cynghorydd S Vidal

Y Cynghorydd R M James

Y Cynghorydd E Venables

Y Cynghorydd A J Williams

Y Cynghorydd D Owen

Y Cynghorydd S G Smith

Y Cynghorydd H M Williams

Y Cynghorydd J C Spanswick

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

339.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd N Burnett ddatgan buddiant, oedd yn rhagfarnu, yn eitem 7 ar yr agenda (tudalen 85), fel Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Neuadd Fytholwyrdd. Fe wnaeth y Cynghorydd M C Voisey ddatgan buddiant, oedd yn rhagfarnu, yn eitem 7 ar yr agenda (tudalen 85), fel Aelod o Bwyllgor Rheoli’r Neuadd Fytholwyrdd. Gadawodd y ddau Aelod y cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei thrafod.

340.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 113 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/06/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor,

                                dyddiedig 19 Mehefin 2019 fel cofnod gwir a chywir.

341.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ei fod wedi cael mis prysur a bod llawer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal yn yr awyr agored.

 

Yn gynharach yn y mis, buasai ym mhencadlys Heddlu De Cymru a chael y fraint o’i gyflwyno i’w Fawrhydi y Tywysog Charles. Roedd y Tywysog Charles yn bresennol i ddadorchuddio plac yn nodi hanner can mlynedd ers ffurfio Heddlu De Cymru. Daeth yr Heddlu i fodolaeth ar y 1af o Fehefin 1969 ac mae wedi tyfu i ddod yn un o’r heddluoedd sy’n perfformio orau yn y wlad.

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Porthcawl ei ras 10 cilometr gyntaf. Roedd mwy na 3,000 o redwyr yn bresennol a bu Iwan Thomas, sbrintiwr gwych Cymru, yn helpu’r cystadleuwyr i gynhesu. Daeth cannoedd o wylwyr allan yn llu i gefnogi’r digwyddiad, ac roedd ef yn bresennol ynghyd â Maer Porthcawl. Roedd hyd yn oed y Red Arrows yn hedfan heibio i nodi’r hyn y gobeithir fydd yn gychwyn rhedeg pellter yn y dref.

 

Roedd Gorffennaf fel pe bai’n fis o sioeau amaethyddol ac roedd yn falch i fod yn bresennol yn Sioe Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym Mhencoed ac, ar raddfa fwy, y Sioe Frenhinol Gymreig. Cychwynnodd Sioe Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym 1946, fel croeso’n ôl i’r rhai fu’n gwasanaethu’r wlad hon yn yr Ail Ryfel Byd. Ychwanegodd ei bod yn parhau i fod yn arddangosiad ardderchog o gydlyniad cymunedol yn ogystal â lle i ddathlu ein treftadaeth amaethyddol.

 

Dywedodd y Maer ei fod hefyd wedi cael y pleser o agor Canolfan Bryncethin yn swyddogol, yn dilyn cytundeb Trosglwyddo Ased Cymunedol. Roedd yr achlysur hwn yn cynnwys plant ysgol lleol yn canu, gyda chynrychiolwyr Clwb Rygbi a Phêl Droed Bryncethin hefyd yn bresennol.

 

Y penwythnos diwethaf roedd yn falch i gael gwahoddiad i fod yn bresennol yn y Sioe Geir Clasurol yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei threfnu gan Glwb Ceir Clasurol Morgannwg. Roedd y digwyddiad blynyddol hwn hefyd yn cynnwys cerddoriaeth, bwyd ac adloniant ac roedd hi’n braf gweld y digwyddiad yn cael derbyniad mor dda.

 

Llongyfarchodd y Maer y Cynghorydd Bridie Sedgebeer a Chris Elmore AS oedd wedi priodi y penwythnos blaenorol. Dymunodd ddyfodol hapus iawn iddynt gyda’i gilydd.

 

Yn olaf, diolchodd y Maer i’r rheiny a gyfrannodd i gasgliad y banc bwyd yng nghyfarfod y Cyngor y mis diwethaf. Cadarnhaodd fod y banc bwyd yn Stryd Nolton yn dra diolchgar am gasgliad o’r fath.

 

Aelod y Cabinet – Cymunedau

 

Dywedodd Aelod y Cabinet, Cymunedau, y gallai Aelodau efallai gofio bod yna, yn ôl yn 2015, bryderon ynghylch dyfodol blodyn eithriadol o brin, sef Tegeirian y Fign Galchog, sy’n tyfu yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, ar ôl i’w nifer syrthio i oddeutu 200. Gan mai yng Nghynffig yn unig y mae Tegeirian y Fign Galchog yn tyfu, mae’r safle yn gartref i holl boblogaeth y DU o’r blodyn bychan, tlws hwn.

 

Roedd yn falch i hysbysu’r Aelodau fod nifer Tegeirian y Fign Galchog bellach wedi cynyddu i dros 1,000, diolch i gynllun rheoli  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 341.

342.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi bod yn bresennol yn Nh?’r Cyffredin yn ddiweddar i annerch y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, ynghylch yr effaith ddigyffelyb y byddai cau ffatri injan Ford yn ei chael ar ein Bwrdeistref Sirol.

 

Mae ffatri injan Ford wedi cynhyrchu £1.3 biliwn yn uniongyrchol ar gyfer economi Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’n gwmni angori, nid yn unig ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, nid yn unig i Gymru, ond i’r DU i gyd. Ynghyd â chynrychiolwyr undebau llafur y ffatri, fe wnaethom annog Ford i aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aros yng Nghymru i gadw rhai, o leiaf, o’r 1,700 o swyddi tra chrefftus yma.

 

Mae Ford wedi cyhoeddi cronfa o £1 filiwn ar gyfer y gymuned. Os yw Ford, sydd wedi derbyn dros £140 miliwn o gymorth gan y Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf, yn cau’r ffatri, yna mae eu hetifeddiaeth i’r gymuned ehangach ac i’r gweithwyr, sydd wedi adeiladu miliynau o geir i Ford ers dros 40 o flynyddoedd, yn gorfod bod yn llawer mwy nag £1 filiwn yn unig. Byddwn yn cyfarfod â Chyfarwyddwr Ford UK y mis nesaf ac yn cyflwyno’r ddadl honno.

 

Mae nifer y swyddi a gollir yn ddigynsail, ac felly, mae angen ateb digynsail gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd. Pwysleisiodd y byddwn yn colli £250 miliwn y flwyddyn o’r economi, a’i bod yn hanfodol  buddsoddi ar frys a gweithredu’n gyflym.

 

Soniodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor am rai o’r prosiectau seilwaith y gellid eu cyflwyno i greu swyddi newydd a rhoi rhywfaint o hyder i’r busnesau, y cymunedau, y teuluoedd a’r trigolion. 

 

Roedd y Cyngor wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Dddiwydiannol yn Llywodraeth y DU, yn amlinellu’r cynigion. Rydym hefyd yn cyflwyno’r achos mewn cyfarfodydd tasglu a chyda swyddogion.

 

Mae Swyddfa Bargen Ddinesig Caerdydd, wrth gwrs, yn blaenoriaethu Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer buddsoddiad posibl.

 

Byddai cyd-Aelodau’n cofio iddo gyhoeddi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ein bod yn ail-lansio’n Cronfa Adfywio Arbennig ac yn ymestyn ein cronfa ‘Kick Start’ i gefnogi busnesau bychain a newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y prynhawn yma, rydym yn cynnig y dylem roi o’r neilltu yn y rhaglen gyfalaf Gronfa Buddsoddi mewn Cymunedau o £2 filiwn, y gallwn ei defnyddio’n hyblyg o bosibl i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer cyfleoedd buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn cynnig, yn y rhaglen gyfalaf, gwella Cyffordd Heol Mostyn ar yr A48 yn y Pîl. Mae hyn wedi dod yn hanfodol gan y bydd yn ein galluogi i ddatblygu Stad Ddiwydiannol Village Farm ymhellach, lle mae gennym brinder lle ar gyfer busnesau bychain a chanolig. Dim ond rhai yw’r rhain o’r camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i’r cau arfaethedig.

 

Dywedodd yr arweinydd fod y penwythnos diwethaf wedi gweld agor Canolfan Gymunedol newydd Bryncethin.

 

Mae’r hen bafiliwn chwaraeon wedi cael ei droi yn adeilad deulawr newydd sy’n edrych  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 342.

343.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, adroddiad ar Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2018/19 i’w gymeradwyo, gan ofyn i’r Aelodau nodi’r dyfarniadau a gyrhaeddwyd yn lleol ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rhoddai’r adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir, ac yn dilyn hynny, esboniai fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn rhoi pwyslais cryf ar hyrwyddo lles pobl sydd angen gofal a chymorth, yn ogystal â gofalwyr sydd hefyd angen yr un peth.

 

Eglurodd mai prif nod ac amcan yr adroddiad (a’r cyflwyniad cysylltiedig) oedd rhoi trosolwg ar ofal cymdeithasol i’r Cyngor a phobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hefyd yn anelu at amlygu’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â nodi blaenoriaethau ar gyfer 2019/20.

 

Cyfeiriai paragraff 4 o’r adroddiad at y canllawiau ar gyfer yr adroddiad, oedd yn nodi’r gwahanol adrannau oedd yn ymwneud â’r chwe safon ansawdd cenedlaethol ar gyfer llesiant, oedd wedi eu nodi yn fformat pwyntiau bwled yn yr adran hon o’r adroddiad.

 

Dangosai’r adroddiad a’r wybodaeth ategol fod gwasanaethau’n effeithiol ar y cyfan, o’u hasesu yn erbyn diwallu anghenion unigolion y mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Er bod y wybodaeth yn yr adroddiad a’r cyflwyniad yn cadarnhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gwella ar y cyfan, roeddent hefyd yn nodi meysydd lle roedd angen gwella a dangoswyd y rhain yn y blaenoriaethau ar gyfer 2019/20.

 

Roedd yr Adroddiad drafft wedi ei atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad eglurhaol, ac roedd llythyr gan Arolygiaeth Gofal Cymru, yn amlinellu adolygiad o berfformiad yr awdurdod lleol yn y maes hwn, wedi ei gynnwys yn Atodiad 2.

 

Rhoddai paragraff 4.11 o’r adroddiad rai nodau a chamau gweithredu allweddol oedd yn cael eu gweithredu/cynnig, mewn perthynas â blaenoriaethau gwasanaeth cyfan a hefyd rai blaenoriaethau ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol i Blant fel y cyfryw. Yna rhoddai’r cyflwyniad fanylion am Adroddiad Blynyddol 2018/19, fel a ganlyn:-

 

Oedolion - Ffeithiau a Ffigurau allweddol                2017/18   2018/19

 

Cyfanswm nifer yr atgyfeiriadau ac ail atgyfeiriadau        7604         7469

ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion

 

Nifer yr oedolion a gynorthwyir yn y gymuned                 5177         5198

 

Nifer y bobl a dderbyniodd becyn teleofal                        3162         3451

 

Nifer yr atgyfeiriadau i gymorth adfer yn y gymuned        1010         1043

(ARC)

Nifer y bobl a ddargyfeiriwyd o wasanaethau prif ffrwd      116           122

i’w helpu i aros yn annibynnol gyhyd ag sydd modd          857         1162

                                                                                   (yn ARC)  (yn ARC)

 

Nifer y bobl a gynhelir mewn gofal preswyl/nyrsio             676         700

 

Cyfradd yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am      1.52        4.79

resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth

75 oed a throsodd

 

Plant – Ffeithiau a ffigurau allweddol

 

Nifer y cysylltiadau yn ystod y flwyddyn                            6677        7945

 

Nifer y plant oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth                384         381

 

Y ganran o’r holl rhai sy’n gadael gofal sydd mewn          61%        64%

addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis ar ôl

gadael gofal

 

Canran y plant 7-17 oed sy’n fodlon ar y gofal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 343.

344.

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 1, 2019-20 pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid dros dro a Swyddog Adran 151 adroddiad, a’i ddiben oedd:-

 

    Cydymffurfio â gofynion Cod Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf 2018

     Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf o 1 Ebrill hyd 30 Mehefin 2019 (Atodiad A)

     Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 i 2028-29 (Atodiad B)

     Nodi’r dangosyddion darbodus ac eraill a ragwelir ar gyfer 2019-20 (Atodiad C)

  Cymeradwyo trosglwyddiad cyllideb refeniw o £2,349,797 o gyllidebau dirprwyedig ysgolion i gyllidebau ar draws y Cyngor, ar ôl derbyn arian grant o’r un gwerth â hynny gan Lywodraeth Cymru, i gyfrannu at wariant cyfalaf fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.7.

 

 Fel cefndir, dywedodd fod CIPFA, ym mis Rhagfyr 2017, wedi cyhoeddi argraffiad newydd o’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn awdurdodau lleol. Roedd y Cod diwygiedig yn gosod gofyniad newydd ar awdurdodau lleol i bennu Strategaeth Gyfalaf, i gael ei chymeradwyo gan y Cyngor, yn dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn cymryd i ystyriaeth briodol stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaladwyedd a fforddiadwyedd. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid dros dro a Swyddog Adran 151, ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu Strategaeth Gyfalaf sy’n nodi’r cyd-destun hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi ac yn rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo, a’r effaith ar gyflawni’r canlyniadau pwysicaf.

 

O ran monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2019-20, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro a Swyddog Adran 151 fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer y cyfnod uchod, yn dod i gyfanswm o £54.471 miliwn ar hyn o bryd, yr oedd £36.665 miliwn ohono yn dod o adnoddau’r Cyngor, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda’r £17.806 miliwn oedd yn weddill yn dod o adnoddau allanol. Rhoddwyd dadansoddiad o hyn yn Nhabl 1 yn yr adran hon o’r adroddiad fesul Cyfarwyddiaeth.

 

Roedd Tabl 2 yn yr adroddiad wedyn yn crynhoi’r tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019-20. Caiff yr adnoddau cyfalaf eu rheoli er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cael y budd ariannol mwyaf posibl. Gall hyn gynnwys ad-drefnu cyllid er mwyn gwneud y gorau o grantiau’r Llywodraeth.

 

Rhoddai Atodiad A i’r adroddiad fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y cyllid oedd ar gael yn 2019-20 (yn ogystal â pheth sylwebaeth yn gysylltiedig â’r rhaglen), o’i gymharu â’r gwariant a ddisgwylid. Cafodd £8.286 miliwn o gyllid ei dreiglo ymlaen i 2019-20 ar gyfer cynlluniau nas cwblhawyd yn 2018-19, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet ar Berfformiad Ariannol 2018-19, a oedd yn cynnwys y cynlluniau a ddangosid ym mharagraff 4.3 o’r adroddiad.

 

Yna cyfeiriai’r adroddiad at gynllun a lithrodd i 2020-21, fel y manylir ym mharagraff 4.4 o’r adroddiad, yn ogystal ag ail-broffilio cynllun Neuadd y Dref Maesteg.

 

Roedd y rhan nesaf o’r adroddiad yn amlinellu nifer o gynlluniau newydd, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 344.

345.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

CynghoryddA Hussain I’r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

 

All yr Aelod Cabinet mewn gofal o dwristiaeth roi gwybod i'r Cyngor am ei gynlluniau i gefnogi sgiliau yn y sector twristiaeth yn ogystal â rhoi gwybod i ni am y bylchau mewn darpariaeth a data, a hefyd ddangos sut y gallai’r Cyngor wneud ein cyrchfannau glan y môr yn boblogaidd?

 

Cynghorydd M Voisey I’r Arweinydd

 

O ganlyniad i’r ffaith fod y Prif Weinidog Llafur wedi peidio â chymeradwyo ffordd liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd, sut  bydd prosiect Bargen y Ddinas yn dod dros y penderfyniad hwn sy’n drychinebus i economi De Cymru, ac a ddylai'r Cyngor hwn gael ail bleidlais p'un a ydym yn dymuno aros yn rhan o Fargen y Ddinas neu beidio, yn awr a’r ffeithiau wedi newid mewn ffordd mor ddramatig?

 

Cynghorydd T Thomas I’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu unrhyw gynlluniau ar sut y bydd y cyngor hwn yn lleihau allyriadau carbon gyda'r bwriad o sicrhau bod gweithgareddau'r Cyngor yn ddi-garbon net erbyn 2030?

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd A Hussain i Aelod y Cabinet Addysg ac Adfywio:

 

A allai’r Aelod o’r Cabinet oedd yn gyfrifol am dwristiaeth ddweud wrth y Cyngor am ei gynlluniau i gefnogi sgiliau yn y sector twristiaeth yn ychwanegol at adael inni wybod am y bylchau yn y ddarpariaeth a’r data a nodi beth y gallai’r Cyngor ei wneud i beri bod ein cyrchfannau glan y môr yn boblogaidd?

 

Ymateb

 

Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC), 2018-2022, a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2018, yn nodi’r fframwaith ar gyfer rheoli’r weledigaeth dwristiaeth hyd 2022. Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau yn cael ei gefnogi gan y Cynllun Gweithredu Cyrchfan (CGC) sy’n manylu ar weithgareddau penodol. Mae’r camau gweithredu sydd wedi eu cynnwys yn y CGC yn canolbwyntio ar gyfleoedd strategol allweddol ar gyfer datblygu, manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ariannu allanol a, lle bo’n bosibl, darparu mewn partneriaeth. Mae’r CRhC yn cynnig y weledigaeth ganlynol:

 

Datblygu economi ymwelwyr ffyniannus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n dathlu cryfderau’r lle, yn cefnogi swyddi, yn creu cyfleoedd busnes ac yn gwella’r amrywiaeth o amwynderau sydd ar gael i ymwelwyr a phobl leol. 

 

Mae’r CGC yn cefnogi cyflawni’r weledigaeth hon drwy ganolbwyntio camau gweithredu yn erbyn y blaenoriaethau canlynol:

 

(a)  Cefnogi datblygiad y cynnyrch twristiaeth

(b)  Cefnogi’r broses o ddatblygu seilwaith twristiaeth

(c)  Codi proffil a denu mwy o ymwelwyr i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Mae’r CRhC yn nodi’n benodol bod datblygu adnoddau dynol twristiaeth yn flaenoriaeth. Yn fwy penodol, mae gan y CGC y blaenoriaethau canlynol; 

 

2.5.1 Annog pobl i fanteisio ar hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid a gwybodaeth am gynnyrch:

Bydd busnesau’n cael eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu pan fyddant ar gael, yn enwedig drwy gyflwyno dulliau sydd eisoes wedi’u treialu.

 

2.5.2 Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd hyfforddi ym maes rheoli twristiaeth:

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i helpu i nodi anghenion hyfforddiant lleol, ar y cyd â mentrau datblygu economaidd, ochr yn ochr ag ymgyrch ymwybyddiaeth i annog gweithredwyr i ymgymryd â gwaith datblygu rheolwyr a hyfforddi staff. 

 

2.5.3 Annog busnesau newydd i gychwyn ym maes twristiaeth: 

Darperir cymorth a chyngor i helpu pobl i gychwyn busnesau twristiaeth newydd drwy’r mecanweithiau sydd ar gael i CBS Pen-y-bont ar Ogwr a lle bo angen, cyfeirir at Busnes Cymru.

 

Yn 2018, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad ynghylch llinellau cyfathrebu yn y dyfodol a chynrychiolaeth ar gyfer yr economi ymwelwyr yn y gyrchfan, yn dilyn penderfyniad Cymdeithas Dwristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr i roi’r gorau i’w gweithgareddau. Argymhellwyd bod Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr (BBF) mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn fecanwaith cyfathrebu, rhwydweithio, eiriol ac ymgynghori ar gyfer y sector twristiaeth. Mae aelodaeth Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys busnesau sefydledig a rhai sydd newydd gychwyn, o fewn amrywiaeth eang o sectorau busnes. Mae masnachwyr unigol, microfusnesau, busnesau bychain a chanolig yn ogystal â chwmnïau mawr rhyngwladol i gyd yn bresennol o fewn yr aelodaeth. Mae’n rhoi cyfle i bobl fusnes leol gyfarfod â chwsmeriaid a chyflenwyr newydd, dysgu sgiliau newydd, rhannu arferion gorau,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 345.

346.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.