Agenda a Chofnodion

Cyngor
Dydd Mercher, 18fed Medi, 2019 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Democratic Services Manager

Eitemau
Rhif Eitem

347.

Apologies for absence

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

348.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd N Burnett ddatgan buddiant rhagfarnus yn eitem 9 ar yr Agenda fel Aelod gynrychiolydd etholedig CBSP ar gyfer cyfarfodydd Llys Prifysgol Abertawe.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd RE Young ddatgan buddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr Agenda fel Aelod gynrychiolydd CBSP ar y Panel Heddlu a Throseddu.

 

Gadawodd y ddau Aelod y cyfarfod pan drafodwyd y priod eitemau yr oeddent wedi datgan buddiant ynddynt.

349.

Cymeradwy’r Cofnodion pdf eicon PDF 219 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/07/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod Cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor dyddiedig 23 Gorffennaf 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

350.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ei fod yn rhoi pleser mawr iddo gyhoeddi mai’r Maer Ieuenctid ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd Megan Lambert a’r Dirprwy Faer Ieuenctid yw Todd Murray. 

 

Cynhaliwyd dawns Elusennol y Maer Ieuenctid ar 6ed Medi yn yr Hi Tide ym Mhorthcawl, er budd yr elusen Prostate Cymru, elusen a ddewiswyd gan y bobl ifanc yn y Cyngor Ieuenctid.  Cafwyd oddeutu 30 o wobrau gan fusnesau lleol.

 

Roedd holl aelodau presennol ac aelodau newydd y cyngor ieuenctid wedi cael eu gwahodd i’r Ddawns, gan gynnwys nifer o bobl ddethol gan gynnwys ef ei hun, yr Arweinydd, y Cyng Patel, y Prif Weithredwr a Lyndsay Harvey.

 

Dywedodd fod y Ddawns yn ffordd hwyliog o ddiweddu tymor Lewis fel Maer Ieuenctid ac y’i defnyddiwyd fel y seremoni swyddogol i drosglwyddo’r awenau i Megan a Todd. 

Bu’n noson lwyddiannus dros ben a chodwyd oddeutu £400, ac roedd hefyd yn braf gweld gwleidyddion ein dyfodol mor frwd ac am i’w lleisiau gael gwrandawiad.

 

Ar y nos Wener mynychodd ei Gymhares ac yntau, Wobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a noddwyd gan Gymdeithas Dai Cymoedd i’r Arfordir ac a gynhaliwyd yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr. Mae’r gwobrau mawreddog hyn yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar draws busnesau o bob maint a sector yn y fwrdeistref sirol.

 

Cafwyd amrywiol gategorïau o enillwyr, ond yr enillydd terfynol oedd Rockwool Uk Ltd a gipiodd y teitl blaenllaw, sef ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2019’. 

 

Amlygodd y gwobrau’r llu doniau busnes sydd i’w cael yn y fwrdeistref sirol a dros yr wythnosau nesaf byddai’n ymweld â’r busnesau’n bersonol i’w llongyfarch ac i weld â’i lygaid ei hun y gwasanaethau a ddarparant.  Fe wnaeth y noswaith hefyd godi dros £800.00 tuag at ei elusen ar gyfer eleni sef Pride Cymru.

 

Roedd yn bleser mawr gan y Maer hefyd hysbysu’r Aelodau bod Gorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu coroni yn bencampwyr byd am y 4edd flwyddyn yn olynol ym Mhencampwriaethau Achub y Byd. Cynhaliwyd y rowndiau terfynol yn ddiweddar yn Ffrainc gyda Phen-y-bont ar Ogwr yn cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r DU.  Dyma’r 7fed flwyddyn iddynt ennill y teitl ac roedd yn sicr yr hoffai’r aelodau a’r swyddogion ymuno ag ef i gynnig eu llongyfarchiadau cywiraf, y byddai’n gofyn i’n cynrychiolwyr y Cyng David White a’r Cyng Rod Shaw eu datgan wrth y Gwasanaeth.

 

Dywedodd y Maer iddo gael y pleser o fynychu agoriad swyddogol cynllun tai fforddiadwy Wales and West Hafod Housing yng Nghoety ar 28ain Awst.  Roedd wedi gweld y tu mewn i un cartref penodol a oedd wedi’i addasu â thaclau codi ac a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Yn olaf, fe wnaeth hefyd fynychu agoriad amddiffynfeydd llifogydd traeth Tref Porthcawl yr wythnos diwethaf ag aelodau’r Cabinet a Lesley Griffiths, AC.  Roedd yn braf iawn gweld bod y prosiect hwn a gyflawnwyd yn llwyddiannus iawn bellach yn amddiffyn dros 260 o eiddo wrth ymyl y môr.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod ymgynghoriad y Cyngor ar y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 350.

351.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Mewn pleidlais o ffydd nodedig yn economi Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru mewn adeg ansicr ac anodd iawn, cyhoeddodd Ineos Automotive heddiw y bydd yn codi safle gweithgynhyrchu a chyd-osod at y pwrpas, newydd 250,000 troedfedd sgwâr ym Mharc Busnes Brocastell er mwyn cynhyrchu eu cerbyd Grenadier 4x4 newydd.

 

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bydd y cyfleuster yn creu 200 o swyddi i ddechrau, a hyd at 500 yn y tymor hir gyda lwc. I gartrefu’r cyfleuster newydd hwn, mae’r cwmni yn prynu 14 erw o dir gan Lywodraeth Cymru am bris y farchnad a gyda’r gwaith o ddatblygu seilwaith y safle eisoes yn mynd rhagddo, disgwylir i’r gwaith o gynhyrchu’r cerbyd newydd ddechrau mor gynnar â 2021.

 

Mae INEOS Automotive wedi llofnodi’r Contract Economaidd, sydd â’r nod o symbylu twf ac ymddygiad busnes cyfrifol ymysg cwmnïau. Mae iechyd a lles gweithwyr yn rhan bwysig o ethos INEOS.

 

Mae INEOS Automotive eisoes yn trafod â dau gwmni cyflenwi cydrannau yng Nghymru i ategu eu gwaith, a gallai hynny roi hwb pellach i economi Cymru.

 

Bydd gan y datblygiad hwn le ar gyfer 500,000 troedfedd sgwâr pellach a’r potensial i greu llawer o swyddi ar gyfer cwmnïau sy’n ehangu a denu buddsoddwyr newydd eraill. Mae’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates AC wedi cadarnhau heddiw nad dyma yw pendraw’r gwaith i helpu Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn cynlluniau Ford, a chadarnhaodd y bydd Llywodraeth Cymru yn dal i wneud popeth yn ei gallu i ddenu cyfleoedd busnes newydd, i gynorthwyo gweithwyr Ford a sicrhau buddsoddiadau pellach yn nyfodol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Edrychwn ymlaen at gyhoeddiadau pellach.

 

Mae CBSP hefyd yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyfraniad hollbwysig o £3.5m o gyllid drwy’r Undeb Ewropeaidd tuag at y gwaith y bwriedir ei wneud i ymestyn ac ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.

 

Gyda buddsoddiad ychwanegol wedi’i roi gan y cyngor hwn, Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Maesteg ac Ymddiriedolaeth Davies, gall y gwaith ar y prosiect £6m ddechrau’n fuan, gan atgyweirio’r adeilad nodedig sy’n 138 mlwydd oed a’i adnewyddu â chyfleusterau celf a diwylliant modern.

 

Ymysg y gwelliannau caiff llyfrgell fodern ei chreu, ynghyd â chanolfan dreftadaeth a gwirfoddol, caffi, mannau gweithio newydd, toiledau a chyfleusterau ‘man newid’ cwbl hygyrch. Caiff canolfan celfyddydau perfformio aml-swyddogaeth ei chreu ar y llawr cyntaf,a bydd yn cynnwys prif neuadd, llwyfan wedi’i adnewyddu, ystafelloedd newid gwell, bar ac am y tro cyntaf sinema gymunedol a theatr stiwdio fechan, fwy cartrefol. Bydd y mannau eistedd ar y balconi yn cael eu hadnewyddu, a bydd y lloriau uchaf ac isaf yn cael eu cysylltu ag atriwm gwydrog modern a chyntedd, felbod yr adeilad drwyddo draw yn hygyrch.

 

Bydd cais am arian ychwanegol yn cael ei gyflwyno’n gynnar yn 2020 isicrhau bod y dodrefn a’r ffitiadau diweddaraf yn cael eu gosod yn yr adeiladcyn iddo ailagor. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod, diolch i’n hymdrechion ar y cyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 351.

352.

Adroddiad Alldro Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2018-19 pdf eicon PDF 732 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid adroddiad, a oedd â’r diben o gydymffurfio â gofynion y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ‘Rheoli’r Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ (y cyfeirir ato fel y Cod) i gyflwyno trosolwg o weithgareddau’r trysorlys dros y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys Dangosyddion Darbodus a Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2018-19, ac i amlygu fel yr oedd yn cydymffurfio â pholisïau ac arferion y Cyngor.

 

Dywedodd, fel y mae paragraff 3.2 o’r adroddiad yn datgan, fod gofyn i’r Cyngor weithredu swyddogaeth gyffredinol y trysorlys o safbwynt y Cod a mabwysiadwyd hwn yn ffurfiol gan y Cyngor ym mis Chwefror 2012. Mae hyn yn cynnwys y gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (TMS) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, gyda’r strategaeth honno’n datgan cyfrifoldebau’r Cyngor a’r Prif Swyddogion Ariannol a’r trefniadau adrodd. Cymeradwyodd y Cyngor y TMS 2018-19 yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2018.

 

Eglurai Paragraff 3.2 hefyd fod CIPFA, ar ddiwedd Rhagfyr 2017, wedi cyhoeddi rhifynnau newydd o Rheoli’r Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer a’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, cafodd y TMS 2018-19 a’r adroddiad hwn eu cynhyrchu gan ddefnyddio Codau 2011 oherwydd, gan i Godau 2017 gael eu cyhoeddi’n hwyr, ni chawsant eu gweithredu tan TMS 2019-20.

 

Roedd Paragraff 3.4 o’r adroddiad yn atgoffa’r Cyngor, bod yr Aelodau wedi cymeradwyo polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw diwygiedig ar gyfer 2018-19 ar 19eg Medi 2018, a oedd yn newid y dull o gyfrifo’r swm i’w roi i refeniw i ad-dalu costau cyllido cyfalaf.

 

Byddai’r holl weithgareddau buddsoddi eraill nas cynhwysir dan y Cod, megis buddsoddiadau eiddo, yn ddarostyngedig i gymeradwyaethau arferol gan y Cyngor ac nid oes angen iddynt gydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys. Roedd gwerth cyfredol yr eiddo buddsoddi hwn yn £4.635 miliwn.

 

Amlinellai Adran 4.1 o’r adroddiad Sefyllfa Buddsoddiadau a Dyledion Allanol y Cyngor ar gyfer 2018-19, gyda chrynodeb yn Nhabl 1. Mae hwn yn dangos bod cyfanswm y benthyciadau allanol ar ddiwedd y flwyddyn yn £96.87 miliwn, gyda chyfradd llog o 4.69% ar gyfartaledd. Rhannwyd hwn rhwng benthyciadau gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a’r Opsiwn Echwynnwr Opsiwn Benthyciwr (a elwir hefyd yn LOBOs). Ni chymerwyd dim benthyciadau ychwanegol yn ystod 2018-19. Ceir hefyd rwymedigaethau hirdymor eraill gwerth cyfanswm o £17.88 miliwn, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn ymwneud â chynllun PFI Ysgol Maesteg.

 

O ran buddsoddiadau, y sefyllfa diwedd blwyddyn oedd cyfanswm buddsoddiadau o £27.4 miliwn, gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.94%, gyda £21 miliwn ohonynt yn cael eu dal gan awdurdodau lleol eraill. Mae hwn wedi lleihau ers dechrau’r flwyddyn pan oedd yn £30.4 miliwn oherwydd bod mwy o fuddsoddiadau lefel uwch wedi cael eu had-dalu na’u gwneud. Mae hyn yn arwain at gyfanswm dyled net ar ddiwedd y flwyddyn o £87.35 miliwn.

 

Cyfeiriai Paragraff 4.1.6 o’r adroddiad at yr adolygiad o’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys drwy archwiliadau mewnol ac allanol yn ystod y flwyddyn, gyda barn gyffredinol gan yr archwilwyr mewnol bod yr amgylchedd rheoli mewnol yn gadarn ac y gellir rhoi sicrhad sylweddol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 352.

353.

Gwyro oddi ar y Cynllun Datblygu Cais Cynllunio P/19/140/FUL – Datblygu Canolfan Dysgu Heddlu, Gymnasiwm, Ailraddio’r Safle, Mynediad, Maes Parcio a Gwaith Cysylltiedig pdf eicon PDF 392 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Datblygu a Chynllunio adroddiad ar y cais cynllunio uchod a ystyriwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau y byddent yn gyfarwydd ag ef yn mynychu’r Cyngor i roi diweddariadau ar y CDLl a materion cynllunio eraill, lle’r oedd fel arfer yn pwysleisio pwysigrwydd cyflawni a chydymffurfio â’r Cynllun Datblygu. Ambell dro, fodd bynnag, roedd gofyn cyfeirio adroddiadau at y Cyngor, gydag unrhyw ddatblygiadau nad ydynt yn unol â’r cynllun datblygu lle bo’n rhaid i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu wneud penderfyniad yngl?n â chymeradwyo.  Mae’r Pwyllgor hwn yn methu â gwneud y math hwn o benderfyniad a rhaid cyfeirio’r mater wedyn at y Cyngor i gael penderfyniad.

 

Mae’r cais presennol gerbron yr Aelodau yn ceisio caniatâd i ailddatblygu ardal ogledd-orllewinol safle Pencadlys Heddlu De Cymru. Cynigir datblygu Adeilad Adnoddau Dynol (PLC) a Chanolfan Ddysgu pedwar llawr ar gyfer yr Heddlu, gymnasiwm deulawr, trefniant mynediad newydd, darpariaeth parcio a gwaith tirlunio caled a meddal cysylltiedig. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys ailgyfeirio un o’r prif garthffosydd. Amlinellwyd y manylion llawn a’r asesiad yn yr adroddiad.

 

Mae safle’r cais yn ffurfio rhan o ddyraniad preswyl yn Ardal Twf Adfywio Strategol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer oddeutu 138 o unedau dan Bolisi COM1 (5) o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) (2013). Mae Heddlu De Cymru (HDC) wedi cynnal rhaglen ad-drefnu ar raddfa fawr ar eu cyfleusterau a’u hasedau presennol ac, mae eu cynigion gwreiddiol ar gyfer ad-drefnu, a oedd yn cynnwys rhyddhau rhan ogleddol o gyfleusterau presennol eu Pencadlys yn gyfan gwbl ar gyfer datblygiad amgen, wedi cael eu disodli. Mae ganddynt yn awr fodd bynnag strategaeth amgen sy’n golygu bwrw ymlaen â’u rhaglen o waith gwella ac adnewyddu a chadw safle presennol y Pencadlys yn Heol y Bont-faen yn gyfan gwbl.

 

Ar sail y ffaith bod strategaeth ad-drefnu HDC wedi esblygu ers mabwysiadu’r CDLl yn 2013, y buddsoddiad yn safle’r Pencadlys a’r ffaith bod eu cynllun asedau i’r dyfodol yn awr yn crynhoi eu gweithgareddau a’u cyfleusterau ar eu safle presennol yn Heol y Bont-faen, nid oes posibilrwydd realistig yn awr y gellir cyflenwi dim tai dan Bolisi COM1(5) ar y safle hwn ac nid yw’r niferoedd tai mwyach yn cyfrif tuag at gyflenwad tir y Cyngor. Mae’n bosibl y bydd yr Aelodau’n cofio i’r Cyngor gymeradwyo adeilad caffi newydd ar y safle yn 2017, hefyd fel cais gwyro.  Mae’r caffi’n awr wedi cael ei gwblhau ac mae’n weithredol.

 

Bydd y cyfleuster dan sylw yn darparu i’r Heddlu eu canolfan hyfforddiant, datblygu proffesiynol parhaus, adnoddau dynol a recriwtio mewnol, ar eu safle eu hunain.  Bydd y PLC yn darparu 22 o ystafelloedd dosbarth ar gyfer hyfforddiant gyda mannau ymneilltuo cysylltiedig, canolfan recriwtio adnoddau dynol yn ogystal â gofod swyddfa ar gyfer adrannau mewnol ar draws yr heddlu. Bydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer uned asesiadau a safonau, uned hyfforddiant gweithrediadau, cyfleusterau hyfforddiant ymchwiliol a ‘phlismona drwy dechnoleg’.  Bydd yr adeilad hefyd yn darparu lle i swyddfa ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Bydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 353.

354.

Penodi Cynrychiolydd Cofrestredig i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Testunau pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad a geisiai gymeradwyaeth y Cyngor i benodi Ms. Lynsey Morris fel Cynrychiolydd Cofrestredig Rhiant-lywodraethwyr Ysgolion Uwchradd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Testunau (ar gyfer eitemau sy’n gysylltiedig ag Addysg), am hyd at bedair blynedd.

 

Esboniodd fod Ms. Morris wedi cael ei henwebu yn lle Mr. Kevin Pascoe yr oedd ei dymor yn yr un rôl yn awr wedi dod i ben.

 

Yn unol â hynny, yn dilyn pleidlais a gynhaliwyd yn unol â Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001, roedd y newid uchod wedi’i gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor yn nodi’r adroddiad ac yn cymeradwyo penodi Ms. Lynsey Morris fel Cynrychiolydd Cofrestredig dros y materion Addysg a ystyria’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Testunau, am uchafswm o bedair blynedd fel y Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr Ysgolion Uwchradd.   

355.

Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, gyda’r diben o hysbysu’r Cyngor o’r Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi a gyhoeddwyd ers ei gyfarfod diwethaf.

 

PENDERFYNWYD:            Cydnabu’r Cyngor gyhoeddi’r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad.

356.

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan:

Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio 

 

Mae gan awdurdodau lleol cyfagos megis Bro Morgannwg nodweddion a heriau tebyg o ran yr iaith Gymraeg.  A fyddai'r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai darpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod hwn gynnig o leiaf yr un ddarpariaeth â Bro Morgannwg?

 

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Tim Thomas i’r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Mae gan awdurdodau lleol cyfagos fel Bro Morgannwg nodweddion a heriau tebyg o ran y Gymraeg. A fyddai’r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai’r ddarpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod hwn, o leiaf, fod cystal â’r ddarpariaeth ym Mro Morgannwg.

 

Ymateb

 

1.        Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i hyrwyddo’r Gymraeg ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i weithio â Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r Aelodau etholedig a’r swyddogion oll yn gwbl gefnogol i’r Gymraeg a’r hyn y mae’n ei olygu i Ben-y-bont ar Ogwr ac i ddyfodol ein cenedl.Mae’r awdurdod lleol yn barod i hybu manteision dwyieithrwydd ar bob cyfle ac mae’n rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd y Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg.

 

2.          Ychydig o werth sydd i gymharu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r ddarpariaeth ym Mro Morgannwg. Mae methodoleg arfaethedig Llywodraeth Cymru (gweler yr ymgynghoriad diweddar ar y Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a’r Canllawiau) yn rhoi ystyriaeth i ystod y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru drwy gyflwyno system grwpiau. Dyma’r ffactorau a ystyrir wrth grwpio awdurdodau lleol: canran y dysgwyr a addysgir yn Gymraeg, y modelau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol a natur ieithyddol awdurdod lleol.

 

3.          Mae’r canllawiau arfaethedig yn adnabod awdurdodau lleol ‘Gr?p 3’ fel rhai sydd â rhwng 13% a 19% o blant Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (yn 2017-2018). Mae’n bosibl mai addysg gymunedol cyfrwng Cymraeg sy’n arferol mewn un/nifer fechan iawn o ardaloedd, ond yr eithriad nid y rheol yw hyn. Ceir fel arfer ddewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Saesneg. Caiff awdurdodau lleol ‘Gr?p 4’ eu hadnabod fel rhai sydd â 12% neu lai o blant Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (yn 2017-2018). Ceir dewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Saesneg yn yr awdurdodau lleol hyn. Ar y sail hon, caiff Pen-y-bont ar Ogwr ei adnabod fel awdurdod lleol Gr?p 4 tra bo Bro Morgannwg yn syrthio i Gr?p 3.

 

4.          Fel awdurdod lleol, rydym yn cyfrif ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) fel y ddogfen strategol allweddol sy’n amlinellu ein strategaeth i gefnogi’r gwaith o gyflenwi a thyfu addysg cyfrwng Cymraeg.   Gallaf gadarnhau bod WESP Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Daeth yr ymgynghoriad ar y Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a’r Canllawiau i ben yn ddiweddar (ar 13 Medi 2019) ac, felly, rydyn ni’n aros am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn. Bydd yr awdurdod lleol yn ymateb yn unol â hynny i’r rheoliadau newydd os cânt eu cymeradwyo fel y’u drafftiwyd.

 

5.          Fodd bynnag, fel y nodir yn arolygiad diweddar yr awdurdod lleol, mae angen inni gryfhau rôl y Fforwm Strategol Addysg Gymraeg i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn ein WESP. Bydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 356.

357.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.