Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

378.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbynymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth yr Aelodau a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd N Burnett

Y Cynghorydd S Aspey

379.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau/Swyddogion yn unol a darpariaethau’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008

Cofnodion:

Dim.

380.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 112 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/11/2019.

Cofnodion:

RESOLVED:                 That the Minutes of a meeting of Council dated 20 November 2019 be approved as a true and accurate record.

381.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i)            Maer (neu berson sy’n llywyddu)

(ii)           Aelodau’r Cabinet

(iii)          Prif Weithedwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer fod y Nadolig wedi bod yn gyfnod prysur iawn iddo, ac y bu'n bleser ymweld â chynifer o wahanol ysgolion, grwpiau a sefydliadau a rhannu eu gweithgareddau ar gyfer yr ?yl.

 

Roedd hi bob amser yn galondid gweld faint o ysbryd cymunedol sydd i'w gael yn y Fwrdeistref Sirol, ac yr oedd wedi profi gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr, disgyblion a staff yn uniongyrchol.. Gyda hyn mewn golwg, atgoffodd yr Aelodau ynghylch enwebiadau Gwobrau Dinasyddiaeth Flynyddol y Maer. Helpwch ni i wobrwyo pobl leol sydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau, waeth pa mor fawr neu fach yw eu cyfraniad. Ni fyddai ond yn cymryd ychydig funudau i lenwi ffurflen gais, y gellir ei lawrlwytho o'n gwefan neu wneud cais amdani o Swyddfa'r Maer. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw dydd Gwener 24 Ionawr, a bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth.

 

Cafodd y Maer y pleser o fynd i Wobrau Cyflawnwr Ifanc blynyddol Bridge FM.  Mae'r digwyddiad trawiadol yn gyfle i ddathlu pobl ifanc o bob rhan o'r fwrdeistref sirol ac yn cydnabod eu cyflawniadau ym myd busnes, hyfforddiant, addysg, y celfyddydau, cerddoriaeth a gwaith gwirfoddol.  Roedd hi'n noson wych ac yn bleser pur cael cwrdd â chynifer o bobl ifanc sydd yn ymroi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'w hardal.

 

Cynhaliwyd y Gemau Olympage blynyddol ym mis Tachwedd lle lansiwyd y prosiect Super-Agers ar y cyd â chydweithwyr ar draws ardal y bwrdd iechyd, gan gynnwys cynghorau RhCT a Merthyr. Cafodd y Maer yr anrhydedd o agor y diwrnod a fu'n llawn hwyl, ac roedd am longyfarch y staff am drefnu digwyddiad cystal.

 

Diolchodd y Maer hefyd i bawb a gymerodd ran ym menter y rhodd-galendr adfent er budd Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr. Gwerthfawrogwyd pob rhodd yn fawr. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod angen cyfraniadau drwy'r flwyddyn ac anogodd bawb i barhau i roi cymorth wrth symud ymlaen i 2020. Dywedodd hefyd fod gan y Banc Bwyd 11 o Unedau Dosbarthu ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bod tua 50,000 o eitemau bwyd wedi cael eu cyfrannu i'r Banc Bwyd ers ei sefydlu.

 

Estynnodd y Maer groeso i'r Cynghorydd J Williams a dymuno'n dda iddi ar ôl bod yn absennol o'r cyfarfodydd oherwydd salwch.

 

I gloi, gan mai dyma oedd cyfarfod olaf y Cyngor cyn y Flwyddyn Newydd, manteisiodd y Maer ar y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd iach i bawb a oedd yn bresennol.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y gall pobl yn aml ei chael hi'n anodd rheoli eu harian ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ar drothwy'r Nadolig.

 

Yn anffodus, gall hyn yn aml achosi iddynt fynd i ddyled.

 

Efallai y bydd yr aelodau am roi gwybod i'r hetholwyr fod gwasanaeth cymorth galw heibio ar gael i helpu pobl i reoli a goresgyn dyledion, ymdrin â'u hanawsterau ariannol, ymdrin â diweithdra a gwella eu safon byw.

 

Mae'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Ariannol ar gael yn bennaf i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 381.

382.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Fel y byddai'r aelodau a oedd yn bresennol yn y sesiwn friffio cyn cyfarfod y Cyngor ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn gwybod, adroddodd yr Arweinydd ei fod yn bleser ganddo gadarnhau y byddai setliad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2020-21 yn cynnwys cynnydd o 4.7% ar gyllideb y llynedd.

 

Er nad yw hyn yn adfer cyllid yr awdurdod i lefelau blaenorol, dyma'r cynnydd sylweddol cyntaf mewn cyllid grant craidd ers bron i 12 mlynedd.

 

Croesewir y cynnydd i'n cyllid grant craidd yn fawr, a byddwn yn awr yn adolygu ein cynlluniau ariannol gwreiddiol ar gyfer 2020-21, gan gynnwys meysydd lle bwriadwyd cyflwyno toriadau, er mwyn sicrhau bod modd gwneud defnydd mor effeithiol ac effeithlon o'r arian ag sy'n bosibl.

 

Bydd hyn o fudd mawr i'n helpu i liniaru'r pwysau ar y gyllideb, fel costau ychwanegol ym maes addysg, y gwasanaethau cymdeithasol, yng nghyflogau a phensiynau athrawon a mwy.

 

Roedd y Cyngor yn dal heb fod yn llwyr ymwybodol o faint y pwysau o ran costau allweddol yn y dyfodol ac, yn arbennig, dyfarniad cyflogau'r holl staff, a allai gostio amryw o filiynau o bunnoedd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am wrando ar bryderon CBSPO, yn enwedig y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julia James, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans, a'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod sawl Cynghorydd wedi bod mewn cysylltiad ag Aelodau'r Cabinet ynghylch camddefnyddio tân gwyllt ar ôl derbyn negeseuon e-bost gan drigolion lleol pryderus.

 

Cyfarfu ein Cydwasanaeth Rheoleiddio yn ddiweddar, ac ystyriwyd hyn gan ein Haelodau gan gynnwys ein cynrychiolwyr, y Cyng. Patel a'r Cyng. Lewis. Mae'r Pwyllgor wedi casglu nad yw'r gyfraith gyfredol yn gwarchod pobl ac anifeiliaid yn ddigonol rhag yr aflonyddwch a achosir yn fynych gan dân gwyllt, yn enwedig pan fo arddangosiadau cyhoeddus ac arddangosiadau yng nghartrefi pobl yn cael eu cynnal o amgylch dyddiadau traddodiadol a chrefyddol, ac mewn dathliadau eraill fel penblwyddi a phriodasau. Argymhelliad y Pwyllgor yw y dylid grymuso awdurdodau lleol i gyfyngu ar nifer yr arddangosiadau yn eu hardaloedd yn yr amgylchiadau hyn. Bydd cais yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU gydweithio ag awdurdodau lleol er mwyn nodi ymagwedd arfer gorau at system orfodol ddi-refeniw er mwyn trwyddedu arddangosiadau tân gwyllt, lle ceir tystiolaeth bod angen hynny er mwyn gwarchod y gymuned. Gobeithir y bydd y Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdod lleol i gynnal peilot o'r ymagwedd cyn diwedd 2020, gyda golwg ar greu deddf fydd yn rhoi grym i'r holl awdurdodau lleol sefydlu cynlluniau trwydded gorfodol os ydynt yn tybio bod angen hynny.

383.

Deddf Trwyddedu 2003 - Datganiad Polisi Trwyddedu ac Asesiad Effaith Gronnus pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu adroddiad a drafodai rôl y Cyngor fel awdurdod trwyddedu, fel corff rheoleiddio ar gyfer tafarndai, clybiau, siopau diodydd trwyddedig a siopau cludfwyd sydd ar agor yn hwyr yn y nos.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer y cyfnod nesaf o bum mlynedd, ac i gymeradwyo Polisi ac Asesiad Effaith Cronnus arbennig yn rhan o'r broses honno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod yn rhaid i'r Cyngor gyflawni ei swyddogaethau i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu a ganlyn:

 

            Atal trosedd ac anhrefn;

            Atal niwsans cyhoeddus;

            Diogelwch y cyhoedd;

         Amddiffyn plant rhag niwed

 

Cadarnhaodd fod y Cyngor wedi dod yn Awdurdod Trwyddedu yn 2005, a'i bod hi bellach yn bryd cynnal adolygiad pum mlynedd o Ddatganiad y Polisi Trwyddedu.  Proses ffurfiol yw hon, ac amlinellwyd y broses statudol ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.  Esboniodd fod yr Ymgynghoriad ar hyn yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 17 Mehefin 2019 a 9 Medi 2019.  Roedd yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys yr Heddlu, yr Awdurdod Tân, y Cydwasanaethau Rheoleiddio, y Bwrdd Iechyd Lleol, adrannau eraill y Cyngor a'r Swyddfa Gartref.

 

Yr oedd hefyd yn cynnwys yr holl Aelodau Etholedig, Cynghorau Tref a Chymuned, Rheolwr Canol y Dref a chynrychiolwyr masnach.

 

Yn Natganiad y Polisi Trwyddedu nodir sut mae'r Cyngor yn arfer ei swyddogaethau a'i ymagwedd at benderfyniadau.  Y mae hefyd yn nodi'r hyn y mae'n disgwyl i ddarpar ymgeiswyr ei ystyried wrth baratoi ceisiadau am drwyddedau newydd neu amrywiadau o bwys.  Yn adran 9 y polisi hwn nodir nifer o fesurau y gellid eu hystyried, yn dibynnu ar natur yr eiddo.   Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, ar wahân i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ei bod hi'n deg dweud nad oedd unrhyw dueddiadau na materion newydd yn deillio o'r ymgynghoriad a fyddai'n teilyngu newid polisi.  O ganlyniad i hynny, roedd y Datganiad cyffredinol arfaethedig wedi'i gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad.  Dywedodd fod y newidiadau i'r datganiad hwnnw wedi'u hamlygu yn goch.  Roedd a wnelo'r diweddariadau cyntaf ag amcanion corfforaethol y Cyngor.  Roedd siâp neu lefelau meysydd cyfrifoldeb nifer o Gyfarwyddiaethau wedi newid, ac ar sail hynny, roedd angen edrych ymhellach ar rai diwygiadau ar dudalen 40 yr adroddiad, hy, lle'r oedd angen diweddaru rhai o gyfeiriadau'r cyrff a restrwyd yno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod a wnelo'r ail fater â'r Polisi Effaith Gronnus Arbennig sydd ar waith yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Effaith Gronnus yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sut y gall dwysedd eiddo trwyddedig mewn ardal neilltuol gael effaith negyddol ar drosedd ac anhrefn, sbwriel wedi'i ollwng, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a niwsans.  Os bydd y Cyngor yn gweld bod tystiolaeth o broblem mewn ardal, gall gynnwys polisi i ymdrin ag Effaith Gronnus o fewn y prif Ddatganiad Polisi.  Bu polisi o'r fath yn weithredol ar Strydoedd Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ers 2005.  Effaith y polisi yw rheoli faint o eiddo newydd neu newidiadau o bwys i eiddo a geir o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 383.

384.

Adroddiad i'w Nodi er Gwybodaeth pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad er mwyn hysbysu'r Cyngor ynghylch yr Adroddiad Gwybodaeth i'w nodi a oedd wedi cael ei gyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a drefnwyd, fel y manylwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad cyflwyno.

 

PENDERFYNWYD:                    Bod y Cyngor yn cydnabod bod y ddogfen a restrwyd yn yr adroddiad wedi'i chyhoeddi.

385.

Derbyn y cwestiynau canlynol gan:

1.    Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet – Cymunedau

 

A yw’r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai priffyrdd yr awdurdod hwn fod yn hygyrch i bawb waeth beth fo’u hoed, eu hanabledd neu unrhyw nodwedd warchodedig arall?

 

2.    Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor ynghylch pa gamau gweithredu sydd wedi eu cymryd er mwyn lleihau lefelau Unigedd ac Arwahanrwydd a'u heffaith negyddol ar Iechyd a Llesiant ein poblogaeth h?n yn ein Bwrdeistref Sirol?

 

3.    Cynghorydd MC Voisey i’r Arweinydd

 

A all Arweinydd y cyngor gyfiawnhau pam ei fod yn credu na ddylai fod gan aelodau etholedig y cyngor hwn yr hawl i ofyn cwestiynau yng nghyfarfodydd y cyngor a chraffu yn y siambr ar y penderfyniadau a wneir gan y weinyddiaeth hon?”

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd T Thomas i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

 

A yw'r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai priffyrdd yr awdurdod hwn fod yn hygyrch i bawb waeth beth fo'u hoedran, eu hanabledd neu unrhyw nodwedd arall warchodedig?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wella mynediad i'r rhwydwaith priffyrdd. Ceir ymrwymiad i sicrhau hynny, a chamau gweithredu i gefnogi'r ymrwymiad hwnnw. Rhwng blynyddoedd ariannol 2017/18 ac 19/20, mae cyfanswm o 113 o gyrbau isel wedi cael eu gosod yn rhan o raglen barhaus i osod cymhorthion i gerddwyr. Cafodd y gosodiadau eu trefnu yn ôl blaenoriaeth ar sail lefelau defnydd yn yr ardaloedd perthnasol.

 

Bellach mae gennym 61 o lwybrau cerdded diogel i'r Ysgol, a'r rheiny wedi'u hasesu ac yn cael eu defnyddio. Mae gennym raglen gynigion flynyddol i dynnu sylw Llywodraeth Cymru at welliannau arfaethedig i'n rhwydwaith. Drwy'r rhaglen honno llwyddwyd i sicrhau £950,000 o fuddsoddiad eleni yn unig ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a £432,000 i ddatblygu llwybrau Teithio Egnïol amlddefnydd.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas ei fod yn hapus â'r ymateb, ond ychwanegodd y byddai'n gwerthfawrogi cael cyfarfod â'r Aelod Cabinet - Cymunedau ar fater cysylltiedig yn ymwneud â'i ward, a chytunodd yr Aelod Cabinet i hynny.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd JP Blundell

 

A allai'r Aelod Cabinet - Cymunedau amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu gweithredu rhaglen i osod cyrbiau isel ledled y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Mae hyn yn cael ei roi ar waith yn yr ardaloedd lle ceir y mwyaf o gerddwyr ac/neu ar ôl derbyn ceisiadau gan y cyhoedd i osod cyrbiau yn ôl yr angen. Ystyriwyd gwaith hefyd ar y cyd â Chynllun Teithiau Egnïol y Cyngor. Roedd cylchfan Llangrallo yn enghraifft o waith a oedd yn gysylltiedig â'r Cynllun hwnnw, lle gosodwyd cyrbiau isel er mwyn helpu pobl a'u hannog i deithio drwy ddulliau egnïol i fannau penodol, hy swyddfeydd a chanolfannau cyfagos.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd B Sedgebeer  

 

A yw'r Aelod Cabinet - Cymunedau yn cytuno bod buddsoddi i greu llwybrau troed/troedffyrdd ar Heol Felindre, Pencoed, wedi cynyddu mynediad at y gwahanol rwydweithiau priffordd a geir yn yr ardal honno.

 

Ymateb

 

Ydy, ac mae hyn yn rhan o raglen ehangach a gaiff ei hehangu i ardaloedd eraill o'r Fwrdeistref Sirol, er mwyn creu pwyntiau mynediad rhwyddach fydd yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i fynd o'r naill leoliad i'r llall, yn enwedig pobl anabl ac ati.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i'r Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A allai'r Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor pa gamau a gymerwyd i leihau lefelau Unigrwydd ac Arwahanrwydd ac effaith negyddol hynny ar Iechyd a Llesiant ein poblogaeth oedrannus yn y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

Adroddwyd cyd-destun yr agenda Atal a Llesiant gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Llesiant ym mis Ebrill 2015 yn wreiddiol, a rhoddwyd adolygiad o gynnydd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol Oedolion ym mis Ebrill 2016.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 385.

386.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

None.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z