Agenda a Chofnodion

Cyngor
Dydd Mercher, 26ain Chwefror, 2020 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services  Mark Anthony Galvin

Eitemau
Rhif Eitem

398.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

399.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 139 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/01/20

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod Cofnodion y cyfarfod Cyngor a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

400.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer fod enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Flynyddol y Maer bellach ar gau a bod yr enillwyr wedi eu gwahodd i seremoni i'w chynnal ddiwedd Mawrth.  Roedd safon y ceisiadau yn arbennig o uchel a diolchodd i bawb a roddodd o'u hamser i lenwi'r enwebiad.  Yr oedd yn wych darllen am holl drigolion arbennig y fwrdeistref sirol a'r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn ein cymunedau, yn aml heb i neb sylwi, ac yr oedd yn edrych ymlaen at gael cwrdd â'r bobl hyn y mis nesaf.

 

Gan barhau â’r thema gwobrau roedd yn bleser croesawu holl sectorau'r diwydiant adeiladu i Ben-y-bont ar Ogwr i ddathlu Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu blynyddol am y pedwerydd tro ar ddeg.  Mae'r gwobrau wedi'u hanelu at holl ystod y diwydiant adeiladu ac maen nhw yno i helpu, i annog, ac i gymeradwyo technegau adeiladu, sgiliau cyfathrebu, bodlonrwydd cwsmeriaid, ac adeiladu o safon uchel. Diolchodd y maer i bawb am gymryd rhan, i staff rheoli adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr am drefnu'r digwyddiad, a llongyfarchodd yr enillwyr ar ran y cyngor.

 

Un o freintiau bod yn Faer yw’r gwahoddiadau i ymweld â mudiadau ac elusennau lleol er mwyn cwrdd â staff, gwirfoddolwyr, a defnyddwyr y gwasanaeth, dywedodd y Maer.  Yr wythnos diwethaf fe'i gwahoddwyd i'r YMCA ym Mhorthcawl i weld eu cyfleusterau ac i dystio i rai o'r gweithgareddau sy'n digwydd yn y Ganolfan. Sefydlwyd y Ganolfan yn 1908 ac mae wedi parhau i fod yn gymorth i lawer o grwpiau gwahanol ers hynny. Nid yn unig lle i ddysgu ydyw bellach, ond lle i fod yn ddiogel ac i wneud ffrindiau. Diolchodd felly i Ganolfan YMCA Porthcawl am eu hamser a'u lletygarwch o ran yr uchod.

 

Ar ôl ymgymryd â’r swydd, penderfynodd Uchel Siryf Morgannwg Ganol weithio gyda phob awdurdod lleol a threfnu "Strafagansa Gerddorol". Dyma ddathliad o dalentau cerddorol ifanc yr holl gymunedau, ac roedd yn cynnwys cantorion unigol, offerynwyr unigol, a chorau. Cynhaliwyd y rowndiau terfynol o gwmpas Morgannwg Ganol, a chynhaliwyd y rownd derfynol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'r wythnos diwethaf.  Roedd y noson yn ddathliad gwych o'n talentau cerddorol ifanc, a rhoddodd y Maer ddiolch i Simon Gray, ein hyfforddwr cerddoriaeth, am ei holl waith caled ac i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran, a rhoddodd longyfarchiadau pellach i'r enillwyr haeddiannol.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn falch iawn o weld gwerthiant tri o eiddo gwag y Cyngor mewn arwerthiant yn ddiweddar er mwyn helpu i gynhyrchu arian gwerthfawr iawn i'r awdurdod.

 

Yn yr arwerthiant gwerthwyd hen floc toiledau cyhoeddus yn Derwen Road, Pen-y-bont ar Ogwr, hen gartref gofal Hyfrydol ym Maesteg, a swyddfeydd hen Gyngor y dref ym Mhorthcawl yn gwerthu am £736,000.

 

Roedd hyn yn fwy na chwarter miliwn o bunnau dros y pris wrth gefn, canlyniad da iawn i unrhyw un.

 

Bydd y derbyniadau yn helpu i ariannu ein rhaglen gyfalaf, sy'n cynnwys y fenter moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif a fydd yn buddsoddi amcangyfrif o £68,000,000  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 400.

401.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod y DU wedi gweld tywydd gwirioneddol druenus yn ddiweddar, ac roedd yn canmol staff y cyngor a fu’n gweithio'n ddiflino, ddydd a nos, drwy gydol y stormydd a'r glaw trwm diweddar.

 

Fel arfer, maent wedi rhoi’r ymdrech fwyaf i ddiogelu pobl ac eiddo, ac i helpu i gadw'r fwrdeistref sirol ar ei thraed.

 

Llwyddodd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddianc rhag y rhan fwyaf o'r difrod eang a brofwyd gan ein cymdogion agos, ychwanegodd yr Arweinydd.

 

Unwaith eto, roedd yn credu bod rhan fawr o hyn o ganlyniad i broffesiynoldeb, profiad, ac ymrwymiad staff CBSP.

 

Ym mhob cwr o'r fwrdeistref sirol, gwiriwyd a chliriwyd ceuffosydd a draeniau ymhell cyn i’r stormydd daro, a gosodwyd llidiardau d?r ar hyd Porth yr Angel.

 

Llanwyd a pharatowyd miloedd o fagiau tywod, ac roedd criwiau’n barod am y gwaethaf gyda chyfarpar a oedd yn cynnwys jetiau d?r, llifiau cadwyn, JCBs, a theclynnau codi.

 

Pan darodd y stormydd, roedd criwiau allan yn y tywydd mawr, yn clirio malurion o ddraeniau, yn dosbarthu bagiau tywod, yn symud coed a syrthiodd ac arwyddion wedi'u difrodi, yn trwsio ffensys wedi torri, yn diogelu goleuadau stryd, a llawer mwy yn ogystal.

 

Yn anffodus, ychwanegodd yr Arweinydd, gwelwyd llifogydd mewn sawl eiddo yn Nyffryn Ogwr oherwydd y glaw, a bu ein staff yno yn helpu’r trigolion. Mae swyddogion y tîm rheoli llifogydd yn ymchwilio achosion y llifogydd.

 

Pan oedd y glaw ar ei anterth, bu llifogydd dros nifer o ffyrdd a chaewyd rhai ohonynt nes cilio’r d?r a chlirio’r malurion, bu'n rhaid i griwiau ddadflocio ceuffosydd ym Mhencoed ar ôl iddynt gael eu tagu gan falurion a oedd wedi’u cario gyda’r afon.

 

Syrthiodd coeden ar y ffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg gan ei chau am gyfnod, tra ar y Bwlch roedd y d?r yn gollwng gyda'r fath rym nes gorlifo’r muriau a draeniau, a gwthio creigiau a cherrig i lawr i'r ffordd.

 

Yn sgil y stormydd, roedd staff y Cyngor hefyd wedi bod wedi cynnal rhag-wiriadau pellach yn 41 o hen safleoedd cloddio glo yng nghymoedd Ogwr, Garw a Llynfi i sicrhau eu bod yn ddiogel.

 

Cynigiwyd cymorth ac offer i gydweithwyr yn Rhondda Cynon Taf hefyd, lle mae cannoedd o gartrefi ac eiddo wedi'u difrodi gan y llifogydd a datganwyd argyfwng mawr. Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i dalu teyrnged i gydweithwyr yn y gwasanaethau brys, yn enwedig Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, a staff y GIG a fu;’n peryglu eu bywydau ar brydiau wrth ateb y galw.   

 

Gan mai'r holl dystiolaeth a'r rhagolygon yw y bydd tywydd mwy eithafol yn cael ei brofi'n amlach yn y dyfodol, bydd BCBS yn ystyried yn ofalus yn y misoedd nesaf sut y gall gynyddu'r adnoddau i leihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried sut y gall gryfhau'r gallu i ymateb i lifogydd pan fydd yn digwydd.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod yn falch bod yr Awdurdod yn datblygu cynlluniau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 401.

402.

Cyflwyniad gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y canlynol i'r cyfarfod gan y Maer: C Barton, Trysorydd a H Jakeway, Prif Swyddog Tân Awdurdod Tân De Cymru i roi cyflwyniad ar y cyd.

 

Cadarnhawyd bod gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) 47 Gorsaf Dân yn cwmpasu'r ardaloedd canlynol:-

 

           CBS Pen-y-bont ar Ogwr

           Blaenau Gwent

           Rhondda Cynon Taf

           Bro Morgannwg

           Caerffili

           Merthyr Tudful

           Torfaen

           Sir Fynwy

           Casnewydd

           Caerdydd

 

Ymrwymodd pob un o'r Awdurdodau Unedol uchod y symiau canlynol ar gyfer GTADC, gyda phoblogaeth pob Bwrdeistref Sirol yn cael ei dangos mewn cromfachau yn dilyn y swm:-

 

1.         Merthyr Tudful - £2,790,365 (59,254)

2.         Rhondda Cynon Taf - £11,252,298 (238,945)

3.         Pen-y-bont ar Ogwr - £6,746,905 (143,272)

4.         Bro Morgannwg - £6,047,690 (128,424)

5.         Caerdydd - £17,437,965 (370,299)

6.         Torfaen - £4,336,523 (92,087)

7.         Casnewydd -  £7,028,029 (149,243)

8.         Sir Fynwy - £4,382,814 (93,070)

9.         Blaenau Gwent - £3,266,932 (69,374)

10.       Caerffili - £8,537,563 (181,297)

 

Ychydig dros £70m oedd gan y GTADC fel Cyllideb Refeniw yn 2019/20, a gwariwyd 75% o hyn ar gostau staff. Gwariwyd cryn dipyn o’r swm ar bersonél gweithredol, gyda rhai gwasanaethau’n rhai allanol ond y rhan fwyaf yn wariant mewnol.

 

Yna, rhoddodd y Swyddog grynodeb o'r hyn yr oedd cyllideb y GTADC yn ei gwmpasu, a oedd yn cynnwys:-

 

           Trafnidiaeth

           Cyflenwadau

           Hyfforddiant

           Adeiladau

           Incwm Cyllido Cyfalaf

           Arall

 

Rhannwyd y gyllideb ar gyfer cyflogeion yn gostau Rheoli, Cymorth, Gweithredol a chostau eraill.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod yn rhaid i GTADC ddefnyddio tua 7% o'i gyllideb i ariannu benthyca ar gyfer ei raglen Gyfalaf, er mwyn cyflawni ei swyddogaethau'n llawn. Fodd bynnag, ers dechrau cyni a'r dirwasgiad yn dilyn hynny, bu newid yn y Gyllideb Refeniw Net sy'n cyfateb i ostyngiad o tua 17% mewn termau real.

 

Yna hysbyswyd y Cyngor bod tri Awdurdod Tân yng Nghymru, yn cwmpasu ardaloedd De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru. Derbyniodd GTADC hefyd grantiau Llywodraeth Cymru a chyllid ar gyfer costau pensiwn tuag at ei incwm cyffredinol. Amcangyfrifwyd y byddai arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer costau pensiwn yn cael ei dorri o £200k yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Roedd pwysau ariannol o ran costau adeiladau a'r gofyniad i adnewyddu rhywfaint o gyfarpar, h.y. injans tân ac offer diffodd tân eraill.

 

Bu'n rhaid i GTADC hefyd gadw hyn a hyn o gyllid fel arian wrth gefn ar gyfer gwariant annisgwyl, er enghraifft costau gweithredu diwydiannol, lle byddai angen y gwasanaethau brys o hyd.

 

O ran pwysau ar y gyllideb, roedd cyllideb GTADC yn tybio arbediad effeithlonrwydd o £0.4m ar staffio bob blwyddyn. Cafodd yr holl ffactorau chwyddiant eraill eu hymgorffori o fewn cyllidebau presennol. Roedd gorwariant cyfredol rhagamcanol o £0.9m wedi'i ymgorffori drwy ddulliau eraill ar gyfer arbedion gwariant.

 

O ran y risgiau yn ardal De Cymru, eglurodd Swyddogion fod y rhain yn ymwneud â chyfrifoldeb yr Awdurdod Tân wrth ofalu am y seilwaith fel y rhwydwaith priffyrdd a strwythurau eraill megis pontydd, yn ogystal â'r rhai a oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 402.

403.

Adolygu Cynllun Corfforaethol 2018-2022 ar gyfer 2020-21 pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro a ofynnai i'r Cyngor gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol 2018-2022 a adolygwyd ar gyfer 2020-21 (Atodiad A i'r adroddiad A gyfeiriwyd).

 

Roedd Cynllun Corfforaethol 2018-2022 yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; ei 3 amcan llesiant a'n gwerthoedd a'n hegwyddorion sefydliadol sy'n gosod sylfaen i ddulliau’r Cyngor o gyflawni ei flaenoriaethau.

 

Eglurodd fod y sylwadau a dderbyniwyd drwy'r broses drosolwg a chraffu wedi bod yn werthfawr a'u bod wedi arwain at addasu'r Cynllun Corfforaethol yn unol â hynny, i ymgorffori rhai o'u hargymhellion.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro grynodeb o rai o'r themâu allweddol a gynhwyswyd yn y Cynllun Corfforaethol, gan gynnwys y ffaith bod gan CBSP 4,225 o weithwyr amser llawn a oedd yn darparu dros 800 o wasanaethau gwahanol.

 

Roedd y cynllun yn cynnwys 7 nod llesiant hirdymor, gan roi diffiniadau eglur o 5 ffordd o weithio. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut y pennodd yr awdurdod lleol ei gyllideb, ac eglurodd hefyd sut yr oedd y Cyngor yn gweithio gyda rhai partneriaid a rhanddeiliaid allweddol i gyflawni nodau ac amcanion y cynllun.   

 

Roedd nifer o fesurau llwyddiant newydd yn y cynllun (rhai ohonynt yn ddangosyddion cenedlaethol newydd) yn gysylltiedig ag ymrwymiadau'r CBSP i sicrhau y gall yr Awdurdod fonitro cynnydd. Lle'r oedd modd i wneud hynny, gosodwyd targedau i helpu i sbarduno gwelliant; Pan oedd dangosyddion newydd heb unrhyw wybodaeth feincnodi y targed oedd sefydlu gwaelodlin.

 

Esboniodd y byddai'r cynllun yn cael ei adolygu'n flynyddol i ystyried amgylchiadau cyfnewidiol a'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion llesiant a hefyd i sicrhau bod gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu bodloni.

 

Gorffennodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ei chyflwyniad drwy gynghori bod asesiad llesiant o effaith y Cynllun Corfforaethol wedi'i gwblhau a'i gynnwys yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i bawb a oedd wedi cyfrannu at y Cynllun Corfforaethol. Dywedodd ei fod yn cael ei 'ddiweddaru' bob blwyddyn ac er nad oedd yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor, roedd yn manylu ar rai o'r rhai pwysicaf. Ychwanegodd fod y cynllun hefyd yn canolbwyntio ar risgiau'r cyngor a meysydd lle’r oedd rhywfaint o le i wella perfformiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:                      Fod y Cyngor yn cymeradwyo a mabwysiadu'r Cynllun Corfforaethol 2018-2022 a adolygwyd ar gyfer 2020-21.

404.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 o oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24, a atodir yn Atodiad 3, sy'n cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2020-24, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2020-21 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2019-20 i 2029-30. Mae hyn yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Cabinet ar 25 Chwefror 2020.

 

Dywedodd mai dyraniad y gyllideb sy’n pennu i ba raddau y gellir cyflawni amcanion llesiant y Cyngor. Mae'r Cynllun Corfforaethol a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) yn nodi blaenoriaethau gwasanaeth ac adnoddau'r Cyngor ar gyfer y pedair blwyddyn ariannol nesaf, gan ganolbwyntio'n benodol ar 2020-21.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i'r Cyngor i ddarparu manylion am Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod o bedair blynedd rhwng 2020-21 a 2023-24. Mae'r SATC yn ategu Cynllun Corfforaethol y Cyngor, ac mae'n edrych ar ddarparu'r adnoddau i alluogi cyflawni amcanion lles y Cyngor. Mae'r SATC yn amlinellu'r egwyddorion a'r tybiaethau manwl sy'n llywio cyllideb a phenderfyniadau gwariant y Cyngor, yn amlinellu'r cyd-destun ariannol y mae'r Cyngor yn gweithredu ynddo, ac yn ceisio lliniaru unrhyw risgiau a phwysau ariannol yn y dyfodol, gan fanteisio ar unrhyw gyfleoedd sy'n codi hefyd.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod y cyhoeddiad ynghylch setliad terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2020-21 oddeutu deufis yn hwyrach na'r blynyddoedd blaenorol, oherwydd dyddiad cau newidiol Brexit ac yna etholiad cyffredinol y DU, ac o ganlyniad mae'r gyllideb hon yn cael ei chynnig ar sail y setliad dros dro a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2019. Er nad ydym yn rhagweld newid sylweddol mewn cyllid rhwng y setliad dros dro a’r un terfynol, byddai'r modd y bydd yr Awdurdod yn ymdrin ag unrhyw newidiadau yn cael ei egluro yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cyngor yn ddiweddarach. Ni ragwelwyd y byddai newidiadau a fyddai’n effeithio ar y dreth gyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r materion ariannol y gofynnir i'r Cyngor eu hystyried fel rhan o'r 2020-21 i 2023-24 o'r SATC. Roedd yn ofynnol i Swyddog Adran 151 y Cyngor adrodd yn flynyddol ar gadernid lefel y cronfeydd wrth gefn. Roedd lefel cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn ddigonol i ddiogelu'r Cyngor yng ngoleuni galwadau anhysbys neu argyfyngau a'r lefelau ariannu presennol. Rhaid pwysleisio bod y risgiau ariannol mwyaf y mae'r Cyngor yn agored iddynt ar hyn o bryd yn ymwneud ag ansicrwydd cyllid Llywodraeth Cymru, yr anhawster cynyddol i gyflawni gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb, yn ogystal â nodi cynigion pellach. Felly, roedd yn hanfodol bod balans Cronfa'r Cyngor yn cael ei reoli yn unol ag egwyddor 9 y SATC, fel y nodir yn y SATC, ac mae'n hanfodol bod gwariant y gwasanaeth refeniw a gwariant cyfalaf yn cael ei gynnwys o fewn y cyllidebau a nodwyd.

 

Roedd yn ofynnol i'r Swyddog Adran 151 roi adroddiad pellach i'r Cyngor os nad ydynt yn credu bod ganddynt ddigon o adnoddau i gyflawni eu rôl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 404.

Motion Vote Type
TeitlMathMotion Vote Type textResult
Medium Term Financial Strategy 2020-21 to 2023-24 Resolution Carried
  • View Motion Vote Type for this item
  • 405.

    Treth Gyngor 2020-21 pdf eicon PDF 123 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi manylion i’r cyngor Cyngor yngl?n â

    gofyniad Treth Gyngor ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol ynghyd â

    gofynion y Comisiynydd Heddlu & Throseddu ar gyfer De Cymru a

    Chynghorau Cymuned/Tref.

     

    Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwybodaeth gefndirol benodol, ac yn dilyn hynny cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 yr Aelodau at baragraff 4.4, a ddangosodd y Dreth Gyngor gyfartalog ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ar gyfer 2020-21 yn Nhabl 3.

     

    Ychwanegodd fod gofyn i'r Cyngor, fel yr awdurdod bilio, gymeradwyo'r Dreth Gyngor yn ffurfiol ar gyfer ei ardal. Rhaid gosod hyn i gwrdd â gofyniad cyllideb net yr Awdurdod a'i awdurdodau praeseptio. Amlinellwyd manylion am hyn yn Nhabl 5 o fewn yr adroddiad.

     

    Roedd hefyd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo taliadau'r Dreth Gyngor am eiddo Band D ar gyfer y flwyddyn ariannol y gellir codi tâl amdano, gan ddechrau ar 1 Ebrill, ar gyfer pob un o'r ardaloedd cymunedol. Dangoswyd y rhain yn Nhabl 6 yr adroddiad.  Roedd yr holl gyfrifiadau a amlygwyd felly ar gyfer eiddo sy'n cyfateb i Fand D.

     

    Gorffennodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 ei chyflwyniad drwy nodi, er eglurder, fod y taliadau canlyniadol ar gyfer pob Band wedi’u hatgynhyrchu yn Atodiad A (i'r adroddiad).

     

    PENDERFYNWYD:                        Bod y Cyngor yn cymeradwyo:

     

    ·          Treth Gyngor Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £1,537.06 ar gyfer 2020-21, a

    ·          thaliadau'r Dreth Gyngor am eiddo Band D ar gyfer 2020-21 ar gyfer

     pob un o'r ardaloedd cymunedol fel yr amlinellwyd.?

    406.

    Rheoli'r Trysorlys a Strategaethau Cyfalaf o 2020-21 Ymlaen pdf eicon PDF 294 KB

    Dogfennau ychwanegol:

    Cofnodion:

    Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, a'i ddiben oedd cyflwyno Strategaeth Reoli'r Trysorlys 2020-21 (Atodiad A i'r adroddiad) i’r Cyngor, sy'n cynnwys Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, a'r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020-21 hyd at 2029-30 (Atodiad B), sy'n cynnwys y Dangosyddion Darbodus i'w cymeradwyo.

     

    Mae Strategaeth Reoli'r Trysorlys 2020-21 yn cadarnhau cydymffurfiad y Cyngor â Rheolwyr y Trysorlys o fewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer. Mae hefyd yn cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i ystyried Cod CIPFA a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

     

    Dywedodd fod Strategaeth Reoli'r Trysorlys yn strategaeth integredig lle caiff benthyca a buddsoddiadau eu rheoli yn unol â'r arferion proffesiynol gorau. Mae'r Cyngor yn benthyca arian naill ai i ddiwallu anghenion llif arian byrdymor neu i ariannu cynlluniau cyfalaf o fewn y rhaglen gyfalaf, ond nid yw’r benthyciadau a gymerir yn gysylltiedig ag asedau penodol. Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys y posibilrwydd o golli cronfeydd buddsoddi ac effaith newidiadau mewn cyfraddau llog ar refeniw. Mae'r Cyngor yn ymdrechu i leihau'r risgiau drwy fuddsoddi ei arian yn ddarbodus, gan roi ystyriaeth yn gyntaf i ddiogelwch buddsoddiadau, yna eu hylifedd, ac yn olaf i geisio'r gyfradd adennill neu gnwd uchaf. Roedd y Strategaeth yn amlinellu diffiniad y Cyngor o

    fuddsoddiadau penodedig ac amhenodedig, y terfynau ariannol ar gyfer pob categori o fuddsoddiadau a'r

    cydbartïon cymeradwy â statws credyd cysylltiedig.

     

    Aeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 yn ei blaen i gadarnhau bod y Strategaeth Gyfalaf 2020-21 hyd at 2029-30 (Atodiad B o'r adroddiad) wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 13 Chwefror 2020 er gwybodaeth. Cadarnhaodd hyn fod y Cyngor yn cydymffurfio â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Mae'n nodi'r egwyddorion sy'n llywio penderfyniadau cyfalaf o ran:-

     

    1.  Canolbwyntio buddsoddiad cyfalaf ar gyflawni amcanion a blaenoriaethau'r Cyngor

    2.  Sicrhau llywodraethu cryf wrth wneud penderfyniadau

    3.  Sicrhau bod cynlluniau cyfalaf yn fforddiadwy, yn gynaliadwy, ac yn ddarbodus

    4.  Uchafu a hyrwyddo'r defnydd gorau o'r arian sydd ar gael

     

    Mae'r Strategaeth Gyfalaf yn nodi fframwaith ar gyfer hunanreoli cyllid cyfalaf ac yn edrych ar y meysydd canlynol:

     

    • Gwariant cyfalaf a chynlluniau buddsoddi
    • Dangosyddion Darbodus
    • Dyled allanol
    • Rheoli'r Trysorlys

     

    Roedd hefyd yn adrodd ar y ddarpariaeth, ar fforddiadwyedd, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyd-destun hirdymor, lle y gwneir gwariant cyfalaf a phenderfyniadau buddsoddi.

     

    Mae Rheoliadau Awdurdod Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Diwygio) (Cymru)

    2008 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor lunio a chymeradwyo Datganiad Blynyddol o Ddarpariaeth Refeniw Gofynnol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol. Pan fo Cyngor yn talu am wariant cyfalaf drwy ddyled, rhaid iddo neilltuo adnoddau refeniw i ad-dalu'r ddyled honno mewn blynyddoedd diweddarach a chodir y tâl hwn ar refeniw.

     

    I gloi ei chyflwyniad, dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod y datganiad hwn ynghlwm yn Atodiad B - Atodlen A yr adroddiad.

     

    PENDERFYNWYD:                        Bod y Cyngor yn cymeradwyo:

    • Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-21 gan gynnwys

               Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys 2020-21 hyd at 2022-23 (Atodiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 406.

    407.

    Eitemau Brys

    I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

     

    Cofnodion:

    Dim