Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 10fed Mawrth, 2021 15:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

513.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd yr holl Brif Swyddogion presennol fod ganddynt fuddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 6 yr Agenda, a gadawont y cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried. Y Swyddog o Adnoddau Dynol a oedd yn cyflwyno a’r Swyddogion Datblygu Sefydliadol a Gwasanaethau Democrataidd a arhosodd yn y cyfarfod.

 

514.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Dechreuodd y Maer drwy ddymuno prynhawn da i bawb. Gobeithiai fod pawb a oedd yn bresennol yn ddiogel ac yn iach ac wedi bod yn mwynhau’r tywydd yn nyddiau cynnar y gwanwyn.

 

Cyhoeddodd nad oedd ganddo unrhyw ddiweddariadau i'r Aelodau o ran ymrwymiadau, ond fod ganddo gyhoeddiad i'r rhai a oedd yn bresennol ei nodi.  Cyn bo hir, bydd yr Aelodau'n derbyn eu ffurflen datgelu trafodion partïon cysylltiedig blynyddol. Atgoffodd yr holl Gynghorwyr ei bod yn hanfodol iddynt gwblhau'r ffurflen i ddatgan unrhyw drafodion partïon cysylltiedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, hyd yn oed os nad oes trafodion i’w nodi ar y ffurflen. Ni ddylid cwblhau’r ffurflenni cyn 31 Mawrth 2021 ond rhaid eu dychwelyd erbyn dydd Gwener 9 Ebrill 2021.

 

Ychydig ddyddiau'n ôl cafodd y Cynghorydd Altaf Hussain drawiad ar y galon, ond diolch byth, ar ôl ychydig ddyddiau yn yr ysbyty, mae'r Cynghorydd bellach wedi dychwelyd adref lle mae'n gyfforddus ac yn gwella. Roedd y Maer wedi cysylltu ag ef ac roedd yn falch o gyhoeddi bod y Cynghorydd Hussain yn teimlo'n llawer gwell. Roedd y Maer yn si?r y byddai Aelodau a Swyddogion yn ymuno ag ef i ddymuno gwellhad llawn a buan i'r Cynghorydd Hussain.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod amser yn prinhau i ddinasyddion yr UE sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bod angen iddynt wneud cais am Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

 

Mae'r cynllun, sy'n rhan o system fewnfudo newydd y DU ar ôl Brexit, yn cynnig yr hawl i ddinasyddion 27 aelod-wladwriaeth yr UE barhau i fyw a gweithio yn y DU fel y gwnaethant pan oedd y wlad yn rhan o'r UE.

 

Mae'n rhad ac am ddim i wneud cais amdano, ond rhaid cyflwyno ceisiadau cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin.

 

Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o geisiadau wedi'u prosesu yn y Fwrdeistref Sirol. O'r rheini, mae 1,370 wedi cael statws sefydlog, ac mae 570 wedi cael statws cyn-sefydlog.

 

Mae'r rhain yn bobl sy'n cyfrannu at y cymunedau y maent yn byw ynddynt, ac yr ydym am iddynt allu parhau i fyw yma, i weithio yma, a chael mynediad at wasanaethau yma.

 

Gofynnir i Aelodau annog holl ddinasyddion yr UE sy'n byw yn eu wardiau ac sydd wedi ymgartrefu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais i'r cynllun preswylio cyn y dyddiad cau.

 

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y gallant wneud hyn ar wefan y Cyngor

 

Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio y gallai cydweithwyr fod wedi gweld y cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams a oedd yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £72 miliwn yn ychwanegol i ysgolion ledled Cymru.

 

Yr ydym yn dal i aros am gadarnhad cyfran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o hyn, ond mae'r cyllid yn rhan o'r adferiad cyffredinol o'r pandemig, a'i fwriad yw helpu ysgolion wrth iddynt geisio cefnogi dysgwyr.

 

Bydd yn galluogi'r rhaglen Recriwtio,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 514.

515.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd am rannu diweddariad byr ar faterion yn ymwneud â'r pandemig.

 

Bydd yr Aelodau wedi nodi'r newyddion gwych ddoe bod dros filiwn o frechlynnau coronafirws bellach wedi'u rhoi ledled Cymru.

 

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae dros 160,000 o bobl bellach wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn coronafirws.

 

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae hyn yn golygu mwy na 46,000 o drigolion.

 

Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn obeithiol y bydd wedi darparu un dos neu fwy o'r brechlyn i'r 120,000 o drigolion sydd o fewn grwpiau blaenoriaeth 5-9 erbyn canol mis Ebrill.

 

I gefnogi hyn, cyhoeddwyd ffurflen atgyfeirio ar wefan Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon y gall gofalwyr di-dâl ei defnyddio i wneud cais am apwyntiad.

 

Dyma’n sefyllfa hyd yma o ran cyflwyno'r brechiad, mae'r holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae timau brechu symudol wrthi'n ailedrych ar y cartrefi i gynnig ail ddos.

 

Mae pobl 80 oed a h?n wedi derbyn eu dos cyntaf drwy eu meddyg teulu lleol, ac rydym yn cysylltu â nhw i ddod yn ôl am ail ddos.

 

Mae gweithwyr iechyd rheng flaen wedi derbyn eu dos cyntaf mewn canolfannau brechu mewn ysbytai, ac mae ail ddosau yn cael ei rhoi ar y funud.

 

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen hefyd wedi derbyn eu dos cyntaf, y tro hwn mewn canolfannau brechu cymunedol, ac mae eu hail ddos yn cael ei drefnu.

 

Mae pobl 75 oed a h?n wedi derbyn eu dos cyntaf drwy eu meddyg teulu lleol, ac rydym yn cysylltu â nhw i ddod yn ôl am ail ddos.

 

Mae pobl 70 oed a h?n wedi bod mewn canolfannau brechu cymunedol ac yn derbyn manylion am eu hapwyntiadau ar gyfer yr ail ddos.

 

Mae'r rhai a dderbyniodd lythyrau gwarchod wedi cael eu dos cyntaf, ac mae meddygfeydd meddygon teulu yn cysylltu â nhw i drefnu eu hail ddos.

 

Mae pobl 65 oed a h?n yn cael eu brechu ar hyn o bryd gyda'u dos cyntaf drwy feddygfeydd lleol, ac mae hyn yn parhau.

 

Mae meddygon teulu wedi dechrau cysylltu â phobl rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol i drefnu eu dos cyntaf o'r brechlyn.

 

Bydd llythyrau'n cael eu dosbarthu'n fuan i wahodd pobl 60 oed a h?n i fynd i ganolfannau brechu cymunedol ar gyfer eu dos cyntaf.

 

Dilynir hyn gyda llythyrau at bobl 55 oed a h?n, ac yna pobl 50 oed a h?n. Gofynnir i'r ddau gr?p hyn fynd i ganolfannau brechu cymunedol.

 

Fel y dywedwyd yn gynharach, gofynnir i ofalwyr di-dâl gyflwyno ffurflen ar wefan Llywodraeth Cymru i drefnu apwyntiad ar gyfer eu dos cyntaf o'r brechlyn coronafeirws.

 

Mae oedolion iau sydd ag anableddau dysgu, gan gynnwys y rhai mewn cartrefi gofal a lleoliadau byw â chymorth, hefyd yn cael eu brechu fel rhan o gr?p blaenoriaeth chwech.

 

Mae pobl ag anableddau dysgu sy'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 515.

516.

Derbyn y cwestiwn canlynol gan gynrychiolydd o'r Grŵp 'Save Our Fields' i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Roeddem wrth ein bodd bod aelodau o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn sgil astudiaeth ddichonoldeb Bryn Bragle, wedi cydnabod yn gyhoeddus werth mannau gwyrdd i les eu trigolion a'u cymunedau. Mae'r Cynghorydd David wedi cydnabod "gwerth y man gwyrdd agored cyhoeddus hwnnw i gymuned Bragle"; mae'r Cynghorydd Smith wedi cydnabod mai ei "agwedd bob amser yw diogelu mannau agored" ac mae'r Cynghorydd Burnett hyd yn oed wedi mynd mor bell â dweud y bydd y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud yn sicrhau cadwraeth Bryn Bragle fel man agored gwyrdd. "

 

Mae Erthygl 11.01 o Gyfansoddiad y Cyngor yn caniatáu i'r Cyngor ymgymryd â threfniadau ar y cyd â chyrff eraill er mwyn hybu llesiant, a'r pwerau hyn yn cael eu rhoi gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

 

I gydnabod y pwerau hyn, y rôl hanfodol y mae mannau gwyrdd yn ei chwarae yn ein lles emosiynol a chorfforol, yn enwedig yn anterth pandemig byd-eang, ac ymrwymiad presennol CBSP i beidio â datblygu ar Fryn Bragle, a yw'r Aelod Cabinet yn cytuno i ddilyn addewid y Cynghorydd Burnet i gadw Bryn Bragle fel man agored gwyrdd a dechrau'r broses o weithio gyda Meysydd Chwarae Cymru ar unwaith i ddiogelu, yn gyfreithiol, Bryn Bragle a'r man agored gwyrdd yn Channel View a Foxfields drwy Weithred o Ymroddiad?

           

 

Cofnodion:

 

Cwestiwn gan Mr A Drury

 

Roeddem wrth ein boddau bod aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn sgil astudiaeth ddichonoldeb Brackla Hill, wedi cydnabod gwerth mannau gwyrdd i les eu trigolion a'u cymunedau. Mae'r Arweinydd wedi cydnabod "gwerth y man gwyrdd agored cyhoeddus hwnnw i gymuned Bracla", dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ei fod yn ei natur erioed i “gadw mannau agored", ac aeth yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar cyhyd â dweud “bydd y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud hyd yma yn ddigon i sicrhau cadwraeth Brackla Hill fel man agored gwyrdd." Mae Erthygl 11.01 o Gyfansoddiad y Cyngor yn caniatáu i'r Cyngor ymgymryd â threfniadau ar y cyd â chyrff eraill er mwyn hybu llesiant, rhoddwyd y pwerau hyn gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

 

I gydnabod y pwerau hyn a’r rôl hanfodol y mae mannau gwyrdd yn ei chwarae yn ein lles emosiynol a chorfforol, yn enwedig yn anterth pandemig byd-eang, yn ogystal ag ymrwymiad presennol CBSP i beidio â datblygu ar Brackla Hill, gofynnaf a yw'r Aelod Cabinet – Cymunedau yn cytuno i gynnal addewid yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, i gadw Brackla Hill fel man agored gwyrdd ac i ddechrau'r broses o weithio gyda Fields in Trust ar unwaith i ddiogelu Brackla Hill mewn cyfraith, ac i ddiogelu’r man gwyrdd yn Channel View a Foxfields gyda Gweithred Gyflwyno?

 

Ymateb gan yr Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Yn ddiweddar, ymrwymodd y Cyngor i gadw Brackla Hill fel man agored gwyrdd, a hynny oherwydd ei fod yn rhoi cydnabyddiaeth lwyr i werth mannau agored i les emosiynol a chorfforol trigolion a chymunedau.

 

Bydd y man agored hwn yn cael ei ddiogelu drwy Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) gan mai dyma'r brif ddogfen cynllunio defnydd tir strategol sy'n llywio datblygiadau yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol.  Dyma'r brif ystyriaeth hefyd wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, gan fod cyfraith cynllunio yn mynnu bod yn rhaid i'r penderfyniadau cynllunio ystyried darpariaeth y cynllun datblygu.

 

Mae ardal Brackla Hill eisoes wedi'i diogelu yn y CDLl presennol ac mae wedi'i dyrannu'n benodol o dan Bolisi COM13(5) – Darparu Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch (gan gynnwys mannau agored cyhoeddus) ynghyd â nifer o fannau agored allweddol eraill yn y Fwrdeistref Sirol.  Gallai unrhyw ddatblygiad ar yr ardaloedd hyn o dir arwain at wyro oddi wrth y cynllun datblygu, a byddai'n wynebu heriau o ran cynllunio.

 

Disgwylir i'r CDLl drafft newydd gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni a bydd yn cynnwys darpariaeth benodol i fannau agored hygyrch yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ac archwiliadau o fannau agored.  Bydd y cynllun yn agored ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a bydd unrhyw sylwadau yn cael eu hystyried cyn i Arolygydd Cynllunio allanol graffu ar y cynllun gyda'r bwriad o'i fabwysiadu yn y pen draw yn 2022.  Mae’r ddarpariaeth o fannau agored mewn cymunedau a’i bwysigrwydd wedi’i amlinellu ym maes polisi cynllunio cenedlaethol h.y. Dyfodol Cymru 2040 a Pholisi Cynllunio Cymru, y mae'r ddau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 516.

517.

Datganiad Polisi Cyflog - 2021/2022 pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad ar ran y Prif Weithredwr, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Polisi Cyflog 2021/2022.  Roedd hyn mewn ymateb i ofynion deddfwriaethol ac i fod yn ddidwyll a’n atebol o ran dulliau’r Cyngor o wobrwyo ei staff.

 

Esboniodd fod gan y Cyngor ofyniad statudol o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, Adran 38(1) i baratoi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd 2021/2022. Mae angen cymeradwyo a chyhoeddi'r Datganiad hwn erbyn 31 Mawrth 2021.

 

Y Datganiad Polisi Tâl sy’n darparu'r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar gyflogau, ac i wneud penderfyniadau ar gyflogau uwch-swyddogion yn enwedig.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yr Aelodau at y Datganiad Polisi Tâl sydd wedi'i ddiweddaru ac i’w gymeradwyo, y mae wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Cynhyrchwyd hwn yn unol â gofynion Deddf Lleoliaeth 2011, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu a chyhoeddi eu polisïau ar bob agwedd ar gydnabyddiaeth ariannol Prif Swyddogion. Er mwyn sicrhau tryloywder pellach, mae cyfeiriad wedi'i gynnwys at dâl grwpiau perthnasol eraill yn y datganiad polisi.

 

Ers ei gyflwyno ar 1 Ebrill 2012, roedd y Polisi Cyflogau wedi datblygu i ystyried canllawiau, deddfwriaeth, a newidiadau perthnasol i strwythur uwch reolwyr y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd y strwythur cyflogau ar gyfer y gr?p staff yma yn Atodiad B i'r adroddiad, o fewn y Polisi Cyflog, a oedd hefyd wedi'i gyflwyno i'r Cyngor i'w nodi.

 

Yna rhoddodd y Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am baragraff 6.8 o'r Atodiad amgaeedig mewn perthynas â'r lwfans gwaith cartref a pharagraff 8, ymlacio cyflog.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y Polisi Cyflog yn cynnwys hawliadau milltiroedd y cyflogwr ai peidio, a pha brotocolau oedd ar waith o fewn yr Awdurdod er mwyn sicrhau bod hawliadau o'r fath yn gywir ac yn gyfreithlon.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol nad oedd y Polisi Cyflog yn manylu ar dreuliau teithio cyflogwyr. Fodd bynnag, roedd canllawiau a gwiriadau a gwrthbwysau ar waith er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau'n gywir. Ychwanegodd fod canllawiau yngl?n â hyn hefyd ar gael ar y system dreuliau ar-lein. Pe bai hawliad twyllodrus yn cael ei wneud a'i nodi, yna byddai hyn yn cael ei gymryd ymhellach gyda'r cyflogai a'i reolwr, eglurodd y Rheolwr y Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol.

 

O ran unrhyw gynigion yn y dyfodol ynghylch prosesau Gwerthuso Swyddi a/neu Ddiswyddiadau, cydnabu Aelod fod rhai cyflogeion wedi bod o dan anfantais o'u cymharu ag eraill, yn enwedig y llynedd oherwydd y pandemig a gweithio gartref, gan nad oedd ganddynt ddewis ond rhoi mwy o amser i roi gofal yn y cartref, boed hynny ar gyfer plant neu aelodau h?n o'r teulu. Gofynnodd am sicrwydd na fyddai'r gweithwyr hyn o dan anfantais mewn unrhyw ffordd pan fo'r Awdurdod yn edrych ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 517.

518.

Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr Cam 1 pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a'r Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad ar y cyd, a'i ddiben oedd:

 

·          rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am ddatblygu Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr;

·          ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cyllideb o £3.4m o fewn rhaglen gyfalaf y prosiect;

·          ceisio cymeradwyaeth i fenthyciad o £1.821m gael ei wneud gan y Cyngor i'r Cyfrwng at Ddibenion Arbennig (SPV) arfaethedig. 

 

Dechreuodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, drwy gynghori bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) wedi dechrau edrych ar y cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau gwres ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2012, gyda gyrwyr i brosiectau ar gyfer datgarboneiddio, rhesymau economaidd a chymdeithasol, fel yr ehangwyd ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad.

 

Mae Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i gynnwys fel prosiect yng Nghynllun Ynni Clyfar CBSP (a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2019). Mae'r Cynllun hwn yn manylu ar y prosiectau y bydd CBSP yn rhan ohonynt yn ystod cyfnod 2019 - 2025. Mae hyn yn cynnig rhoi gwahanol dechnolegau, cynigion defnyddwyr a modelau busnes ar brawf er mwyn darparu llwybr at ddatgarboneiddio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hefyd yn cyfrannu'n allweddol at strategaeth datgarboneiddio Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019) "Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel".

 

Aeth ymlaen drwy ddweud bod Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig darparu gwres (gyda pheiriant gwres a ph?er cyfunedig wedi’i bweru gan nwy wedi’i leoli yn y Bridgend Life Centre) ar gyfer y Bridgend Life Centre, y Swyddfeydd Dinesig, a Neuadd Fowlio Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai'r prosiect hefyd yn darparu trydan i'r Life Centre, i’r Swyddfeydd Dinesig, a’r Neuadd Fowlio.

 

Gwnaed cais am grant cyfalaf i Lywodraeth y DU drwy ei Rhaglen Buddsoddi mewn Rhwydwaith Gwres (HNIP) ym mis Ebrill 2019. Cymeradwywyd hyn ym mis Rhagfyr 2019 ar gyfer: (i) gwneud buddsoddiad cyfalaf o £1,000,000 tuag at adeiladu'r rhwydwaith gwres; a (ii) £241,000 ar gyfer gweithgareddau cyn adeiladu.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau yn ei blaen drwy ddweud bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr 2021, wedi rhoi cymeradwyo parhau â phrosiect Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd parhau â’r cynllun yn golygu gwneud rhai penderfyniadau ariannol. Un ohonynt oedd nodi y bydd angen diwygio Strategaeth Reoli'r Trysorlys i alluogi'r Cyngor i wneud benthyciad o £1.821 miliwn i'r SPV; y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn Strategaeth Rheoli ddrafft y Trysorlys 2021-22 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio ar 28 Ionawr 2021, ac yna wedyn i'r Cyngor i'w gymeradwyo ym mis Chwefror 2021.

 

Ychwanegodd fod y Cabinet hefyd wedi cytuno y dylid cyflwyno adroddiad i'r Cyngor, gan argymell diwygio'r rhaglen gyfalaf i gynnwys prosiect Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr a bod y Cyngor yn cytuno ar y benthyciad i'r SPV, yn amodol ar gymeradwyaeth i newidiadau i Strategaeth Reoli'r Trysorlys. Fel y g?yr yr Aelodau, roedd y Cyngor wedi cymeradwyo hyn ers hynny yn ei gyfarfod blaenorol o'r Gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 518.

519.

Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau Addysgol a Datblygiad Preswyl pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu SPG16 - Cyfleusterau Addysgol a Datblygu Preswyl fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn bod gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau bod cyfleusterau addysgol o ansawdd da ar gael i blant a phobl ifanc y Fwrdeistref Sirol. Roedd hwn yn un o amcanion allweddol y Cynllun Corfforaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Mae datblygu tai newydd yn y Fwrdeistref Sirol yn rhoi mwy o bwysau ar gyfleusterau addysg presennol, eglurodd.

 

Roedd SPG16 yn arf allweddol i leddfu'r pwysau hwnnw, drwy ddarparu cyngor ac arweiniad mewn amgylchiadau lle y gallai'r Cyngor, yn gyfiawn, geisio cyfraniadau ariannol tuag at ddarparu cyfleusterau addysgol.

 

I grynhoi, mae'r CCA yn nodi:

 

           Cyd-destun a deddfwriaeth y Polisi Cynllunio Cenedlaethol a lleol;

           Polisi ac arfer y Cyngor ei hun o ran addysg;

           Nodiadau canllaw sy'n egluro'r amgylchiadau a’r mecanweithiau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau tebygol;

           Enghreifftiau o sut y gwneir hyn; a

           Chanllawiau ar sut y caiff y polisi ei weinyddu.

 

O ran y sefyllfa bresennol, dywedodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol, fod gan y Cyngor SPG16 eisoes, a oedd wedi llwyddo i gynhyrchu miliynau o bunnoedd ar gyfer brosiectau ysgolion. Fodd bynnag, mabwysiadwyd y fersiwn gyfredol yn 2010 ac yn ddiweddar, mae swyddogion wedi canfod nad oedd lefel y cyfraniadau a gynhyrchwyd bellach yn cyd-fynd â chost arferion adeiladu modern. O ganlyniad, ffurfiwyd gweithgor bach, er mwyn cynnal adolygiad ffurfiol a chynhyrchu drafft wedi'i ddiweddaru, ac ar 16 Ionawr 2020, cymeradwyodd aelodau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu fersiwn drafft y CCA fel sail ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd.

 

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori o 6 wythnos rhwng 21 Chwefror a 3 Ebrill 2020, gyda'r ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

Erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori derbyniwyd saith cynrychiolaeth yngl?n â’r CCA drafft. Crynhoir y cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Ar 21 Ionawr 2021, ystyriodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yr holl gynrychiolaethau a chytunodd ar y newidiadau i'w gwneud i'r ddogfen, o ystyried y sylwadau a gafwyd. Mae'r rhain bellach wedi'u hymgorffori fel diwygiadau i'r CCA sydd ynghlwm yn Atodiad 2 (i'r adroddiad).

 

Byddai'r Aelodau'n nodi o'r pwyntiau bwled ym mharagraff 4.4, fod y gwelliannau arfaethedig wedi'u cyfyngu i bwyntiau cymharol syml yngl?n ag eglurdeb, rhywbeth a oedd yn adlewyrchu faint o waith a oedd yn rhan o'r CCA drafft o'r cychwyn cyntaf. Cydnabu Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol fewnbwn y tîm Moderneiddio Ysgolion a chyfraniadau'r Cynghorydd Amanda Williams, a roddodd gyfraniadau gwerthfawr i'r gwaith o adolygu a chynhyrchu'r CCA drafft a sicrhau bod gan yr Aelodau lais yn y broses.

 

Yna cwblhaodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol yr adroddiad drwy gyfeirio at ei berthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd yr Aelodau'r Cabinet a gwmpasodd y portffolio hwn yn croesawu’r ffaith bod mwy o ddibyniaeth yn cael ei rhoi ar ddatblygwyr tai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 519.

520.

Trafodion Partïon Cysylltiedig 2020-21 a Datganiad o Gyfrifon pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd hysbysu'r Cyngor o'r gofyniad i Aelodau ddatgan yn ffurfiol unrhyw drafodion partïon cysylltiedig ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21, drwy gwblhau'r datganiad a amgaeir yn Atodiad A i'r adroddiad. Rhaid gwneud hyd yn oed os yw'n ffurflen sero, ac ni ddylid ei chwblhau cyn 31 Mawrth 2021 ond rhaid ei dychwelyd erbyn dydd Gwener 9 Ebrill 2021 fan hwyrach.

 

Dywedodd nad oedd y gofyniad i ddatgan trafodion partïon cysylltiedig yn newydd o fewn y Datganiad Cyfrifon. Mae Archwilio Cymru yn craffu'n fanwl ar y ffurflenni hyn fel rhan o'u harchwiliad o'r Datganiad Cyfrifon ac wedi argymell y dylai'r Cyngor:-

 

• atgoffa pob Cynghorydd yn ffurfiol o bwysigrwydd cwblhau a chyflwyno eu ffurflen parti cysylltiedig flynyddol erbyn y dyddiad cau a bennwyd gan yr Adran Gyllid; a

• sicrhau bod unrhyw ffurflenni parti cysylltiedig hwyr yn cael eu ceisio yn brydlon."

 

Felly, roedd yr Adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o'r gofyniad i gwblhau'r datganiad sydd ynghlwm yn Atodiad A, gan gyfeirio at y canllawiau sydd ynghlwm yn Atodiad B erbyn dydd Gwener 9 Ebrill 2021. Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, ei bod yn bwysig iawn bod y ffurflen wedi'i llenwi hyd at 31 Mawrth 2021 ac yn cwmpasu'r flwyddyn ariannol lawn neu'r cyfnod yr oedd yr unigolyn yn Aelod o'r Cyngor ar ei gyfer. Dylai Aelodau nodi y byddai copi o'r datganiad hwn yn cael ei e-bostio ar wahân i'w cyfeiriad e-bost CBSP er mwyn ei gwblhau a'i ddychwelyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai copïau a ddychwelwyd gyda llofnod wedi'i deipio yn cael eu derbyn.

 

Cadarnhaodd hefyd, mewn ymateb i gwestiwn pellach, y dylai Aelodau a oedd yn ymwneud ag Is-gontractio i Gontractwyr y Cyngor hefyd ddatgelu hyn ar y ffurflen, yn ogystal â datgelu aelodau agos o'r teulu a oedd yn darparu'r gwasanaeth o’r fath neu debyg.

 

O ran rheoli grantiau yr oedd CBSP wedi'u cwblhau fel elfen ddosbarthu ar gyfer Llywodraeth Cymru, dylid datgelu'r rhain ar y ffurflen hefyd, ychwanegodd.

 

PENDERFYNIAD:                              Fod y Cyngor yn nodi'r gofyniad i Aelodau:

 

(1) Datgan yn ffurfiol unrhyw drafodion partïon cysylltiedig ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.

(2) Cwblhau a dyddio'r ffurflen ar 31 Mawrth 2021 neu hwyrach.

(3) Cyflwyno'r ffurflen erbyn dydd Gwener 9 Ebrill 2021.

521.

Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021-22 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, i hysbysu’r Cyngor o Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w Aelodau etholedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/22. 

 

Hwn oedd 13eg Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel), a'r degfed a gyhoeddwyd o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad).  Ymestynnodd y Mesur gyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod cynrychiolwyr y Panel wedi cynnal cyfarfodydd ymgynghori ar eu cynigion, a fynychwyd gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod.  Roedd y Panel wedi cydnabod pob un o'r 39 ymateb i'r ymgynghoriad ar yr adroddiad drafft ac wedi ateb yr holl ymholiadau a godwyd mewn perthynas â hyn.

 

Dangoswyd Penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2021/22 yn Atodiad 1 i'r Adroddiad Blynyddol (o dudalen 51 ymlaen). 

 

Esboniodd mai’r Cyflog Sylfaenol yn 2021/22 ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau fydd £14,368 o 1 Ebrill 2021 (Penderfyniad 1). Telir y cyflog hwn gan bob prif awdurdod i bob un o'i aelodau etholedig oni bai bod unrhyw aelod unigol yn dewis yn bersonol ac yn ysgrifenedig i gael swm is. Mae addasiadau’r blynyddoedd diwethaf wedi cyd-fynd ag egwyddor y Panel y dylai ei benderfyniadau fod yn fforddiadwy ac yn dderbyniol.  Cynhelir yr egwyddor hon yn y cynnydd o £150 yng nghyflog sylfaenol aelodau etholedig ar gyfer 2021/22. 

 

Bydd y lefelau cyflog uwch yn 2021-22 ar gyfer aelodau prif gynghorau fel y nodir yn Nhabl 3, tudalen 14 yr Adroddiad Blynyddol (mae Atodiad 1 yn cyfeirio at hyn).  Roedd y Panel o'r farn mai'r rolau arwain a gweithredol sydd â'r atebolrwydd unigol mwyaf a bod maint y boblogaeth yn parhau i fod yn ffactor o bwys wrth ddylanwadu ar lefelau cyfrifoldeb ac felly mae'r defnydd o'r grwpiau poblogaeth wedi'i gadw. 

 

Mae Cyflog yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd wedi'i seilio ar boblogaeth y Fwrdeistref Sirol (100,000 i 200,000).  Mae gan yr Arweinydd hawl i dderbyn £49,974 a'r Dirprwy Arweinydd £35,320. Bydd gan Aelodau'r Cabinet hawl i gael uwch gyflog o £30,773.

 

Pan fydd Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu talu, telir cyflog o £23,161 iddynt. Dywedodd y Panel unwaith eto mai mater i awdurdodau unigol yw penderfynu pa Gadeiryddion sy'n cael eu talu.  Yn ei Gyfarfod Blynyddol ym mis Mai 2020, penderfynodd y Cyngor y dylid talu Cadeiryddion am Bwyllgorau, fel y dangosir ym mharagraff 4.2.4 o'r adroddiad.

 

Roedd y Panel wedi penderfynu bod yn rhaid i'r Cyngor sicrhau bod uwch gyflog o £23,161 ar gael i arweinydd y gr?p gwrthblaid mwyaf. 

 

O ran cyflogau Dinesig, mae Cynghorau wedi mynegi'n gryf wrth y Panel nad yw Aelodau Etholedig yn dymuno gwneud unrhyw ddewisiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i’r Cynghorau eu hunain ddewis a chyfateb lefel gweithgarwch neu ddyletswyddau aelod penodol i ystod benodol o lefelau cyflog ar gyfer rôl.  Mae'r Panel wedi penderfynu (Penderfyniad 3) ei bod yn rhaid (pan fo'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 521.

522.

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd

 

Yng Nghymru, mae 60% o'r boblogaeth oedolion ac 1 o bob 8 plentyn 4-5 oed dros bwysau neu'n ordew, ac mae'r ffigur hwn yn cynyddu bob blwyddyn.  Ceir tystiolaeth gyson bod gordewdra (pwysau gormodol) yn gysylltiedig â risg uwch o COVID-19 yn ogystal â'r risg o glefydau fel diabetes math 2, clefyd y galon, canser a chlefydau anadlol sydd eu hunain yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau mewn rhywun sy'n contractio COVID-19.  Gan wybod mai pwysau gormodol yw un o'r ychydig ffactorau risg y gellir eu hatal ar gyfer COVID-19, a allai'r Arweinydd roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i helpu'r trigolion hynny sy'n byw gyda gormod o bwysau neu ordewdra i golli pwysau mewn modd cynaliadwy, ynghyd ag ymyriadau i atal cynnydd mewn pwysau a lleihau'r risg o COVID-19 yn ein Bwrdeistref?

 

Y Cynghorydd Tim Thomas i'r Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

O’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill, pa mor dda mae plant sydd mewn gofal yn llwyddo’n academaidd ac mewn ffyrdd eraill yn yr ysgol?

 

Y Cynghorydd Matthew Voisey i'r Arweinydd

 

pam mae'r weinyddiaeth Lafur hon yn gwahaniaethu yn erbyn rhai gweithwyr allweddol, drwy beidio â chaniatáu i'r rhai yn y sector preifat gael mynediad at ddarpariaethau gofal plant yn ystod y cyfyngiadau symud presennol hyn, o ystyried y rhain yw'r union weithwyr y mae'r blaid Lafur yn honni eu bod yn gofalu amdanynt, gweithwyr rhan-amser a'r rhai sydd ar isafswm cyflog neu'n agos at hynny?"

 

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd

 

Yng Nghymru, mae 60% o oedolion, ac 1 o bob 8 plentyn 4-5 oed, dros bwysau neu'n ordew, a phob blwyddyn mae'r ffigur hwn yn cynyddu. Ceir tystiolaeth gyson bod gordewdra (pwysau gormodol) yn gysylltiedig â risg COVID-19 uwch yn ogystal â'r risg o glefydau fel diabetes math 2, clefyd y galon, canser a chlefydau anadlol sydd eu hunain yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau mewn rhywun sy'n contractio COVID-19. Gan wybod mai gordewdra yw un o'r ffactorau risg prin hynny y gellir eu hatal ar gyfer COVID-19, a allai'r Arweinydd roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i helpu'r trigolion hynny sy'n byw gyda gorbwysau neu ordewdra i golli pwysau mewn modd cynaliadwy, ynghyd ag ymyriadau i atal cynnydd mewn pwysau a lleihau'r risg o COVID-19 yn ein Bwrdeistref?

 

Ymateb:

 

Does dim amheuaeth fod y pandemig wedi amlygu effaith niweidiol firws o'r fath ar grwpiau sy’n fwy agored i niwed ac ar bobl â lefelau uwch o risgiau, rhai sy’n aml yn gysylltiedig ag ymddygiadau ac arferion gwael.  Nododd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2019-2020 y canlynol ymhlith oedolion:

 

Roedd 18% o'r boblogaeth yn ysmygu

Roedd 19% o'r boblogaeth yn yfed mwy na'r canllawiau wythnosol

Dim ond 25% oedd wedi bwyta pum dogn o ffrwythau neu lysiau y diwrnod cynt

53% oedd yn bod yn egnïol am 150 munud neu fwy yr wythnos

Roedd 10% yn dilyn llai na 2 ymddygiad iach

Roedd 61% o'r boblogaeth oedolion dros bwysau neu'n ordew (gan gynnwys 25% yn ordew).

 

O ran gordewdra ymhlith plant, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bartner gweithgar gyda bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ac mae'n rhan o rwydwaith sy'n canolbwyntio ar atal gordewdra ymhlith plant ar draws y bwrdd iechyd cyfan.  Cafwyd digwyddiad system gyfan gyda llawer o randdeiliaid cyn y pandemig a bydd yn cefnogi gwaith yn y dyfodol.  Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant er mwyn gwella lles pobl ifanc a'n cymunedau.  Mae'r arolwg Mesur Plant Cenedlaethol yn un o'r dulliau a ddefnyddir i olrhain lles corfforol plant.  Yn y cyhoeddiad diweddaraf am ddata, roedd Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o ran plant a ddosbarthwyd yn ordew, ar ffigwr o 11.9% (o gymharu â RhCT, 14.4%, a Merthyr, 15.6%).

 

Mae cefnogi pobl i fod yn bwysau iach yn parhau i fod yn flaenoriaeth i iechyd y cyhoedd ac mae gan y Cyngor rôl o ran cynnal neu wella lles pobl leol a'n cymunedau.  Mae'r dystiolaeth yn cadarnhau bod gordewdra yn cynyddu risgiau diabetes math 2, clefyd y galon, a chlefydau anadlol ac mae'n bwysig bod pobl yn cael cyfleoedd, gwybodaeth a chymorth i reoli eu pwysau'n gynaliadwy. Bydd hyn o fudd i frwydro yn erbyn effaith negyddol Covid 19 ac, o bosibl, clefydau trosglwyddadwy neu gyflyrau cronig eraill hefyd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod, o’r dysgu a’r mewnwelediad a gafwyd yn ystod cam cyntaf y pandemig, y gallai anghydraddoldebau a materion yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 522.

523.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.