Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 16eg Rhagfyr, 2020 15:00

Lleoliad: o bell trwy Skype

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

480.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd SE Baldwin fuddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 12 ar yr Agenda - Moderneiddio Ysgolion - Rhaglen Gyfalaf Band B - Costau Tir ac ni chymerodd unrhyw ran yn yr ystyriaeth o’r eitem honno. 

 

Datganodd y Cynghorydd DBF White fuddiant personol yn eitem 12 ar yr Agenda - Moderneiddio Ysgolion - Rhaglen Gyfalaf Band B - Costau Tir gan ei fod yn llywodraethwr i un o'r ysgolion a grybwyllir yn yr adroddiad.    

481.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 120 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/11/2020

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:           Bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 18 Tachwedd 2020 i’w cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.      

482.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

Gyda thristwch mawr, cyhoeddodd y Maer fod cydweithiwr a ffrind, Kevin Stephens, wedi huno’n ddiweddar oherwydd Covid 19.  Bydd llawer o Aelodau wedi adnabod Kevin yn bersonol, ag yntau wedi bod yn aelod uchel ei barch o'r tîm gwasanaethau democrataidd. Yn wir, byddai wedi bod yma yn cynorthwyo yn y cyfarfod hwn heddiw, yn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.  Bu Kevin yn aelod ymroddedig a gweithgar o CBSP am fwy na 25 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw daeth yn ffrind gydol oes i nifer ar draws yr awdurdod, rydym yn estyn cydymdeimlad a chefnogaeth y Cyngor i'r staff hynny sy'n ceisio dygymod â cholled ffrind a chydweithiwr.  Roedd Kevin hefyd yn agos iawn i’w deulu, ac mae’r Aelodau'n anfon eu cydymdeimlad at ei wraig Annie, ei feibion James a Luke, a'i fam Elsie yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dywedodd y Maer wrth yr aelodau ei fod ef a'i Gonsort wedi cwrdd â'r teulu y tu allan i'r eglwys cyn i'r gwasanaeth angladd gael ei gynnal.  Fel arwydd o barch ac i gofio Kevin, cafwyd munud o dawelwch gan bawb a oedd yn bresennol.

 

Cyhoeddodd y Maer iddo gael braint yr wythnos ddiwethaf o ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y gwasanaethau cymdeithasol a wnaeth apêl Siôn Corn yn bosibl eleni.  Bu’n dipyn o her i bawb drefnu'r casgliad wrth gydymffurfio â'r rheoliadau pandemig, yn enwedig gan fod nifer y teuluoedd mewn angen a enwebwyd wedi cynyddu i dros 300 o blant a phobl ifanc. Dywedodd fod llwyddiant arbennig yr apêl yn glod i bartneriaid y Cyngor, Eglwys Tabernacl Brackla, Tesco Pen-y-bont ar Ogwr, ysbyty Hafod y Wennol a disgyblion blwyddyn 9 Ysgol Brynteg, am eu bod wedi cyrraedd cynifer o blant a phobl ifanc ag sydd mewn angen.

 

Dirprwy Arweinydd

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd fanylion trefniadau ailgylchu a chasglu gwastraff y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i’r Cyngor, a chyhoeddodd newid pwysig iawn y gallai’r Aelodau helpu i wella ymwybyddiaeth pobl ohono.  Gofynnir i aelwydydd lle mae rhywun yn dangos symptomau coronafeirws wneud yn si?r bod unrhyw wastraff meinwe, fel papur toiled/cegin, neu glytiau gwlyb, yn cael eu bagio ddwywaith a'i gosod i’r neilltu am 72 awr.  Ar ôl hyn, gellir gosod y bag y tu allan ym mag sbwriel y cartref.  Er mwyn helpu i gadw casglwyr yn ddiogel, ni ddylid cynnwys gwastraff o'r fath gyda’r papur i’w ailgylchu ar unrhyw gyfrif.

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd y bydd y casgliadau eleni yn cael eu cynnal fel arfer ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, ond nid ar Ddydd Nadolig, G?yl San Steffan na Dydd Calan.  Bydd gwastraff sydd i fod i gael ei gasglu ar Ddydd Nadolig yn cael ei gasglu ddydd Sul 27 Rhagfyr. Bydd casgliadau Dydd Calan yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 2 Ionawr.  Gan fod g?yl banc G?yl San Steffan wedi’i symud i ddydd Llun 28 Rhagfyr, bydd y casgliadau'n cael eu cynnal fel arfer ar y diwrnod hwn.  Bydd preswylwyr hefyd yn gallu cynnwys un bag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 482.

483.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd yn falch o hysbysu'r Aelodau bod y Cynghorydd John Spanswick wedi'i ryddhau o Ysbyty Tywysoges Cymru a'i fod adref bellach yn gwella.  Yn dilyn prawf cadarnhaol am coronafeirws, bu’r Cynghorydd Spanswick yn wael iawn, a chafodd ei dderbyn i uned ofal dwys ar ôl datblygu niwmonia.  Darllenodd yr Arweinydd ddatganiad yr oedd y Cynghorydd Spanswick wedi'i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.   

 

"Ychydig dros bythefnos yn ôl, profais yn bositif am Covid, ac am yr wythnos ganlynol bues i’n swatio a chysgu.  Wythnos yn ddiweddarach, a minnau’n methu anadlu'n iawn, cefais fy nanfon i Ysbyty Tywysoges Cymru, gan adael i staff anhygoel y GIG gymryd yr awenau a rhoi'r driniaeth orau a fynnwn erioed.

 

Wedi sawl moment frawychus, a minnau’n meddwl efallai na fyddwn yn dychwelyd adref, yr wyf wedi bod yn un o'r rhai lwcus iawn.  Diben y neges hon yw rhoi sylw haeddiannol i'r holl staff sy'n gweithio yn yr ysbyty, sy'n dod i’r gwaith bob dydd i frwydro’r firws ofnadwy hwn, ac i'r holl gleifion sydd angen eu cymorth yn ddybryd.  Mae'r rhan fwyaf o'r staff wedi cael Covid eu hunain, ond maen nhw’n parhau i ddod i’r gwaith, a hynny er mwyn gwneud gwahaniaeth mewn amgylchiadau sydd bellach yn anodd iawn.  Ni fyddaf byth yn gallu diolch digon i holl staff y GIG am y gofal a'r driniaeth y maent wedi'u rhoi imi, ond hwy yw gwir arwyr ein gwlad.  Nawr, mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan i helpu i atal Covid rhag lledaenu’n gyflymach."

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelodau ymuno ag ef i ddymuno'n dda i'r Cynghorydd Spanswick wrth iddo barhau i wella gartref.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod y sefyllfa'n mynd yn enbyd yn gyflym. Ychydig oriau'n ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Cymru'n symud i lefel rhybudd pedwar, ac y bydd cyfres o newidiadau cenedlaethol newydd yn cael eu gweithredu.  Bydd yr holl fanwerthwyr nad ydynt yn hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau lle ceir cyswllt agos a phob canolfan hamdden a ffitrwydd, yn cau ar Noswyl Nadolig, a bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm ar Ddydd Nadolig.  Ar 28 Rhagfyr, bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu cartrefi, a bydd cyfyngiadau aros gartref, llety gwyliau, a theithio hefyd yn dod i rym.

 

Dywedodd wrth y Cyngor y bydd £340m ar gael i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau yn y Flwyddyn Newydd, ac addawyd cymorth pellach i fusnesau y mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio arnynt.  Mae rhai gwasanaethau pwysig gan y cyngor bellach mewn perygl oherwydd bod achosion lleol o coronafeirws yn parhau i godi.  Mewn llai na phythefnos, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi symud o fod yn un o'r awdurdodau lleol sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru i fod y drydedd ardal uchaf ar gyfer achosion cadarnhaol o Covid-19.

 

Ar hyn o bryd mae Cyfarwyddiaethau wrthi'n nodi gwasanaethau sy'n gwbl hanfodol ar gyfer atal bygythiadau, naill ai ar sail niwed difrifol i les pobl, neu ar sail difrod difrifol i'r amgylchedd.  Diffiniadau o argyfwng  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 483.

484.

Cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a’r Rhaglen Cyflwyniadau i'r Cyngor pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr gyflwyniad i'r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a dywedodd wrth yr Aelodau y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gydag Arweinwyr Grwpiau ar raglen o gyflwyniadau yn y dyfodol gan bartneriaid y Cyngor yn 2021, i gynnwys partneriaid fel Awen a Halo o bosibl.  Cyflwynwyd aelodau'r Cyngor i'r Athro Marcus Longley, Cadeirydd, Paul Mears, Prif Weithredwr, ac Alan Lawrie, Prif Swyddog Gweithredu, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

 

Mynegodd Cadeirydd Cwm Taf ei ddiolch i'r Cyngor am ei waith mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd yn ystod y pandemig.  Rhoddodd wybod i'r Cyngor am benawdau allweddol y 12 mis diwethaf, gan gynnwys cyhoeddi'r Cydadolygiad ar Lywodraethu Ansawdd; yr ymateb i Ymyrraeth wedi'i Thargedu (Ansawdd a Llywodraethu) a’r Mesurau Arbennig (Gwasanaethau Mamolaeth); y defnydd o fodel gweithredu newydd; yr ymateb i Covid-19; penodi Prif Weithredwr newydd; lansio gwerthoedd ac ymddygiadau CTM a ffocws ar ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Hysbysodd Prif Weithredwr Cwm Taf y Cyngor o'r penawdau allweddol dros y 12 mis nesaf, sef Strategaeth Iechyd a Gofal Integredig hirdymor glir ar gyfer y sefydliad; dysgu o'r model gweithredu newydd; parhau i reoli pandemig Covid-19; adfer llawdriniaeth ddewisol; ffocws ar iechyd y boblogaeth; gweithio i archwilio cyfleoedd pellach ar gyfer integreiddio a gweithio mewn partneriaeth ac i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd o'r agenda digidol.  Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr union gyfraddau heintio ar hyn o bryd, a dywedodd wrth y Cyngor fod y prosiect Profi Olrhain Diogelu yn enghraifft o weithio partneriaeth ar ei orau.  Mae profion poblogaeth gyfan ar y gweill ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf, a'r rhaglen frechu ar gychwyn, ac wedi dechrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd fod y System Iechyd a Gofal dan straen sylweddol, gyda mwy o gleifion COVID-19 mewn ysbytai nag erioed o'r blaen, a bod Ysbyty'r Seren ar agor a 53 o welyau'n cael eu defnyddio.  Mae’r rheolaeth o oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael ei wneud yn rhagweithiol mewn cydweithrediad â'r Cyngor. 

 

Amlinellodd Prif Weithredwr Cwm Taf eu huchelgais ynghyd â'u cenhadaeth, eu gweledigaeth, a'u hamcanion strategol. Soniodd am y broses ar gyfer integreiddio ardal Pen-y-bont ar Ogwr i Gwm Taf, ac mai egwyddor sylfaenol wrth newid y ffiniau yw’r cyfle i fanteisio i'r eithaf ar synergeddau ar draws y Bwrdd Iechyd sydd newydd ei ehangu yn hytrach na newid yn y gwasanaethau a ddarperir i gleifion,.  Cafwyd cyfle i ddysgu o astudio enghraifft flaenllaw o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae model gweithredu newydd wedi creu Ardal Integredig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n hwyluso cydweithio agos â chydweithwyr yn y Cyngor a'r sector gwirfoddol.  Amlinellodd enghreifftiau o gydweithio a chynlluniau integredig y gaeaf, y datblygiadau ym maes gofal sylfaenol, a'r gwelliannau a oedd wedi digwydd i Ysbyty Maesteg.  Rhoddodd wybod i'r Cyngor am y cynnydd sylweddol a wnaed yn y gwasanaethau mamolaeth.  Wrth symud ymlaen, hysbysodd y Prif Weithredwr gynlluniau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer parhau i reoli pandemig COVID-19; cwblhad y gwaith rhagorol sy'n gysylltiedig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 484.

485.

Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol - Newidiadau i Aelodaeth Pwyllgorau pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Monitro ar ganlyniad adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod o ganlyniad i newidiadau o fewn aelodaeth grwpiau gwleidyddol; ceisiodd gymeradwyaeth i'r cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig; gofynnodd am enwebiad gan Gr?p y Gynghrair Annibynnol i eistedd ar Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned, i Gr?p Plaid Cymru i ildio sedd ar y Fforwm, ac i'r Cyngor nodi na fydd y Cynghorydd T Thomas yn eistedd ar y Pwyllgor Penodiadau mwyach gan iddo ymgymryd â rôl fel Arweinydd Gr?p Plaid Cymru, a bydd y sedd yn awr yn cael ei chymryd gan y Cynghorydd RM James, Arweinydd Gr?p Plaid Cymru.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ei bod ynofynnol i'r Cyngor, drwy ddeddfwriaeth a darpariaethau Rhan 4 o Reolau Gweithdrefn (Rheolau Gweithdrefn y Cyngor) y Cyfansoddiad, i ymgymryd â threfniadau a fydd yn parhau i hwyluso a chyflawni prosesau gwneud penderfyniadau'r Awdurdod.  Yn ei Gyfarfod Blynyddol ar 30 Medi 2020, cymeradwyodd y Cyngor y cydbwysedd gwleidyddol a gwnaeth benodiadau i Bwyllgorau a fyddai’n adlewyrchu ffurf wleidyddol yr Awdurdod. 

 

Amlinellodd y Swyddog Monitro y newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau gwleidyddol, mewn perthynas ag aelodaeth Gr?p Plaid Cymru a Gr?p y Gynghrair Annibynnol.  Mae'r Cynghorydd T Thomas wedi gadael Gr?p Plaid Cymru ac wedi ymuno â Gr?p y Gynghrair Annibynnol. Mae'r Cynghorydd R Stirman wedi gadael Gr?p Plaid Cymru a bydd yn eistedd fel aelod Annibynnol.  Y Cynghorydd RM James bellach yw Arweinydd Gr?p Plaid Cymru.  Ni fydd y Cynghorydd J Williams bellach yn aelod Annibynnol annibynnol, gan ei fod wedi ymuno â Gr?p y Gynghrair Annibynnol.  Mae'r Cynghorydd S Aspey wedi gadael y Gr?p Cynghrair Annibynnol a bydd yn aelod Annibynnol annibynnol.  

 

PENDERFYNIAD:             Fod y Cyngor wedi:

 

(1)       nodi'r newid i gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor;

 

(2)        cymeradwyo’r dyraniad o seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â'r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y'u nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a chymeradwyo'r newidiadau i aelodaeth Pwyllgorau fel yr amlinellir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

 

(3) penodi'r Cynghorydd AJ Williams o Gr?p y Gynghrair Annibynnol i eistedd ar Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned.

 

(4)        nodi na fydd y Cynghorydd T Thomas yn eistedd ar y Pwyllgor Penodiadau mwyach gan fod hon yn rôl a gyflawnwyd yn ei rôl fel Arweinydd Gr?p Plaid Cymru ac y bydd bellach yn cael ei chyflawni gan y Cynghorydd RM James, Arweinydd Gr?p Plaid Cymru.

486.

Nodi Adroddiad Gwybodaeth pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol a'r Swyddog Monitro ar yr Adroddiad Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

PENDERFYNIAD:           Fod y cyngor yn cydnabod cyhoeddiad y ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

487.

Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd T Giffard

Rhybudd o Gynnig

1. Cred y Cyngor hwn fod:

1.1. Coetiroedd a mannau gwyrdd agored yn chwarae rhan hanfodol yn ein lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, yn ogystal â bod yn rhan annatod o fioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr.  

1.2. Pandemig Covid-19, a natur cyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol, wedi cynyddu’r angen am fannau hamdden awyr agored a hygyrch, a bod y rhain yn hanfodol ar gyfer adeiladau cymunedau cydlynol ac iach sy’n sicrhau lles cenedlaethau’r dyfodol.  

1.3. Gan lywodraeth leol ddyletswydd a chyfrifoldeb moesol i gyfyngu ar ddifrod ecolegol ac effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth leol.  

1.4. Unrhyw golli mannau gwyrdd neu goetiroedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn destun gofid mawr, a bydd yn cael effaith negyddol ar ecoleg a bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol ei thrigolion.  

1.5. Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu arwain Cymru a’r Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth, hyrwyddo effeithiau cadarnhaol mannau gwyrdd agored, a sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cael ei gyflawni mewn ffordd sy’n gwella, yn hytrach na thynnu oddi wrth hygyrchedd a bioamrywiaeth mannau agored gwyrdd a choetiroedd.  

2. Cydnabu’r Cyngor hwn fod:

2.1. Adolygiad yn cael ei gynnal o’r Archwiliad o Fannau Chwarae Plant a Chwaraeon Awyr Agored fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd sy’n dod i’r amlwg, gan sicrhau teipoleg categoreiddio mannau agored a amlinellir yn Nodyn Cyngor Technegol 16 Llywodraeth Cymru: Dilynir Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored, gan roi sylw arbennig i wahanu mannau gwyrdd awyr agored/naturiol a mannau gwyrdd amwynder.  

2.2. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i:  

2.2.1."gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol" Pen-y-bont ar Ogwr

2.2.2.cyfrannu at greu "cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau sy'n gweithio'n iach ac sy'n cefnogi gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r gallu i addasu i newid"

2.2.3.cyfrannu at greu "cymdeithas lle y deellir lles corfforol a meddyliol pobl i'r eithaf a lle y deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol"  

2.3. Mae Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr, y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod sylweddol ohono, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor:  

2.3.1.sicrhau bod "cymunedau'n rhoi mwy o werth ar eu hamgylchedd a bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn materion lleol ac yn cydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd mewn lles ac fel ffactor atal"

2.3.2.hyrwyddo "pobl iach egnïol mewn cymunedau gwydn, gwirfoddoli, cadw pobl ifanc yn yr ardal leol, lleihau teithio i'r gwaith, mwy o ddefnydd ac ymwybyddiaeth o fannau gwyrdd"

2.3.3."cydweithio i sicrhau'r budd mwyaf posibl o asedau diwylliannol, adeiledig a naturiol"

2.3.4."sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gwybod am fanteision meddyliol a chorfforol treulio amser yn yr awyr agored"

2.3.5."gwarchod ac amddiffyn cynefinoedd, hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar fannau gwyrdd, atal colli asedau. Lliniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth a pherygl llifogydd"

2.3.6."darparu asedau diwylliannol a gwyrdd diogel a hygyrch  ...  view the full Agenda text for item 487.

Cofnodion:

1. Mae'r Cyngor hwn yn credu:

1.1. Fod coetiroedd a mannau gwyrdd agored yn chwarae rhan hanfodol yn ein lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, yn ogystal â bod yn rhan annatod o fioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr

 

1.2. Bod pandemig Covid-19, a natur y cyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol, wedi cynyddu'r angen am fannau hamdden awyr agored a hygyrch, a bod y rhain yn hanfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cydlynol ac iach sy'n sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol

 

1.3. Bod gan lywodraeth leol ddyletswydd a chyfrifoldeb moesol i gyfyngu ar ddifrod ecolegol ac effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth leol

 

1.4. Bod unrhyw golled o fannau gwyrdd agored neu goetir ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn destun gofid mawr, a bydd yn cael effaith negyddol ar ecoleg a bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar les corfforol, meddyliol ac emosiynol ei thrigolion

 

1.5. Gallai Cyngor Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod ar flaen y gad yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig wrth fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, wrth hyrwyddo effeithiau cadarnhaol mannau agored gwyrdd, ac wrth sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cael ei gyflawni mewn ffordd sy'n gwella, yn hytrach na niweidio, hygyrchedd a bioamrywiaeth mannau gwyrdd agored a choetiroedd Pen-y-bont ar Ogwr

 

2. Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod:

 

2.1. Fod adolygiad yn cael ei gynnal o'r Archwiliad o Fannau Chwarae Chwaraeon Awyr Agored a Phlant fel rhan o'r CDLl newydd sy'n dod i'r amlwg, gan sicrhau fod teipoleg categoreiddio mannau agored a amlinellir yn Nodyn Cyngor Technegol 16 Llywodraeth Cymru: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored yn cael eu dilyn, gan roi sylw arbennig i wahanu mannau gwyrdd awyr agored/naturiol a mannau gwyrdd amwynder.

 

2.2. Bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i:

 

2.2.1. "gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol" Pen-y-bont ar Ogwr

 

2.2.2. Cyfrannu at greu "cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach sy'n cefnogi gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r gallu i addasu i newid"

 

2.2.3. Cyfrannu at greu "cymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol pobl cystal ag y gallai fod, a lle y deallir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol"

 

2.3. Mae Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr, bwrdd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod sylweddol ohono, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor:

 

2.3.1. Sicrhau bod cymunedau'n rhoi mwy o werth ar eu hamgylchedd a bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn materion lleol ac yn cydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd mewn lles ac fel ffactor atal"

 

2.3.2. Hyrwyddo "pobl iach egnïol mewn cymunedau gwydn, gwirfoddoli, cadw pobl ifanc yn yr ardal leol, lleihau teithio i'r gwaith, mwy o ddefnydd ac ymwybyddiaeth o fannau gwyrdd"

 

2.3.3."cydweithio i sicrhau'r budd mwyaf posibl o asedau diwylliannol, adeiledig a naturiol"

 

2.3.4."sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gwybod am fanteision meddyliol a chorfforol treulio amser yn yr awyr agored"

 

2.3.5."diogelu a gwarchod cynefinoedd, hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar fannau gwyrdd, atal colli asedau. Lliniaru  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 487.

488.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

489.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr adroddiad sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os bydd y Cyngor, ar ôl cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:           O dan adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad At Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem ganlynol o fusnes gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o ran 4 ac/neu baragraff 21 o ran 5 o Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u heithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad, yn yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eitem, yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth.

490.

Moderneiddio Ysgolion - Rhaglen Gyfalaf Band B - Costau Tir