Agenda a Chofnodion

Cyngor
Dydd Mercher, 20fed Ionawr, 2021 15:00

Lleoliad: o bell trwy Timau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

491.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd PJ White fuddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 gan fod aelod o'r teulu yn cael cymorth gan y cynllun.  Tynnodd y Cynghorydd White yn ôl o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem hon.  Datganodd y Cynghorydd White fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda – Penodi i'r Pwyllgor Safonau gan ei fod yn gydweithiwr ac yn aelod o Gyngor Tref Maesteg. 

 

Datganodd y Cynghorydd P Davies fuddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 gan fod aelod o'r teulu yn cael cymorth gan y cynllun.  Tynnodd y Cynghorydd Davies yn ôl o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem hon.  Datganodd y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda – Penodi i'r Pwyllgor Safonau gan ei fod yn gydweithiwr ac yn aelod o Gyngor Tref Maesteg. 

 

Datganodd y Cynghorydd DBF White fuddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 gan fod aelod o'r teulu yn cael cymorth gan y cynllun.  Tynnodd y Cynghorydd White yn ôl o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Datganodd y Cynghorydd RM James fuddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 gan fod aelod o'r teulu yn cael cymorth gan y cynllun.  Tynnodd y Cynghorydd James yn ôl o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Datganodd y Cynghorydd T Thomas fuddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 gan fod aelod o'r teulu yn cael cymorth gan y cynllun.  Tynnodd y Cynghorydd Thomas yn ôl o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Datganodd y Cynghorydd JC Spanswick fuddiant rhagfarnus yn eitem 7 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 gan fod aelod o'r teulu yn derbyn cymorth gan y cynllun.  Tynnodd y Cynghorydd Spanswick yn ôl o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Datganodd y Cynghorydd R Collins fuddiant personol yn eitem 8 ar yr agenda – Penodi i'r Pwyllgor Safonau gan ei fod yn gydweithiwr ac yn aelod o Gyngor Tref Maesteg.   

492.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 119 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y Cyngor 16/12/20

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 18 Tachwedd 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.    

493.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i)            Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii)           Aelodau’r Cabinet

(iii)          Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

Dywedodd y Maer wrth yr Aelodau nad oedd ganddo unrhyw gyhoeddiadau i'w gwneud gan na fu unrhyw ddigwyddiadau maerol oherwydd y cyfyngiadau symud presennol, ond roedd yn gobeithio bod pawb yn cadw'n ddiogel ac yn iach ac wedi cael Nadolig a Blwyddyn Newydd dda.

 

Dirprwy Arweinydd

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod ystod eang o gymorth ariannol grant wedi'i ddarparu i helpu busnesau lleol ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth y llynedd.  Hyd yma, mae 4,931 o geisiadau am grant wedi'u cymeradwyo, gyda mwy na £37 miliwn wedi'i ddyfarnu mewn cymorth ariannol.  Yn ogystal â grantiau i gwmnïau, mae £1.8 miliwn wedi'i ddarparu'n uniongyrchol i breswylwyr o dan gynllun Taliadau'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.  Darparwyd £73,500 i breswylwyr sy’n hunanynysu nad ydynt wedi gallu gweithio, a mwy na £27,550 wedi'i gyflenwi gan ddefnyddio'r cynllun statudol i wella tâl salwch ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.  Llongyfarchodd staff sy'n parhau i weithio'n galed i asesu ceisiadau cyn gynted â phosibl, ac i atgoffa busnesau a thrigolion hefyd o bwysigrwydd darparu manylion llawn a gwneud cais i'r gronfa gywir wrth geisio cymorth ariannol.  Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar wefan y cyngor.

 

Yr Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau

Dywedodd yr Aelod Cabinet wrth yr Aelodau fod y Cyngor wedi wynebu problem yn ddiweddar lle penderfynodd 7,000 o oleuadau stryd droi eu hunain ymlaen ac i ffwrdd dro ar ôl tro.  Digwyddodd y mater hwn ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol, yn fwyaf nodedig efallai yn ardaloedd ystadau mawr fel Bragle, ond nid oedd yn effeithio ar bob un o'r 20,000 o oleuadau stryd yn y fwrdeistref sirol.  Daeth y Tîm Goleuadau Stryd i’r casgliad yn gyflym mai glitch meddalwedd oedd y broblem, ac mai dim ond goleuadau sy’n dibynnu ar dechnoleg lleoli byd-eang i gyfrifo pa amser y mae'r haul yn codi ac yn machlud, yr effeithiwyd arnynt.  Roedd gweithgynhyrchwyr y goleuadau stryd yn gallu eu hailosod yn gyflym, ac maent wedi rhoi sicrwydd bod hon yn broblem untro na ddylai ddigwydd eto.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ymddiheuriad ar gofnod i'r Maer am sylw a wnaeth yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor.  Dywedodd wrth yr Aelodau fod ganddo barch mawr tuag at swydd y Maer a'r Maer presennol a gofynnodd am i'w ymddiheuriad gael ei dderbyn.  Derbyniodd y Maer yr ymddiheuriad ac mae bellach yn ystyried bod y mater wedi cau.  

 

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod wedi cynghori aelodau o'r blaen fod gofal cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu heriau mawr, ac fel y rhagwelwyd, mae wedi profi'n wir.  Mae pryderon gwirioneddol ynghylch a allai'r Cyngor barhau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol, ond roedd yn falch o gadarnhau ei fod wedi gallu gwneud hynny.

 

Fodd bynnag, mae cartrefi gofal lleol a staff gofal cymdeithasol yn dal i wynebu pwysau eithafol wrth ddelio â Covid-19, ac mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 493.

494.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod gwybodaeth newydd wedi dod i law gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch cyflwyno'r rhaglen brechu coronafeirws.  Ar 17 Ionawr, roedd 21,857 o bobl wedi cael eu brechu ar draws rhanbarth Cwm Taf.  Ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae hyn yn 3,693 o bobl, gyda 1,461 o frechiadau'n cael eu gweinyddu drwy feddygfeydd meddygon teulu, 1,715 drwy ganolfannau brechu, a 517 drwy gartrefi gofal lleol.  Er nad yw wedi'i gynnwys yn ffigurau ardal yr awdurdod lleol, mae canolfannau brechu ysbytai ar draws y rhanbarth wedi cyfrif am 11,377 o bobl eraill.  Mae'r cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd, ac mae'n cefnogi cyflwyno'r brechlyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu rhagor o wybodaeth sy'n nodi eu bod yn bwriadu brechu 22,834 o drigolion eraill ledled y rhanbarth yr wythnos hon, gyda 6,913 ohonynt yn drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Bydd hyn yn cynnwys 593 o frechiadau mewn cyfanswm o saith cartref gofal, gyda 3,980 dos yn cael eu darparu gan bractisau meddygon teulu a 2,340 yn cael eu darparu mewn canolfan frechu.  Mae brechiadau'n targedu'r aelodau mwyaf bregus ac agored i niwed o'r gymuned mewn cyfres o grwpiau blaenoriaeth sydd wedi'u pennu ledled y DU gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio.  Fel blaenoriaeth ar unwaith, mae'r cyflwyno cychwynnol wedi'i gyfyngu i staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, a phobl mewn cymunedau lleol sydd dros 80 oed. 

 

Mae pob meddygfa leol wedi cofrestru i gymryd rhan yn y rhaglen frechu, ac mae pobl yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol pan mai eu tro hwy yw cael y brechiad.  Gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelodau egluro hyn i breswylwyr, a'u hannog i beidio â chlymu adnoddau drwy holi amdano mewn fferyllfeydd a meddygfeydd meddygon teulu.  Mae'r system wedi'i chynllunio i atal 'neidio ciw', felly ni ddylai neb geisio mynd i ganolfan frechu heb gael apwyntiad i wneud hynny. Pan ddaw ein tro, byddwn yn cael ein cysylltu gyda manylion am ble a phryd i fynd.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod angen i breswylwyr hefyd fod yn effro i sgamwyr sydd wedi bod yn manteisio ar y sefyllfa i geisio twyllo pobl, yn enwedig yr henoed, i drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol, neu hyd yn oed i dalu am frechiad ffug.  Mae'r troseddwyr hyn yn curo ar ddrysau ac yn anfon negeseuon testun ac e-byst sy'n edrych yn broffesiynol, a gofynnodd i'r Aelodau atgoffa etholwyr na fydd y GIG byth yn gofyn am daliad gan fod y brechlyn yn rhad ac am ddim i'w dderbyn.  Ni fyddant ychwaith yn cyrraedd eich cartref yn ddirybudd, ac ni fyddant yn gofyn am eich manylion banc nac i chi brofi pwy ydych chi drwy anfon copïau o ddogfennau personol, megis pasbort.

 

Gan ei bod yn bosibl na fydd effeithiau'r brechlyn yn cael eu gweld yn genedlaethol am fisoedd lawer, mae'r cyngor ar gadw Cymru'n ddiogel yn aros yr un fath, i gadw pellter o ddau fetr oddi wrth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 494.

495.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 3 2020-21 pdf eicon PDF 625 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid i gydymffurfio â gofyniad Cod Darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol 2017; rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2020; ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 i 2029-30 ac i'r Cyngor nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2020-21.

 

Nododd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer cyllid cyfalaf a rheolaethau cyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a'r hyn sydd i'w drin fel gwariant cyfalaf.  Yn ogystal, mae'r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli'r Trysorlys a Chyfalaf yn unol â'r canllawiau cysylltiedig.  Mae'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol sefydlu Strategaeth Gyfalaf sy'n dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd yn briodol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor ar 26 Chwefror 2020 wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, ac fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Hydref 2020.  Dywedodd fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 yn dod i gyfanswm o £33.888m, y mae £17.960m ohono'n cael ei dalu o adnoddau'r Cyngor, gyda'r £15.928m sy'n weddill yn cael ei dalu o adnoddau allanol.  Crynhodd y sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth a'r tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020-21.  Rhoddodd fanylion y gwariant rhagamcanol ar gynlluniau unigol o fewn y rhaglen o'i gymharu â'r gyllideb sydd ar gael.  Nodwyd bod angen llithriant ar nifer o gynlluniau i'r blynyddoedd i ddod, sy'n dangos lefelau digynsail o lithriant o ganlyniad i bandemig Covid-19.  Yn chwarter 3, cyfanswm y llithriant y gofynnwyd amdano yw £14.536m mewn perthynas â:

 

·         Canolfan Llety Preswyl i Blant (£1.564 miliwn)

·         Gwelliannau Diogelwch ar y Ffyrdd Cyffordd Heol Mostyn (£0.540 miliwn)

·         Grant Ysgogi Economaidd (£0.887 miliwn)

·         Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol – Porthcawl (£0.750 miliwn)

·         Canolfan Ddiwylliannol Neuadd y Dref Maesteg (£3.050 miliwn)

·         Rhwydwaith Gwres Caerau (£1.939 miliwn)

 

Nododd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod nifer o gynlluniau newydd a ariennir yn allanol a chynlluniau a ariennir yn fewnol wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf:

 

·         Trem y Môr (£0.435 miliwn)

·         Canolfan Berwyn a Golchfeydd Cwm Ogwr (£0.186 million)

·         Adfer Covid ar gyfer canol trefi (£0.360 miliwn)

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cyngor am fân ychwanegiadau i'r rhaglen fel a ganlyn:

 

·         Ffocws Buddsoddi Cyrchfan Gwyliau Porthcawl - £0.074 miliwn grant ERDF

·         Cyllid cyfalaf ICF - £0.035 miliwn ar gyfer prynu dau gerbyd ar gyfer

Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Gwaith Anghenion Cymhleth a Meddygol mewn Ysgolion - cyfraniad refeniw o £0.025 miliwn ar gyfer darparu ADY yn Ysgol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 495.

496.

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid, a'i ddiben oedd rhoi gwybodaeth i'r Cyngor am weithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 a nodi'r gofyniad i Gynghorau fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2021-22 (CTR) erbyn 31 Ionawr 2021, ynghyd â'r goblygiadau ariannu.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod CTR yn rhoi cymorth i'r rhai ar incwm isel sydd ag atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu un cynllun a ddiffiniwyd yn genedlaethol a nodir mewn rheoliadau ar gyfer darparu cymorth gyda'r Dreth Gyngor yng Nghymru.  Mabwysiadodd y Cyngor y CTR ar gyfer 2020-21 yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021.  Ar hyn o bryd roedd 13,216 o aelwydydd yn derbyn CTR, roedd 8,454 o'r rhain o oedran gweithio ac roedd 4,762 o oedran pensiwn.  O'r 13,216 o aelwydydd a oedd yn derbyn CTR, roedd gan 10,212 hawl i ostyngiad CTR llawn. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod y cynllun CTR yng Nghymru yn cael ei bennu gan reoliadau a wnaed o dan Atodlen 1B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012).  Roedd Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 bellach wedi'u gosod ac wedi gwneud diwygiadau i:

 

·          gwneud darpariaeth bod taliadau iawndal a wneir o dan y Cynllun Iawndal Windrush yn cael eu diystyru o gyfalaf wrth benderfynu a yw ceisydd yn gymwys i gael gostyngiad, a swm y gostyngiad hwnnw.

·          darparu sut y mae taliadau credyd cynhwysol i hawlwyr sydd wedi cyrraedd oedran cymhwyso credyd pensiwn y wladwriaeth yn cael eu hystyried wrth benderfynu a ydynt yn gymwys i gael gostyngiad a swm y gostyngiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd y rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o safbwynt yr hawlwyr i'r cynllun presennol, ac roedd uchafswm y cymorth y gallai hawlwyr cymwys ei gael yn parhau i fod yn 100%.  Esboniodd y disgresiwn cyfyngedig a roddwyd i'r Cyngor, i gymhwyso elfennau dewisol a oedd yn fwy hael na'r cynllun cenedlaethol fel a ganlyn:-

 

·         Y gallu i gynyddu'r cyfnod lleihau estynedig safonol o 4 wythnos a roddir i bersonau ar ôl iddynt ddychwelyd i'r gwaith (lle maent wedi bod yn derbyn CTR o'r blaen sydd i ddod i ben o ganlyniad i ddychwelyd i'r gwaith);

·         Disgresiwn i gynyddu swm Pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo incwm yr hawlydd; ac

·         Y gallu i ôl-wneud y defnydd o CTR mewn perthynas â hawliadau hwyr cyn y cyfnod safonol newydd o dri mis cyn yr hawliad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun CTR pa un a yw'n cymhwyso unrhyw un o'r elfennau dewisol ai dim.  Os bydd y Cyngor yn methu â gwneud cynllun, yna bydd cynllun diofyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 496.

497.

Penodi i'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Monitro fod swydd wag wedi codi ar y Pwyllgor Safonau ar gyfer Aelod o'r Cyngor Tref a Chymuned oherwydd ymddiswyddiad y Cynghorydd Tref a Chymuned Graham Walter ac yn unol â'r awdurdod dirprwyedig blaenorol i'r Swyddog Monitro roedd wedi goruchwylio proses recriwtio ac i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor ar unrhyw benodiad llwyddiannus.  Yn dilyn cyfweliadau ffurfiol mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Safonau ar 21 Rhagfyr 2020, cymeradwyodd y Pwyllgor benodiad y Cynghorydd Gavin Thomas fel cynrychiolydd Cynghorydd Tref a Chymuned y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor wedi nodi penodiad y Cynghorydd Gavin Thomas fel cynrychiolydd Cynghorydd Tref a Chymuned ar unwaith.

498.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Weithredwr ar y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a Chynllun Gweithredu i sicrhau bod y Cyngor yn barod ar gyfer gwahanol elfennau'r Bil a ddaw i rym maes o law.

 

Dywedodd fod y Senedd wedi pasio'r Bil ar 18 Tachwedd 2020, a chafwyd Cydsyniad Brenhinol heddiw.  Hysbysodd y Cyngor ei fod yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â diwygio etholiadol, cyfranogiad y cyhoedd, llywodraethu a pherfformiad a gweithio rhanbarthol. Roedd hefyd yn nodi dull newydd i lywodraeth leol fod yn fwy syml, hyblyg sy'n cael ei harwain gan y sector o ran perfformiad, llywodraethu da a gwella. Roedd hefyd yn bwriadu i gynghorau fod yn rhagweithiol wrth ystyried sut y dylai prosesau a gweithdrefnau mewnol newid er mwyn galluogi cynllunio, cyflawni a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol er mwyn sbarduno gwell canlyniadau.

 

Adroddodd fod cynllun gweithredu wedi'i baratoi i sicrhau bod y Cyngor hwn yn barod ar gyfer cyflwyno'r Bil.  Caiff y Cynllun Gweithredu ei ddiweddaru yn unol â hynny wrth i amrywiol ddarpariaethau'r Bil ddod i rym. 

 

Dywedodd aelod o'r Cyngor y bu aros hir am y Bil, ond mae angen ei ariannu'n llawn gan y byddai'n dod â phwysau cyllidebol.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor y bydd canllawiau yn cyd-fynd â'r Bil a bod angen i'r Bil gael ei ariannu'n llawn. 

 

Holodd aelod o'r Cyngor a fyddai cyfle i graffu ar effeithiolrwydd ymgyrchoedd dros ymestyn y fasnachfraint bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor a hefyd i benderfynu ar y System y Cyntaf i’r Felin neu'r systemau pleidleisio 'pleidlais sengl drosglwyddadwy'.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor fod cynllun manwl ar gyfer etholiadau a bydd gwaith yn digwydd gydag ysgolion a cholegau.  Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor y byddai penderfynu ar system bleidleisio yn destun adroddiad i'r Cyngor. 

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a ellid defnyddio'r p?er cymhwysedd cyffredinol i fabwysiadu ffyrdd heb eu mabwysiadu ac i glirio tir lle nad oedd ei berchnogaeth yn hysbys.  Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor y bydd swyddogion yn archwilio'r rheoliadau a'r canllawiau pan gânt eu cyhoeddi ac yn edrych ar gyfraith achosion yn Lloegr i sefydlu ble y gellir defnyddio'r pwerau hynny. 

 

Roedd aelod o'r Cyngor yn falch o weld cyflwyno cynllun deisebau a phwyllgor.  Dywedodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod cynllun deisebau wrthi'n cael ei lunio ac eglurodd na fyddai'n bwyllgor deisebau.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor wedi:

 

1.            Nodi’r adroddiad a'r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm yn Atodiad 1;

Nodi y bydd adroddiadau pellach ar elfennau unigol o'r Bil yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor maes o law.              

499.

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd M Voisey i’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

A ydych yn ymwybodol mai dim ond 2 allan o 10 camera cyflymder a golau coch sy'n gweithio yn y fwrdeistref sirol, a sut y gellir caniatáu a goddef y lefel hon o ddiffygion, a beth rydych yn mynd i'w wneud yn ei gylch?

 

Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel ar ffyrdd a phriffyrdd y Fwrdeistref Sirol yn erbyn y bygythiad deuol o gyflyrau'r gaeaf a llai o adnoddau o Covid-19?

 

Cynghorydd A Hussain i’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Yng Nghymru, mae 60% o'r boblogaeth oedolion ac 1 o bob 8 plentyn 4-5 oed dros bwysau neu'n ordew, ac mae'r ffigur hwn yn cynyddu bob blwyddyn.  Ceir tystiolaeth gyson bod gordewdra (pwysau gormodol) yn gysylltiedig â risg uwch o COVID-19 yn ogystal â'r risg o glefydau fel diabetes math 2, clefyd y galon, canser a chlefydau anadlol sydd eu hunain yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau mewn rhywun sy'n contractio COVID-19.  Gan wybod mai pwysau gormodol yw un o'r ychydig ffactorau risg y gellir eu hatal ar gyfer COVID-19, a allai'r Arweinydd roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i helpu'r trigolion hynny sy'n byw gyda gormod o bwysau neu ordewdra i golli pwysau mewn modd cynaliadwy, ynghyd ag ymyriadau i atal cynnydd mewn pwysau a lleihau'r risg o COVID-19 yn ein Bwrdeistref?

 

Cofnodion:

Roedd y Maer wedi cydsynio i dderbyn cwestiwn brys yn unol â Rheol 4 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor gan ei fod o'r farn, oherwydd amgylchiadau arbennig, y dylid ei drawsweithredu yn y cyfarfod fel mater o frys.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Alex Williams i'r Arweinydd

 

Ar ôl sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ddydd Llun ynghylch oedi posibl wrth gyflwyno’r rhaglen frechu, mynegwyd pryderon sylweddol gan drigolion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y rheng flaen ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

O gofio y bydd cyflwyno'r rhaglen frechu yn gyflym yn cael effaith uniongyrchol ar ddarparu gwasanaethau craidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a wnaiff yr Arweinydd roi manylion am sut y mae'r awdurdod lleol wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol; sefydliadau addysgol a rhanddeiliaid eraill ar y ffordd barhaus o ymdrin â’r pandemig Covid-19 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a sut y mae'n cael effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau'r Cyngor Bwrdeistref Sirol?

 

Ymateb yr Arweinydd 

 

Dywedodd yr Arweinydd yr ymwelwyd â 17 o gartrefi gofal ar 17 Ionawr ac erbyn diwedd mis Ionawr bydd brechlyn wedi’i ddarparu i bob preswylydd cartref gofal yn y fwrdeistref sirol.  O 24 a 25 Ionawr, bydd dwy ganolfan frechu gymunedol yn weithredol rhwng 9am a 5pm saith diwrnod yr wythnos.  Dywedodd y bydd gan bob meddyg teulu gyflenwadau o frechlynnau Oxford Astra Zeneca a Pfizer erbyn diwedd yr wythnos hon.  Roedd mil o wirfoddolwyr wedi cael eu prosesu gan y bwrdd iechyd.  Mae preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal, staff rheng flaen, preswylwyr dros 70 oed a phobl sy'n agored i niwed yn cael y brechlyn Pfizer, tra bod preswylwyr dros 80 oed yn derbyn brechlyn Rhydychen.  Dywedodd yr Arweinydd mai'r risg bresennol yw cyflwyno’r brechlyn, a dywedodd fod mwy o gyflenwad o’r Pfizer.  Dywedodd wrth y Cyngor ei fod ef, ynghyd ag Arweinwyr a Phrif Weithredwyr y Cynghorau sy'n ffurfio Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yn cyfarfod yn wythnosol â'r Bwrdd Iechyd ac wedi ei gwneud yn glir y bydd y Cyngor yn rhoi cymorth iddynt ac esboniwyd i'r Bwrdd Iechyd pa mor bwysig yw hi i breswylwyr dderbyn cymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch pryd y byddant yn cael y brechlyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd A Williams at bractis meddyg teulu sy'n derbyn traean o'r brechlynnau a oedd yn ddyledus sydd wedi arwain at gyflwyno'r brechlyn yn arafach a chynnydd yn nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal, a gofynnodd pa bwysau sy'n cael ei roi ar y bwrdd iechyd i osgoi marwolaethau o ganlyniad i oedi wrth gyflwyno'r brechlyn.  Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor ei fod wedi'i gwneud yn glir i'r bwrdd iechyd bod yn rhaid brechu preswylwyr cartrefi gofal oherwydd eu breuder a'r risg iddynt o beidio â chael eu brechu a bod hyn hefyd wedi'i wneud yn glir i'r Gweinidog Iechyd.  Gofynnwyd am eglurhad er mwyn lleihau achosion mewn cartrefi gofal ac roedd hyn yn cael ei fonitro gan yr Aelod Cabinet a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 499.

500.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Roedd y Maer wedi cydsynio i dderbyn cwestiwn brys yn unol â Rheol 4 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor gan ei fod o'r farn, oherwydd amgylchiadau arbennig, y dylid ei drawsweithredu yn y cyfarfod fel mater o frys.

501.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           O dan adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad At Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem ganlynol o fusnes gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o ran 4 ac/neu baragraff 21 o ran 5 o Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

Yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u heithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyriwyd bod budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad, yn yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eitem, yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth.

502.

Cadarnhau Cofnodion Eithriedig

dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y Cyngor 16/12/20

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod Cofnodion Eithriedig cyfarfod y Cyngor ar 16 Rhagfyr 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.