Lleoliad: Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau Diddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion PDF 140 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/01/2021
Cofnodion: CYTUNWYD: Fod Cofnodion cyfarfod y Cyngor 20 Ionawr 2021, i’w derbyn fel cofnod cywir. |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer. (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu) (ii) Aelodau’r Cabinet (iii) Prif Weithredwr Cofnodion: Dechreuodd y Maer ei gyhoeddiadau drwy ddatgan ei fod yn gobeithio bod yr holl Aelodau a’r Swyddogion yn cadw’n ddiogel ac yn iach.
Eglurodd er iddo fod yn ymbellhau’n gymdeithasol yn sgil y pandemig cyfredol ac felly heb allu mynychu unrhyw ddigwyddiadau, cafodd yr anrhydedd o recordio neges a chynnau cannwyll er cof fel rhan o ddiwrnod cofio’r holocost blynyddol Cyngor Pen-y-bont a gynhaliwyd yn rhithiol eleni. Fel yr oedd y rhai oedd yn bresennol yn ymwybodol, digwydd Diwrnod Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn, dyddiad sy’n dwyn i gof y diwrnod yn 1945 pan oresgynnodd lluoedd y cynghreiriaid Auschwitz-Birkenau gan ryddhau’r carcharorion.
Roedd yn ddiwrnod i goffáu’r miliynau o bobl a laddwyd yn ystod yr Holocost, dan Erledigaeth y Natsïaid a’r hil-laddiad a ddigwyddodd wedyn yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur gan ein hatgoffa i fod yn fythol effro rhag erledigaeth a gwahaniaethiad o bob math. |
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyhoeddodd yr Arweinydd y gallai fod gan yr Aelodau ddiddordeb i wybod fod dros 126,300 o frechiadau bellach wedi eu rhoi ar hyd a lled rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
O safbwynt Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, mae dros 37,300 o bobl wedi derbyn o leiaf un dogn o’r brechiad.
Dyma newyddion ardderchog, ac yn dra gwahanol i’n sefyllfa flaenorol, a ninnau’n un o’r ardaloedd a effeithiwyd waethaf drwy Gymru gyfan.
Er gwaetha’r ffaith fod y sefyllfa wedi gwella, mae’n bwysig cofio fod 38 o bobl yn gwella o Covid-19 ar hyn o bryd yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer Cwm Taf yn cadarnhau fod 16 o’n trigolion yn dal i frwydro yn erbyn y salwch yno, tri ohonynt yn derbyn gofal dwys, felly mae’n bwysig ein bod yn dal yn effro i beryglon y salwch.
Mae Aelodau’n ymwybodol o’r ffaith fod blaenoriaethu grwpiau ar gyfer y rhaglen frechu yn digwydd dan arweiniad y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio ar hyd a lled y DU.
Dylai unrhyw un sydd o fewn y pedwar gr?p cyntaf sy’n pryderu am nad ydynt wedi derbyn apwyntiad ar gyfer eu dogn gyntaf ffonio 01443 562 264 neu lenwi ffurflen ar-lein ar wefan Cwm Taf.
Ar y llaw arall, gan fod brechiadau ar gyfer y bobl yn y pedwar gr?p blaenoriaeth cyntaf wedi eu cwblhau, mae’r ffocws bellach ar yr 120,000 o bobl sy’n perthyn i grwpiau blaenoriaeth pump i naw.
Cred cydweithwyr yng Nghwm Taf eu bod yn debygol o gwblhau’r ffes newydd a rhoi o leiaf un dogn o’r brechiad i bawb erbyn diwedd mis Ebrill.
Mae’r Cyngor yn parhau i gydweithio’n agos â’r bwrdd iechyd, ac yn cefnogi dosbarthu’r brechiad yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont.
Rydym yn arwain ar fenter brofi llif ochrol, a adnabyddir hefyd fel profi cymunedol, o fewn nifer o’n wardiau lleol.
Menter bedair wythnos gan Lywodraeth Cymru yw hon lle mae tîm profi’n targedu cymunedau gwahanol, gan brofi trigolion 11 oed a throsodd nad ydynt yn arddangos unrhyw symptomau Covid-19.
Yr amcan yw adnabod unigolion asymptomatig efallai nad ydynt yn ymwybodol eu bod wedi eu heintio.
Mae’n ymwneud â sefydlu canolfannau y gall pobl eu mynychu a chynnal prawf arnynt eu hunain, sydd wedyn yn cael ei brosesu ar y safle.
Bydd y rhai sy’n gwneud y prawf yn derbyn canlyniad ar ffurf neges destun neu e-bost o fewn 30 munud o’i gwblhau.
Os yw’n gadarnhaol, gwneir trefniadau i’r unigolyn dderbyn ail brawf i gadarnhau ei statws.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont, bydd y profi llif ochrol yn canolbwyntio ar ardaloedd Caerau, Nantyffyllon, Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cornelly, Cefn Cribwr, Sarn, Abercynffig, Ynysawdre, Bryncethin, Bryncoch, Pencoed, Hendre, Felindre a Phenprysg.
Er bod yr ardaloedd yma wedi eu dewis yn bennaf ar sail data iechyd cyhoeddus, mae’r rhaglen brofi wedi’i chynllunio i allu ymateb petai digwydd i leoliad problemus arall ddod i’r amlwg.
Mae paratoadau helaeth ar waith ar hyn o bryd er mwyn trefnu a hybu’r profi llif ochrol, ac mae’r Arweinydd yn gobeithio y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 506. |
|
Cynllun Corfforaethol 2018-2023 Adolygwyd ar gyfer 2021-22 PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cyngor i Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2018-2023 a adolygwyd ar gyfer 2021-22 (atodir yn Atodiad A yr adroddiad).
Eglurodd fod y Cynllun Corfforaethol 2018-2023, yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, ein 3 nod lles a’r gwerthoedd sefydliadol sy’n Sylfaen i’r modd yr ydym yn gweithio ac yn cyflawni ein blaenoriaethau. Mae hefyd yn cynrychioli’r cyfraniad i gyflawni’r 7 nod lles cenedlaethol.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cynllun Corfforaethol wedi’i adfywio ar gyfer 2021-22. Digwyddodd hyn yn sgil proses gynllunio’r Cynllun Corfforaethol gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol / Penaethiaid Gwasanaethau drwy dîm rheoli adrannol pob Cyfarwyddiaeth. Cynhaliwyd y broses rhwng mis Hydref 2020 a mis Rhagfyr 2020 er mwyn adolygu gwelliant a chreu cynllun symlach.
Fel rhan o’r gwaith a ymgymerwyd i ddatblygu agwedd y Cyngor at gynllunio adferiad yn sgil Covid-19, defnyddiwyd argymhelliad y Panel Adferiad amlbleidiol a sefydlwyd gyda’r bwriad o lunio, hysbysu a chynghori’r Cabinet ar waith cynllunio adferiad y Cyngor er budd yr adolygiad o’r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22.
Hefyd, fel rhan o’r adolygiad blynyddol, awgrymwyd y dylid ymestyn oes y Cynllun Corfforaethol cyfredol o flwyddyn tan 2023. Eglurwyd y syniadaeth y tu ôl i hyn ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y targedau a osodwyd wedi mynd yn angof yn sgil Covid-19, oherwydd nad oedd y dangosyddion perfformiad a’r data a gasglwyd yn nodweddiadol o berfformiad blwyddyn gyffredin.
Cyfeiriodd at y ffaith fod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu wedi ystyried y cynllun diweddaraf ar 14 Ionawr 2021 gan wneud nifer o sylwadau adeiladol, a ychwanegwyd at y cynllun diweddaraf os yn ddichonadwy. Byddai’r Pwyllgor yn parhau i fonitro’r cynnydd yn unol â’r cynllun, ychwanegodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid Perfformiad a Newid.
O dderbyn cefnogaeth y Cyngor, byddai’r Cynllun diwygiedig yn cael ei ddefnyddio yn lle’r Cynllun Corfforaethol cyfredol. Byddai’n cael ei weinyddu gyda chefnogaeth y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a chyfarwyddiaeth cynlluniau busnes. Byddai’n cael ei fonitro’n chwarterol drwy gyfrwng y broses Asesu Perfformiad Corfforaethol, cyfarfodydd rheoli’r tîm cyfarwyddo a ddwywaith y flwyddyn gan y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu.
Teimlai’r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywiad fod y targedau a’r dangosyddion perfformiad a osodwyd y llynedd yn ystod cyfnod Covid bellach bron yn amherthnasol, o ystyried na fyddai modd i’r gwaith a gyflawnwyd gan yr Awdurdod yn ystod y fath gyfnod digynsail lawn adlewyrchu’r heriau a wynebwyd gan staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont a’r gwaith a gyflawnwyd ganddynt ar ran y Cyngor bron o ddiwrnod cyntaf y cyfnod clo.
Cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd y Cynllun Corfforaethol yn llawn adlewyrchu rhai o’r newidiadau dramatig a phellgyrhaeddol a oedd wedi effeithio ar gymdeithas yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd yr Awdurdod wedi llwyddo i gyflawni llawer mewn cyfnod byr, yn cynnwys cefnogi’r digartref drwy ddarparu llety dros dro. Roedd gwaith gyda’r trydydd sector yn parhau er mwyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 507. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 tan 2024-25 PDF 241 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 i 2024-25, a gynhwysir yn Atodiad 3, gan gynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-25, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2021-22 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020-21 tan 2030-31.
Eglurodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS), wedi’i llywio’n sylweddol gan brif flaenoriaethau penodol. Er bod newidiadau blynyddol Cyllid Allanol Cyfansymiol (AEF) wedi gorfodi lleihad sylweddol yn y gyllideb ar draws meysydd gwasanaeth gwahanol, mae’r Cyngor yn dal i chwarae rôl amlwg yn economi leol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ac yn gyfrifol am grynswth gwariant blynyddol o gwmpas £435 miliwn a dyma’r cyflogwr mwyaf o fewn y fwrdeistref sirol.
Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor hefyd wedi’i gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-25, ac mae’r ddwy ddogfen yn ymochrol, ac felly’n galluogi’r darllenydd i wneud cysylltiadau penodol rhwng amcanion lles y Cyngor a’r adnoddau sydd wedi eu clustnodi i’w cefnogi.
Aeth y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid ymlaen i sôn fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor, er mwyn cyflwyno manylion yngly?n â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod pedair blynedd 2020-21 tan 2023-24. Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn gyflenwol i Gynllun Corfforaethol y Cyngor, ac yn edrych i ddarparu adnoddau a fyddai’n galluogi’r Cyngor i gyflawni ei amcanion lles.
Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn canolbwyntio ar y modd yr oedd y Cyngor yn bwriadu ymateb i’r toriadau yn y cyllid ar gyfer y sector gyhoeddus o ganlyniad i’r cyfnod parhaus o lymder a’r pwysau cynyddol ar wasanaethau’r sector cyhoeddus, a waethygodd yn ystod y pandemig Covid-19.
Roedd adroddiadau chwarterol i’r Cabinet yn ystod y flwyddyn ariannol yn ymwneud â rhagolygon y sefyllfa gyllid ar gyfer 2020-21, wedi amlinellu’n o fanwl effaith costau ychwanegol a cholli incwm a wynebwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn sgil y pandemig Covid-19 ar y gyllideb. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dod i’r adwy o safbwynt lleihau cyfradd helaeth o’r colledion yma drwy gyfrwng nifer o ffynonellau ariannu, yn benodol Cronfa Caledu Cofid-19. Er nad oedd rhai o’r heriau ychwanegol yma’n gylchol, roedd nifer yn gofyn am ariannu tymor hir wrth i ffyrdd newydd o weithio gael eu hymgorffori yng ngweithrediad arferol y Cyngor, fel yr adlewyrchwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Argymhellodd y Prif Swyddog Interim - Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd disgwyl cyhoeddi’r setliad terfynol oddi wrth Lywodraeth Cymru tan 2 Mawrth 2021. O ganlyniad, argymhellwyd y gyllideb ar sail y setliad dros dro a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2020.
Aeth yr adroddiad ymlaen i amlinellu’r heriau ariannol y gofynnwyd i’r Cyngor eu hystyried fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig MTFS 2021-22 tan 2024-25. Mae angen i Swyddog Adran 151 y Cyngor adrodd yn flynyddol ar lefelau’r arian wrth gefn. Eglurodd fod lefelau arian wrth gefn y Cyngor, yn ddigonol i ddiogelu’r Cyngor yn wyneb gofynion annisgwyl neu argyfyngau ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 508. |
|
Treth y Cyngor 2021-22 PDF 719 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid, gyda’r diben o roi manylion i’r Cyngor yngly?n â gofynion treth y cyngor o safbwynt y Cyngor Bwrdeistref Sirol, ynghyd â gofynion Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer De Cymru a Chynghorau Cymunedol/Tref, ac i geisio cefnogaeth y Cyngor i dreth cyngor Band D ar gyfer Cyngor Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ac ardaloedd y gymuned yn ystod 2021-22.
Agorodd yr adroddiad drwy gyflwyno ychydig wybodaeth gefndirol , cyn symud ymlaen i baragraff 4.1, oedd yn amlinellu’r Gyllideb Cyllid Net ar gyfer 2021-22, y cytunwyd arni eisoes yng nghyfarfod heddiw.
£298,956,245 yw gofyniad cyllideb net Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar gyfer 2021-22, a’r swm i’w ariannu gan Dreth y Cyngor yw £86,764,691 fel y gwelir yn Nhabl 2 o fewn yr adroddiad. Mae hyn yn cyfateb i Dreth Cyngor o £1,597.01 yn achos eiddo Band D, sy’n gynnydd o 3.9%. Mae’r argymhelliad o gynnydd o 3.9% yn cyfateb i 77c yr wythnos yn achos person sy’n byw mewn eiddo Band A a £1.15 yr wythnos yn achos rhywun sy’n byw mewn eiddo Band D (mae 62% o’r eiddo ym Mhen-y-bont yn is na Band D).
Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi hysbysu’r Cyngor fod eu setliad ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dirwyn i ben ar 31 March 2022 yn cynyddu i £15,631,672, sy’n cyfateb i dreth cyngor o £287.72 ar eiddo Band D, sy’n gynnydd o 5.5%. Cytunwyd ar setliad 2021-22 gan Banel Heddlu a Throsedd De Cymru ar 3 Chwefror 2021.
O safbwynt blwyddyn ariannol 2021-22, nododd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru fod y symiau i’w trethi gan y Cyngor yng nghyswllt gwasanaethau’r heddlu, yn unol ag adran 40 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1992, i’w gweld ar gyfer bob categori eiddo yn Nhabl 3 yr adroddiad.
Mae Tabl 4, yn adlewyrchu’r cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021-22, yn cynnwys cyfartaledd eiddo Band D.
Manylu ar y cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont y mae paragraff 4.6 yr adroddiad (gan gynnwys bob un o’r cyrff setliad).
Yn hynny o beth, mae cynnwys gofynion Cyfanswm Cyfartalog Treth Cyngor Band D, 2021-22 y mae Tablau 6 a 7, o safbwynt holl ardaloedd Cymunedol/Trefol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont.
Holodd Aelod yngly?n â’r cynnydd, gan ychwanegu fod cynnydd o 3.9% yn anffodus. Seiliodd hyn ar y ffaith fod Covid wedi bod yn gyfnod digynsail a bod llawer o drigolion ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol wedi colli eu swyddi, gan arwain at drafferthion o safbwynt talu eu morgais, a rhai hyd yn oed yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd i ddal deupen llinyn ynghyd. Am y rhesymau hynny, credai na ddylai’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021-22 fod yn fwy na chyfradd chwyddiant.
Holodd hefyd os allai’r nifer o eiddo o fewn bob Bant Treth y Cyngor gael eu nodi ar gyfer bob ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 509. |
|
Rheolaeth y Trysorlys a Strategaethau Cyfalaf o 2021-22 Ymlaen PDF 601 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid, gyda’r nod o gyflwyno Strategaeth Reolaeth y Trysorlys 2021-22 (Atodiad A yr adroddiad), sy’n cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys, a’r Strategaeth Gyfalaf 2021-22 tan 2030-31 (Atodiad B), oedd yn cynnwys y Dangosyddion Ariannol a Datganiad Isafswm y Ddarpariaeth Refeniw 2021-22 (Atodlen A Atodiad B), i’r Cyngor ei gymeradwyo.
Eglurodd fod Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021-22 yn cadarnhau cydymffurfiaeth y Cyngor gyda Chod y CIPFA, sy’n gofyn i amcanion, polisïau ac arferion cynhwysfawr yn eu lle ar gyfer rheolaeth effeithiol o weithgareddau rheoli’r trysorlys, a bod rheoli risg yn un o brif amcanion y gweithgareddau yma. Roedd hefyd yn cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer cyfnod treigl o dair blynedd.
Diweddarwyd Strategaeth Rheoli’r Trysorlys i adlewyrchu’r cyd-destun economaidd cyfredol, yn cynnwys y ffaith fod Banc Lloegr yn cadw’r cyfraddau llog ar raddfa o 0.10%, yn ogystal â’r sialensiau cysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith y pandemig Covid-19, a oedd yn parhau o hyd ac felly’n dal i achosi risg sylweddol.
Ychwanegodd y Prif Swyddog Interim - Cyllid, Perfformiad a Newid fod terfynau buddsoddi gwrth bartïon (Tabl 6 o’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys atodedig) wedi eu symleiddio a’u haddasu i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Ymgynghorwyr Trysorlys y Cyngor, Arlingclose. Cafwyd newid i derfynau’r Gronfa Farchnad Arian, a oedd wedi cynyddu yn y gorffennol i £30 miliwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2020. Diddymwyd y terfyn yma bellach gan olygu nad oes terfyn buddsoddiad o safbwynt y Gronfa Farchnad Arian. Serch hynny, ni chaiff mwy na £6 miliwn ei fuddsoddi mewn unrhyw Gronfa unigol, er mwyn lleihau’r risg diffyg i’r Cyngor.
Eglurodd yr adroddiad y gall y Cyngor gynnig benthyciadau i drydydd parti ar gyfer gwariant cyfalaf. Cynyddwyd y terfyn arfaethedig ar gyfer y fath fenthyciadau o £1 filiwn i £2 filiwn. Gwnaed hyn i gefnogi’r buddsoddiad posibl mewn Cerbyd Diben Arbennig i gefnogi cyflwyno’r Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont arfaethedig.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Strategaeth Gyllid, Atodiad B, yn cynnig trosolwg sylweddol o’r modd y mae gwariant cyfalafol a gweithgaredd rheolaeth y trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, yn ogystal ag yn rhoi trosolwg o’r modd y caiff y risg sy’n gysylltiedig â hynny ei rheoli a’r oblygiadau o safbwynt cynaliadwyedd i’r dyfodol. Drwy wneud hynny, cynhwyswyd Dangosyddion Ariannol ar gyfer cynfod treiglo o dair blynedd.
Mae’r Strategaeth Gyfalaf hefyd yn cynnig fframwaith ar gyfer hunan-reoli cyllid cyfalaf ac yn ystyried y meysydd canlynol:-
• Gwariant cyfalaf a chynlluniau buddsoddi • Dangosyddion Ariannol • Dyled allanol • Rheoli’r Trysorlys.
Adroddir ymhellach hefyd ar gyflawniad, fforddadwyedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyd-destun hir dymor o safbwynt gwariant cyfalaf a phenderfyniadau’n ymwneud â buddsoddiadau, ychwanegodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid.
Er bod cryn dipyn o gynnwys y Strategaeth yn debyg i’r hyn a gafwyd yn y gorffennol, cafwyd nifer o newidiadau yr oedd angen eu tanlinellu. Roedd y rhain yn ymwneud â Chyfrifeg Prydlesi, Benthyciadau ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 510. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |