Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O Bell Trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasannaethau Democrataid 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

525.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2014.

Cofnodion:

Dim

 

526.

Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer, y Cynghorydd Ken Watts

Cofnodion:

Roedd cyhoeddiad y Maer fel a ganlyn:

 

"Mae hon wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg! Mae wedi profi ein penderfyniad a'n hymrwymiad ac mae’n briodol ein bod yn cydnabod gwaith y GIG a staff cartrefi gofal yn benodol.

 

Ond hoffwn ddiolch hefyd i swyddogion a staff CBSP sydd wedi parhau beth bynnag a chadw gwasanaethau i fynd yn ystod yr hyn a fu'n amser unigryw a heriol. Ar ran y Cyngor hwn a phobl Pen-y-bont ar Ogwr, diolch i chi i gyd.

 

Bu’r flwyddyn hefyd yn anodd iawn i rai’n bersonol, ac rydym yn anrhydeddu, yn cofio ac yn galaru'r anwyliaid a gollwyd. Mae hefyd wedi bod yn drychinebus i lawer gyda bywoliaethau wedi'u colli a ffordd o fyw wedi newid, am byth o bosibl. Ac yn awr mae'n ddigon posibl y bydd yn ddadleuol yn gymdeithasol gyda’r tebygolrwydd o Basbortau Covid yn cael eu cyflwyno. Heb os, mae'r ffordd rydym yn byw, gweithio a chwarae wedi newid. Mae'r byd wedi newid.

 

Mae fy mlwyddyn fel Maer, neu a ddylwn ddweud 8 mis, wedi bod ychydig yn wahanol hefyd. Nid wyf wedi eistedd ym Mharlwr y Maer, (ac eithrio llun yr wythnos hon) nac yn Siambr y Cyngor. Cafodd fy seremoni sefydlu, hyd yn oed, ei chynnal gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn yr ardd gefn ac yn y glaw!  Mae pob cyfarfod a swyddogaeth wedi'u cynnal yn rhithwir – profiad ynddo'i hun fel y mae llawer ohonom yn gwybod!

 

Yn amlwg, mae'r ffordd y bydd y Cyngor yn gweithredu yn y dyfodol yn ansicr ar hyn o bryd ond mae gen i bob ffydd y bydd gan aelodau a swyddogion les trigolion Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn bennaf yn eu meddyliau wrth i newidiadau ddigwydd.

 

Dychwelwyd at rywfaint o normalrwydd yr wythnos ddiwethaf a chefais fynd i’r cyfrif gyda’r Cynghorydd Julia Williams a hefyd agoriad Llyfrgell Porthcawl a busnes newydd ym Mharc Busnes Dunraven. Dyma ffracsiwn o'r hyn y byddai Maer yn ei wneud fel arfer mewn blwyddyn brysur.

 

Hoffwn ddiolch i'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd am eu cefnogaeth a'u harweiniad drwy gydol fy nhymor ac, wrth gwrs, ni fyddwn yn anghofio'r effaith y mae marwolaeth Kevin wedi’i chael arnom i gyd.

 

Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i'm Consort, y Cynghorydd Julia Williams, sydd, er gwaethaf y prinder digwyddiadau, wedi fy nghefnogi drwyddi draw mewn cyfnod anodd iddi hi'n bersonol. Rwy'n gwybod eich bod i gyd yn dymuno'n dda iddi.

 

Dymunaf bob llwyddiant i'm holynydd, y Cynghorydd Spanswick a'i Gonsort, Susan, yn eu cyfnod yn y swydd ac rwy'n hyderus y byddant yn gwneud gwaith o'r radd flaenaf wrth i fywyd ddychwelyd i beth bynnag fydd y dyfodol i bob un ohonom.

 

Diolch.”

 

527.

Ethol Maer ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mai 2022 yn unol ag Adran 23(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                     Ethol y Cynghorydd J Spanswick yn Faer am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2022.

 

528.

Cyhoeddi Consort y Maer

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd J Spanswick mai ei gonsort fydd ei wraig, Susan Spanswick.

 

529.

Ethol Dirprwy Faer ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mai 2022 yn unol ag Adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                      Ethol y Cynghorydd M Jones yn Ddirprwy Faer am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2022.

 

530.

Cyhoeddi Consort y Dirprwy Faer

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd M Jones na fyddai ganddo gonsort ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond y byddai'n gwahodd Aelodau, yn eu tro, i fynd gydag ef i ddigwyddiadau ac ymrwymiadau Maerol.

 

531.

Ethol Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                     Bod y Cynghorydd HJ David yn cael ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2022.

 

532.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Roedd adroddiad yr Arweinwyr fel a ganlyn:

 

"Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi am fy ailethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae'n fraint ac yn anrhydedd enfawr, a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'm haelodau.

 

Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi fy sylw llawn a'm ffocws i'r rôl, ac yn gwneud fy ngorau glas i'r bobl yr ydym oll yn eu gwasanaethu.

 

Diolch am eich gwasanaeth, y Cynghorydd Watts. Roeddwn i’n disgwyl i chi wasanaethu'r gymuned gyda rhagoriaeth ac fe wnaethoch hynny. Fe wnaethoch gadeirio cyfarfodydd y cyngor yn fedrus iawn yn rhithwir, yn ddi-os y cyfarfod anoddaf i'w gadeirio. Rydych chi a Julia’n gwneud tîm gwych.

 

Llongyfarchiadau hefyd i'r cynghorwyr Giffard a Hussein am eu llwyddiant wrth ddod yn aelodau rhanbarthol o'r Senedd. Rwy'n si?r y byddant yn hyrwyddo llywodraeth leol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rolau newydd.

 

Hoffwn gofnodi fy mod yn parchu'r cynghorwyr Cheryl Green a Norah Clarke yn ddwfn. Mae'r Cynghorydd Green yn ymddiswyddo fel cadeirydd y Pwyllgor Craffu, a'r Cynghorydd Clarke fel arweinydd yr wrthblaid.

 

Mae'r ddau wedi dal rolau arwain yn ystod eu cyfnod fel cynrychiolwyr etholedig, ac maen nhw bob amser wedi bod yn ddim llai nag adeiladol a pharchus tuag at eu cyd-aelodau wrth ymgymryd â'u dyletswyddau.

 

Maen nhw bob amser wedi rhoi buddiannau trigolion lleol wrth wraidd yr hyn a wnânt, ac rwyf am ddiolch yn gyhoeddus iddynt am eu cyfraniadau a'u gwasanaeth.

 

Fel arfer, byddai hyn yn gyfle i mi siarad am uchafbwyntiau'r cyngor dros y deuddeg mis diwethaf, ac edrych tuag at yr hyn y byddwn yn ceisio'i gyflawni yn y flwyddyn i ddod.

 

Fodd bynnag, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn bopeth heblaw normal. 

 

Mae bellach yn bedwar mis ar ddeg ers i bandemig y coronafeirws gychwyn, a'n gorfodi ni i gyd i osgoi cyswllt a gweithio gartref.

 

O'i gymharu â'r ffordd yr oedd pethau bryd hynny, mae'r rhagolygon bellach yn llawer gwell, gyda chyfraddau heintio'n gostwng, nifer y brechiadau'n cynyddu a’r cyfyngiadau yn dal i leddfu. Serch hynny, nid yw Covid-19 wedi diflannu, a byddai'n beth ffôl ymddwyn fel petai wedi mynd.

 

O'r herwydd, mae’r cyngor gan Lywodraeth Cymru i weithio gartref lle bynnag y bo modd yn dal i fod ar waith, ac mae'n debygol o fod felly am beth amser eto.

Meddyliais am hyn yn ddiweddar wrth ystyried beth i siarad amdano yma heddiw, ac fe'm hatgoffwyd o ddau beth.

 

Y cyntaf yw pa mor heriol y bu’r flwyddyn ddiwethaf, ond sut, pan oedd cymaint yn y fantol, y daeth pobl at ei gilydd a rhoi ymateb unedig.

 

Yn ôl ar ddechrau'r pandemig, ffurfiodd y cyngor gr?p llywio cynllunio a chydgysylltu coronafeirws, cam a oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallem ymateb i'r heriau a ddeuai yn sgil y pandemig yn gyflym ac yn effeithiol.

 

Cyn pen dim, fe rowliodd y diwrnodau gwaith hirion a’r nosweithiau byrion i’w gilydd, a’n profi’n ddifrifol fel unigolion ac fel sefydliad.

 

Fe wnaethom ddyfalbarhau a chwrdd â'r heriau hyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 532.

532a

Yr Arweinydd i benodi Aelodau'r Cabinet

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                          Bod yr Arweinydd wedi penodi’n swyddogol yr Aelodau canlynol i’r Cabinet:

 

                                               Y Cynghorydd HM Williams

                                               Y Cynghorydd D Patel

                                               Y Cynghorydd N Burnett

                                               Y Cynghorydd CE Smith

                                               Y Cynghorydd S Baldwin

 

532b

Caiff yr Arweinydd gyhoeddi Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o blith yr Aelodau hynny a benodwyd i'r Cabinet, a chaiff gyhoeddi penodiad Aelodau'r Cabinet i bortffolios

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                          Cyhoeddodd yr Arweinydd mai'r Cynghorydd HM Williams fydd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Adnoddau ar gyfer 2021/2022.

 

Ychwanegodd mai'r Aelodau Cabinet canlynol fyddai'n gyfrifol am y portffolios isod:-

 

Cynghorydd D Patel – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol

Cynghorydd N Burnett – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd CE Smith – Addysg ac Adfywio

Y Cynghorydd S Baldwin – Cymunedau

 

533.

Rhaglen Arfaethedig o Gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a'i ddiben oedd cynnig rhaglen o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ddinesig Mai 2021 – Ebrill 2022 i'w chymeradwyo, ac i nodi'r rhaglen o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn ddinesig Mai 2022 – Ebrill 2023. 

 

Nodir y rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor ar gyfer Mai 2021 – Ebrill 2022 ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad. Cadarnhaodd y byddai'r Aelodau'n nodi mai dim ond cyfarfodydd pwyllgor rheoleiddio sydd wedi'u trefnu ar gyfer mis Ebrill 2022 yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro, er mwyn cynorthwyo gyda chynllunio yn y dyfodol, fod rhaglen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn Fwrdeistrefol 2022/23 wedi'i hatodi yn Atodiad 2 i'r adroddiad i'w nodi. Gall y rhaglen hon fod yn destun rhai diwygiadau pellach, cyn iddi gael ei chymeradwyo erbyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor y flwyddyn nesaf, yn dilyn Etholiadau'r Fwrdeistref Sirol.

 

Gofynnwyd i'r Cyngor hefyd nodi dyddiadau cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau'r Cabinet, a Chyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo a gynhwyswyd yn Atodiad 1, er mwyn bod yn gyflawn.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i symud ymlaen o'r pandemig ar gyfer cynnal cyfarfodydd Pwyllgor Hybrid, yn ogystal â chyfarfodydd o bell o hyn ymlaen, pan fydd rheoliadau a chanllawiau'n caniatáu wrth i’r pandemig leddfu.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y bydd newidiadau i'r Cyfansoddiad, y mae rhai ohonynt wedi'u cynnwys yn yr eitem nesaf ar yr agenda ac eraill yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, a fydd yn caniatáu nid yn unig weithio o bell ond cyfarfodydd Hybrid hefyd. Cyn bo hir, byddai'r Cyngor yn ystyried darparu offer yn Ystafell y Cyngor, a fydd yn caniatáu i hyn ddigwydd.

 

Roedd disgwyl i waith pellach mewn perthynas â hyn gael ei wneud yn yr haf a gobeithio y byddai cyfarfodydd o'r fath yn cael eu darparu ddiwedd yr haf/dechrau'r hydref. Felly, roedd yn waith sy'n mynd rhagddo.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cyngor wedi:

 

a.         Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2021/22 a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad hwn;

 

b.         Cymeradwyo’r rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd Pwyllgorau'r Cyngor a nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

c.         Nodi’r rhaglen ddrafft dros dro o gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau’r Cyngor ar gyfer 2022/23 a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad;

 

d.         Nodi dyddiadau'r Cabinet, Pwyllgorau'r Cabinet a Chyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo sydd hefyd wedi'u nodi yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad, at ddibenion gwybodaeth.

 

534.

Penodiadau i Bwyllgorau'r Cyngor a Chyrff Eraill y Cyngor a Diwygiadau i'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a'i ddiben oedd:

 

  • ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i benodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli, a chyrff eraill y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor llawn nac yn swyddogaethau gweithredol;
  • cymeradwyo diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. 

 

Dywedodd fod Rhan 3 o Gyfansoddiad y Cyngor, dan deitl Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor, yn nodi holl Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli a chyrff eraill y Cyngor sydd ar waith ar hyn o bryd.  Yn yr adroddiad roedd rhai Pwyllgorau penodol a lywodraethir gan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, o ran eu cyfansoddiad a/neu eu penodiad o Gadeiryddion. Roedd hyn yn cynnwys y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn benodol. Roedd newidiadau a gynigiwyd i'r corff penodol hwn hefyd yn gofyn am ddiweddariadau i Gyfansoddiad y Cyngor, o ganlyniad i ofynion penodol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Pholisi Osgoi Trethi'r Cyngor. 

 

Amlinellodd yr adroddiad ymhellach y broses y dylid ei dilyn mewn perthynas â phenodi Aelodau i Bwyllgorau’r Cyngor, ond yn fwy penodol, i benodi Cadeiryddion a lle y bo'n gymwys, Is-gadeiryddion, yn unol â'r darpariaethau a’r meini prawf gosodedig a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Enghraifft o hyn fyddai penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar ôl y cyfarfod blynyddol. Ni allai'r penodiadau hyn fod yn Aelodau o gr?p gwleidyddol mwyaf y Cyngor, chwaith.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y dylid penodi Cadeiryddion i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor, yn seiliedig ar y fformiwla a ddefnyddir o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

Cynigwyd fod cylch gwaith a swyddogaethau presennol Pwyllgorau a chyrff eraill y Cyngor heb eu newid, fel y nodir yn Rhan 3 o'r Cyfansoddiad – Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Mae cydbwysedd gwleidyddol yn hanfodol er mwyn pennu dyraniad seddi ar Bwyllgorau. Dangoswyd cydbwysedd gwleidyddol presennol Pwyllgorau a chyrff eraill yn Atodiad 2 i'r adroddiad. Roedd hyn hefyd yn cyfrif am Aelod Annibynnol newydd yn cael ei ethol yn ward Nant-y-moel lle bu swydd wag ac i'r Cynghorydd K Watts ymuno â'r gr?p Annibynnol/Alliance, wedi iddo fod yn Aelod Annibynnol o'r blaen.

 

Dangosir strwythur presennol y pwyllgorau yn Atodiad 3 i'r adroddiad, tra bod aelodaeth bresennol pwyllgorau a fydd yn sail i unrhyw newidiadau i aelodaeth y pwyllgorau, yn Atodiad 4.

 

Amlinellodd paragraff 4.12 o'r adroddiad rai newidiadau gofynnol eraill yr oedd angen eu gwneud i'r Cyfansoddiad.Cynigiwyd felly y dylid diwygio'r Cyfansoddiad yn unol â hynny mewn perthynas â Dadleuon a Phleidleisio Bwrdeistref Sirol fel yr amlinellir yn Atodiad 5 i'r adroddiad, drwy newidiadau wedi'u tracio. 

 

 

PENDERFYNWYD:                         Bod y Cyngor wedi:

 

(1)                 Penodi’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau eraill y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn briodol i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor nac yn swyddogaethau gweithredol;

 

(2)                   Pennu maint a chylch gorchwyl y Pwyllgorau hynny fel y nodir yn Atodiad 1 yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 534.

535.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol a Phwyllgorau eraill pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i benodi Aelodau i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru, Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Gr?p Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru fel y nodir yn yr adroddiad yn Atodiad 1, ar gyfer y flwyddyn ddilynol h.y. hyd at fis Mai 2022.

 

Yn dilyn enwebiadau diwrthwynebiad ar gyfer y penodiadau uchod,

 

PENDERFYNWYD:                    (1) Bod y Cynghorydd JP Blundell yn cael ei benodi i Gyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Caerdydd a bod y Cynghorydd Tim Thomas yn cael ei benodi'n Aelod Wrth Gefn.

 

                                         (2) Bod y Cynghorydd RE Young yn cael ei benodi i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru.

 

                                          (3) Bod Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cael ei benodi i Gynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru.

 

536.

Arwisgo Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2021/22

Cofnodion:

Yn sgil cymeradwyaeth y Cyngor i enwebiad y Cynghorydd JC Spanswick fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn 2021/2022, gwahoddwyd y Cynghorydd Spanswick i dderbyn swydd y Maer yn ffurfiol gan y Maer sy’n ymadael. Derbyniodd y Cynghorydd Spanswick swydd y Maer ar lafar, ac adroddodd y llw canlynol :–

 

"Rwyf i, John Charles Spanswick, yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn dwyn gwir deyrngarwch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail."

 

Estynnodd y Cynghorydd KJ Watts ei longyfarchiadau i’r Maer newydd.

537.

Arwisgo Consort y Maer

Cofnodion:

Yn sgil enwebiad Susan Spanswick i fod yn gonsort y Maer ar gyfer y flwyddyn 2020/21, fe’i gwahoddwyd i dderbyn swydd y consort yn ffurfiol gan y Maer sy’n ymadael.

 

Derbyniodd Mrs. Spanswick swydd Consort y Maer ar lafar, fel a ganlyn:-

 

"Mae'n bleser mawr gennyf dderbyn swydd Consort y Maer."

 

Estynnodd y Cynghorydd KJ Watts ei longyfarchiadau i’r Consort newydd.

538.

Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer newydd

Cofnodion:

Rhoddodd y Maer newydd ar gyfer 2021-22, y Cynghorydd Spanswick, y cyhoeddiad canlynol.

 

'Yn gyntaf, Mr. Maer, hoffwn groesawu'r holl Gynghorwyr, gwesteion a theulu a all fod yn bresennol yma gyda ni heddiw, diolch i'r ffyrdd newydd o weithio gyda chyfarfodydd rhithwir.

 

Mae cael fy ethol i swydd Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn 2021 – 2022 yn anrhydedd ac yn rhywbeth yr wyf yn ddiolchgar amdano. Dros y blynyddoedd nid yw wedi bod yn rhywbeth yr oeddwn wir yn disgwyl iddo ddigwydd neu anelu ato, ond mae'n debyg ar ôl dechrau ar fy nhrydedd blwyddyn ar hugain fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol a bron i 30 mlynedd fel Cynghorydd Cymuned, yr oedd yn amser i mi ymgymryd â'r rôl.

 

Serch hynny, ni fyddaf yn ymgymryd â'r rôl hon ar fy mhen fy hun ac rwy’n falch o'ch hysbysu mai fy nghonsort am y flwyddyn fydd fy ngwraig, Susan Spanswick, a fydd, yr wyf yn si?r, yn fy nghadw i mewn golwg ac yn rhoi gwybod i mi os byddaf yn camu allan o linell. Mae Susan wedi fy nghefnogi dros yr holl flynyddoedd gyda fy ngwaith yn y gymuned; tra wyf wedi bod allan yn mynychu cyfarfodydd, ac ati, mae hi wedi bod yn gweithio'n rhan-amser fel gweithiwr Gofal Cartref ac yn bwrw ymlaen â bywyd teuluol gan fagu ein 3 phlentyn ac, yn fwy diweddar, yn helpu gyda'n 4 o wyrion (ac un arall yn fuan ym mis Gorffennaf), ond am flwyddyn yn unig bydd Susan yn camu ymlaen gyda mi i helpu i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gan fynd yn ôl at yr hyn y mae'r anrhydedd hwn yn ei olygu i mi, meddyliais y byddai'n briodol rhoi ychydig o fewnwelediad i chi o ble rwy’n hanu. Ddim yn bell, a dweud y gwir. Cefais fy magu yn Nant-y-moel yn nyffryn hyfryd Ogwr, ac er nad ydw i’n byw yno mwyach, rwy’n dal i fwynhau gyrru i fyny drwy’r cwm tuag at fynydd Bwlch. Wrth dyfu i fyny, efallai na wnes i sylwi ar bobl gyhoeddus a chynghorwyr y dydd, ond dw i’n cofio un yn arbennig o flynyddoedd fy arddegau ar ddiwedd y 1970au, sef y Cynghorydd Muriel Williams o Gyngor Bwrdeistref Ogwr, yn fwy cyfarwydd fel Muw o’r Rhiw gan fod swyddfeydd y Cyngor ar y pryd wedi’u lleoli ar draws yr afon o’r fan lle maen nhw heddiw, ochr yn ochr â chanolfan siopa’r Rhiw. Daeth Muriel yn Faer Cyngor Bwrdeistref Ogwr ac rwy’n hynod falch o fod yn Faer y Fwrdeistref Sirol hon gyda threftadaeth Nant-y-moel.

Yn ystod y 1980au, bûm yn ffodus i fod yn Brentis Gofalwr Tir gyda Chyngor Bwrdeistref Ogwr ym Mharc Griffin ym Mhorthcawl a bu’n rhaid i mi deithio bob dydd o Nant-y-meol ar fy moped 50cc. Doedd hyn ddim yn brofiad gwych ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog. Y blynyddoedd hynny yn yr 1980au cynnar a fagodd ddiddordeb yndda i mewn gwleidyddiaeth a’r gymuned leol, ac mae’r gweddill, fel y maen nhw’n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 538.

539.

Arwisgo Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2021/22

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Maer sy'n ymadael, y Cynghorydd KJ Watts, fod y Cyngor yn gynharach wedi cymeradwyo enwebiad y Cynghorydd M Jones fel Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn 2020-21. Felly gwahoddodd y Cynghorydd Jones i dderbyn y cynnig hwn o swydd.

 

Derbyniodd y Cynghorydd Jones y cynnig i fod yn Ddirprwy Faer yn unol â hynny a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gefnogi'r Maer newydd, y Cynghorydd Spanswick, ynghyd â'i Gonsort, ac i gefnogi dinasyddion y Fwrdeistref Sirol yn y rôl fawreddog hon. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd gwneud hynny, ychwanegodd, fel y bu’r gwaith o gefnogi ei etholwyr yn Ward Betws. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones ymhellach ei fod yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod gyda brwdfrydedd ac uchelgais.

 

540.

Arwisgo Consort y Dirprwy Faer

Cofnodion:

Nid oedd gan y Dirprwy Faer, fel y cyhoeddwyd yn gynharach yn y trafodion, Gonsort ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z