Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 21ain Gorffennaf, 2021 15:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

552.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

553.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 362 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/05/21 and 23/06/21

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                        Bod Cofnodion cyfarfodydd canlynol y Cyngor yn cael eu cymeradwyo fel cofnodion gwir a chywir:-

 

                                             Cyfarfod blynyddol – 19 Mai 2021

                                             Cyfarfod cyffredin – 23 Mehefin 2021

554.

I dderbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae cyfarfod arall o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi'i drefnu ar gyfer 9 Medi am 2.00pm. Cytunwyd ar hyn gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2021. Y rheswm dros ychwanegu'r cyfarfod hwn at y Rhaglen Cyfarfodydd yw i ddarparu ar gyfer busnes a drefnwyd ar y Flaenraglen Waith, sydd angen ei ystyried cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Tachwedd 2021

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor ces y pleser o fod yn bresennol yn seremoni torri tir yr ysgol Gymraeg / cyfleuster gofal plant newydd yn Blackmill.

 

Bues hefyd yn agor siop flodau Joe’s yng Nghefn Cribwr (ac mae’n amlwg fy mod angen rhywfaint o ymarfer wrth dorri'r rhuban, gan iddi gymryd 3 ymgais i’w dorri, dwi'n beio’r siswrn a oedd yn rhy fach).

 

Ar ddydd Sul 27 Mehefin, pleser oedd treulio ychydig oriau yng ngerddi Cefn Cribwr ar eu diwrnod agored blynyddol. Roedd rhai arddangosfeydd syfrdanol i’w gweld a buom yn lwcus gyda’r tywydd hefyd. Digwyddiad gwych ac un na ddylid ei golli, yn enwedig os ydych yn hoffi edrych ar sut y dylai gardd rhywun edrych. Nes ymlaen y diwrnod hwnnw aethom i ymweld â phreswylydd mewn cartref gofal ym Maesteg a oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 101 oed, ac mi wn i’r Dirprwy Faer ymweld â phreswylydd arall yn yr un cartref a oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yr wythnos ganlynol.

 

Ar 28 Mehefin cefais wahoddiad i ymuno â Llysgennad Gwlad Pwyl ar ei ymweliad ag amgueddfa Porthcawl a beddau rhyfel 5 o filwyr Pwylaidd a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd ac a gladdwyd ym Mynwent Porthcawl. Profiad dirdynnol iawn oedd mynd â'r Llysgennad i ddangos ein parch, a gosododd dorch ar bob un o'r beddau. Os nad ydych wedi ymweld ag amgueddfa Porthcawl yna awgrymaf eich bod yn mynd, er ei bod yn edrych yn fach o’r tu allan y mae, fel y Tardis, yn teimlo’n fwy y tu mewn, ac mae yno gasgliadau difyr a gwybodaeth am ein hardal leol.

 

Yr ymweliad diweddaraf i mi ei wneud y mis hwn oedd i Warchodfa Natur Cynffig fel rhan o’u Diwrnod Agored, a gwych oedd gweld sut mae'r ymddiriedolwyr wedi dechrau gwneud y ganolfan ymwelwyr yn fwy cynaliadwy, ac mae ganddynt gynlluniau ar gyfer y dyfodol i ddarparu caffi dan do sydd â golygfa o’r warchodfa. Gwych oedd gweld y rhan bwysig hon o’n Bwrdeistref Sirol mewn dwylo diogel, a chyda dyfodol llewyrchus o’i flaen.

 

Yn olaf, ychydig eiriau am gronfa elusen y Maer. Er nad oes Pwyllgor Elusen y Maer mwyach, mae fy ngwraig a minnau'n bwriadu ceisio casglu cymaint ag y gallwn i Lads & Dads a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Felly ar ddydd Sadwrn 14 Awst bydd fy ngwraig Susan (Y Faeres) yn plymio ar y cyd o uchder o 12,000 troedfedd ym maes awyr Abertawe. Rwyf wedi sefydlu tudalen Go Fund Me lle gellir gwneud rhoddion ac mae hefyd yn bosibl gwneud rhodd ar wefan CBSP drwy fynd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 554.

555.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Mae'r newidiadau diweddaraf i gyfyngiadau’r pandemig wedi'u cadarnhau gan Lywodraeth Cymru a daeth y mwyafrif i rym ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

 

Er y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol ym mhob ardal gyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, bydd lleoliadau addysgol a lletygarwch yn cael eu heithrio.

 

Bydd hyd at chwech o bobl yn gallu cwrdd dan do mewn cartrefi preifat ac mewn llety gwyliau, ac ni fydd terfyn mwyach ar faint sy'n gallu ymgynnull yn yr awyr agored.

 

Erbyn hyn, mae gan safleoedd a digwyddiadau awyr agored fwy o hyblygrwydd o ran cadw pellter corfforol, a bydd modd cynnal digwyddiadau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl os ydynt yn eistedd a 200 o bobl os ydynt yn sefyll.

 

Mae'r cyfyngiad blaenorol sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n mynychu digwyddiadau i eistedd er mwyn bwyta bwyd a diod wedi'i ddiddymu.

 

Mewn newidiadau eraill, gall hyd at 30 o blant o sefydliadau fel y Brownies a'r Sgowtiaid fynychu canolfannau preswyl dros wyliau'r haf, a bydd yn ofynnol i fusnesau rannu gwybodaeth â'u staff am y manylion risg a lliniaru sydd yn eu cynlluniau asesu risg Covid-19 unigol.

 

Nid oes angen i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phobl dan 18 oed hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd rhestr ambr, ond dylid tynnu sylw hefyd at y ffaith mai’r cyngor swyddogol yw osgoi teithio tramor nad yw'n hanfodol ac i gymryd gwyliau yn lleol yr haf hwn.

 

Er bod y newidiadau'n cael eu croesawu, rhaid inni gofio hefyd fod achosion o'r coronafeirws ar gynnydd, yn enwedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn enwedig ymhlith pobl 25 oed ac iau.

 

Mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi rhybuddio bod achosion ysbyty oherwydd achosion o Covid 19 wedi codi eto dros y dyddiau diwethaf. Nid yw'r capasiti wrth gefn a fodolai yn ystod yr ail don yno mwyach. Mae'r GIG bellach yn ceisio cael cymaint o bobl â materion iechyd eraill, achosion sydd wedi cronni trwy’r pandemig, yn ôl i dderbyn triniaeth. Mae angen i ni gymryd rhagofalon o hyd a gweithredu fel un gymuned unedig er mwyn amddiffyn eraill rhag y risg o ddod i gysylltiad â’r feirws.

 

Mae cyfraddau brechu lleol yn parhau'n uchel iawn, gyda bron i 83,000 o drigolion bellach wedi derbyn dau ddos y brechlyn, ond mae'n parhau'n hanfodol bwysig i bawb gyfrannu a gwneud eu rhan i amddiffyn eraill.

 

Yn dibynnu ar sut mae'r sefyllfa'n newid rhwng nawr a’r adeg honno, gallai'r adolygiad pandemig nesaf gan Lywodraeth Cymru ein gweld yn symud o lefel rhybudd un i lefel rhybudd sero.

 

Byddwn yn gwybod mwy am hyn pan gyhoeddir canlyniadau'r adolygiad fis nesaf ac wrth gwrs byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

 

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, mewn llawer o'n cymunedau lleol, fod y mater o gynnal a chadw parhaus ar strydoedd nad yw'r cyngor wedi'u mabwysiadu yn parhau i fod yn destun pryder.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 555.

556.

Adolygiad o Dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22 yn dilyn Effaith Covid-19 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22, fel yr amlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad a chadarnhaodd, fel rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer y Cynllun Corfforaethol wedi'i adnewyddu, y cydnabuwyd bod COVID-19 wedi cael effaith ar gylch cynllunio CBSP, gan ei gwneud yn fwy heriol i osod targedau ar gyfer 2021-22. Cytunodd y Cyngor felly fod angen dull hyblyg o bennu targedau cynlluniau corfforaethol er mwyn sicrhau bod cynllunio busnes yn gadarn ac yn effeithiol.

 

Fel rhan o gynllunio adfer COVID-19 CBSP, cafodd pob cyfarwyddiaeth gyfle i ystyried targedau ar gyfer 2021-22 yn seiliedig ar ddata diwedd blwyddyn sydd wedi'i ddilysu. Ystyriwyd newidiadau arfaethedig i dargedau yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (COSC) ar 5 Gorffennaf 2021 i sicrhau her a thryloywder priodol.

 

Ar 20 Gorffennaf 2021, ystyriodd y Cabinet y newidiadau arfaethedig i dargedau'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22.  Mae Atodiad A i'r adroddiad yn nodi'r newidiadau targed arfaethedig, a chaiff ei gyhoeddi fel atodiad i'r Cynllun Corfforaethol presennol.

 

Fel rhan o adolygiad ehangach o berfformiad a llywodraethu oherwydd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd y Cyngor yn cynnig bod cynllunio corfforaethol yn mabwysiadu'r dull hwn o osod targedau mewn cylchoedd cynllunio yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun corfforaethol cyhoeddedig yn parhau i fod yn gyfredol â’r data diwedd blwyddyn diweddaraf, ac yn osgoi cyhoeddi cynllun corfforaethol heb dargedau oherwydd diffyg data.

 

PENDERFYNIAD:                         (1) Fod y Cyngor yn cymeradwyo targedau diwygiedig y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2022.

 

                                                (2) Fod y Cyngor hefyd yn cymeradwyo’r cynnig i gyflwyno proses hyblyg i adolygu'r broses o bennu targedau gan ystyried data diwedd blwyddyn. Bydd unrhyw dargedau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi fel atodiad i'r Cynllun Corfforaethol wedyn.

557.

Alldro'r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ac Adroddiad Diweddaru Chwarter 1 2021-22 pdf eicon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd:-

 

· cydymffurfio â gofyniad 'Y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (argraffiad 2017)’ y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)

· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr alldro cyfalaf ar gyfer 2020-21 (Atodiad A i'r adroddiad)

· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22 ar 30 Mehefin 2021 (Atodiad B)

· ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 (Atodiad C)

· nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad D)

 

Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21. Roedd y gyllideb wreiddiol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 26 Chwefror 2020 wedi'i diwygio a'i chymeradwyo ymhellach gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn i ymgorffori cyllidebau a gyflwynwyd o 2019-20 ac unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Cyfanswm y rhaglen ddiweddaraf ar gyfer 2020-21, a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, oedd £35.440 miliwn, gyda £12.419 miliwn ohono yn dod o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o fenthyca a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda'r £23.021 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol.

 

Rhoddodd Atodiad A fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2020-21 o'i gymharu â'r gwariant gwirioneddol. Dim ond ym mis Chwefror 2021 y cymeradwywyd y rhaglen ddiwygiedig, felly ychydig o welliannau a wnaed ers hynny ac eithrio'r prif newidiadau a amlinellir ym mharagraff 4.1.2 o'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid mai cyfanswm y gwariant ar 31 Mawrth 2021 oedd £23.461 miliwn a oedd, ar ôl £14.376 miliwn o lithriant i 2021-22 ac £0.842 miliwn o addasiadau i gynlluniau a ariannwyd gan grantiau, wedi arwain at gyfanswm o £0.139 miliwn a fydd yn cael ei ddychwelyd i gyllid y Cyngor.

 

Roedd angen llithriant net o £14.058 miliwn i 2021-22, ar gyfer y prif gynlluniau fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1.4 o'r adroddiad.

 

Rhoddodd adran nesaf yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021-22 ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ac ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. O ran y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22, sef cyfanswm o £87.347 miliwn ar hyn o bryd, y mae £53.067 miliwn ohono'n cael ei dalu o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o fenthyca a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda'r £34.280 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol. Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn dangos y rhaglen gyfalaf ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth o’r safle Cyngor a gymeradwywyd ym mis Mehefin 2021 hyd chwarter 1.

 

Yna, crynhodd Tabl 2 yn yr adroddiad y tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22. Rheolir yr adnoddau cyfalaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 557.

558.

Alldro Rheoli Blynyddol y Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn:-

 

· Cydymffurfio â gofyniad 'Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer' (y Cod) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth i roi adroddiad trosolwg o weithgareddau'r trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol; a

· Adrodd ar Ddangosyddion Rheoli gwirioneddol y Trysorlys ar gyfer 2020-21.

 

Er gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd mai Rheoli Trysorlys yw’r gwaith o reoli llif arian parod, benthyca, a buddsoddiadau'r Cyngor, yn ogystal â'r risgiau cysylltiedig. Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith newid cyfraddau llog ar refeniw. Felly, mae nodi, monitro a rheoli risg ariannol yn llwyddiannus yn rhan ganolog o reolaeth ariannol ddarbodus gan y Cyngor. 

 

Cynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor yw Arlingclose. Mae'r

gwasanaethau a ddarperir i'r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnwys:-

 

·         cyngor ac arweiniad ar bolisïau, strategaethau ac adroddiadau perthnasol

·         cyngor ar benderfyniadau buddsoddi

·         hysbysiad o sgoriau credyd a newidiadau

·         gwybodaeth arall am ansawdd credyd

·         cyngor ar benderfyniadau rheoli dyledion

·         cyngor cyfrifyddu

·         adroddiadau ar berfformiad y trysorlys

·         rhagolygon o gyfraddau llog

·         cyrsiau hyfforddi

 

O ran cyd-destun economaidd (yr adroddiad), cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod dylanwad y pandemig coronafeirws wedi bod yn drwm ar 2020-21, gan arwain at gyfyngiadau symud byd eang yn ystod y flwyddyn. Cafodd hyn effaith andwyol ar gyllid ac ar gyfraddau llog yn enwedig, gan gynnwys cyfraddau llog y Cyngor. Roedd hyn hefyd wedi'i ddwysáu gan yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit.

 

Mae'r awdurdod lleol wedi gweinyddu nifer o Gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys talu dros 2,400 o Grantiau Ardrethi Busnes i fusnesau ac elusennau, gyda gwerth o dros £30 miliwn; dros 1,700 o Grantiau Cyfyngiadau â chyfanswm o ychydig dros £5.4 miliwn; a 4500 o Grantiau Cyfyngiadau i Fusnesau â gwerth o £14.96 miliwn, yn ogystal ag ysgwyddo’r costau o roi cymorth ychwanegol angenrheidiol drwy gydol y pandemig cyn iddynt dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae'n amlwg bod hyn wedi cael effaith ar lif arian y Cyngor yn ystod y flwyddyn, a bu'n rhaid rhoi mesurau ar waith i reoli'r symiau sylweddol o arian sy'n llifo i mewn ac allan o gyfrif banc y Cyngor, gan gynnwys derbyn taliadau cynharach o'r Grant Cynnal Refeniw a thaliadau grant busnes interim gan Lywodraeth Cymru, gwneud blaendaliadau tymor byr nes bod angen cyllid, a chynyddu ein terfynau BACS dyddiol i alluogi prosesu mwy o daliadau yn gyflym.

 

O ran Alldro Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020-21, roedd y Cyngor wedi cydymffurfio â'i ofynion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod 2020-21. Cafodd TMS 2020-21 a'r Adroddiad Hanner Blwyddyn eu hadrodd i’r Cyngor ar 26 Chwefror 2020 a 18 Tachwedd 2020, yn y drefn honno. Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod adroddiadau monitro chwarterol wedi’u cyflwyno i'r Cabinet yn ystod 2020-21 hefyd.

 

Dangoswyd crynodeb o weithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer 2020-21 yn Atodiad A i'r adroddiad. Dangoswyd sefyllfa ddyled a buddsoddi allanol y Cyngor ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 558.

559.

Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth i’r Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig sydd ynghlwm wrth yr adroddiad eglurhaol yn Atodiad 1.

 

Y Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig oedd yn gosod y fframwaith i’r ddarpariaeth Datblygu Aelodau ar gyfer Aelodau Etholedig, o'r cyfnod ymsefydlu a thrwy gydol eu cyfnod yn y swydd.  Roedd y Strategaeth yn dod tua diwedd ei hoes effeithiol, ac wrth baratoi ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2022 a chyfnod sefydlu’r Aelodau newydd yn sgil hynny, cynhaliwyd adolygiad bwrdd gwaith o'r Strategaeth i sicrhau ei bod yn addas i'r diben ac mae wedi'i diweddaru i adlewyrchu nifer o ffactorau sydd wedi newid ers cymeradwyo'r Strategaeth wreiddiol.

 

Rhannwyd y Strategaeth yn 5 cam, fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl yr etholiad mae’r gweithgareddau datblygu aelodau ar gyfer darparu gwybodaeth a datblygu prosesau yn bennaf, a dylent gael eu cynnal yn fewnol neu gan sefydliadau priodol fel CLlLC.  Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd ffocws y ddarpariaeth datblygu aelodau yn symud at ddarpariaeth o bynciau manwl ehangach ar lefel leol, a mwy o bynciau sy'n ymwneud â materion rhanbarthol a chenedlaethol. Ychwanegodd y Swyddog Monitro y byddai cyfleoedd hyfforddi pellach i Aelodau ar gael drwy gydol eu cyfnod yn y swydd er mwyn gwella eu datblygiad, a hynny trwy bynciau awgrymedig a ddeilliodd o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb Datblygu Aelodau ac unrhyw werthusiad o'r Strategaeth a gynhelir.

 

Cynigiwyd y dylid cynnwys mwy o ddefnydd o'r cyfleusterau e-ddysgu yn y rhaglen datblygu aelodau, drwy'r dulliau a awgrymir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

 

PENDERFYNIAD:                             Fod y Cyngor yn cymeradwyo'r Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. 

 

560.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Gr?p y Gynghrair Annibynnol adroddiad ar ran y Swyddog Monitro a Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er mwyn i'r Aelodau dderbyn a nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod Rhwng Mai 2020 a Mai 2021. Amlinellodd yr adroddiad waith y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Eglurodd fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor sefydlu Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Mae'r Mesur yn rhagnodi swyddogaethau'r pwyllgor ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad o leiaf unwaith y flwyddyn i'r Cyngor. Cymeradwyodd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 24 Mehefin 2021.

 

Yna, amlinellodd yr adroddiad wybodaeth am y canlynol:

 

  1. Cyfansoddiad y Pwyllgor uchod o ran ei Aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd;
  2. Dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd yn y flwyddyn ddinesig 2020-21;
  3. Cylch Gorchwyl y Pwyllgorau;
  4. Ei brif weithgareddau ar gyfer y cyfnod uchod, h.y. 2020-21; a
  5. Strwythur presennol Tîm Staffio'r Gwasanaethau Democrataidd

 

PENDERFYNIAD:                             Derbyniodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a nododd yr adroddiad blynyddol.   

 

561.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad er mwyn i'r Aelodau allu derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y cyfnod 2020/21. 

 

Er cefndir, mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor sefydlu Pwyllgor Safonau i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad a gonestrwydd uchel ymhlith Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Mai 2020 a Mai 2021, roedd y Pwyllgor Safonau wedi ystyried yr Adroddiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 29 Mehefin 2021. 

 

Yna, amlinellodd yr adroddiad wybodaeth am y canlynol:

 

a)    Aelodau'r Pwyllgor Safonau, gan gynnwys yn ystod y cyfnod adrodd;

b)    Tymor y Swydd (ar gyfer ei Aelodau Annibynnol a'i Aelodau Bwrdeistref Sirol);

c)    Rôl y Pwyllgor

d)    Cylch Gorchwyl y Pwyllgorau

e)    Dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor a gynhaliwyd yn 2020-21

f)     Mentrau hyfforddi a datblygu

g)    Meysydd gwaith i edrych arnynt wrth symud ymlaen

 

PENDERFYNIAD:                               Derbyniodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau a nododd adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

562.

Amrywiaeth mewn Democratiaeth pdf eicon PDF 367 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i gynghori Aelodau am adroddiad 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a cheisio cymeradwyaeth y Cyngor i fod yn 'Gyngor Amrywiol', a pha gamau gweithredu dilynol y mae angen eu cymryd i sicrhau 'newid sylweddol' yn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. 

 

Eglurodd fod CLlLC wedi ymrwymo i newid amrywiaeth llywodraeth leol yn Etholiadau Lleol 2022, gan y cydnabyddir, er gwaethaf camau ac ymgyrchoedd blaenorol, fod cynnydd wedi bod yn araf a bod diffyg amrywiaeth o hyd mewn Cynghorau. Dangoswyd enghreifftiau o hyn ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad ac ehangwyd arnynt yn y cyfarfod gan y Swyddog Monitro.

 

Cyfeiriwyd at y sylfaen dystiolaeth, y rhwystrau a'r heriau i ddenu cynghorwyr mwy amrywiol yng nghyflwyniad CLlLC i Ymchwiliad Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Phwyllgorau Cymunedau y Senedd i amrywiaeth mewn llywodraeth leol ym mis Medi 2018. Gellir crynhoi'r rhwystrau a'r heriau yn fras fel a ganlyn:

 

• Ymrwymiad amser ac amseroedd cyfarfod

• Diwylliant gwleidyddol a sefydliadol

• Gofal plant a chyfrifoldebau gofalu eraill

• Beirniadaeth gyhoeddus a cham-drin ar-lein

• Taliadau cydnabyddiaeth ac effaith ar gyflogaeth, a

• Diffyg modelau rôl o gefndiroedd amrywiol a chyfnodau mewn swydd

 

          Mae CLlLC wedi ymrwymo i wneud newid sylweddol mewn amrywiaeth llywodraeth leol yn Etholiadau Lleol 2022. Mewn cyfarfod arbennig yn ystod mis Mawrth, cymeradwyodd ei Gyngor yr 'Adroddiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth' (sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1 i'r adroddiad). Roedd yr adroddiad yn benllanw gwaith gan weithgor trawsbleidiol ac yn adeiladu ar gynlluniau gweithredu ac uchelgeisiau cynghorau a phartneriaid. Bydd CLlLC yn datblygu sawl cam gweithredu yn genedlaethol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, gan gynnwys:

 

  • Lansio gwefan "Bod yn Gynghorydd" (sydd eisoes wedi’i lansio);
  • Sylwadau a wnaed i bleidiau gwleidyddol i weithredu ac i wneud cynnydd;
  • Sylwadau i Lywodraeth Cymru a Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ddweud y dylai cynghorwyr fod â hawl i 'grantiau ailsefydlu' pe baent yn colli eu sedd mewn etholiad. 

           Yn ei gyfarfod ac yn ei adroddiad, cydnabu Cyngor CLlLC y gwaith amrywiaeth sydd eisoes ar y gweill yn lleol ond galwodd am gydweithredu uchelgeisiol yn lleol. Drwy ei adroddiad a'r camau gweithredu sy'n deillio ohono, mae'n gofyn i Gynghorau flaenoriaethu gweithredu'n lleol, cynyddu’r nifer sy'n manteisio ar lwfansau aelodau, ac i ddatblygu Datganiadau 'Cyngor Amrywiol' erbyn yr haf. Cytunodd Cyngor CLlLC yn unfrydol y dylai pob cyngor ymrwymo i ddatganiad erbyn mis Gorffennaf 2021 ar ddod yn 'Gynghorau Amrywiol' yn 2022, a hynny er mwyn darparu ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth.

 

Parhaodd y Swyddog Monitro drwy ddweud y bydd gwaith amrywiaeth lleol Cynghorau yn cael ei gefnogi gan ymgyrchoedd cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth, cyhoeddusrwydd a chefnogaeth gan CLlLC a Llywodraeth Cymru. Bydd swyddogion CLlLC yn cyfarfod â Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd i rannu syniadau a dulliau o ddatblygu datganiadau a chynlluniau gweithredu lleol.

 

Fel rhan o'r ymrwymiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi'r agenda Amrywiaeth mewn Democratiaeth, gofynnwyd i bob Aelod gwblhau arolwg amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod mis Mai 2021. Dangoswyd y prif ffigurau o’r canlyniadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 562.

563.

Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol - Newidiadau i Aelodaeth Pwyllgorau pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a'i ddiben, oedd:

 

  • rhoi gwybod i'r Cyngor am gydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod yn sgil newidiadau i aelodaeth grwpiau gwleidyddol;
  • ceisio cymeradwyo'r cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig;
  • cymeradwyo’r dyraniad o seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â'r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y'u nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a chymeradwyo'r newidiadau i aelodaeth y Pwyllgorau fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Eglurodd fod newid diweddar wedi bod yn aelodaeth y grwpiau gwleidyddol, a’r Cynghorydd C Webster wedi gadael y Gr?p Ceidwadol i ymuno â Gr?p y Gynghrair Annibynnol. 

 

Roedd y newid a amlinellwyd ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad wedi effeithio ar y cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau.

 

O ystyried y cynnwys a nodir ym mharagraff 3.3 (o'r adroddiad), roedd angen newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor yn awr, fel a ganlyn:-

 

1.    Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned – Gr?p Ceidwadol i golli sedd, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill sedd.

2.    Pwyllgor Rheoli Datblygu – Y Cynghorydd M Hughes i golli sedd, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill sedd.

3.    Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 – Gr?p Ceidwadol i golli sedd, y Cynghorydd M Hughes i ennill sedd.

4.    Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 – Y Cynghorydd JH Tildesley i golli sedd, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill sedd

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ar lafar wrth yr Aelodau fod angen newid pellach ar wahân i'r uchod, sef ychwanegu aelod o'r Gr?p Ceidwadol at aelodaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Yn dilyn yr adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol fel yr awgrymwyd uchod, byddai aelodaeth y pwyllgorau yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cyfansoddiad Pwyllgorau'r Cyngor yn unol â hynny. Dangoswyd y ffigurau cydbwysedd gwleidyddol wedi'u diweddaru sy'n cynnwys y newidiadau hyn yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

PENDERFYNIAD:                              Fod y Cyngor wedi:

 

(1)      Nodi canlyniad cydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth grwpiau gwleidyddol;

 

(2) Cymeradwyo'r cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig (y Cyngor);

 

(3) Cymeradwyo dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â rheolau cydbwysedd gwleidyddol, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a'r newidiadau dilynol i aelodaeth y Pwyllgorau fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad, drwy'r enwebiadau Cynghorwyr canlynol:-

 

·         Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned – Gr?p Ceidwadol i golli sedd (cyn-aelod C Webster) a'r Cynghorydd C Webster, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill y sedd hon;

·         Pwyllgor Rheoli Datblygu – Y Cynghorydd M Hughes, Annibynnol i golli sedd a'r Cynghorydd C Webster, gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill y sedd hon. Bod y Cynghorydd S Vidal, Gr?p Ceidwadol hefyd yn ennill sedd ar y Pwyllgor hwn;

·         Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 – Ceidwadwyr i golli sedd (y cyn aelod Cynghorydd C Webster) a'r Cynghorydd M Hughes, Annibynnol i ennill y sedd hon, a

·         Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 – Y Cynghorydd JH Tildesley, Annibynnol, i golli sedd, a'r Cynghorydd C Webster, Gr?p Cynghrair Annibynnol i ennill y sedd hon.

 

564.

I dderbyn y Cwestiwn canlynol gan:

 

Gellid gwario hyd at £20 miliwn dros y 2 flynedd nesaf i wella ymddangosiad siopau, cefnogi a chychwyn busnesau, sybsideiddio prisiau bysiau a chynyddu casgliadau biniau yn Abertawe. Bydd pob ward yn Abertawe yn cyfranogi o becyn cymorth. Bydd Cyngor Abertawe yn cael ei alluogi gan danwariant y Cyngor yn 2020-2021. Yn lle hynny, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae cynnydd o 3.9% yn y dreth Gyngor yn 2021-2022, heb unrhyw fudd i wardiau na thrigolion y fwrdeistref.

 

A oes modd i’r Arweinydd roi gwybod i’r Cyngor am ei gynlluniau, os oes ganddo rai, ar gyfer cynorthwyo trigolion ein Bwrdeistref a pha etifeddiaeth yr hoffai ei gadael ar ei ôl ar ddiwedd ei dymor yn 2022?

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd/Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Gellid gwario hyd at £20 miliwn dros y 2 flynedd nesaf i wella ymddangosiad siopau, i roi cymorth i fusnesau newydd, i roi cymhorthdal ar gyfer tocynnau bws, ac i gynyddu casgliadau biniau yn Abertawe. Bydd pob ward yn Abertawe yn rhannu pecyn cymorth. Byddai tanwariant y Cyngor yn 2020-2021 yn caniatáu i Gyngor Abertawe wneud hyn.

 

Yn hytrach, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae cynnydd o 3.9% yn y dreth Gyngor yn 2021-2022 heb unrhyw fudd i wardiau neu drigolion y Fwrdeistref.

 

A allai'r Arweinydd roi gwybod i'r Cyngor am ei gynllun, os oes ganddo un, i helpu trigolion ein Bwrdeistref a pha waddol yr hoffai ei gadael ar ddiwedd ei dymor yn 2022?

 

Ymateb:

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i effaith pandemig COVID-19 ar economi Pen-y-bont ar Ogwr a busnesau lleol a'i liniaru drwy wella'r hinsawdd economaidd ar gyfer twf busnes a chyflawni prosiectau adfywio allweddol yn ein prif drefi ac ardaloedd y cymoedd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn seilwaith diwydiannol a busnes allweddol, er enghraifft datblygu unedau cychwynnol ychwanegol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yn y Pîl a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd y datblygiad yr unedau yn Ystâd Ddiwydiannol y Pîl yn dechrau yn ddiweddarach eleni ac rydym yn parhau i archwilio lleoliadau posibl eraill ar draws y Fwrdeistref at ddibenion cyflogaeth newydd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Thîm Mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru i farchnata Pen-y-bont ar Ogwr ledled y DU ac Ewrop a cheisio denu cwmnïau newydd a chyfleoedd buddsoddi i'r Fwrdeistref. Mae denu cyllid grant yn rhan allweddol o'r gwaith hwn ac mae'r Gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiectau posibl y gellid eu cyflwyno ar gyfer Cronfa Lefelu Newydd Llywodraeth y DU. Gallai hyn gynnwys "Hwb Amaeth" posibl, a allai fod olygu marchnad da byw amaethyddol newydd a chyfleoedd manwerthu cysylltiedig. Os bydd yn llwyddiannus, gallai hyn sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol sylweddol i'r cymunedau amaethyddol a’r cymunedau lleol sy'n cynhyrchu bwyd yn y rhanbarth. Mae ymestyn y Rhaglen Datblygu Gwledig hyd at fis Rhagfyr 2022 yn cynnig cyfle i gefnogi dilyniant y cynllun hwn. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cyfleoedd hyfforddi ac yn cynorthwyo ein trigolion i ddychwelyd i'r gwaith drwy fentrau fel "Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr". Eleni, o fis Ebrill 2020 hyd ddiwedd mis Mawrth 2021, bu’r Tîm Cyflogadwyedd yn helpu 1255 o bobl o Ben-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys cefnogi 60 o bobl a oedd eisoes mewn gwaith i wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur; Mae 408 o bobl wedi ennill cymwysterau ac mae 398 wedi canfod gwaith.

 

Mae darparu cymorth ariannol i fusnesau a'r economi o Gronfa Adfer Covid Llywodraeth Cymru wedi bod yn swyddogaeth graidd i'n Cyfarwyddiaeth. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi asesu a dosbarthu 6,500 o grantiau busnes a thros £50m i fusnesau yn y Fwrdeistref. Mae hyn yn ychwanegol at gefnogi busnesau manwerthu a chanol trefi i weithredu'n effeithiol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 564.

565.

Eitem Dadl Chwarterol - Blaenoriaethau Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar ôl Covid

Cofnodion:

Agorwyd y ddadl gan yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio, a dybiai mai  bwriad y ddadl, yn ôl pob tebyg, oedd cynnig cyngor i'r cabinet a swyddogion ar y blaenoriaethau sy'n effeithio ar addysg a chymorth i deuluoedd ledled y sir.

 

Mae'n debyg nad yw'n disodli gweithdrefn cyngor arall, megis cwestiynau i'r weithrediaeth. Yn yr un modd, nid yw'n disodli atgyfeiriadau fesul ward ychwaith.

 

Ar ôl clywed y ddadl, byddai'n crynhoi, ac yna'n gwahodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i wneud sylwadau a gwneud rhai sylwadau i gloi.

 

Ar hyn o bryd, yn gyffredinol, mae ein blaenoriaethau lefel uchel fel a ganlyn:-

 

Byddwn (fel Cyngor):

 

  • Yn parhau i ddatblygu strategaeth ôl-Covid ar gyfer pob ysgol yn y sir; yn adeiladu ar y dull "Tîm Pen-y-bont ar Ogwr" a fu’n gweithio’n dda cyn argyfwng y cyfnod clo a thrwy’i gydol

 

  • Yn nodi'r gwersi a ddysgwyd mewn gwahanol feysydd polisi o'r sefyllfa bresennol hon yn ofalus, megis trefniadau ar gyfer gofal plant, defnyddio "hybiau", dysgu cyfunol, darpariaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim, gwarchod, ac asesu mewnol ac allanol - gan y gellid defnyddio pob un ohonynt eto yn achos argyfwng arall tebyg yn y dyfodol.

 

  • Yn sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu hymgorffori mewn cyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff, i lywodraethwyr ac i aelodau lleol.

 

  • Yn hyrwyddo lles corfforol ac emosiynol dysgwyr a staff.

 

  • Yn cynnal a gwella'r safonau a enillodd adroddiad arolygu cadarnhaol gan Estyn cyn i Covid daro.

 

  • Yn parhau i ddarparu gwasanaethau cymorth integredig o ansawdd uchel, gan weithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a phartneriaid cyflenwi eraill i gefnogi teuluoedd, yn enwedig y rhai mwyaf anghenus.

 


Dywedodd Aelodau yr hoffai ganolbwyntio ar y ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol a'r diffyg cyfle cyfartal a chydraddoldeb dewis i'r rhieni hynny a hoffai i’w plant gael mynediad i addysg Gymraeg.

 

Yn ei farn ef, mae dadl gref o blaid cael ysgol gynradd Gymraeg mewn tref o faint Pencoed, ac roedd yn meddwl tybed a fyddai'r Aelod Cabinet yn cytuno â'r uchelgais hirdymor hwn o ystyried y bwriad i ehangu'r dref yn y Cynllun Datblygu Lleol Drafft?

 

Fodd bynnag, o ystyried pa mor annhebygol fyddai hi i ysgol gynradd ymddangos o nunlle erbyn mis Medi, rwy'n cael deall bod adran 3.5 o'r Cod Derbyn i Ysgolion yn caniatáu i'r Cabinet lacio'r nifer derbyn cyhoeddedig ar gyfer disgyblion mewn ysgol benodol os oes cynnig i ehangu'r ysgol, fel sy'n wir yn Ysgol Bro Ogwr ym Mracla.

 

Ar ôl trafodaeth hir â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, dywedodd wrthyf nid yn unig y byddai hyn yn cystadlu â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar leihau maint dosbarthiadau i 30 o ddisgyblion neu lai, gyda cholled cyllid Llywodraeth Cymru o ganlyniad, ond gallai hefyd arwain at ysgolion eraill sy’n orlawn i ofyn am driniaeth debyg i ehangu capasiti. Rwy’n cydnabod anhawster y sefyllfa hon.

 

Fodd bynnag, erys y cwestiwn strategol cyffredinol o ran addysg Gymraeg yma yn nwyrain CBSP. Rwy’n cydnabod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 565.

566.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.