Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 15fed Medi, 2021 15:00

Lleoliad: o bell trwy Timau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

567.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o fudd canlynol:-

 

Swyddog Monitro - Budd rhagfarnllyd yn Eitem 13 ar yr Agenda, a gadawodd y cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.

 

Y Cynghorydd G Howells - Budd personol yn Eitem 10 ar yr Agenda gan ei fod yn adnabod dau o'r unigolion y soniwyd amdanynt yn yr adroddiad.

 

Y Cynghorydd RM James - Budd personol yn Eitem 8 ar yr Agenda gan fod ei wraig yn Gadeirydd Panel Maethu’r Cyngor.

 

Y Cynghorydd E Venables - Budd personol yn Eitem 9 ar yr Agenda fel Ynad sy'n gwasanaethu.

 

Y Cynghorydd M Jones - Budd personol yn Eitem 9 ar yr Agenda fel Ynad sy'n gwasanaethu.        

568.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 381 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21/07/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor, dyddiedig 21 Gorffennaf 2021, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, ar yr amod ei fod yn cael ei nodi mai'r Cynghorydd JC Spanswick oedd y Cadeirydd yn y cyfarfod ac nid y Cynghorydd K Watts, fel yr adlewyrchwyd yn y Cofnodion.

 

569.

Rhaglen o Gyflwyniadau i gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a'i bwrpas oedd hysbysu’r Aelodau am y rhaglen arfaethedig o gyflwyniadau oedd i gael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol yn 2021/22.  

 

Atgoffodd ef yr Aelodau fod y Cyngor wedi bod yn gyfarwydd â derbyn cyflwyniadau o bryd i'w gilydd gan ei randdeiliaid allweddol yn y gorffennol.

 

Yng nghyfarfod y Cyngor heddiw, byddai’r Aelodau’n derbyn cyflwyniad gan Brif Weithredwr O’r Cymoedd i’r Arfordir (V2C).

 

Mae'r cyflwyniadau arfaethedig canlynol i fod i gael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol, yn ystod 2021/22:-

 

           Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru - 17 Tachwedd 2021.

           Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg – 15 Rhagfyr 2021.

           Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig (SATC) - 23 Chwefror 2022.

       Awdurdod Tân ac Achub De Cymru - 9 Mawrth 2022.

 

Dywedodd y gallai sesiynau gyda Gwahoddedigion Allanol fod yn destun peth newid, yn dibynnu ar p’un a oeddent ar gael neu beidio ar y dyddiadau a restrir uchod.

 

Bydd Dadleuon Chwarterol y Fwrdeistref Sirol yn cael eu hystyried fel rhan o fusnes agenda ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor dyddiedig 20 Hydref 2021 a 19 Ionawr 2022, meddai’r Prif Weithredwr wrth derfynu.

 

Yna gofynnodd y Maer i Jo Oak, Prif Weithredwr V2c roi cyflwyniad ar waith V2c ynghyd ag ychydig o fideos byr ynghylch cynnydd, yn enwedig yn ystod cyfnod Covid-19.

 

Ymdriniai’r cyflwyniad â’r thema ‘Cydweithio ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr Well - Cryfhau Perthynas er budd ein Cymunedau Lleol a Chymru.’

 

Esboniodd, fel rhan o Raglen Troi Rownd V2c, mai ei phrif flaenoriaethau oedd:-

 

  • Atgyweirio
  • Cartrefi Gwag
  • Addasiadau
  • Cwynion, a
  • Chydymffurfio

 

Rhoddodd y cyflwyniad beth gwybodaeth ystadegol ar gynnydd yn y meysydd uchod, ynghyd â data cysylltiedig perthnasol arall.

 

Esboniodd Prif Weithredwr V2c hefyd fod y sefydliad yn gweithio'n agos gyda datblygwyr adeiladau newydd, er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i gymunedau yn yr ardaloedd lle roedd datblygiadau preswyl newydd yn cael eu hadeiladu.

 

Roedd V2c wedi ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch y ffyrdd a'r modd yr oedd angen newid gweithio mewn partneriaeth er gwell, gan ystyried materion allweddol fel:

 

1.    Gweithio Hyblyg

2.    Lleoliadau Gweithio ac Amgylcheddau

3.    Lles cydweithwyr, a mwy

 

Roedd V2c bellach yn y broses o adolygu adborth mewn perthynas â'r mentrau hyn, ychwanegodd Prif Weithredwr V2c.

 

Yna cyfeiriodd at raglen “Cartrefi Newydd” V2c ar gyfer 202102022, gyda chynlluniau ar gyfer datblygiadau Eco-gyfeillgar newydd, gan gymryd Agenda Datgarboneiddio’r Cyngor i ystyriaeth. Câi’r mathau hyn o ddatblygiadau eu cynllunio i'w hadeiladu yn Ffordd yr Eglwys Gogledd Corneli, Heol Maesteg Tondu, Heol Ewenni Pen-y-bont ar Ogwr, Rhodfa Woodland Porthcawl, Rhodfa Brocastle Waterton, a Pharc Derwen, Coety.

 

Yna ymdriniodd Swyddogion V2c â Chynllun Cyflenwi Rhaglen (CCRh) Grant Tai Cymdeithasol (GTC) 2021, gyda gofyniad Grant oedd yn gyfanswm o £32,478,981. Mewn perthynas â hyn, ystyriwyd Cyflwyniadau Cynlluniau Datblygu Rhaglen ar gyfer: -

 

Heol y Groes, Pencoed - 24 Cartref

Ffordd yr Orsaf, Porthcawl - 20 Cartref

Llys Rhydychen Parth 1, Cwm Ogwr - 6 Cartref

Safle Ysgol Gynradd Blaen Llynfi, Caerau - 23  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 569.

570.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi enwau’r Maer Ieuenctid a’r Dirprwy Faer Ieuenctid am eleni. Y Maer Ieuenctid fydd Xander Payne o Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath a'r Dirprwy Faer Ieuenctid yw G Williams o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'r ddau wedi bod yn rhan o'r cyngor ieuenctid ers ychydig o flynyddoedd. Enillodd G Williams Wobr Diana am ei Hyfforddiant ymwybyddiaeth Trawsrywedd ac mae'n helpu gyda'n Gr?p YPOP LGBTQIA (YPOP yw enw'r Gr?p LGBTQIA Ieuenctid (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Holi, Rhyngrywiol, Arywiol) yr ydym yn ei redeg yn rhithiol ar hyn o bryd ar nos Lun rhwng 5 a 6 p.m.).

 

Mae Xander yn un o Lysgenhadon Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr ac mae hefyd yn gobeithio sefyll fel ein cynrychiolydd yn Senedd Ieuenctid Cymru. Rydym yn dymuno'r gorau i'r ddau ohonyn nhw ar gyfer y flwyddyn i ddod a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

 

Hoffwn longyfarch pencampwr Paralympaidd Pen-y-bont ar Ogwr, Aled Sion Davies, am gemau llwyddiannus arall eto ac am gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru ar Lwyfan y Byd. Mae Aled wedi ennill ei drydedd medal aur Baralympaidd, y tro hwn yn nigwyddiad taflu maen i ddynion F63 yn Tokyo ac roedd hefyd yn gyd-gapten tîm Paralympaidd Prydain Fawr. Mae wedi bod yn llysgennad gwych dros chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr a’r chwaraeon Paralympaidd a bydd yn awr yn edrych tuag at Baris ymhen tair blynedd. Mae Aled yn un o linell hir o baralympiaid llwyddiannus o Ben-y-bont ar Ogwr a bydd yn sicr wedi ysbrydoli paralympiaid y dyfodol hefyd.

 

Dros gyfnod yr haf ers ein cyfarfod diwethaf, rwyf wedi cael y pleser o fynychu nifer o ddigwyddiadau ynghyd â phen-blwydd priodas 60 a 65.  Roedd yn wych gweld y gwaith sy’n mynd ymlaen fel rhan o'n Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) yn Ysgol Gyfun Cynffig a Choleg Cymunedol y Dderwen.  Fe wnes i hefyd fwynhau cael cinio ysgol gyda'r plant yn y digwyddiadau hyn.

 

Euthum i Lyfrgell Pencoed ar gyfer lansiad cynllun Benthyg IPad Canolfan Gydweithredol Cymru sydd ar gael i Ofalwyr yn y Fwrdeistref Sirol. Cynllun gwych ac un y gellir cael mynediad ato drwy ein llyfrgelloedd. Dysgais hefyd adnodd ar-lein mor wych sydd gennym yn awr yn ein llyfrgelloedd gyda mynediad am ddim at gylchgronau.

 

Ddiwedd mis Awst bûm yn Ras Hwyl flynyddol Coedwigaeth Gilfach Goch ynghyd â Maer RhCT ac roedd nifer dda yn bresennol gyda nifer fawr o blant yn cymryd rhan. Cyflwynwyd medalau i bawb a gymerodd ran gyda chwpanau i'r rheiny oedd yn y safle cyntaf a'r ail safle mewn 3 chategori oedran.

 

Ar 26 Awst am 8.10 y bore, bu’r Faeres a minnau yng Ngwasanaeth Coffa blynyddol Parc Slip ac roedd yn deyrnged deimladwy i'r 112 o ddynion a bechgyn a gollodd eu bywydau yn y ffrwydrad ofnadwy a ddigwyddodd ym 1892, a darllenwyd enwau pob un ohonynt gyda'r Arweinydd yn rhan o'r gr?p o bobl oedd yn darllen yr enwau allan. 

 

Dechreuodd mis Medi gydag ymweliad ynghyd â'r Arweinydd â dathliadau hanner can  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 570.

571.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Bydd yr aelodau wedi gweld y cyfraddau coronafeirws diweddaraf, a pha mor hynod ddifrifol yw’r sefyllfa bellach ar raddfa genedlaethol ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol i gyd.

 

Mae'r Cyngor yn profi pwysau digynsail ar draws yr holl wasanaethau, ond yn enwedig mewn meysydd fel gofal cymdeithasol oedolion a phlant, cymorth cynnar, diogelu plant a lleoliadau.

 

Mae’r heriau sy'n ein hwynebu wrth recriwtio a chadw ein gweithlu gofal cymdeithasol yn effeithio'n arbennig ar y materion hyn.

 

Mae ein gallu i ymateb i'r angen i ddarparu gofal a chefnogaeth gartref yn profi i fod yn arbennig o heriol, ac fel yr adroddodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth gyfarfod diwethaf y Cyngor, rydym ar hyn o bryd yn darparu cyfanswm o 640 awr yr wythnos yn fwy nag yr oeddem o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

 

Yn wyneb yr angen cynyddol i ymestyn y pecynnau gofal presennol a darparu gofal i fwy o unigolion, y mater allweddol o hyd yw y bydd yn bosibl y bydd yn rhaid i breswylwyr ddisgwyl i'r rhain ddod ar gael.

 

Mae'r sefyllfa'n parhau i fod yn hynod o wan o ganlyniad i oedi cyn i bobl gael mynediad at driniaethau'r GIG a'u derbyn, cyflyrau cronig yn gwaethygu oherwydd Covid hir neu fwy o broblemau ynysu cymdeithasol o ganlyniad i aros gartref, ac effaith hyn i gyd ar deulu, ffrindiau a gofalwyr.

 

Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol wedi blino ar ôl ymdrechion arwrol y 18 mis diwethaf, ac mae'r risg o losgi allan ac athreuliad o'r sector yn real iawn.

 

Ni allaf bwysleisio digon yr angen i gydnabod bod y sefyllfa bellach ar y pwynt mwyaf heriol a welsom drwy gydol y pandemig.

 

Yn ddiweddar, nododd gweinidogion Llywodraeth Cymru y bydd y system gyfan yn parhau i fod dan bwysau tra bydd y pandemig yn mynd yn ei flaen a disgwylir inni gynnal y dull o ‘fusnes fel arfer’.

 

Aeth y gweinidog iechyd cyn belled â nodi, er y gall y sefyllfa lefelu ar ôl mis Hydref, y byddwn yn dal i wynebu ein pwysau gaeaf arferol fel y ffliw a firysau anadlol eraill a allai effeithio ar y system.

 

Fodd bynnag, rydym yn parhau i gyflwyno ymateb cryf i'r heriau hyn.

 

Mae gennym gyfarfodydd lefel Aur, Arian ac Efydd yn cael eu cynnal gyda chydweithwyr y bwrdd iechyd ar lefel ranbarthol, rydym yn blaenoriaethu gofal yn ddyddiol ac mae set fanwl iawn o gynlluniau gweithredu yn eu lle, ac rydym yn adolygu, blaenoriaethu a chydlynu  gwasanaethau hanfodol yn rheolaidd ar lefel y cyfarwyddwr a phenaethiaid gwasanaeth.

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor llawn, lansiwyd ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ar draws meysydd sy'n amrywio o ofal cartref a'r timau ail-alluogi i wasanaethau pobl ifanc.

 

Mae hyn yn gysylltiedig â’r ymgyrch genedlaethol ‘Gofalwn’ sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ac sy’n hybu manteision gweithio mewn gofal, ac sydd hefyd yn annog pobl i ymgeisio am rolau o fewn y sector.

 

Mae'r ymgyrch recriwtio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 571.

572.

Adroddiad Blynyddol Craffu pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) adroddiad ar ran y Pwyllgor, a'i bwrpas oedd cyflwyno adolygiad i'r Cyngor o'r gwaith a wnaed gan y gwasanaeth Trosolwg a Chraffu dros gyfnod o ddwy flynedd 2019/20 a 2020/21.

 

Dywedodd ei bod yn ofynnol i’r gwasanaeth Craffu gyflwyno Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor gydag adolygiad o sut mae'r swyddogaeth wedi gweithredu dros y cyfnod blaenorol. Roedd yr adolygiad yn offeryn defnyddiol ar gyfer adolygu effeithiolrwydd Craffu, gan roi cyfle i fyfyrio'n iawn ar sut mae’r gwasanaeth Craffu wedi gweithredu, gan gynnwys yr heriau a'r canlyniadau amrywiol. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylwebaeth ar weithgaredd craffu am y cyfnod.

 

Ychwanegodd Cadeirydd COSC ymhellach, fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Craffu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021, a oedd ynghlwm fel Atodiad A i'r adroddiad, i'w gyflwyno i'r Cyngor.

 

Esboniodd, oherwydd pandemig Covid-19, fod yr adroddiad yn ymdrin â chyfnod o ddwy flynedd ac yn rhoi manylion am yr heriau a'r canlyniadau i Bwyllgorau a Phaneli Craffu am y cyfnod, ynghyd â nodi rhai meysydd ffocws i'w gwella er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth Craffu yn parhau i ddatblygu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr wrth symud ymlaen.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Gadeiryddion y pedwar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, h.y. cadeiryddion y gorffennol a'r presennol, am eu cyfraniadau i'r gwaith Craffu a'r Adroddiad Blynyddol oedd gerbron yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol Craffu oedd yn gysylltiedig yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

573.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor, gan ofyn i’r Aelodau nodi’r asesiadau a gyrhaeddwyd yn lleol ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

 

Esboniodd mai hwn oedd unfed Adroddiad Blynyddol ar ddeg Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i fod yn seiliedig ar hunanasesiad yr Awdurdod o’r ffordd y cafodd y gwasanaethau gofal cymdeithasol eu cyflawni a’u darparu dros gyfnod o ddwy flynedd 2019/20 a 2020/21. Roedd yr adroddiad ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Amlinellai’r adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir ac, yn dilyn hynny, nodai fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn gosod pwyslais cryf ar hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a’r gofalwyr sydd angen cymorth. Roedd yn bwysig bod barn a lleisiau pobl a'u gofalwyr yn cael eu clywed, meddai’r adroddiad.

 

Mae'r canllawiau ar gyfer yr adroddiad yn trefnu’r adrannau yn ôl y chwe safon ansawdd genedlaethol ar gyfer llesiant. Y rhain oedd:

 

·      Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chydgynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae ar bobl eisiau eu cyflawni;

·      Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol pobl;

·      Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed;

·      Annog a chynorthwyo pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas;

·      Cynorthwyo pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol iach yn ddiogel;

·      Gweithio gyda phobl a'u cynorthwyo i ennill mwy o les economaidd, i gael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy'n addas i’w hanghenion.

 

Rhydd yr adroddiad grynodeb o'r prif gyflawniadau yn 2019/20 a 2020/21 gan gymryd i ystyriaeth yr heriau a wynebwyd yn ystod pandemig Covid-19, ac mae'n cyfeirio at feysydd lle mae cynnydd wedi'i ohirio, neu lle bu angen newid blaenoriaethau o ganlyniad i'r pandemig byd-eang digynsail. Tynnai’r adroddiad sylw hefyd at y blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn 2021/22.  Mae’r dadansoddiad yn tynnu ar gynnydd yn erbyn y cynlluniau busnes, data perfformiad ar gyfer pob maes gwasanaeth ym maes gofal cymdeithasol oedolion a phlant, ynghyd ag adborth gan bobl, gofalwyr a staff.

 

Dangosai’r adroddiad hefyd, er gwaethaf heriau'r pandemig, fod y Cyngor, ynghyd â'i sefydliadau partner allweddol, wedi parhau i symud ymlaen gyda datblygiadau a gwelliannau gwasanaeth allweddol, ac wedi parhau i fod yn effeithiol wrth gefnogi'r rhai oedd angen gofal a chefnogaeth. Fodd bynnag, nodai ymhellach feysydd lle roedd angen gwella, a'r risgiau a'r heriau mwyaf sylweddol oedd yn wynebu’r Cyngor a'i randdeiliaid wrth symud ymlaen, a manylwyd ar y rhain yn y blaenoriaethau ar gyfer 2021/22.

 

Amlygodd yr adroddiad ymhellach, ym mis Tachwedd 2021, fod arolygiad rheoliadol llawn wedi ei gynnal o Wasanaethau Gofal Cartref y Cyngor, yr oedd ei ganlyniad yn gadarnhaol dros ben, fel y cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.

 

Ym mis Ebrill 2021 roedd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cynnal gwiriad sicrwydd i weld pa mor dda yr oedd y Cyngor a phartneriaid, wedi sicrhau diogelwch a lles y bobl sy'n defnyddio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 573.

574.

Cynrychiolaeth yn Llys yr Ynadon pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, er mwyn gofyn am gymeradwyaeth i ddiwygio’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau, i awdurdodi Swyddogion Refeniw i fynd i’r Llys Ynadon ar ran y Cyngor mewn perthynas ag adennill Treth Gyngor oedd heb ei thalu a Threthi Annomestig Cenedlaethol.

 

Esboniodd mai dim ond un aelod o’r Adran Adennill yn y Tîm Refeniw oedd wedi ei awdurdodi i fynychu’r Llys Ynadon. Felly roedd angen cymeradwyaeth i Swyddogion Refeniw eraill fynychu Gwrandawiadau Tribiwnlys Prisio a Gwrandawiadau Llys yr Ynadon ar ran y Cyngor, ar gyfer adennill y Dreth Gyngor a Threthi Annomestig Cenedlaethol ac i sicrhau bod y Gwasanaeth yn cael ei redeg yn effeithiol o ddydd i ddydd. 

 

Er mwyn darparu ar gyfer hyn, roedd angen diwygio Cynllun B2 y Cynllun Dirprwyo fel yr awgrymid ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai'r grym dirprwyedig arfaethedig wedyn yn osgoi'r angen i fynd ag adroddiad i'r Cyngor ar gyfer pob newid ymhlith swyddogion unigol. Bydd unrhyw awdurdodiadau a wneir o dan y ddirprwyaeth yn sicrhau bod gan y swyddog y cymwysterau, yr hyfforddiant a’r profiad priodol a bod y swyddogaeth sydd i gael ei harfer o fewn maes cyfrifoldeb y swyddog hwnnw. Caiff yr awdurdodiad ei gofnodi'n ysgrifenedig a bydd yn cael ei roi i'r Swyddog Monitro o fewn 5 diwrnod gwaith.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau fel y’u heglurwyd ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

575.

Ailbenodiadau i’r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 494 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, gyda'r bwriad o ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i ymestyn tymor swydd dau Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau. 

 

Amlinellai paragraff 3.1 gyfansoddiad presennol y Pwyllgor a'r meini prawf o ran ei aelodaeth, tra roedd adran nesaf yr adroddiad yn cadarnhau bod tymor swydd dau Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor yn dod i ben ym mis Hydref 2021. Esboniodd, fodd bynnag, fod yr Aelodau dan sylw yn gymwys i gael eu hailbenodi am dymor pellach. Wedi hynny, roedd yn ofynnol iddynt sefyll i lawr gan na allent wasanaethu mwy na dau dymor yn y swydd o dan y Rheoliadau. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau'n nodi y gall yr ail dymor yn y swydd fod yn bedair blynedd ar y mwyaf.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro fod yr Aelodau dan sylw wedi gwneud cyfraniad buddiol i lywodraethu'r Cyngor a'u bod yn cytuno i sefyll am dymor pellach.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor yn ailbenodi Mrs Judith Kiely a Mr Clifford Jones OBE i’r Pwyllgor Safonau am dymor pellach o bedair blynedd.    

 

576.

Diwygiad i’r Cyfansoddiad a’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio - adroddiad, a'i bwrpas oedd gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i:

 

·         nifer o fân welliannau i'r Cyfansoddiad mewn perthynas â selio dogfennau cyfreithiol y Cyngor er mwyn ei gwneud yn bosibl rheoli’r broses gyfreithiol yn fwy effeithlon;

·         diwygio'r Cyfansoddiad i ymgorffori Rheolau diwygiedig y Weithdrefn Contractau; a

·         diwygio Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau'r Cyngor mewn perthynas â swyddogaethau'r Cyngor yn unol ag adran 4.7 o'r Adroddiad hwn.

 

Esboniodd, fel cefndir, ei bod yn ofynnol cyflawni rhai cytundebau, sef trosglwyddiadau tir a chontractau oedd dros werth ariannol y cytunwyd arno, fel gweithredoedd. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl cychwyn camau gorfodi ar ôl y cyfnod cyfyngedig arferol o amser o 6 blynedd. Mewn achosion o'r fath cwblheir y cytundebau trwy lofnod y Swyddog Awdurdodi a thrwy osod Sêl Gyffredin y Cyngor.

 

Hefyd, mae'n ofynnol i'r Cyngor adolygu’n rheolaidd Reolau’r Weithdrefn Contractau, sy'n rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Aeth y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio - ymlaen drwy nodi bod Erthygl 14.05 o'r Cyfansoddiad yn ei gwneud yn ofynnol bod “gosod y Sêl Gyffredin yn cael ei ardystio naill ai gan y Maer, y Dirprwy Faer, yr Arweinydd neu'r Dirprwy Arweinydd a chan Gyfreithiwr y Cyngor neu berson a awdurdodwyd ganddo ef/hi”.

 

Mae cynnwys yr Aelodau hyn yn ofyniad hanesyddol ac nid yw'n eglur pa bwrpas y mae'r gofyniad ychwanegol hwn yn ei gyflawni, o ystyried natur gymhleth y dogfennau hyn a'r prosesau llywodraethu a ddilynir cyn i ddogfennau o'r fath gael eu selio. Gellir dadlau bod y logisteg o amgylch y broses gyfredol yn achosi oedi a chost ddiangen ac felly awgrymir dileu’r gofyniad i'r Maer neu'r Dirprwy Faer, yr Arweinydd neu’r Dirprwy Arweinydd ardystio selio dogfennau. Hyn, bellach, yw arfer cyffredin nifer o awdurdodau lleol.

 

Felly, argymhellwyd y dylid diwygio'r Erthygl hon o'r Cyfansoddiad yn unol â pharagraff 4.2 o'r adroddiad, ar hyd y llinellau a argymhellir uchod.

 

At hynny, mae Rheol 20.2 o Reolau’r Weithdrefn Contractau (CPRs) yn darparu: “Bydd pob Contract, gan gynnwys fframweithiau sy'n fwy na £500,000, yn cael eu gweithredu o dan Sêl”. Nid gwerth ariannol contract yw'r unig ffactor wrth benderfynu a oes angen gweithredu cytundeb o dan Sêl. Mae angen ystyried gofynion statudol a chyfraith gwlad yn ogystal ag ystyriaethau ymarferol megis cymhlethdod y trefniant. Cynigiwyd, felly, y dylid diwygio Rheolau’r Weithdrefn Contractau yn y Cyfansoddiad i ddarllen, ‘Cyfeirir pob Contract, gan gynnwys fframweithiau sy’n fwy na £500,000 mewn swm neu werth at Gyfreithiwr y Cyngor i’w gymeradwyo.’

 

Argymhellai paragraff 4.4 o'r adroddiad ymhellach y dylid mewnosod y canlynol yn Erthygl 15.03 i ganiatáu i'r Swyddog Monitro wneud cywiriadau argraffyddol a chywiriadau eraill i'r Cyfansoddiad: -

 

“Bydd gan y Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaeth Taledig, yr awdurdod i wneud cywiriadau argraffyddol a chywiriadau eraill a diwygiadau er eglurder i’r Cyfansoddiad (ar yr amod nad ydynt yn gwneud newid sylweddol i ystyr y Cyfansoddiad) ac i wneud diwygiadau diweddaru i’r Cyfansoddiad lle bo angen oherwydd newidiadau mewn deddfwriaeth.”  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 576.

577.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio a’r Swyddog Monitro sylwadau ar yr Adroddiad Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r ddogfen a restrwyd yn yr adroddiad.

 

578.

Newidiadau a Gynigiwyd i Strwythur Uwch-Reoli y Cydgyngor Trafod Telerau (CTT) pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i welliant a gynigiwyd i’r strwythur uwch-reoli, ac i gychwyn ar ymgynghoriad ffurfiol gyda swyddogion perthnasol y CTT gyda golwg ar strwythur uwch-reoli arfaethedig y CTT.

 

Atgoffodd yr Aelodau, fel gwybodaeth gefndir, fod y Cyngor wedi cymeradwyo strwythur Tâl a Graddio CTT newydd ym mis Tachwedd 2017.

 

Yn dilyn hynny, gwnaed newidiadau a diwygiadau pellach i hyn gan aelodau, a'r olaf ohonynt ym mis Hydref 2019, fel y cyfeirir ato ym Mharagraff 3 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod recriwtio pellach wedi digwydd ers hynny mewn perthynas â swyddi CTT, sef y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac, yn fwy diweddar, penodi Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Dywedodd y byddai’r Aelodau’n cofio, yn yr adroddiad blaenorol, i’r Cyngor ym mis Hydref 2019, yn dilyn adolygiad o Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, bod y Gwasanaeth wedi cael ei symud fel ei fod yn adrodd i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio ar y pryd, a bod y swydd honno, o ganlyniad, wedi cael ei hailddynodi’n Brif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio. Fodd bynnag, ni fu unrhyw newid yng ngraddiad y swydd hon, er bod sgôr y swydd wedi cynyddu. 

 

Yn ogystal â dyletswyddau a chyfrifoldeb y swydd hon, yn ystod pandemig Covid-19 mae deiliad y swydd hefyd wedi ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol pwysig a sylweddol o ran cynrychioli'r Cyngor ar y Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol (GGSRh) amlasiantaethol. Mae hon yn rôl strategol a chorfforaethol lefel uchel, sy'n gofyn am awdurdod ac atebolrwydd digonol i wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor yn gyflym, a defnyddio adnoddau yn unol â hynny. Yn achos pandemig Covid-19 a'r cyfnod adfer ac ymateb dilynol, mae deiliad y swydd hefyd yn cynrychioli'r Cyngor ar Dîm Rheoli Digwyddiadau Cwm Taf Morgannwg (IMT), yr oedd ei rôl yn cynnwys sefydlu a gweithredu'r rhaglen brofi ac olrhain a diogelu, cyswllt agos â'r Bwrdd Iechyd i ddatblygu a sefydlu canolfannau profi yn lleol a'r rhaglen frechu ac ymatebion eraill i gyngor, arweiniad a deddfwriaeth y llywodraeth wrth iddynt ddod i'r amlwg. Daeth yn amlwg nad yw'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn wedi'u cyfyngu i bandemig Covid ac wrth inni gyrraedd cyfnod endemig maes o law, bydd gofyn parhaus am rywun ar lefel Prif Swyddog i gyflawni'r swyddogaeth gorfforaethol a strategol hon a chynrychioli'r Cyngor lle mae bygythiad neu berygl buan i ddiogelwch y cyhoedd. Mae'r rôl yn gofyn am arweinyddiaeth gref a gwaith corfforaethol agos drwy'r sefydliad ac alinio â gwaith y tîm cynllunio brys.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, am y rhesymau a amlinellir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad, gan gynnwys y gofynion y mae Covid wedi'u gosod ar awdurdodau lleol nid yn unig ddoe a heddiw, ond yn y dyfodol hefyd, yr ystyrid y dylid gosod Uned Bolisi a Materion Cyhoeddus newydd ym mhortffolio Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio. Byddai hyn yn gwneud newid yn angenrheidiol ac felly yr argymhellir bod swydd y Prif Swyddog - Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 578.

579.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Cyng Altaf Hussain ir Arweinydd

Mr Arweinydd, rydym ni i gyd yn ymateb i anghenion sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yr amgylchedd a dyfodol y blaned yr un pryd ag ymateb i argyfwng tai. Ellwch chi gadarnhau sut y byddwch chi’n cydbwyso’r angen i ddatblygu ein hamgylchedd a hefyd lleihau allyriadau carbon ar yr un pryd ag ymgysylltu â chymunedau ynghylch y datblygiadau arfaethedig sydd weithiau heb gael eu hystyried yn drwyadl?

 

Cyng Tim Thomas i'r Dirprwy arweinydd

Oes modd i Aelod y Cabinet dros Adnoddau ddatgelu lefelau’r sbwriel a’r malurion ar draws priffyrdd cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol a sut mae’r lefelau hyn yn cymharu dros y pum mlynedd ddiwethaf?

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i’r Arweinydd

 

Cytunwyd y dylid gohirio'r cwestiwn hwn, fel y manylid arno yn Eitem 14 ar yr Agenda, hyd gyfarfod nesaf y Cyngor oherwydd nad oedd y Cynghorydd Hussain yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Y Cynghorydd Tim Thomas i’r Dirprwy Arweinydd

A all Aelod y Cabinet dros Adnoddau ddatgelu lefelau’r sbwriel a’r malurion ar draws priffyrdd cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol a sut mae'r lefelau hyn yn cymharu dros y pum mlynedd ddiwethaf?

 

Ymateb

 

Bob blwyddyn caiff adroddiad annibynnol LEAMS - (System Rheoli Archwiliad Amgylcheddol Lleol) ei gynhyrchu ynghylch glendid ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn dilyn arolygon ar hap gan Cadw Cymru'n Daclus. Cynhyrchir yr adroddiad hwn ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr ond mae hefyd yn cymharu â ffigurau cenedlaethol gan fod Cadw Cymru'n Daclus yn cynnal yr arolygon hyn ledled Cymru.

 

Mae’r arolygon a gynhelir gan Cadw Cymru'n Daclus yn graddio’r ardaloedd / strydoedd a arolygwyd yn ôl categorïau glendid A i D. Y strydoedd gradd B ac uwch yw'r strydoedd y mae aelodau'r cyhoedd yn eu hystyried i fod â lefel glendid dderbyniol.

 

Felly mae % y strydoedd sy'n sgorio B neu'n uwch wedi dod yn un o'r mesuriadau allweddol o ganfyddiad glendid (y sgôr uchaf yw’r gorau).

 

Isod ceir graff a ddarparwyd gan Cadw Cymru'n Daclus sy'n cofnodi canran y strydoedd sydd ar y lefel glendid derbyniol ym Mhen-y-bont ar Ogwr o un flwyddyn i’r llall. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gofnodwyd, cofnododd yr awdurdod ei sgôr ail orau hyd yma. Mae'r graff hefyd yn dangos y ffigurau cyfartalog a gofnodwyd ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cymharu.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Thomas

 

A oes gan y Dirprwy Arweinydd unrhyw syniadau sut y gallai'r Cyngor gefnogi grwpiau gwirfoddol ar draws y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Mae gan yr Awdurdod hanes da iawn o ran cefnogi Grwpiau Cymunedol yn nhermau casglu sbwriel, ac mae llawer ohonynt wedi dod ymlaen ers y pandemig ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol gan ei fod yn annog pobl i fynd allan, gwella eu hiechyd a'u lles drwy ymarfer corff a chwrdd â phobl eraill mewn cymunedau cyfagos. Roedd enghreifftiau i gyfeirio atynt, megis Ymgyrch ‘Love it Don’t Trash it.’ Roedd y Cyngor hefyd wedi ymuno â Chigfrain Pen-y-bont ar Ogwr i ddibenion casglu sbwriel ac ailgylchu.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, fod gwirfoddolwyr o gymunedau wedi dod ymlaen fel gwirfoddolwyr ar gyfer casglu sbwriel. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i'r Cyngor roi'r offer angenrheidiol iddynt er mwyn iddynt gyflawni'r dasg hon yn ddiogel gyda chymorth grwpiau allweddol, er enghraifft “Cadw Cymru’n Daclus.” Roedd digwyddiad i gael ei gynnal yn Wildmill dros y dyddiau nesaf, lle y byddai’r Cyngor a V2c yn arwain ymgyrch gasglu sbwriel ar yr ystadau yno ac i annog hyn mewn cymunedau eraill er mwyn eu cadw'n lanach.


Ychwanegodd ei bod yn amlwg oddi wrth y data bod casglu sbwriel wedi cynyddu ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Bridie Sedgebeer

 

Yn aml mae problemau'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 579.

580.

Rhybudd o Gynnig a wnaed gan y Cynghorydd RL Penhale-Thomas

Mae’r cyngor hwn yn cydnabod:

  • llwyddiant cynllun Brecwast am Ddim yn yr Ysgolion Cynradd gyda chymorth Llywodraeth Cymru 
  • ymdrechion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau ysgol yn ystod pandemig Covid hyd 31 Awst 2021
  • effeithiau sylweddol di-rif pryd ysgol iach cytbwys o ran maeth, gan gynnwys ar gyrhaeddiad addysgol, iechyd meddyliol a chorfforol a gordewdra mewn plentyndod
  • data a gasglwyd gan Gr?p Gweithredu Tlodi Plant (Cymru) sy’n dangos, allan o’r 129,000 o blant yn oed ysgol sy’n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru, nad yw 55,000 yn gymwys, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni mewn swyddi cyflog isel sy’n eu codi uwchlaw y trothwy cymhwyster.
  • yr effaith ddifrifol a gaiff tynnu’r £20 o godiad yn y Credyd Cynhwysol yn ôl ar y teuluoedd mwyaf bregus ar draws y fwrdeistref sirol 

 

Mae’r cyngor hwn yn credu:

  • ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fod yn llwgu 

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • ymestyn ei pholisi cymhwyster ar brydau ysgol am ddim i gynnwys yr holl blant lle mae eu teulu yn derbyn y Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau cyfwerth
  • ymestyn ei pholisi cymhwyster ar brydau ysgol am ddim i gynnwys yr holl blant lle nad oes modd i’w rhieni droi at arian cyhoeddus
  • cynnal adolygiad i edrych i mewn i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i:

  • dynnu’n ôl y gostyngiad a gynlluniwyd ganddi yn y codiad i’r Credyd Cynhwysol

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan yr Aelod uchod: -

 

“Mae'r cyngor hwn yn cydnabod:

  • llwyddiant y cynllun Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru 
  • ymdrechion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim trwy gydol gwyliau’r ysgol yn ystod pandemig Covid hyd at 31 Awst 2021 
  • buddion sylweddol a niferus pryd ysgol iach, cytbwys o ran maeth, gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol, iechyd meddyliol a chorfforol a gordewdra mewn plentyndod 
  • y data a gasglwyd gan Gr?p Gweithredu Tlodi Plant (Cymru) oedd yn tynnu sylw at y 129,000 o blant oed ysgol sy'n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru, ond nad yw dros 55,000 yn gymwys, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel sy'n mynd â hwy dros y trothwy cymhwysedd
  • yr effaith ddifrifol y bydd tynnu'n ôl y codiad o £20 yn y Credyd Cynhwysol yn ei chael ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed ledled y fwrdeistref sirol 

 

Mae’r cyngor hwn yn credu:

  • Ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern fod plant yn dal i fod yn llwgu 

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • ymestyn ei bolisi cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn y mae ei deulu'n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau cyfatebol 
  • ymestyn ei bolisi cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn nad oes gan ei deulu hawl i arian cyhoeddus 
  • cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth gyffredinol o brydau ysgol am ddim  

 

Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth y DU:

  • i dynnu'n ôl y gostyngiad arfaethedig yn y codiad mewn Credyd Cynhwysol."

 

Roedd y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi gan y cyd-lofnodwyr, y Cynghorwyr Alex Williams a Malcolm James.

 

Yn y cyfarfod, rhoddodd cynigydd y Cynnig ac un o'r Aelodau oedd yn  ei gefnogi y cyflwyniadau pellach a ganlyn i ategu hyn.

 

Cynigydd: Yng Nghymru, mae mwy o blant mewn tlodi yn colli allan ar brydau ysgol am ddim o gymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Y ffigur hwnnw yw 55,000 o blant - dyna 42 y cant o blant oed ysgol sydd mewn tlodi yng Nghymru ac yn colli allan ar ginio ysgol. 

Y trothwy incwm yng Nghymru ar gyfer prydau ysgol am ddim yw £7,400. Ni allaf ddychmygu y gallai unrhyw aelod etholedig o'r awdurdod hwn gredu bod £7,400 yn swm sylweddol o arian wrth gael ei ystyried fel incwm blynyddol teulu.

 

Yng Ngogledd Iwerddon mae'r trothwy hwnnw bron yn ddwbl ar £14,000. 

 

Ar ben hynny, mae'r meini prawf cyfredol yn afresymol i deuluoedd sydd ganddyn nhw ddim byd yn llythrennol - pobl heb fodd i droi at arian cyhoeddus megis y bobl sy'n ceisio lloches yn y DU sydd, i bob pwrpas, heb yr un geiniog pan fyddant yn cyrraedd, tra bo eu statws mewnfudo yn cael ei benderfynu. 

 

Mae rhai plant yn bwyta cinio yn yr ysgol sy'n cynnwys brechdanau jam yn unig. Mewn gwlad sydd y bumed gyfoethocaf yn y byd,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 580.

581.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.