Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 14eg Rhagfyr, 2022 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

69.

Datganiadau o fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Heidi Bennett ddatgan buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda – Cwestiwn gan Della Hughes, gan ei bod hi’n gweithio mewn corff oedd yn bartner, a nodwyd yn yr ymateb.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Richard Williams ddatgan buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda fel aelod o Gyngor Tref Pencoed yn ogystal ag aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Melanie Evans ddatgan buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda fel aelodau o Gyngor Tref Pencoed gan gyfeirio at y cwestiwn gan y Cynghorydd Tim Thomas.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Tim Wood a’r Cynghorydd Tim Wood ddatgan buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda fel aelodau o Gyngor Tref Pen Y Bont gan gyfeirio at y cwestiwn gan y Cynghorydd Tim Thomas.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Steve Easterbrook ddatgan buddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda am ei fod yn fasnachwr yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.   

70.

Cymeradwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 561 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/10/22 a 16/11/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion 22/10/22 a 16/11/22 fel cofnod gwir a chywir yn amodol ar y newidiadau canlynol.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Ian Spiller yn absennol o gyfarfod 16/11/22 ond roedd yn bresennol am y cyfarfod cyfan.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Norah Clarke yn bresennol yng nghyfarfod 16/11/22 ond roedd wedi rhoi ymddiheuriad ar gyfer y cyfarfod.

71.

Cyflwyniad i’r Cyngor gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i hysbysu’r aelodau am gyflwyniad y cynigiwyd ei roi gan gynrychiolwyr un o bartneriaid gwaith allweddol y Cyngor, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).

 

Rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Cwestiynau i’r Bwrdd Iechyd:

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod arnom eisiau integreiddio ein hiechyd a’n gofal cymdeithasol ymhellach. Fodd bynnag, mae gennym fodel gweithredu gwahanol i ôl troed gweddill y bwrdd iechyd ac felly a ydy hyn wedi cael ei gydnabod gan y bwrdd iechyd? Esboniodd cynrychiolydd y bwrdd iechyd fod yr anawsterau gyda Phen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cydnabod a’u bod yn gwybod am y diffyg cyfleusterau ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd fod gan RhCT 2 ysbyty cymunedol lle roeddent yn delio â Merthyr Tudful yn ogystal. Y nod oedd defnyddio’r cyfleusterau hyn i ddelio â Phen-y-bont hefyd ar gyfer gofal mwy arbenigol fel cleifion strôc sydd wedi cael eu rhyddhau o Ysbyty Tywysoges Cymru.

 

Esboniodd aelod bod ei modryb wedi cael ei chymryd i’r ysbyty yn gynharach yr wythnos hon gydag amheuaeth o drawiad ar y galon ond wedi aros mewn ambiwlans am oddeutu 30 awr mewn tymheredd o -3c. Rhoddodd esiampl arall lle roedd cymydog iddi wedi dioddef strôc ac wedi cael gwybod dros y ffôn fod amser aros o 4 awr yn bosibl. Yn ffodus, gyda chymorth eraill, llwyddasant i’w gael i mewn i gar a gyrrodd hi ef i’r ysbyty lle cafodd ei weld ar unwaith.

 

Ychwanegodd ei bod hi ac Aelod arall mewn cyfarfod Gofal a Thrwsio ym Mhen-y-bont lle buont yn disgwyl i gynrychiolydd y bwrdd iechyd gael ei anfon at y gr?p gan eu bod yn credu y gallent gynorthwyo rhai o’r cleifion yn ogystal â disgwyl am dros 70 Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) oddi wrth Gyngor BSP i alluogi cleifion i fyw yn eu cartrefi eu hunain gydag offer/addasiadau ac yn y blaen. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i weithio gyda chyrff fel Gofal a Thrwsio Pen-y-bont fel y gellid rhyddhau cleifion o’r ysbyty a gofalu amdanynt yn eu cartrefi. Gofynnodd hefyd a oedd ffordd o ddefnyddio’r cyfleusterau oedd yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod clo i ofalu am y cleifion hyn dros dro cyn iddynt fedru mynd adref.

 

Ar nodyn cadarnhaol, ymwelodd yn ddirybudd ag ysbyty Tywysoges Cymru rai wythnosau’n ôl ac wrth siarad â chleifion yno, roedd ganddynt bethau cadarnhaol iawn i’w dweud am y staff a’u hunig bryderon oedd gyda’r amseroedd aros.

 

Eglurodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd gyda golwg ar Ofal a Thrwsio Pen-y-bont eu bod yn cydweithio’n agos gyda hwy ac y byddent yn edrych i mewn i’r rhesymau pam nad oedd cynrychiolydd mewn cyfarfodydd.

 

Esboniodd gyda golwg ar y cyfleusterau oedd yn eu lle yn ystod y pandemig eu bod yn gallu gwneud hyn gan fod llawer o wasanaethau wedi cael eu hatal cynt oherwydd y pandemig ac felly roedd staff ac adnoddau ar gael i wneud hyn. Fodd bynnag, cytunai fod angen gwneud  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 71.

72.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer:

 

“Mae’n sicr yn gyfnod prysur wrth i ni fynd i mewn i dymor yr ?yl. Mae swyddfa'r maer yn parhau i dderbyn llawer o ymholiadau a cheisiadau am ymweliadau gan y Maer. Rwyf yn ddiolchgar i’r Dirprwy Faer a’i gydymaith am ddod i’r adwy ar yr achlysuron hynny pan fydd gennym geisiadau lluosog. Ar nodyn personol, rwyf wedi mynychu llawer o ddigwyddiadau ar eich rhan, sy'n amrywio o Ddigwyddiadau Cymunedol y Nadolig, cystadleuaeth feirniadu ffenestr siop, Gwasanaethau Carolau, ymweliad Ysbyty, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol amrywiol sefydliadau.

 

Digwyddiadau dinesig y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol. Pleser oedd cael mynd gyda Meiri'r Trefi ym Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr i weld goleuadau'r Nadolig yn cael eu goleuo. Roedd presenoldeb anhygoel gan y cyhoedd yn y ddau ddigwyddiad sy'n dangos y pwysigrwydd a’r brwdfrydedd sydd gan y cyhoedd dros dymor y Nadolig.

 

Hoffwn ddiolch i’r ddau Gyngor Tref am drefnu’r ddigwyddiadau hyn.

 

Hoffwn hefyd ddiolch i Mr Lee Jukes a'i dîm o FM Bridgend. Roedd ei frwdfrydedd, ei egni a’i sgil wrth ddiddanu’r torfeydd mawr yn y ddau ddigwyddiad hyn yn anhygoel. Hyd yn hyn rwyf wedi cael fy ngalw'n llawer o bethau yn fy mywyd ond mae cael fy nghyflwyno gan Lee Jukes i'r dyrfa fawr ym Maesteg fel "Maer C?l Pen-y-bont ar Ogwr" yn rhywbeth na fyddaf yn ei anghofio. Roedd hefyd yn anrhydedd ac yn fraint cael mynychu Gwasanaeth Carolau Nadolig Gwasanaethau Brys De Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mynychwyd y Gwasanaeth Carolau gan gynrychiolwyr a theuluoedd Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

Roedd Côr Meibion Mynydd Cynffig a'r Cylch yn canu i gyfeiliant Band Heddlu De Cymru. Roedd yn ennyd falch i mi yn y Gadeirlan wrth dderbyn canmoliaeth gan lawer o unigolion pwysig dinesig o bob rhan o Dde Cymru a aeth allan o'u ffordd i ganmol perfformiad anhygoel y côr, oedd yn ddigon i yrru ias i lawr eich cefn.

 

Diolch unwaith eto i bawb yng Nghôr Meibion Mynydd Cynffig a'r Cylch. Rhoesoch achos inni ymfalchïo ynoch.

 

Hoffwn annog pob aelod a Swyddog i gyfrannu at Apêl Elusen y Maer os gwelwch yn dda? A gaf i awgrymu, yn lle anfon Cerdyn Nadolig at eich gilydd, eich bod yn cyfrannu at gronfa’r elusen. Caiff manylion ynghylch sut y gellir rhoi rhodd eu cylchredeg cyn bo hir ar wefan CBSP.

 

Ac yn olaf, peidiwch ag anghofio am y broses ymgeisio am Wobr y Maer. Disgwyliaf weld cawod o geisiadau. Mae cymaint o waith da yn cael ei wneud yn ein cymunedau, gwaith ac ymrwymiad sy'n haeddu cael ei gydnabod, felly a fyddech cystal â chyflwyno eich ceisiadau erbyn y 13eg o  Ionawr 2023.

 

Ceir manylion y broses ymgeisio ar wefan y Cyngor.

 

Yn olaf, ond nid lleiaf, mae un o’n haelodau heddiw yn dathlu ei ben-blwydd. A gaf i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Cynghorydd Elaine Winstanley; gobeithio y cewch chi ddiwrnod hyfryd a noson well fyth.

 

Y Cynghorydd Jane Gebbie:

 

Gan mai dyma’r tro cyntaf i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 72.

73.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Rwyf yn si?r y bydd yr aelodau wedi nodi’r sylw helaeth a roddwyd yn y cyfryngau yn ddiweddar i achosion o Strep A a’r dwymyn goch.

 

Mae’r cynnydd mewn heintiau eleni wedi effeithio’n bennaf ar blant o dan 10 oed, ac mae wedi cael ei gysylltu â sawl marwolaeth drist o gwmpas y Deyrnas Unedig.

 

Er bod hyn wedi creu penawdau ac wedi sbarduno pryder yn eang ymhlith rhieni a gofalwyr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sicrhau ac yn atgoffa pobl bod yr achosion yn dal i fod yn brin, ac mai risg isel iawn sydd gan blant o ddal y clefyd.

 

Mae’r cynnydd mewn achosion ledled y DU wedi cael ei briodoli’n bennaf i ddychwelyd i batrymau cymdeithasol cyfarwydd yn dilyn dwy flynedd o sefyllfa bandemig, a chydag ysbytai a meddygfeydd teulu eisoes yn adrodd am bwysau aruthrol ar eu gwasanaethau, gofynnir i bobl aros yn ddigynnwrf a dilyn cyngor ac arweiniad.

 

Er mwyn cefnogi hyn, mae cyfres o gwestiynau a ofynnir yn aml wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y gallwch gael cymorth pellach.

 

Efallai y bydd yr Aelodau yn dymuno rhoi gwybod i’w hetholwyr fod y canllawiau hyn ar gael.

 

Efallai y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb hefyd mewn gwybod bod gwaith uwchraddio gwerth £1.2 miliwn yn mynd rhagddo yn Amlosgfa Llangrallo.

 

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar wella’r Llys Blodau yng nghefn y prif adeilad, a’i ymestyn allan i’r ardal laswelltog ger Capel Crallo.

 

Y bwriad yw cynorthwyo pobl i adael y capel yn fwy rhwydd, darparu mynediad haws i rai o'r cyfleusterau ac osgoi oedi i wasanaethau, sy'n digwydd ambell waith oherwydd bod pobl yn ymdyrru yn y rhan hon.

 

Fel adeilad rhestredig, sydd wedi ennill gwobrau am ei ddyluniad unigryw, mae’r gwaith ymestyn wedi cael ei deilwra’n ofalus fel ei fod yn adlewyrchu cymeriad a hanes unigryw’r amlosgfa.

 

Mae’n cael ei oruchwylio gan y pensaer Cymreig Jonathan Adams, y mae ei brosiectau eraill wedi cynnwys Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd ac adnewyddu Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

 

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer haf 2023, ac mae trefniadau yn eu lle i sicrhau y gall yr amlosgfa barhau i weithredu drwy gydol y gwaith.

 

Mewn newyddion eraill, roeddwn yn falch i nodi bod pedwar maes chwarae arall i blant wedi elwa o fuddsoddiad o £500,000 yn ddiweddar, ac y gallant bellach gynnig offer chwarae cynhwysol sy’n addas ar gyfer plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig.

 

Mae’r ardaloedd chwarae sydd wedi cael eu huwchraddio wedi eu lleoli yng Nghwm Ogwr, Porthcawl, Abercynffig a Thon-du, ac yn cynnwys cyfleusterau sy’n amrywio o gylchfannau cynhwysol i unedau aml-chwarae newydd, ac yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau sy’n hygyrch i bobl o bob oed a gallu.

 

Yn olaf, mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at ddarganfod dau faban marw mewn eiddo yn y Felin Wyllt fis diwethaf.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 73.

74.

Newid yn y Cyfansoddiad pdf eicon PDF 257 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i ddiwygiad i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r trothwyon ariannol diwygiedig yn Rheolau y Weithdrefn Contractau i ddod i rym o 1 Ionawr 2023.

 

Eglurodd fod yn rhaid i wasanaeth gael tri dyfynbris er mwyn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith gwerth dros £5,000. Bu hyn yn anodd ei weithredu oherwydd nifer y dyfynbrisiau ar draws y Cyngor, oedd yn arwain at oedi wrth ddarparu gwasanaeth. Roedd rhagor o fanylion am hyn yn adran 4 yr adroddiad.

 

Eglurodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod ymarfer meincnodi wedi dangos y byddai cynnydd i £10,000 ar gyfer cael tri dyfynbris yn cyd-fynd â Chynghorau cyfagos. Cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 yn gofyn am gymeradwyaeth i ddiwygio’r trothwy ariannol is o £5,000 i £10,000 ar gyfer caffael tri dyfynbris o fewn Rheolau y Weithdrefn Contractau ac yn argymell bod y Cyngor yn diwygio’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yr adroddiad wedi cael ei drafod yn y Cabinet ddoe ac y nodwyd bod yr argyfwng costau byw yn ogystal â’r ymosodiad ar yr Wcráin gan filwyr Rwsia wedi gyrru costau i lefel na ellir ei rheoli ac felly bod angen codi’r trothwy o £5,000 i £10,000.

 

Gofynnodd Aelod am i'r adroddiad hwn ac adolygiad o'r trothwy gael eu cynnal ymhen 6 mis a hefyd iddo gael ei drafod yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Gofynnodd Aelod pa fesurau diogelu oedd yn eu lle i sicrhau nad oedd prosesau caffael mawr yn cael eu rhannu i’w rhoi mewn slotiau caffael o dan £10,000.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol nifer o reolaethau oedd yn eu lle ac ychwanegodd fod y tîm caffael yn cynnal archwiliadau rheolaidd ar weithgareddau fel ag y mae'r gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ei wneud. Darparwyd sesiynau hyfforddi hefyd yn ddiweddar ar gyfer yr holl staff sy'n caffael neu'n comisiynu nwyddau/gwasanaethau ac felly bod y staff yn glir ynghylch y gweithdrefnau i'w dilyn.

 

Eglurodd yr Arweinydd mai cwmnïau lleol oedd bob amser yn cael eu hystyried a’u ceisio ar gyfer gweithgareddau caffael a bod hyn bob amser wrth galon y broses o wneud penderfyniadau lle roedd modd.

 

PENDERFYNWYD: bod y Cyngor yn cymeradwyo diwygiad i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r trothwyon ariannol diwygiedig fel y’u nodir ym mharagraff 4.5, i ddod i rym o 1 Ionawr 2023.

75.

Derbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Wathan i Aelod Cabinet Adnoddau

 

‘A fyddai modd i’r Aelod Cabinet Adnoddau roi asesiad risg i mi o fenthyciadau Tymor Byr i Awdurdodau Lleol o dan weithdrefnau mabwysiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.’

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd D Hughes i Aelod Cabinet Adnoddau

 

Sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ochr yn ochr â phartneriaid eraill, yn creu dulliau cefnogi ariannol i helpu i ddiogelu buddiannau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?"

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd T Thomas i Aelod Cabinet - Adfywio

 

Pa gynlluniau sydd gan yr Aelod Cabinet i gynyddu nifer y rhai sy’n ymweld â chanol trefi yng nghanol ein trefi o fewn y fwrdeistref sirol?

Cofnodion:

Y Cynghorydd A Wathan i Aelod y Cabinet – Adnoddau

All Aelod y Cabinet – Adnoddau roi’r asesiad risg i mi o Fenthyciadau Tymor Byr i Awdurdodau Lleol dan y weithdrefn a fabwysiadwyd gan CBSP?

 

Ymateb:

Rheoli’r trysorlys yw rheoli llif arian, benthyciadau a buddsoddiadau’r Cyngor, a’r risgiau cysylltiedig. Enwebwyd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i fod yn gyfrifol am sicrhau craffu effeithiol ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (TMS) a pholisïau.

 

Mae risg y trysorlys yn y Cyngor yn cael ei rheoli o fewn fframwaith Rhifyn 2017 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ‘Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ Argraffiad 2017 (Cod CIPFA), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Reoli’r Trysorlys (TMS) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Mae Cod CIPFA hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor osod nifer o Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys, sy’n baramedrau sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n galluogi’r Cyngor i fesur a rheoli ei amlygiad i risgiau rheolaeth trysorlys, ac adroddir am berfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn wrth yr Aelodau yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ariannol.

Cyflwynwyd adroddiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor i’r Cyngor llawn a’i gymeradwyo ganddo ar 23 Chwefror 2022, ac mae’n nodi’n glir y terfynau buddsoddi ar gyfer pob gwrthbarti. Yn benodol, mewn perthynas ag awdurdodau lleol, mae’n gosod y terfynau benthyca a ganlyn:

Awdurdodau lleol ac endidau eraill:

Terfyn amser: 25 mlynedd,

Terfyn gwrthbarti: £12 miliwn,

Terfyn y sector: £ anghyfyngedig.

I grynhoi, yr uchafswm y gellir ei fenthyca i unrhyw awdurdod lleol unigol ar unrhyw adeg yw £12 miliwn, am gyfnod heb fod yn hwy na 25 mlynedd. Mae'r cyfanswm y gall y Cyngor hwn ei fenthyca i bob awdurdod lleol gyda'i gilydd yn anghyfyngedig.

Mae'r Cyngor yn benthyca'n rheolaidd i awdurdodau lleol eraill gan ei fod yn arfer sydd wedi'i hen sefydlu ar draws y sector ac yn darparu lefel uchel o sicrwydd a lefel isel o risg, gyda lefel gymesur o elw. Mae awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn wrthbartïon buddsoddi gyda risg credyd isel iawn. Fel sefydliadau yn y sector cyhoeddus maent yn llawer llai agored i’r math o rymoedd marchnad a all wneud banciau a busnesau eraill yn fethdalwyr ac, er y gallant uno, rhannu neu newid fel arall, maent hwy a’r swyddogaethau a ddarperir ganddynt yn annhebygol o beidio â bodoli.

Nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cael eu graddio gan asiantaethau statws credyd, ond mae’r rhai sy’n cael eu graddio yn derbyn sgôr uchel.

Gwneir yr holl fuddsoddiadau yn unol â chyngor Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor, a benodwyd drwy broses dendro gystadleuol. Mae mwyafrif y buddsoddiadau y mae’r Cyngor hwn yn eu gwneud i awdurdodau lleol eraill yn llai na blwyddyn, er bod un buddsoddiad diweddar wedi’i wneud am gyfnod o 2 flynedd, gwerth £5 miliwn hyd at fis Gorffennaf 2024. Mae’r holl fuddsoddiadau eraill gydag awdurdodau lleol eraill am lai na blwyddyn.

Er mwyn bod o gymorth i leihau risg, nid yw'r Cyngor hwn ychwaith yn buddsoddi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 75.

76.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim