Agenda a Chofnodion

Panel Apeliadau - Dydd Iau, 26ain Hydref, 2017 14:00

Lleoliad: Level 3 Conference room - Civic Offices Angel Street Bridgend CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datganiadau o fuddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members’ Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008.

Cofnodion:

Dim.

14.

Cyflwyno Mesurau Arafu Traffig a Chroesfan i Gerddwyr arfaethedig sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Arfaethedig ar Heol Penprysg, Pencoed pdf eicon PDF 110 KB

 

Would Members please note, a site visit will take place to the site of the proposed Primary School on Penprysg Road, Pencoed at 11.00am.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a chyflwynodd bawb oedd yn bresennol cyn rhoi amlinelliad o’r weithdrefn i’w mabwysiadu.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Traffig a Thrafnidiaeth adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a oedd yn ceisio datrysiad i’r gwrthwynebiad ffurfiol a oedd wedi dod i law mewn perthynas â’r cynigion yn Heol Penprysg, Pencoed ar gyfer mesurau arafu traffig a gosod croesfan ffurfiol yn gysylltiedig â'r Ysgol Gynradd Pencoed newydd.  

 

Dywedodd fod hysbysiad cyhoeddus statudol, mewn perthynas â chau’r Ysgolion Babanod a’r Ysgol Gynradd Pencoed presennol a sefydlu ysgol newydd i wasanaethu'r dalgylchoedd traddodiadol hyn, wedi’i gyhoeddi ar 15 Mehefin 2016. Gan nad oedd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig, dywedodd fod y Cabinet wedi ystyried a chymeradwyo’r cynnig yn ei gyfarfod ar 6 Medi 2016, yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Dywedodd hefyd y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar 29 Medi 2016 fel rhan o’r cynigion i godi'r Ysgol Pencoed newydd ar Heol Penprysg, yn amodol ar nifer o amodau cynllunio (P/16/603/BCB).  Dywedodd y Rheolwr Traffig a Thrafnidiaeth wrth y Panel mai’r amod a arweiniodd at y gwrthwynebiad dan sylw’r Panel oedd Amod 8 o’r hysbysiad ar gyfer caniatâd cynllunio a’r nodyn cynghori. 

 

Nododd y Rheolwr Traffig a Thrafnidiaeth mai’r rheswm dros yr amod a’r nodyn cynghori hwn yw sicrhau y gall gyrwyr weld yn briodol wrth adael ar ffordd fynediad newydd yr ysgol ac i ddiogelu plant sy'n teithio i'r ysgol ar fws ac mewn car, a cherddwyr yn arbennig, gan eu bod yn cael eu hystyried yn gr?p agored i niwed a rhaid gwneud pob ymdrech i ddiogelu'r gr?p hwn rhag niwed posibl.  Dywedodd fod nifer o ddamweiniau traffig wedi digwydd ar ran hon Heol Penprysg yn y gorffennol agos, a chyflymder gormodol oedd y prif ffactor ym mhob achos.  Dywedodd wrth y Panel am y cynnig i gynnal cyfanswm o 611 o ddisgyblion yn yr ysgol newydd a bydd y ffordd fynediad newydd yn gweithredu fel system un ffordd a than cyfyngiad cyflymder cynghorol o 10mya.  Disgrifiodd y trefniadau ar gyfer yr ardal gollwng disgyblion ac ar gyfer maes parcio’r staff ynghyd â’r drefn a ddewiswyd i gyrraedd a gadael y maes parcio yn sgil yr angen i leihau nifer y mannau gwrthdaro ac i atal cerddwyr rhag defnyddio'r ardal gollwng disgyblion i gerdded drwy'r maes parcio hwn cymaint â phosibl.  Dywedodd wrth y Panel hefyd y byddai croesfan i gerddwyr heb ei rheoli rhwng mynediad i faes parcio’r staff er mwyn cysylltu’r maes parcio â sgwâr yr ysgol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Traffig a Thrafnidiaeth fod nifer o opsiynau’n cael eu hystyried er mwyn cydymffurfio ag amod cynllunio 8 a’r nodyn cynghori. Roedd arweiniad (Cylchlythyr Llywodraeth Cymru Rhif 24/2009) a phrofiad wedi dangos mai’r ffordd fwyaf effeithiol o annog gyrwyr i yrru’n araf ar unrhyw ffordd oedd naill ai dylunio ffordd â digonedd o droadau a byrhau’r rhannau syth i wneud gyrru’n gyflym yn amhosibl neu gyflwyno mesurau arafu traffig e.e. clustogau/twmpathau cyflymder.  Ategwyd hyn gan y ffaith na fydd yr heddlu’n cefnogi cyfyngiadau cyflymder 20mya  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14.