Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau. Cofnodion: Dim. |
|
Datgan buddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd T Giffard fod ganddo fuddiant personol yn eitem rhif 6 gan fod un o’r ymgeiswyr am swydd y Prif Weithredwr yn byw yn ei etholaeth, ac roedd yr unigolyn hwn hefyd wedi gofyn iddo, fel yr Aelod sy’n cynrychioli ward Bracla, ymchwilio i fater yn y ward honno. |
|
Cymeradwyo’r cofnodion PDF 51 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06/12/18 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Penodi dyddiedig 6 Mehefin 2018, fel cofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd Nid oedd y cofnodion ac adroddiad sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, o dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, a hynny pan fyddai’r Aelodau’n trafod yr eitem a ganlyn gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio o dan Baragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.
Ar ôl cymhwyso prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, y dylid trafod yr eitem mewn sesiwn breifat, gan wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, gan y byddai angen datgelu gwybodaeth a oedd wedi’i heithrio. |
|
Y broses benodi: Prif Weithredwr |
|
Cymeradwyo’r cofnodion eithriedig I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion wedi’u eithrio cyfarfod y 06/12/18 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymerdwyo cofnodion eithriedig cyfarfod y Pwyllgor Penodi dyddiedig 6 Mehefin 2018 fel cofnod cywir. |