Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. 

Cofnodion:

Dim

2.

Y Broses Benodi: Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gymeradwyaeth ar gyfer proses recriwtio swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles gan fod deiliad presennol y swydd wedi rhoi rhybudd ymddiswyddo. 

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol eu bod wedi gofyn am ddyfynbrisiau gan asiantaethau recriwtio sy’n arbenigo mewn recriwtio uwch reolwyr a rolau gweithredol awdurdodau lleol i gefnogi'r Cyngor gyda'r penodiad.  Mae Solace in Business am ymgymryd â’r gwaith, mae ganddynt brofiad addas o recriwtio uwch reolwyr a rolau gweithredol awdurdodau lleol i gefnogi'r Cyngor gyda'r penodiad. 

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ar y broses ddethol sydd i ddilyn, sef y bydd ceisiadau'n cael eu hanfon i Solace in Business er mwyn iddynt asesu a gwerthuso ymgeiswyr yn erbyn y cymwyseddau a bennwyd ac yn rhoi adborth i'r Pwyllgor hwn drwy gydol y broses.  Amlinellodd yr amserlen ar gyfer camau'r broses ddethol, ynghyd â disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y rôl.  Ar ôl y dyddiad cau, byddai'r Pwyllgor Penodiadau yn cael ei gynnull i dderbyn adborth gan yr arbenigwr recriwtio ac i gytuno ar restr hir o ymgeiswyr i barhau i'r ganolfan asesu.  Dywedodd y bydd y ganolfan asesu yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau dethol a bydd aseswyr yn cynnal cyfweliadau rheolaethol / technegol, profion seicometrig, ac asesiadau rhyngweithiol i brofi cymwyseddau allweddol.  Bydd y Pwyllgor Penodiadau yn cael adborth ar ôl y ganolfan asesu ac yn cytuno ar restr fer derfynol o ymgeiswyr a fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad gan y Pwyllgor.  Bydd y Pwyllgor yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y penodiad, gan ystyried canlyniad y ganolfan asesu a'r cyfweliad terfynol. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr angen am feincnod i asesu ymgeiswyr ac roedd o'r farn y dylid pennu hyn ar 50%.        

  

PENDERFYNIAD:            Bod y Pwyllgor Penodiadau yn:

 

(i)            Cymeradwyo'r disgrifiad swydd a'r fanyleb;

(ii)           Cymeradwyo'r broses a amlinellir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad;

(iii)  Ailymgynnull ar 11 Mawrth 2020 yn dilyn cyfarfod y Cyngor i bennu'r rhestr hir o ymgeiswyr i'w gwahodd i'r ganolfan asesu;

(iv)  Dirprwyo’r penderfyniad o ba ymgeiswyr ddylai symud ymlaen i gam olaf y broses ddethol, i'w cyfweld gan y Pwyllgor Penodiadau, i’r Prif Weithredwr a'r Arweinydd, yn seiliedig ar ganlyniadau'r ganolfan asesu;

Ailymgynnull ar 25 Mawrth 2020 am 9.30am i dderbyn adborth gan y ganolfan asesu ac i gynnal cyfweliadau terfynol a gwneud penderfyniad penodi.                              

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z