Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Gwener, 11eg Hydref, 2019 15:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Galvin 

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim 

33.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 51 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/04/2019

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:            Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Penodi ar 18 Ebrill 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

34.

Y Broses Benodi: Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor o'r rhesymeg dros benodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, sef bod yr awdurdod wedi gweld newid sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ran swyddogion y JNC, a bod y rheoleiddwyr wedi sylwi ar hynny.  Dywedodd mai'r awdurdod hwn sydd â'r uwch dimau rheoli lleiaf o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, yn arbennig o gymharu ag awdurdodau cyfagos. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Gyfarwyddiaeth Gymunedau yn un gymhleth a chanddi faes amrywiol o wasanaethau, ac mai'r her i'r Cyfarwyddwr fyddai rheoli newid.  Dywedodd na allai'r awdurdod fod yn feinach, a bod angen gwneud apwyntiad i'r rôl hon, ond ei fod yn deall sut allai recriwtio rôl uwch ymddangos i’r cyhoedd.  Roedd llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wedi gwneud nifer o benodiadau i swyddi uwch yn ddiweddar. 

 

Roedd y Pwyllgor yn deall y rhesymeg y tu ôl i wneud penodiad, gan gydnabod bod y Gyfarwyddiaeth wedi datblygu llawer o fodelau partneriaeth a'i bod wedi dioddef yn sgil ei llwyddiant â hynny.  Dywedodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor fod y sefydliad yn parhau i dyfu, gyda'r awdurdod bellach â swyddogaeth Adfywio, sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Gymunedau.  Dywedodd aelod o'r Pwyllgor y byddai angen i'r person a benodir i weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i drawsnewid gwasanaethau a gwireddu newid.  Soniodd aelod o'r Pwyllgor am yr angen i ystyried gwydnwch yr awdurdod wrth wneud penodiad.  Sicrhawyd y Pwyllgor bod awdurdodau eraill wedi gwneud penodiad i rolau uwch.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod problemau â chydnerthedd i’w cael o fewn y Gyfarwyddiaeth ar lefel is na’r Cyfarwyddwyr. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y broses recriwtio Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ac ar y cynnig i ymgysylltu â Solace in Business, sydd â phrofiad o recriwtio uwch reolwyr a rolau gweithredol i awdurdodau lleol, i gefnogi'r Cyngor gyda'r penodiad. 

 

Rhoddodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad ar y broses ddethol sydd i ddilyn, sef y bydd ceisiadau'n cael eu hanfon i Solace in Business er mwyn iddynt asesu a gwerthuso ymgeiswyr yn erbyn y cymwyseddau a bennwyd ac yn rhoi adborth i'r Pwyllgor hwn drwy gydol y broses.  Amlinellodd yr amserlen ar gyfer camau'r broses ddethol, ynghyd â disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y rôl.  Ar ôl y dyddiad cau, byddai'r Pwyllgor Penodiadau yn cael ei gynnull i dderbyn adborth gan yr arbenigwr recriwtio ac i gytuno ar restr hir o ymgeiswyr i barhau i'r ganolfan asesu.  Dywedodd y bydd y ganolfan asesu yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau dethol a bydd aseswyr yn cynnal cyfweliadau rheolaethol / technegol, profion seicometrig, ac asesiadau rhyngweithiol i brofi cymwyseddau allweddol.  Bydd y Pwyllgor Penodiadau yn cael adborth ar ôl y ganolfan asesu ac yn cytuno ar restr fer derfynol o ymgeiswyr a fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad gan y Pwyllgor.  Y Pwyllgor fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y penodiad, gan ystyried canlyniad y ganolfan asesu a'r cyfweliad terfynol.  Dywedodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol wrth y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 34.

35.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Pharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:            O dan adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad At Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem ganlynol o fusnes gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio fel y'i diffinnir ym mharagraff 12 o ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

                                 Ar ôl cymhwyso'r prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitem yn breifat, gyda'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod, gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio.

36.

Cadarnhau Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 18/04/2019

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:            Bod cofnodion eithriedig cyfarfod y Pwyllgor Penodi ar 18 Ebrill 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

37.

Y Broses Benodi - Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau