Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Cydraddoldeb - Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2017 09:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datganiadau o Fuddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members’ Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008

Cofnodion:

Dim.

12.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 60 KB

To receive for approval the Minutes of a meeting of the Cabinet Equalities Committee dated 13 July 2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cydraddoldebau’r Cabinet dyddiedig 13 Gorffennaf 2017 fel cofnod gwir a chywir.

13.

Adroddiad Diweddaru ar Ymgynghori ac Ymgysylltu pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad, a'i bwrpas oedd amlinellu ymagwedd y cyngor at ymgynghori ac ymgysylltu.  Bydd Aelodau'r Pwyllgor yn gallu defnyddio hwn i helpu pobl i ysgogi trigolion i leisio eu barn, gan gynnwys trwy'r Panel Dinasyddion.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod ymgynghori ac ymgysylltu effeithiol yn cynnwys gofyn barn unigolion, grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd a /neu grwpiau a glywir yn anaml, yn ôl y swyddog uchod. Mae ymgynghori ac ymgysylltu wedi dod yn rhan annatod o wneud penderfyniadau ar draws y cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi bod yn cefnogi cynigion MTFS.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu mai proses yn cynnwys dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth a grwpiau ac unigolion eraill sy'n cyfrannu eu barn a'u hawgrymiadau yw ymgynghori ac ymgysylltu. Ar gyfer ymgynghori, gallai hyn fod fel rhan o adolygiad o bolisi, strategaeth a gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb. Esboniodd y swyddog fod ymgysylltu yn broses llai ffurfiol a mwy cyfranogol.

 

Roedd y cyngor yn flaenorol wedi ymrwymo i  egwyddorion cenedlaethol arfer gorau Cyfranogaeth Cymru. Yna, dywedodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu wrth yr Aelodau fod 'pecyn cymorth' wedi'i seilio ar yr egwyddorion hyn wedi ei ddatblygu’n flaenorol gan y tîm yn ei hadran, er mwyn helpu staff i ddeall pa bryd y mae'n briodol ymgysylltu â /neu ymgynghori â thrigolion, a deall yr ystod o ddulliau a thechnegau sydd ar gael. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod prosiectau ymgynghori ac ymgysylltu yn gyson, yn gadarn ac yn effeithiol.

 

 

Ychwanegodd ymhellach, fod yr holl brosesau ymgynghori ar gael yn fyw ar wefan y cyngor, yn ogystal â chael eu cefnogi gan ymgyrchoedd hyrwyddo.

 

Esboniodd y swyddog fod gan Banel Dinasyddion y cyngor 1584 o drigolion arno ar hyn o bryd a bod gwaith wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i gynyddu’r aelodaeth a thargedu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ee wardiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, pobl iau. Mae gan aelodau'r panel hyd at dri arolwg i'w llenwi bob blwyddyn sy'n canolbwyntio'n gyffredinol ar ystod o wasanaethau, gweithgareddau a pholisi'r cyngor. Mae aelodau'r panel yn derbyn cylchlythyrau rheolaidd sy'n rhoi adborth ar sut yr ydym wedi defnyddio'r wybodaeth a roddwyd i ni.

 

 

Cefnogid yr adroddiad gan ddadansoddiad o aelodaeth y Panel Dinasyddion a'r data cysylltiedig yn Atodiad 1.

 

Yna gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau yr ymatebodd y Swyddogion iddynt, ac yn dilyn hynny,

 

PENDERFYNWYD:                 Derbyn a nodi'r adroddiad.     

14.

Adroddiad Diweddaru ar Weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad a oedd yn diweddaru Pwyllgor Cydraddoldebau’r Cabinet ynghylch gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a Safonau’r Gymraeg.

 

Trwy wybodaeth gefndirol, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod y cyngor wedi derbyn ei hysbysiad cydymffurfio terfynol gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 30 Medi 2015, ac ers hynny bu'n gweithio i benderfynu ar y goblygiadau o ran gweithredu'r 171 o  safonau a bennwyd.

 

Parhaodd trwy gadarnhau bod cyfarfodydd wedi digwydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg, a bod y cyngor wedi parhau i weithio tuag at gydymffurfio â'r safonau.  Rhoddir crynodeb o'r cynnydd / diweddariadau allweddol ers mis Gorffennaf 2017 ym mharagraff 4 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu wrth yr Aelodau fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn ddiweddar.  Mewn cyfarfod gyda'r Comisiynydd ar 19 Mai 2017, cytunwyd y gallai'r cyngor gael estyniad amser er mwyn cydymffurfio ag 11 o'r 20 safon yr apeliwyd yn eu herbyn, a chytunwyd ar amserlen resymol rhwng y ddau barti ar gyfer gweithredu'r safonau sy'n weddill.  Ychwanegodd y byddai cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol yr Awdurdod i gyd yn ddwyieithog erbyn 31 Rhagfyr 2017 ac nad oedd unrhyw gwynion ffurfiol wedi'u gwneud ers yr adroddiad diwethaf ym mis Gorffennaf 2017.

 

Yna daeth y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu â’i chyflwyniad i ben drwy amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad, er budd yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:       Bod Pwyllgor Cydraddoldebau’r Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad.

15.

Strategaeth y Gymraeg: Adroddiad ar y Diweddariad Blynyddol pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn diweddaru'r Aelodau ar y gwaith a gyflawnwyd i fodloni'r amcanion o fewn Strategaeth Pum Mlynedd y Gymraeg (2016 i 2021), yn ystod blwyddyn gyntaf ei gweithredu.

 

Eglurodd fod hysbysiad cydymffurfio terfynol y Cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg yn cynnwys dwy safon (145 a 146), oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor gynhyrchu a chyhoeddi'r Strategaeth uchod erbyn 30 Medi 2016. Er mwyn olrhain cynnydd yn effeithiol, datblygu ar y gwersi a ddysgwyd ac adnabod arferion gorau, penderfynodd y cyngor adrodd ar hyn yn flynyddol. Roedd y Strategaeth sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi sut y bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac yn hwyluso ei defnydd yn y Fwrdeistref Sirol am y cyfnod a gwmpesir gan y Strategaeth. Amlinellodd yr adran hon o'r adroddiad beth oedd y Strategaeth yn ei gynnwys, ac roedd paragraff nesaf yr adroddiad yn cadarnhau'r hyn oedd yn ddyletswydd ar y Cyngor, bum mlynedd ar ôl cyhoeddi'r Strategaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, fod Adran 1 y Strategaeth Pum Mlynedd, yn canolbwyntio'n fewnol ar gynnal nifer y gweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn y cyngor, gyda'r adran yn amlinellu:

 

·         Proffil ieithyddol gweithlu'r cyngor;

·         Sut y gallai’r cyngor gefnogi ei weithwyr i wella eu sgiliau Cymraeg a chodi ymwybyddiaeth ynghylch hyn yn y gweithle;

·         Recriwtio a dethol.

 

O fewn hyn, esboniodd fod tri Amcan fel a ganlyn: -

 

  1. Amcan 1: Nodi'r gallu mewn meysydd gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg;
  2. Amcan 2: Darparu atebion dysgu a datblygu priodol ar wahanol lefelau i ddiwallu anghenion a nodwyd o fewn dyraniad y gyllideb;
  3. Amcan 3: Sefydlu trefniadau wrth recriwtio i swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol.

 

Rhoddwyd mwy o wybodaeth ynghylch yr Amcanion hyn yn rhan hon yr adroddiad.

 

Yna eglurodd fod Adran 2 y Strategaeth yn canolbwyntio'n allanol ar gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol ehangach.  Roedd yr Adran hon hefyd yn cynnwys tri Amcan fel a ganlyn: -

 

a)      Amcan 1: Codi proffil yr iaith, diwylliant a gweithgareddau a digwyddiadau lleol Cymraeg a drefnir gan y Cyngor a'i bartneriaid mewn ffordd strwythuredig;

b)      Amcan 2: Cynyddu’r gwaith o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ynghylch Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor (WESP);

c)      Amcan 3: Archwilio (a gweithredu lle bo modd), unrhyw weithgareddau newydd a fydd yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach o fewn y Fwrdeistref Sirol, gan hyrwyddo'r rhain yn unol â hynny.

 

Roedd manylion pellach mewn perthynas â phob un o'r Amcanion hyn yn yr adroddiad.

 

Yn olaf, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod y Cyngor wedi gweithio gyda Menter Bro Ogwr (MBO) i archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd, a dynodir y rhain fel a ganlyn: -

 

·          CBSP i weithio gyda MBO i hysbysebu swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ar eu gwefan a'u tudalen Facebook;

·          MBO i barhau i weithio gydag Halo ac Ymddiriedolaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15.

16.

Eitemau Brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Rule 4 of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency

Cofnodion:

Dim.