Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Serviuces Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

18.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 61 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cynfarfod y 23/11/17

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               Cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar 23 Tachwedd 2017 fel rhai gwir a chywir.

19.

Camdriniaeth ddomestig, trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol: Y diweddaraf ar gymorth i ddioddefwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, a'i ddiben oedd hysbysu'r Pwyllgor o'r materion a wynebir gan ddioddefwyr cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol mewn cymunedau Penybont-ar-Ogwr, ac amlinellu'r llwybrau cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr o'r fath.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rheolwr Busnes Rhanbarthol o Calan DVS a chydgysylltydd cam-drin domestig y Cyngor, a roddodd gyflwyniad Power Point ar y cyd ar y pwnc pwysig hwn.

 

Roedd y cyflwyniad wedi cynnwys y materion canlynol:-

 

·         Cefndir ac amcanion

·         Cam-drin cam-domestig ym Mhenybont

·         Sut mae Penybont yn ymateb

 

·         Y Dioddefwyr

·         Y Tramgwyddwyr

·         Plant

·         Assia Suite (Safle un-stop ar gyfer cymorth)

 

Y llwybrau cymorth a ddarperir yn sgil cyflwyno'r 'Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015' – a gafodd Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.

 

Cefnogwyd y Ddeddf uchod hefyd gan rai darnau allweddol eraill o ddeddfwriaeth, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ymhlith eraill.

 

Nod y Ddeddf uchod oedd atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr.

 

Bydd darpariaethau'r Ddeddf yn sicrhau bod pob awdurdod perthnasol yn gweithio yn unol â gweledigaeth strategol gyfunol a rennir, a fydd yn arwain at wasanaethau gwell a mwy cyson ar gyfer y rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.Mae'r Ddeddf hefyd yn creu arweinyddiaeth proffil uchel ar y gwahanol faterion, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu blaenoriaethu ar lefel leol a chenedlaethol.

 

Esboniodd y swyddogion bod y Ddeddf hefyd wedi cyflwyno gofynion o ran:

 

a)    Gweinidogion Cymru iddynt:

 

1.    Baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol:

2.    Penodi Ymgynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a ffurfiau eraill o Drais, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar sail Rhyw.

 

b)    Yr angen i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Ymddiriedolaethau GIG (yr awdurdodau perthnasol) i baratoi a chyhoeddi strategaehau er mwyn cyfrannu tuag at gyflawni pwrpas y Ddeddf

 

c)    Yr angen i Awdurdodau Lleol i adrodd ar sut y maent yn mynd i’r afael â materion Trais as Sail Rhyw, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol o fewn eu swyddogaethau addysgol, gan gynnwys unrhyw weithred a gymerir o fewn ysgolion.

 

Sut mae Penybont yn ymateb?

 

  • Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol – i sicrhau bod pob aelod o staff wedi'i hyfforddi'n briodol i'r rolau a'r cyfrifoldebau (drwy bwerau cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru)
  • IDVA? IDSVA a MARAC
  • Lloches (i fenywod)
  • Lloches (i ddynion) (mae hyn yn cael ei archwilio ar hyn o bryd)
  • Assia Suite
  • Llwybrau Cymorth i blant a phobl ifanc
  • Llwybrau Cymorth i ddioddefwyr
  • Asesiadau ar gyfer Teuluoedd
  • Dulliau o ymyrraeth ar gyfer tramgwyddwyr

 

Yn eu tro, ymhelaethodd y Swyddogion Cyflwyno ar bob un o'r dulliau cymorth uchod, er budd yr Aelodau.

 

Roedd yr adroddiad (a'r cyflwyniad) yn nodi bod y pwnc dan drafodaeth wedi'i ddiffinio gyda'i gilydd fel:

 

"unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheoli, gorfodi neu fygwth, trais neu gam-drin rhwng y rheini sy'n 16 oed neu'n h?n sydd, neu a fu, yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 19.

20.

Materion sy’n wynebu pobl anabl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont – Tacsis pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, a roddodd adborth i'r Pwyllgor o ran tacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn y fwrdeistref sirol.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu, o ganlyniad i gais gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2017, fod cwestiynau penodol ar dacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn cael eu hychwanegu at yr ymgynghoriad trwyddedu ar dacsis.

 

Yna, amlinellodd wybodaeth benodol o ran ymgynghori'r Awdurdod Trwyddedu, a gwahanol ganlyniadau hyn, fel y manylir ym mharagraffau 4.1 i 4.3 o'r adroddiad.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu mai canran fechan iawn o ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad, h.y. dim ond 35 a gafwyd yn gyfan gwbl, a hefyd y diffyg sylwadau esboniadol pellach. Fodd bynnag, ychwanegodd fod rhai themâu cyffredin wedi codi o'r ymgynghoriad, fel a ganlyn:-

 

·         Roedd cerbydau h?n a adeiladwyd at y diben (e.e. Tacsis Llundain) ar gael ar y farchnad a dylid eu hystyried ar gyfer trwyddedu;

·         Cydbwyso'r gost uwch o brynu cerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn erbyn y gwaith ar gyfer y math hwn o gerbyd;

·         Mae darparwyr cludiant hygyrch i gadeiriau olwyn eraill ar gael tu allan i’r sector tacsis, a

·         Dylai cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn fod yn hawdd eu hadnabod gan y cyhoedd.

 

Aeth ymlaen i gynghori'r Aelodau er mwyn sicrhau nad yw teithwyr cadair olwyn yn wynebu gwahaniaethu wrth deithio, fod y Pwyllgor trwyddedu wedi cymeradwyo'r cynnig i gyhoeddi a chadw rhestr o 'gerbydau dynodedig' yn unol â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn ôl darpariaeth yn y Ddeddf, yr oedd gofyniad cyfreithiol ar yrwyr pob cerbyd hacnai trwyddedig neu 'dynodedig' a cherbydau hurio preifat, i gludo teithwyr yn eu cadeiriau olwyn, i roi cymorth rhesymol i'r teithwyr hynny, ac i wahardd gyrwyr tacsi rhag codi tâl ychwanegol am y daith.

 

Roedd darpariaeth bellach yn y Ddeddf yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyhoeddi rhestr o 'gerbydau dynodedig' h.y. tacsis, sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, ac roedd yr Adran Drwyddedu wedi ysgrifennu at bob perchennog cerbydau o'r fath gyda'r ddarpariaeth hon, gan eu cynghori o'u bwriad i gynnwys eu cerbyd ar y rhestr ac nad oedd unrhyw apeliadau wedi'u cyflwyno.  . Ychwanegodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu bod yna ddarpariaeth yn y Ddeddf hefyd ar gyfer y rhai sy'n gyrru'r cerbydau dynodedig hyn, y cânt eu heithrio rhag y gofynion hyn yn y Ddeddf, er enghraifft os oes ganddynt gyflwr meddygol sy'n eu hatal rhag gwneud hynny.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod yr holl gerbydau hacni/gyrwyr hurio preifat wedi'u hysbysu o'r gofynion newydd hyn, ac y gallent ofyn am eithriad ar sail fel y nodir uchod, os oedd angen gwneud hynny.

 

Ychwanegodd wedyn, y byddai rhestr o gerbydau dynodedig yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor ar 1 Ebrill nesaf, ac yna'n cael ei diweddaru fel y bo'n briodol, yn fisol.

 

Daeth y Rheolwr Tîm - Trwyddedu â'r adroddiad i ben drwy atgoffa'r Aelodau eu bod hefyd wedi cael gwybod yn flaenorol am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 20.

21.

Adroddiad Diweddaru ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg.

 

Dywedodd ei bod wedi cynnal archwiliad o'r 11 safon sy'n weddill, ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, er mwyn i'r awdurdod allu cynnig dyddiadau cydymffurfio newydd i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

 

Ers i hwn gael ei gwblhau ym mis Chwefror, adroddodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu bod Swyddfa'r Comisiynydd bellach wedi cael gwybod y cydymffurfiwyd â dwy safon arall mewn perthynas â hyfforddiant. Cynhaliwyd cyfarfod wedi hynny hefyd gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth yn gynharach y mis hwn, i drafod safbwynt y Cyngor ar y 9 safon sy'n weddill. Ychwanegodd y byddai cyfarfod pellach mewn perthynas â'r rhain yn cael ei drefnu gyda'r Comisiynydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu bod hyn wedi digwydd diwethaf ar 5 Rhagfyr i drafod perfformiad y Cyngor yn erbyn y safonau, arferion, risgiau a heriau llwyddiannus, fel rhan o'u proses adolygu barhaus o awdurdodau lleol ledled Cymru.

 

Fel rhan o hyn, cynhaliwyd ymarfer siopwr dirgel hefyd rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017, a oedd hefyd yn cynnwys safonau nad oedd yn ofynnol i ni gydymffurfio â nhw ar y pryd. Roedd yr adran hon o'r adroddiad hefyd yn cynnwys rhai arsylwadau am y safonau yr oedd yr awdurdod yn cydymffurfio â nhw ar y pryd. Roedd y rhain ar ffurf adborth o ran galwadu ffôn, safle we’r Cyngor ac ychydig o faterion ‘Eraill’.

 

O ran materion mwy cyffredinol, cynghorodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod y staff yn parhau i dderbyn diweddariadau a nodiadau atgoffa rheolaidd drwy e-bost, a'u bod hefyd yn gallu cael mynediad at gyfres o hyfforddiant iaith Gymraeg.

 

Cysylltodd Swyddfa'r Comisiynydd â'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch eu derbyniad o'r hysbysiadau cydymffurfio, mewn perthynas â'u Cod Ymarfer drafft sy'n cyd-fynd â Safonau'r Gymraeg, er mwyn i ddehongliad Cod fod yn gyson ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd a phob awdurdod lleol. Byddai hyn yn galluogi awdurdodau lleol i fod yn glir ynghylch pob safon o ran yr hyn yr oedd y Comisiynydd yn disgwyl oddi wrthynt wrth gyflawni'r rhain yn llwyddiannus. Ychwanegodd y byddai pob cyngor ledled Cymru yn cael eu dal i gyfrif o ran y safonau gwahanol yr oedd yn rhaid i bob un ohonynt gydymffurfio â nhw.

 

Aeth y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu ymlaen i ddweud na dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol ers yr adroddiad diweddaru ym mis Gorffennaf 2017. Ychwanegodd fod gwaith yn dal i fynd rhagddo mewn perthynas â'r ymchwiliad i argaeledd gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Daeth â'i chyflwyniad i ben, drwy nodi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyffredinol yn cyfateb i'r dehongliad o Swyddfa'r Comisiynydd ar y Safonau, er bod mwy o waith yn ofynnol gennym ar gydymffurfiaeth lefel 4 sy'n ymwneud â safonau penodol.

 

Pan bydd yr ymgynghoriad wedi ei gwblhau'n llawn, cadarnhaodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y byddai'r rhain yn cael eu rhannu yn y lle  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 21.

22.

Adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/2017 pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad, a'i ddiben oedd  rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y gwaith a wnaed yn y cynllun cydraddoldeb strategol 2016-2020 am y cyfnod 2016-17, a'r adroddiad blynyddol cysylltiedig am 2016-17.

<0}

 

 

 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu rhywfaint o wybodaeth gefndirol, ac yn cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol 2016-17 sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn cwmpasu'r cyfnod 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017, a rhaid ei gyhoeddi/sicrhau ei fod ar gael erbyn 1 Ebrill 2018.

 

Yr amcanion cydraddoldeb strategol ar gyfer 2016-2020 yw

 

  • Cludiant
  • Meithrin perthnasau da a chodi ymwybyddiaeth
  • Ein rôl fel cyflogwr.
  • Iechyd meddwl
  • Plant
  • Hamdden, celfyddydau a diwylliant
  • Data

 

Cynghorodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod cynlluniau gweithredu yn cefnogi pob un o'r amcanion uchod.

 

Yna cyfeiriodd at baragraff 4.3 yr adroddiad, a oedd yn cynnwys rhai pwyntiau allweddol i'w nodi o'r adroddiad blynyddol, gan gynnwys rhai camau allweddol a gymerwyd, a rhoddodd grynodeb o'r rhain er budd y Pwyllgor.

 

Roedd Aelod yn falch o weld o'r adroddiad bod y Cyngor wedi parhau i nodi, cefnogi a chodi ymwybyddiaeth o Wythnos Faethu a Mabwysiadu LHDT, a gofynnodd faint o ddiddordeb oedd yn y maes hwn, h.y. faint o ymweliadau oedd ar y wefan ac ati.

 

Cadarnhaodd y rheolwr cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu y byddai'n gwneud gwaith ymchwil ar hyn, ac yn dychwelyd at yr Aelodau y tu allan i'r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd un o'r Aelodau at dudalen 32 yr adroddiad blynyddol, a dywedodd ei fod yn sicr ei bod yn ofynnol rhannu'r sefyllfa o ran gwybodaeth am nifer y gweithwyr yn y Cyngor, a'r dadansoddiad o'r rhain yn ôl rhyw a graddfa gyflog, gyda Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn gorff cyhoeddus.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y byddai angen iddi wirio'r pwynt hwn gyda'r Adran Adnoddau Dynol a Datblygu’r Gweithlu, ac unwaith eto ddod yn ôl at yr Aelodau fel rhan o adborth o'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:                Bod Pwyllgor y Cabinet yn nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud, ac yn cymeradwyo adroddiad blynyddol 2016/17 y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

23.

Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb – adroddiad adolygu blynyddol 2017/18 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a'i ddiben oedd darparu diweddariad blynyddol i'r Aelodau ar ofyniad y Cyngor i gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG), trosolwg o ymagwedd y Cyngor tuag at yr asesiadau, ac amlinelliad o'r AEG a gynhaliwyd yn ardaloedd gwasanaeth CBS Penybont-ar-Ogwr yn 2017/18.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, ac ar ôl hynny fe'i cynghorwyd fod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn declyn i asesu a allai polisïau/gwasanaethau/swyddogaethau newydd, presennol, neu rhai i'w dileu, cael effaith ar wahanol sectorau o gymdeithas mewn ffyrdd gwahanol.Mae ymgymryd ag AEGau yn cynorthwyo'r Cyngor hefyd i wneud penderfyniadau gwell; nodi sut y gallai gwasanaethau fod yn fwy hygyrch neu well, ac ystyried y nodweddion gwarchodedig yn ogystal â'r effaith ar y cynllun iaith Gymraeg a'r Safonau cysylltiedig.

 

Parhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb i gadarnhau bod y Safonau Iaith Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i CBS Penybont-ar-Ogwr ystyried:

 

·         • A allai penderfyniad sy'n gysylltiedig â pholisi gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg;

·         Trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal;

·         Dangos ffyrdd o gynyddu effeithiau positif, a

·         Sut i leihau’r effeithiau negyddol a nodir.

 

Cafodd y pecyn cymorth AEG ei ddiwygio a'i ddiweddaru ym mis Chwefror 2018, gan gynnwys y sgrinio AEG a ffurflenni asesu llawn.

 

Ychwanegodd y byddai'r gwaith o weinyddu'r prosesau AEG yn cael ei adolygu'n ddiweddarach yn 2018 gan y tîm cydraddoldeb, er mwyn cynorthwyo meysydd gwasanaeth wrth iddynt reoli'r broses.

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn cyfeirio at hyfforddiant AEG i staff drwy fodiwl e-ddysgu, a nifer y cyflogeion a nodwyd ar gyfer hyfforddiant yn y maes hwn, gan gynnwys nifer (a chanran) y rhai a gwblhaodd hyn.

 

Roedd paragraff 4.9 o'r adroddiad wedyn yn amlinellu hyfforddiant pellach a mwy trylwyr a oedd wedi cael ei ystyried ar gyfer datblygu, i gael ei gyflwyno gan hyfforddwyr allanol, sef ‘Red Shiny Apple’. Roedd rhai wedi manteisio ar yr hyfforddiant hwn yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth, ac roedd yr adborth gan y rhai a ymgymerodd â hyn wedi bod yn gadarnhaol. Roedd nifer y cyflogeion a oedd wedi'u hyfforddi hefyd wedi cynyddu o 17, sef y nifer a oedd wedi mynychu adeg ysgrifennu'r adroddiad, i gyfanswm cyfredol o 46. Roedd yr adran hon o'r adroddiad hefyd yn manylu ar yr amcanion y byddai cyfranogwyr yn eu cyflawni o ganlyniad i'r sesiwn hyfforddi uchod.

 

Yna, rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion am nifer yr AEGau llawn a oedd wedi'u cwblhau rhwng mis Chwefror 2017 a mis Ionawr 2018, a rhestrwyd y rhain yn Atodiad 1o’r adroddiad, ac roedd rhain wedi cyd-fynd ag adroddiadau swyddogion yn flaenorol i’w hystyried gan y Cabinet.

 

Yna amlinellodd Atodiad 2 nifer y sgrinio AEG a gynhaliwyd am yr un cyfnod, sef cyfanswm o 42.

 

Cwblhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ei hadroddiad, gan gynghori y byddai'r wybodaeth yn yr adroddiad yn helpu'n gadarnhaol i gyflawni dyletswyddau a dyheadau'r Cyngor o ran cydraddoldeb. 

 

PENDERFYNWYD:                  Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 23.

24.

Blaenraglen Waith 2018-2019. pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a oedd wedi'i atodi fel Atodiad 1 Blaenraglen Waith ddrafft sy'n rhoi manylion am eitemau a ddaw i gael eu hystyried yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Teimlodd un aelod y dylid ychwanegu eitem arall at y Blaenraglen Waith i'w ystyried mewn cyfarfod rhywbryd y flwyddyn nesaf, sef diweddariad ar Drais/Cam-drin yn y Cartref (i gynnwys trais/cam-drin yr henoed).

 

Cytunodd Aelodau a Swyddogion gyda’r cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD:                Bod yr adroddiad yn cael ei nodi, a'r Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer 2018/19 (yn cynnwys yr eitem ychwanegol uchod) yn cael ei chymeradwyo.      

25.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z