Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

27.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 104 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/03/2018

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Bod Cofnodion Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet dyddiedig yr 22ain o Fawrth 2018 yn gywir.            

28.

Adroddiad Diweddaru - Gwasanaethau Gofalwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Swyddog Datblygu Gofalwyr ddiweddariad ynghylch y datblygiadau o fewn y gwasanaethau i ofalwyr (gan gynnwys gofalwyr ifanc) yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod 17,919 o ofalwyr i’w cael yn ôl Cyfrifiad 2011. Fodd bynnag, dim ond rhwng 2,000 a 3,000 y gwyddai’r gwasanaethau amdanynt. Golyga hyn bod o leiaf 15,919 o ofalwyr na wyddai neb amdanynt yn y Fwrdeistref Sirol. Esboniodd y cynhaliwyd digwyddiad creu gweledigaeth ym Mhen-y-bont ym mis Medi 2017 ar gyfer rhanddeiliad. Roedd hwn yn gyfle i ofalwyr, cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol a darparwyr ddod at ei gilydd i ystyried y modd yr oedd gwasanaethau yn cael eu darparu a sut y dymunent i’r gwasanaethau hynny fod yn y dyfodol. Rhestrai’r adroddiad brif ganfyddiadau’r dydd. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y cynhaliwyd tri gweithdy ffocws yn sgil ymarfer mapio ymhlith rhanddeiliaid. Nod y gweithdai oedd helpu i gyd-gynhyrchu model gwasanaethau i ofalwyr. Ategodd fod targedu pobl benodol yn sicrhau cynrychiolaeth dda o blith pobl broffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol, darparwyr gofal, sefydliadau trydydd sector a gofalwyr sy’n gweithio’n ddi-dâl. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod cynlluniau ar droed i brynu “Gwasanaeth Lles i Ofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr” a fyddai’n darparu rhagor o Asesiadau Gofalwyr ac yn sicrhau mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth. Roedd gwaith sylweddol hefyd ar droed i sefydlu fframwaith seibiannau byrion hyblyg i ofalwyr.  

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at Fforwm Gofalwyr y bu’n bresennol ynddo’n ddiweddar, lle ystyriwyd ffyrdd o ddod i wybod am y gofalwyr hynny nad oedd oeddent yn hysbys i’r awdurdod. Roedd y negeseuon cychwynnol yn gadarnhaol iawn ac anogwyd yr Aelodau i roi gwybod i bobl am y gwasanaethau sydd ar gael.       

 

Holodd Aelod a fyddai’r un gefnogaeth ar gael ar ôl trosglwyddo i Gwm Taf. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y Cyngor wrthi’n creu cysylltiadau â Chwm Taf a chydag awdurdodau lleol eraill o ran y gefnogaeth fydd ar gael yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn hapus iawn bod gofal seibiant yn cael sylw. Yn ôl arolwg diweddar o ofalwyr, nid oedd 62% ohonynt wedi cael diwrnod o seibiant ers blynyddoedd. Y prif faen tramgwydd yn hyn o beth oedd bod pobl yn ei chael hi’n anodd ymddiried yn rhywun ac ildio’r awenau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y g?yr y Cyngor fod anghenion seibiant yn amrywio o un awr i wythnos gyfan. Dywedodd fod datrysiadau amrywiol i’w cael, e.e. cynnig pecynnau gwahanol i gyplau a theuluoedd ac ategodd na fyddai un datrysiad yn addas i bawb. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a ofynnwyd i ofalwyr am eu sylwadau yngl?n â gofal seibiant. Esboniodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr fod ymdrechion yn cael eu gwneud yn rheolaidd i ymgysylltu â gofalwyr a dywedodd y byddai’n bresennol yng nghyfarfod nesaf Fforwm Gofalwyr Pen-y-bont i ofyn beth oedd yn gweithio a beth nad oedd yn gweithio. Roedd gofalwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 28.

29.

Adroddiad Diweddaru - Gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diweddarodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg. Esboniodd fod y Cyngor yn parhau i wneud cynnydd tuag at weithredu’r 171 o Safonau a neilltuwyd iddo, a hynny ers i’r Cyngor gael y rhybudd cydymffurfio yn 2015. Cafwyd diweddariadau o ran cydymffurfio â’r Safonau ymhob un o gyfarfodydd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ers mis Ebrill 2016.

 

Amlinellodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y cynnydd allweddol a gafwyd o ran cydymffurfio â’r Safonau ers mis Mawrth 2018. Lluniwyd ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch cod ymddygiad drafft Comisiynydd y Gymraeg erbyn y dyddiad cau ym mis Ebrill 2018. Hyd yma, ni chafwyd dim diweddariad ynghylch y camau nesaf. Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu gefndir y ddwy g?yn a ddaeth i law yn 2018. Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar pam yr aed â’r cwynion yn syth at y Comisiynydd ac nid at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y byddai’n haws petai’r cwynion wedi dod yn syth at y Cyngor er mwyn cael cyfle i ddatrys y mater. Pan gysylltodd y Comisiynydd â’r unigolyn dan sylw, mae’n debygol y byddai wedi annog yr unigolyn i gysylltu â’r awdurdod ond byddai hynny’n dibynnu’n llwyr ar yr unigolyn.

 

Gofynnodd Aelod a allai’r Cyngor gysylltu ag awdurdodau eraill i holi a oedd system ar gael i bawb a allai ddarparu peth o’r wybodaeth dechnegol y gofynnir amdani. Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod hynny’n dibynnu ar natur yr ymholiad. Roedd ystadegau generig ar gael ond cafwyd ceisiadau hefyd am wybodaeth a oedd yn ymwneud yn benodol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, e.e. camau penodol a oedd yn ymwneud â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a gwybodaeth y byddai’n rhaid ei chasglu’n fewnol.

 

PENDERFYNIAD:    Nododd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yr adroddiad.

 

30.

Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2017/18 pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch cynnwys trydydd Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2017/18 y Cyngor a’r ffordd y lluniwyd yr adroddiad hwnnw.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2017/18 y Cyngor yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018 ac y’i cyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2018. Ategodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r modd y cydymffurfiodd y Cyngor â’r Safonau gofynnol yn ystod y cyfnod dan sylw. Esboniodd hefyd ei fod yn nodi’r cynnydd a gafwyd ynghyd â’r datblygiadau newydd o ran cydymffurfio â’r Safonau. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth benodol am nifer y cwynion a ddaeth i law, nifer y gweithwyr sydd wedi nodi fod ganddynt sgiliau Cymraeg, nifer y gweithwyr sy’n mynd ar gyrsiau hyfforddi a gynigir yn Gymraeg, nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebir lle bo sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol a diweddariadau ynghylch  Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, cyswllt â chwsmeriaid a gweithgareddau hyrwyddo.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod gan y Cyngor gronfa ddata ganolog sy’n cadw gwybodaeth am ddewis iaith ei ddinasyddion, ynghyd â phlatfform “Fy Nghyfri” a fyddai’n cael ei gynnwys yn y gronfa ddata ganolog am ddewis iaith y dinasyddion. Lansiwyd gwefan ddwyieithog newydd ym mis Mai 2018. Amlinellodd rai ffigurau a oedd yn dyddio’n ôl i fis Mawrth 2018 o ran sgiliau’r gweithlu a hyfforddiant a soniodd am lefel y galw am wasanaethau Cymraeg yn y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol at y 21 o swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn 2017/18 lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol a gofynnodd beth yn union oedd y swyddogaethau hyn. Nid oedd gan Reolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu yr wybodaeth wrth law ond cytunodd i anfon y manylion at yr Aelodau maes o law. Ategodd fod llai o bobl yn tueddu i ymgeisio am y swyddogaethau hyn a’u bod wedi cael trafferth llenwi’r swyddi hyn.

 

PENDERFYNIAD: Nododd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet gynnwys yr adroddiad ynghyd â’r Adroddiad Blynyddol am Safonau’r Gymraeg.

 

31.

Adroddiad Blynyddol ynghylch Cydraddoldeb yn y Gweithlu (2017/18) pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu adroddiad a roddai data i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yngl?n â gweithlu’r Cyngor fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018. Rhoddodd ddiweddariad hefyd am ddatblygiadau o ran cyflogaeth.

 

Esboniodd fod yr wybodaeth am y gweithlu yn seiliedig ar ddata a roddwyd gan weithwyr a bod yr wybodaeth honno’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig a’r gallu i siarad, darllen a/neu ysgrifennu Cymraeg. Esboniodd Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gael rhagor o wybodaeth o’r fath ac i sicrhau bod yr wybodaeth hon yn fwy cywir, ond ategodd nad oedd gorfodaeth ar weithwyr i ddarparu’r data hyn. Yn rhan o’r ymdrechion hyn, mae system hunanwasanaeth yn cael ei hyrwyddo sy’n galluogi gweithwyr i gael mynediad at eu manylion personol a'u diweddaru. Yn rhan o’r ymarfer hwn, byddai camau ychwanegol yn cael eu datblygu i gyrraedd rhagor o weithwyr.

 

Holodd Aelod pam nad oedd 53% o’r gweithwyr wedi datgan eu cyfeiriadedd rhywiol ar 31/03/2018 ac a oedd yr wybodaeth hon yn dweud pwy oedd y bobl hyn. Cadarnhaodd Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu nad oedd gwybodaeth am gydraddoldeb fyth yn cael eu hadrodd ochr yn ochr â gwybodaeth bersonol. Awgrymodd yr Aelodau dylai hyn roi sicrwydd i’r Swyddogion.

 

Trafododd yr Aelodau y categorïau cyfeiriadedd rhywiol a holwyd a ddylid ehangu’r categorïau. Esboniodd Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu mai’r rhain oedd y categorïau a bennwyd yn wreiddiol gan yr ONS a chan gyfarwyddyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel esiamplau o arfer dda.

 

Trafododd yr Aelodau fanteision cadw rhagor o wybodaeth am anableddau a chyfeiriadedd rhywiol yng ngoleuni’r perygl o allu adnabod unigolion drwy’r wybodaeth a gedwir amdanynt.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at broffil oedran y staff a’r ganran uchel o staff rhwng 45 a 60 oed, serch y swyddi a gollwyd oherwydd cyni ariannol. Esboniodd Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod y Cyngor yn parhau i fonitro’r proffil oedran mewn perthynas â thueddiadau eraill o ran y gweithlu. Roedd gan Gyngor Pen-y-bont weithlu cymhleth ond roedd nifer o straeon cadarnhaol i’w cael, megis y prentisiaethau gweinyddu busnes a ychwanegwyd at y proffil yn ddiweddar. 

 

Gofynnodd Aelod beth a wnaed yn wahanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i geisio cael pobl i ddatgan eu cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd. Esboniodd Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod ymdrechion ar droed i bwysleisio pwysigrwydd darparu’r wybodaeth a sut y’i defnyddid. Roeddent hefyd yn ystyried demograffeg a lle gellid gwneud newidiadau er mwyn annog pobl i gynnig sylwadau. Gofynnodd Aelod ai pobl â phroffiliau h?n oedd yn tueddu i beidio â datgan gwybodaeth. Dywedodd Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu y byddai’n ymchwilio i hyn yn y dyfodol ac y byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNIAD:  Nododd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yr adroddiad.

    

32.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Gweithredu sy’n deillio o Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 - 2020 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ddiweddariad ynghylch y cynnydd a gafwyd wrth wireddu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 yn ystod 2017/18. Esboniodd fod diwyg adroddiad eleni ychydig yn wahanol er mwyn i’r ddogfen fod yn fwy hylaw. Soniwyd am y cynnydd yn 2017/18 yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Amlinellodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb bwyntiau allweddol yr adroddiad o ran trafnidiaeth, meithrin cysylltiadau da a chodi ymwybyddiaeth, ein swyddogaeth fel cyflogwr, iechyd meddwl, hamdden, plant a data.

 

Gofynnodd Aelod a oedd datblygwyr newydd yn gyfrifol am y cyrbiau isel mewn datblygiadau newydd (fel amod ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio), a hynny fel nad oes rhaid i’r Cyngor dalu’r gost. Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai’n rhaid i bob datblygiad newydd fodloni gofynion newydd y Ddeddf Anableddau, ond byddai’n rhaid iddi wirio hynny a chadarnhau’r sefyllfa maes o law.

 

Gofynnodd Aelod a oedd darpariaeth ar gael i blant sydd â rhyw lefel o anabledd, megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, yng nghyd-destun teithio gan ddysgwyr. Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod ymgynghoriad ynghylch teithio gan ddysgwyr yn parhau. Cytunodd i ddod o hyd i wybodaeth am y ddarpariaeth i blant nad ydynt yn gallu cymudo i’r ysgol ar eu pen eu hunain, ac i rannu’r wybodaeth honno â’r Aelodau.

 

Holodd Aelod a oedd rhwymedigaeth ar gontractwyr i ddilyn y cynlluniau hyn a soniodd am g?yn am un o’r contractwyr a oedd yn ymwneud â chyfathrebu mewn ffordd sy’n gyfeillgar i bobl anabl. Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod gofyn i gontractwyr gydymffurfio yn rhan o’r broses gaffael. Gofynnodd Aelod arall a ellid gorfodi’r contractwr i fynd ar gyrsiau hyfforddi a oedd yn ymwneud â chydraddoldeb neu a oedd y cyrsiau hyn yn wirfoddol. Cytunodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb i wirio’r sefyllfa ac i adrodd yn ôl i’r Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod pa gamau a gymerwyd i roi rhagor o gefnogaeth i weithwyr a pha rwydweithiau sydd ar gael. Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai’n ymchwilio i’r hyn sydd eisoes ar gael a’r hyn y byddai’i eisiau ar staff yn y dyfodol.

 

Atgoffodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol yr Aelodau y byddai gan Gyngor Pen-y-bont, ynghyd â Chynghorau eraill yng Nghymru, stondin yn nigwyddiad PRIDE Cymru ac yr estynnwyd gwahoddiad iddynt gymryd rhan yn yr orymdaith, ar y cyd â swyddogion, ac i gynorthwyo ar y stondin Cynghorau Balch. Byddai rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael maes o law.   

 

PENDERFYNIAD:  Nododd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yr adroddiad.

33.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z