Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Cydraddoldeb - Dydd Llun, 19eg Tachwedd, 2018 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datganiadau o Gysylltiad

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

35.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 67 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/07/18

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb dyddiedig 16 Gorffennaf 2018, fel cofnod gwir a chywir.

36.

Ystyried Bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Mabwysiadu Diffiniad Llawn Gwrth-semitiaeth Fel y Cynigiwyd Gan Gynghrair Rhyngwladol Cofio’r Holocost (IHRA). pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn gofyn iddo ystyried mabwysiadu Diffiniad Llawn Gwrth-semitiaeth Fel y Cynigiwyd gan Gynghrair Rhyngwladol Cofio’r Holocost (IHRA). Mabwysiadwyd y diffiniad hwn yn llawn gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr a’r pedwar heddlu ar draws Cymru.

 

Bydd diffiniad IHRA yn helpu pob sefydliad a chorff yng Nghymru i ddeall a chydnabod gwrth-semitiaeth gyfoes. Bydd hyn o gymorth i sicrhau bod llai o gyflawnwyr yn cael llonydd i fod yn wrth-Semitaidd.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb yn ystyried y diffiniad gweithredol i’w fabwysiadu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

37.

Adroddiad Diweddaru ar Uno Fforwm Cydraddoldeb a Grŵp Cydlyniad Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr (Fforwm Cydlyniad Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr erbyn hyn) pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y diweddaraf ar gynnydd uniad Gr?p Fforwm Cydraddoldeb a Chydlyniad Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhoddodd resymau a nodau’r uniad i’r Pwyllgor. Roedd presenoldeb yn y ddau gr?p yn isel a chan fod rhai o’r un unigolion a grwpiau ynghlwm, penderfynwyd archwilio mantais uno’r ddau. Roedd y rhesymau eraill yn cynnwys rhannu cyfrifoldebau ymhlith llawer o’r mynychwyr, ystyried dull ar y cyd gyda Chydlyniad Cymunedol ac adolygiad pellach o Amodau Gorchwyl Fforwm Cydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod cyfarfod cwmpasu cychwynnol wedi’i gynnal ar 1 Chwefror 2018 a fynychwyd gan gynrychiolwyr y ddau gr?p. Cynhaliwyd y cydgyfarfod cyntaf ar 27 Ebrill 2018 lle cytunwyd y trefniadau Cadeirio ac Ysgrifenyddiaeth a’r Amodau Gorchwyl. Cynhaliwyd dau gyfarfod pellach ym mis Gorffennaf a Hydref 2018, gyda’r nod i bob cyfarfod gael prif agenda lle derbynnir cyflwyniad sy’n berthnasol i’r mynychwyr. Mae’r Gr?p wedi cael cyflwyniadau ar Ymgyrch Gwarchod (Operation Guardian) – Llinellau Sirol, ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a rôl a gwaith yr Ymddiriedolaeth Cefnogi Ieuenctid Ethnig. Mae presenoldeb yn y gr?p wedi cynyddu a chred y mynychwyr fod y cyfarfodydd yn fwy ystyrlon a boddhaus ac maen nhw’n credu hefyd iddynt elwa ers yr uniad. Bydd y cyfarfod nesaf yn trafod lles a bydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2019.

 

Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi darparu adroddiad a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Gr?p Cydlyniad Cymunedol a ddarparodd ffigurau troseddau casineb, y defnydd o’r ffigurau ar drais yn erbyn menywod a merched, stopio a chwilio a chwynion a godwyd yn erbyn yr heddlu ac ymddygiad yr heddlu.

 

Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor a wnaed y Cynghorau Tref a Chymuned yn ymwybodol o’r gr?p ac a oes modd iddynt fod ynghlwm.  

 

Credodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y dylai Cynghorau Tref a Chymuned fod yn ymwybodol o’r gr?p a byddai’n ysgrifennu atynt yn eu gwahodd i fynychu ac yn sicrhau bod adroddiadau a chofnodion ar gael iddynt er mwyn gweld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn mynychu. Credai y byddai o fantais cyrraedd cynifer o sefydliadau â phosibl.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor a ellid gwahodd BAVO, grwpiau Cyfeillgar i Ddementia a Iaith Gymraeg i’r gr?p er mwyn i’r gr?p allu cael cyrhaeddiad mwy o faint. Datganodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod angen annog aelodaeth mor eang â phosibl i fod ynghlwm â’r gr?p. Mae BAVO eisoes wedi cytuno i fynychu cyfarfodydd y dyfodol.   

 

Gofynnodd Aelod a osodwyd unrhyw dargedau am bresenoldeb ar gyfer y gr?p newydd ei uno. Datganodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb nad oes targed penodol ar gyfer y niferoedd sy’n bresennol ond roedd angen sicrhau bod gan y gr?p bresenoldeb eang.

Gofynnodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb i’r Pwyllgor a oedd ganddo ddull roedd yn ei ffafrio o dderbyn cyfathrebiadau gan y gr?p. Gofynnodd yr Aelodau am gael adroddiad blynyddol y gr?p oherwydd dyna fyddai’r ffordd fwyaf llawn gwybodaeth a manteisiol o gael gwybodaeth.

 

Gofynnodd Aelod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 37.

38.

Adroddiad Diweddaru Ar Weithredu Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Diweddarodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu’r Pwyllgor ar weithrediad Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg.

 

Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth hefyd am grynodeb o’r penderfyniadau terfynol.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu wybod i’r Pwyllgor nad yw’r awdurdod bellach yn cael ei herio mewn perthynas â’r Safonau gan fod llawer ohonynt wedi’u diwallu. Rhoddwyd estyniad i safon rhif 52 a 60 hefyd.

 

Gofynnodd Aelod a gafwyd unrhyw ddiweddariadau ar y cwynion a godwyd yn y cyfarfod blaenorol, a pham y mae rhai cwynion wedi cymryd amser i’w datrys.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu na fu unrhyw ddatblygiadau gan eu bod nhw’n parhau. Y rheswm y mae rhai wedi cymryd mwy o amser i’w datrys yw oherwydd maen nhw wedi’u trosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg. Dywedodd petai’r cwynion hyn wedi dod yn syth i CBSP, bydden nhw wedi’u datrys yn hawdd o fewn cyfnod byrrach gan fod rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg fynd trwy broses ymchwiliadol hwy.

 

Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor a oedd modd dynodi pwy yn y dderbynfa oedd yn medru’r Gymraeg.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod modd dynodi staff sy’n medru’r Gymraeg trwy fathodyn sydd ynghlwm â chortynnau gwddf y staff.

 

Gofynnodd Aelod beth yw’r broses os cefnogir cwyn am beidio â gweithredu’r Gymraeg.  

 

Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu ei fod yn dibynnu ar natur y g?yn. Fel rheol, os nad oedd yn ddifrifol, bydd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi gwybod i CBSP fod rhywbeth o’i le ac yn gofyn i’r Cyngor ei newid. Os ydy’r g?yn yn fwy difrifol, yna gallai’r Comisiynydd gyhoeddi dirwy. Gallent ofyn am roi cynllun gweithredu at ei gilydd i sicrhau nad yw’r un broblem yn digwydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi’r adroddiad.

39.

Strategaeth y Gymraeg: Adroddiad Diweddaru Blynyddol pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diweddarodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y Pwyllgor ar y gwaith a wnaed i fodloni Strategaeth Gymraeg Pum Mlynedd 2016-2021, sydd yn ei hail flwyddyn ers iddi gael ei chyflwyno.

 

Esboniodd y bydd y cynllun yn llunio adroddiad blynyddol sy’n gwerthuso popeth a newidiwyd neu a roddwyd ar waith bob blwyddyn.

 

Ar ddiwedd y 5 mlynedd, bydd y Cyngor wedyn:

  • yn asesu i ba raddau y mae wedi dilyn y strategaeth ac wedi cyrraedd y targed;

 

yn cyhoeddi asesiad ar ei wefan, sy’n cynnwys:

  • nifer y siaradwyr Cymraeg yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac oedrannau’r siaradwyr hynny;
  • rhestr o weithgareddau a drefnwyd neu a ariannwyd yn ystod y pum mlynedd er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg

 

Esboniodd fod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer eleni wedi’i gymeradwyo ym mis Gorffennaf a bydd yn cael ei gyhoeddi gyda’r diwygiadau’n fuan. Caeodd y Siop Siarad yn ddiweddar a bydd yn cael ei thynnu oddi ar y wefan dysgu a datblygu.

 

Codwyd ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn y gweithle gyda dau fodiwl e-ddysgu newydd a chynhelir gweithdai cwrdd a chyfarch ar gyfer staff. Cynigir rhaglen hyfforddiant y Gymraeg i weithwyr ar 3 lefel. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gydag YGG Llangynwyd ar recriwtio prentisiaid oedd yn medru’r Gymraeg. Roedd hon yn broses gadarnhaol gyda 2 swydd Cymraeg yn hanfodol newydd yn cael eu llenwi. Mae bellach gyfanswm o 6 phrentis sy’n medru’r Gymraeg yn CBSP.

 

Esboniodd fod y cais Grant Cyfalaf cyfrwng Cymraeg o £2.6m wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru’n ddiweddar a bydd yn ymestyn dros bedair ysgol gynradd ym Metws, Cwm Ogwr, Porthcawl a Thref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd hefyd y bu dirywiad bach yn nifer y myfyrwyr Cynradd i Uwchradd mewn Ysgolion Cymraeg. Bwriadwyd edrych ar y rhesymau y tu cefn i hyn ac annog rhieni i annog eu plant i barhau gydag addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Crybwyllodd Aelod o’r Pwyllgor ei fod yn deall pam y gallai cynifer o blant gael eu hatal rhag parhau i’r ysgol uwchradd oherwydd bod y cynnydd yn yr anhawster dysgu yn eithaf arwyddocaol a dylai’r awdurdod annog rhieni a sicrhau bod eu plant yn cael yr holl gefnogaeth y mae arnynt ei hangen.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu eu bod yn bwriadu gwneud hynny hefyd, yn ogystal ag annog myfyrwyr i’r 6ed dosbarth gan fod swm y disgyblion wedi cynyddu ar gyfer Cymraeg mamiaith yn ogystal ag ail iaith.

 

Gofynnodd Aelod a allem gysylltu gydag ysgolion a cholegau i sicrhau nad yw prentisiaid sy’n medru’r Gymraeg yn cael eu gofyn i gyflawni cyfieithiadau ysgrifenedig. Datganodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu bod fframwaith ar waith i sicrhau y dylai unrhyw gyfieithiad ffurfiol fynd at gyfieithydd allanol gyda chymwysterau ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi’r adroddiad.

40.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim