Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Cydraddoldeb - Dydd Mawrth, 26ain Mawrth, 2019 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyng. P White, Cyng. C Smith, Mark Shephard

42.

Datganiadau o Fudd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008

Cofnodion:

Gwnaed y Datganiadau canlynol:

Datganodd y Cyng. D Patel fudd personol yn Eitem 5 – Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ei bod hi’n ymddiriedolwraig o Mental Health Matters Wales.

 

Datganodd y Cyng. R Young fudd personol yn Eitem 5 – Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ei fod yn Gadeirydd ar Mental Health Matters Wales.

43.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 74 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19 11 18

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod 19 Tachwedd 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

44.

Cam-drin Domestig – Diweddariad ar Bobl Hŷn a Thramgwyddwyr pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth adroddiad a roddodd ddiweddariad i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch cam-drin domestig a phobl h?n; a’r ymyrraeth tramgwyddwr (Dewisiadau) ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd waith Ystafell Assia, a ddangosodd iddynt gefnogi cyfanswm o 973 o fenywod a 153 o wrywod a oedd wedi dioddef camdriniaeth yn 2017-18. Datganodd na fyddai unrhyw ddioddefwyr heb dramgwyddwyr a chydnabuwyd ar raddfa leol a chenedlaethol fod rhaglen ymyrraeth yn hollbwysig er mwyn diogelu a chynorthwyo dioddefwyr.

 

Ailadroddodd Aelod bwysigrwydd Ystafell Assia a’r gwaith maen nhw wedi’i wneud. Gofynnodd am eglurhad mewn perthynas â dioddefwyr clefyd Alzheimer a gofynnwyd beth oedd yn cael ei ystyried yn berthynas gydsyniol a sut roedd hyn yn cael ei fonitro.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Calan DVS nad oeddent yn si?r o ran yr ystadegau’n ymwneud â hyn gan nad oedd yn cael ei fonitro ar y pryd ond gallai newid wrth i dueddiadau ddigwydd. Datganodd hefyd efallai bod gan Fywydau Diogelach ragor o wybodaeth a byddai’n hapus i gysylltu â nhw a darparu unrhyw wybodaeth mewn perthynas â hyn.

 

Gofynnodd Aelod a oedd ganddynt ystadegau ar berthnasoedd LGBT yn ogystal â pherthnasoedd yn cynnwys gwahanol ryweddau.

 

Dywedodd y cynrychiolydd o Calan DVS fod ganddynt rywfaint o ddata mewn perthynas â hyn a byddai’n hapus i ddarparu’r hyn oedd ganddynt.

 

Gofynnodd Aelod i ba raddau yr oedd dementia yn broblem ac a oedd hyn yn newid y dull a gymerir i ddelio â dioddefwyr.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth nad oedd hi bob amser yn sefyllfa syml mewn perthynas â dioddefwyr Dementia a chlefyd Alzheimer. Rhoddodd enghraifft o sefyllfa lle’r oedd gwraig yn cam-drin ei g?r, o ymchwilio ymhellach, darganfyddon nhw mai’r wraig oedd yn cael ei cham-drin. Newidiodd hyn y ffordd yr oedd rhaid iddynt ddelio â’r sefyllfa.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch â’r gwerthusiad o’r prosiect ac roedd hi wedi’i chalonogi y byddai 100% o’r goroeswyr yn argymell y prosiect. Credodd fod hyn yn dangos yr effaith yr oedd y prosiect yn ei gael ar bobl a sut roedd hyn yn helpu i gadw pobl yn fwy diogel. Roedd yn falch o glywed bod y tramgwyddwyr yn gweld effaith y prosiect a’r effaith yr oedd yn ei gael ar eu plant eu hunain.

 

Gofynnodd Aelod sut roedd y prosiect yn cael ei fonitro ac a oedd yn rymus ym mhob maes, yn enwedig plant a dioddefwyr.

 

Calonogodd cynrychiolydd Calan DVS yr Aelodau fod y prosiect yn cael ei fonitro’n gyson er mwyn sicrhau yr edrychir ar bob agwedd ac roedd yn cael ei ddiwygio neu ddiweddaru yn ôl yr angen. Rhoddodd wybod i’r Aelodau fod gwerthusiad yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd, a oedd yn cynnwys myfyriwr Meistr yn cyflawni dadansoddiad llawn fel rhan o’u cwrs Prifysgol.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar adran 3.8 yr adroddiad a oedd yn datgan mai ‘aelod o’r teulu sy’n oedolyn’ yw’r prif dramgwyddwr. Gofynnodd os nad aelod o’r teulu sy’n oedolyn oedd y tramgwyddwr, pwy arall fyddai.

 

Esboniodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 44.

45.

Y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 358 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion adroddiad a ddarparodd wybodaeth i’r Pwyllgor am ystod y gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Esboniodd i Aelodau’r boblogaeth o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chymru a chanddynt broblemau iechyd meddwl a darparodd ystadegau. Esboniodd yng Nghymru, bydd 1 o bob 4 oedolyn yn cael profiad o ryw fath o broblem iechyd neu salwch meddwl yn ystod eu hoes a bydd gan 2 o bob 100 o bobl salwch meddwl difrifol fel Sgitsoffrenia neu Anhwylder Deubegwn.

 

Esboniodd hefyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod asesiad o’r boblogaeth wedi dynodi y bydd cynnydd ym mynychter dementia. Rhagwelir y bydd y boblogaeth o oedolion h?n 65+ yn cynyddu gan 48% erbyn 2030.

 

Esboniodd y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl oedolion a’r model cyfredol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Caiff cydrannau allweddol y model cyfredol eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau am y Gwasanaeth Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd fod y gweithwyr hyn yn weithwyr proffesiynol wedi’u cymeradwyo gan yr awdurdod lleol i gyflawni rhai dyletswyddau dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau hefyd am yr adolygiad o dîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl lle’r oeddent yn anelu at ddefnyddio adnoddau’n well i ganolbwyntio ar faterion allweddol fel darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth, atal ac ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth. Rhoddodd wybod hefyd fod y cynnig hwn yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ardal ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Pen-y-bont ar Ogwr wybod i’r Aelodau am Ddarpariaeth yr Awdurdod Lleol i gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl. Esboniodd fod yr awdurdod lleol yn cyflogi saith cynghorydd yn yr ysgol, dau gynghorydd cymunedol a therapydd chwarae, a phob un ohonynt wedi’u cofrestru gyda Chymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP). Esboniodd fod yna isafswm safon y mae’n rhaid ei chyflawni i fod yn gymwys a bod yna isafswm lefelau goruchwylio a gofynion datblygu proffesiynol parhaus er mwyn cynnal cofrestriad.

 

Esboniodd fod yr hyfforddiant o fewn cyrraedd y swyddogion, a oedd yn cynnwys ystod eang o sefydliadau. Rhoddodd wybod fod hyfforddiant pellach wedi’i gyflwyno ar raddfa ehangach hefyd pan oedd cyllid grant ar gael. Rhoddodd esiampl hyfforddiant Thrive, a ddarparodd y ddealltwriaeth sgiliau i aelodau staff ysgol allweddol i reoli datblygiad emosiynol plant a phlant agored i niwed oedd yn dangos ymddygiad aflonyddgar/cythryblus.

 

Rhoddodd y Cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ddiweddariad i Aelodau ar CAMHS a’r perfformiad a chyfeiriad strategol. Esboniodd ym mis Ionawr 2018, gwelodd ostyngiad sylweddol mewn amserau aros a pharhaodd y duedd hon am bum mis. Fodd bynnag, ym mis Mai, dechreuodd y perfformiad ostwng, a oedd yn gysylltiedig â staff yn gadael a’r oedi oedd yn gysylltiedig â hysbysebu a llenwi’r swyddi hyn. Rhoddodd sylwadau ar y newid ffin parhaus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a dywedodd eu bod nhw’n edrych i integreiddio’r timau llai o faint yn llai o dimau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 45.

46.

Adroddiad Diweddaru ar Weithrediad Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn diweddaru Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar weithrediad Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg.

 

Esboniodd er mis Awst 2018, bod gwaith wedi parhau ar fodloni safonau perthnasol a diweddaru dogfennaeth. Roedd cynllun gweithredu drafft yn cael ei ddatblygu i gynnwys unrhyw waith oedd yn weddill, yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw faterion a gododd o weithdai arfer gorau Comisiynydd y Gymraeg ar ddiwedd 2018. Cynghorodd y byddai cynllun gweithredu’n cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019.

 

Esboniodd tra’r oedd hi yng ngweithdy arfer gorau Comisiynydd y Gymraeg ym mis Rhagfyr, cododd sawl cyngor faterion o ran beth nad oedd yn gweithio’n dda iddynt a bu hyn yn sesiwn llawn gwybodaeth iddi. Nodwyd hefyd fod angen i’r holl gynghorau weithio ar eu strategaeth 5 mlynedd, y mesuriadau a’r datblygiad ohoni yn ogystal â’r safonau creu polisïau. Esboniodd fod swyddogion yn edrych i gryfhau’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn ogystal ag ailsefydlu cyfarfodydd chwarterol o Fwrdd yr Iaith Gymraeg mewnol gyda’r cyfarfod cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer 30 Ebrill.

 

Darparodd ddiweddariad i’r Aelodau ar y cwynion ffurfiol a dderbyniodd / ymdriniodd â nhw ers y cyfarfod diwethaf. Mae’r Cyngor wedi derbyn tair cwyn newydd ers y cyfarfod diwethaf. O’r tair cwyn flaenorol, mae un ohonynt yn mynd rhagddi gydag un wedi dod i’w chasgliad. Mae’r drydedd g?yn yn cael ei chynnal yn erbyn y cyngor ac mae dyddiad cau o chwe mis i weithredu a chyfleu cynllun gweithredu i liniaru rhag i hyn ddigwydd eto.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y cyngor wedi gwneud trefniadau ar gyfer cyfieithu ar y pryd.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod gan yr holl staff fynediad i ddarpariaeth cyfieithu ar y pryd, er enghraifft ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. Esboniodd mewn perthynas ag un o’r cwynion, trefnwyd rhan o’r digwyddiad gan y cyngor a rhan gan yr ysgol. Efallai bod hyn wedi achosi cam-gyfathrebu ac felly wedi arwain at y camgymeriad. Byddai’r Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu’n darparu manylion i’r Pwyllgor o amgylch y g?yn yn ymwneud ag arwydd ar y ffordd.  

 

Atebodd yr Aelod y byddai’n haws cael y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un ddogfen a dylai fod gweithdrefn rhestr wirio i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei rhoi ar waith yn gywir.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y gellid ei wneud ar gyfer y dogfennau llai o faint ac roedd hyn yn cael ei wneud yn aml. Fodd bynnag, gyda’r dogfennau mwy o faint, aeth yn heriol oherwydd eu maint. Esboniodd o ran y rhestr wirio, bod un ar gael i aelodau staff ei defnyddio yn y pecyn cymorth ymgynghori a ddarperir ar-lein.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad.

47.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2017/2018 pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a roddodd ddiweddariad i’r Aelodau ar y gwaith a gwblhawyd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2016-2020 ar gyfer y cyfnod 2017 i 2018.

 

Esboniodd fod adroddiad blynyddol y CCS yn galluogi’r cyngor i gyflawni tasgau allweddol fel:

 

  • Monitro ac adolygu cynnydd yn erbyn ei amcanion cydraddoldeb strategol;
  • adolygu ei amcanion a phrosesau yng ngoleuni unrhyw ddeddfwriaeth newydd a datblygiadau newydd eraill;
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud ag amcanion cydraddoldeb, gan ddarparu tryloywder;
  • cynnwys diweddariadau perthnasol ar asesiadau o effaith ar gydraddoldeb, trefniadau caffael a hyfforddiant.

 

Yn ogystal, gosododd adroddiad CCS:

 

  • Y camau a gymerwyd i ddynodi a chasglu gwybodaeth berthnasol.
  • Unrhyw resymau am beidio â chasglu gwybodaeth berthnasol;
  • Lle bo’n briodol, gwybodaeth am gyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am hyfforddiant a chyflog.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu wybod i’r Aelodau am wall yn yr ystadegau ar dudalen 10 yr adroddiad a dywedodd y dylai nifer yr ymgeiswyr gwrywaidd fod yn 1032, ac nid 2554 fel sydd ar y rhestr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd fod y diffiniad ar wrth-Semitiaeth a fabwysiadwyd llynedd yn cael ei ychwanegu at yr adroddiad. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y byddai’n ychwanegu hyn at y CSS nesaf a chynllun gweithredu sy’n cwmpasu cyfnod perthnasol 18/19.  

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cyfleuster lleoedd newid newydd yn yr orsaf drenau a’i fod ar agor i holl aelodau’r cyhoedd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i’r cyfleuster lleoedd newid gael ei hysbysebu’n fwy er mwyn i’r cyhoedd fod yn ymwybodol ohono.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi nodi’r cynnydd a wnaed ac wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2017/18.

 

48.

Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb – Adolygiad Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a roddodd ddiweddariad blynyddol i’r Aelodau ar ofyniad y Cyngor i ymgymryd ag Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, trosolwg o ddull y cyngor o droi at Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb ac amlinelliad o’r asesiadau a gynhaliwyd ym meysydd gwasanaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSC) yn 2018/19.

 

Esboniodd fod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi dyletswydd gyffredinol fod angen i CBSP roi ystyriaeth ddyledus yn ei brosesu gwneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau ariannol) i dri ffactor:

 

·                Dileu gwahaniaethu, aflonyddwch ac erledigaeth anghyfreithlon.

·                Hyrwyddo cyfle cyfartal a;

·       Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt.

 

Esboniodd fod hyfforddiant Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ar gael i weithwyr sy’n darparu trosolwg o’u Hasesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, eu rôl wrth wella gwasanaethau ac arweiniad i’w cynnal.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau am y gronfa ddata well a oedd yn cadw golwg ar yr Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb a gwblhawyd. Byddai hyn yn darparu dull canolog o droi at y wybodaeth ac roedd yn gobeithio y byddai’r meysydd gwasanaeth yn bwydo i mewn i hyn, yna gellid defnyddio’r wybodaeth i wella ymhellach yr Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb.

 

Awgrymodd yr Arweinydd er bod yr Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb yn aml yn dweud dim effaith negyddol, byddai o fantais pe bydden nhw’n dangos yr effeithiau cadarnhaol. Dywedodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu y gellid edrych i hyn i’r dyfodol wrth i fwy o welliannau gael eu gwneud.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu wybod i’r Aelodau am ddiweddariad ar yr Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb a gynhaliwyd yn 2017/18. Esboniodd rhwng Chwefror 2018 a Ionawr 2019, bod chwe Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb llawn wedi’u gwneud a’u bod yn cydfynd ag adroddiadau’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gwblhau’r Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, y cynnydd a wnaed gyda hyfforddiant a’r adolygiad o’r prosesau gweinyddu i gefnogi meysydd gwasanaeth.

49.

Blaenraglen Waith 2019 - 2020 pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a geisiodd am gymeradwyaeth Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet am Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer 2019-2020.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y cynnig am eitemau busnes rheolaidd a materion cydraddoldeb allweddol fyddai’n cael eu hystyried.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau fod adroddiad yr Arolwg Staff newydd ei gynnal wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf, lle bydd aelod o staff Adnoddau Dynol yn bresennol.

 

Esboniodd fod yr atodlen ar gyfer yr adroddiad Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb bellach wedi newid a bydd bellach yn unol â’r flwyddyn ariannol. Rhoddodd wybod fod yr adroddiad Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb nesaf wedi’i drefnu ar gyfer Gorffennaf 2020 yn hytrach na Mawrth 2020.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau os oedd unrhyw eitemau pellach yr hoffen nhw eu gweld ar y Blaenraglen Waith dros y flwyddyn ariannol nesaf i roi gwybod iddi unrhyw bryd er mwyn gallu edrych arno a’i hamserlennu.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn cymeradwyo Blaenraglen Waith arfaethedig 2019-20.

50.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim