Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth yr Aelodau canlynol:-
Y Cynghorydd SE Baldwin Y Cynghorydd J Gebbie Y Cynghorydd KL Rowlands Y Cynghorydd E Venables Y Cynghorydd SR Vidal Y Cynghorydd PJ White |
|
Datgan Buddiannau
Derbyndatganiadau o ddiddordebpersonol a rhagfarnol (os o gwbl) ganAelodau / Swyddogionynunol â darpariaethau'r Cod YmddygiadAelodau a fabwysiadwydgan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Cafwyd datganiad o fuddiant personol yn eitem 6 yr Agenda gan y Cynghorydd RE Young fel Cadeirydd Mental Health Matters Wales.
Cafwyd datganiad o fuddiant personol yn eitem 6 yr Agenda gan y Cynghorydd D Patel fel Ymddiriedolwr Mental Health Matters Wales. |
|
Adroddiad diweddaru ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg.
Fel cefndir, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, ers i’r cyngor dderbyn ei hysbysiad cydymffurfio yn 2015, fod cynnydd tuag at weithredu’r 171 o safonau a aseiniwyd wedi parhau.
Fe atgoffodd hi Bwyllgor y Cabinet fod diweddariadau ar gydymffurfiaeth wedi’u darparu’n flaenorol yn rheolaidd i’r Aelodau.
Roedd paragraff 4.1 yr adroddiad yn amlinellu cynnydd/diweddariadau allweddol o ran cydymffurfio ers mis Mawrth 2019 mewn fformat cryno, tra bod paragraff 4.2 yn rhoi manylion nodau ac amcanion Cynllun Gweithredu’r Gymraeg a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb grynodeb o’r ddau beth hyn er budd yr Aelodau.
Cyfeiriodd Aelod at adran 2 paragraff 4.1 a sefydlu Bwrdd Strategaeth y Gymraeg, sy’n cyfarfod bob chwarter i ddatblygu arferion a monitro cydymffurfiad. Gofynnodd p’un ai oedd unrhyw siaradwyr Cymraeg ar y corff hwn.
Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, cyn belled ag yr oedd yn ymwybodol, nad oedd unrhyw rai, ond y byddai’n gwirio hyn ac yn dod yn ôl at yr Aelod yn unol â hynny. Ychwanegodd y dylai Hyrwyddwr Cydraddoldeb yr Awdurdod (Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet) fod yn aelod o’r Bwrdd hefyd.
PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi derbyn, ystyried a nodi’r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2018/19 PDF 81 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i’r Aelodau, er mwyn hysbysu Pwyllgor y Cabinet am y cynnwys a’r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer pedwerydd Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg y cyngor ar gyfer 2018/19.
Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb bod Safonau’r Gymraeg yn rhoi hawliau gwell, y gellir eu gorfodi, i siaradwyr Cymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg. Derbyniodd y cyngor ei hysbysiad cydymffurfio terfynol ar 30 Medi 2015, a oedd yn amlinellu 171 o safonau y mae’n ofynnol i’r cyngor gydymffurfio â nhw.
Ychwanegodd fod Safonau rhifau 158, 164 a 170 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio a chyhoeddi adroddiad Blynyddol, yn Gymraeg, erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn.
Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod adroddiad blynyddol Safonau’r Gymraeg 2018/19 y cyngor yn cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 ac fe’i cyhoeddwyd, fel sy’n ofynnol, erbyn 30 Mehefin 2019. Atodwyd yr adroddiad fel atodiad 1 i’r prif adroddiad.
Amlinellodd yr adroddiad y ffordd y mae’r cyngor wedi cydymffurfio â’r safonau o dan ddyletswydd i gydymffurfio yn ystod y cyfnod, a hefyd mae’n dogfennu unrhyw gynnydd a datblygiadau newydd o ran ein cydymffurfiad.
Aeth ymlaen gan nodi, fel rhan o’r adroddiad blynyddol, bod dyletswydd ar y cyngor i adrodd yn benodol ar y wybodaeth a ddangosir ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.
Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ymhellach, nad yw’r safonau sy’n ymwneud â chyhoeddi adroddiad blynyddol yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad gael ei gymeradwyo gan y cyngor neu Gomisiynydd y Gymraeg cyn ei gyhoeddi, fel y bu’n ofynnol yn flaenorol o dan y Cynllun Iaith Gymraeg.
Gofynnodd Aelod pam roedd cyrsiau hyfforddiant gweithwyr (h.y. modelau e-ddysgu) wedi’u cwblhau yn Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod gweithwyr yn gallu cwblhau modiwlau e-ddysgu yn Gymraeg pe byddent yn dymuno gwneud hynny, ond yn 2018/19, cafodd pob un ei gwblhau yn Saesneg.
Cyfeiriodd Aelod at 2.2 yn yr Atodiad, pwynt bwled 7, a gofynnodd pwy oedd yn penderfynu p’un ai oedd yn briodol i gynnal cyfarfodydd yn Gymraeg, ac a oedd y cyfarfodydd hyn yn gyfarfodydd Pwyllgor ffurfiol neu a oedd hyn yn ymestyn hefyd i gyrff a Gweithgorau eraill.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyngor yn gofyn am rybudd ymlaen llaw gan aelod o’r cyhoedd, os oeddent yn gofyn i drafodion a thrafodaeth Pwyllgor ffurfiol gael eu cynnal yn Gymraeg. Roedd yr un peth yn wir hefyd o ran gweddarlledu cyfarfodydd. Fodd bynnag, cynhaliwyd cyfarfodydd mewnol, lle nad oedd cofnodion neu nodiadau’r cyrff hyn ar gael i’r cyhoedd trwy wefan y Cyngor, yn Saesneg gan nad oedd Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i’r cyfarfodydd/gweithgorau mwy mewnol ac ati.
Yn yr un modd, roedd yn rhaid i’r Cyngor roi rhybudd os oedd bwriad i gynnal cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor yn Gymraeg.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 24 yr Atodiad i’r adroddiad, lle nodwyd fod 10 swydd newydd/wag wedi’u hysbysebu yn ystod 2018/19, lle nodwyd yn benodol yn yr hysbyseb swydd fod sgiliau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 54. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a wnaed wrth gyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 yn ystod 2018/19. Hwn oedd y trydydd adolygiad blynyddol o’r fath ar gyfer y cynllun.
Roedd y cefndir i’r adroddiad yn cadarnhau, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, fod Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor (2016-2020) wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet ar 15 Mawrth 2016.
Ers hynny, mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi datblygu gyda chefnogaeth Cynllun Gweithredu, er mwyn cynorthwyo â chyflawni 7 amcan yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol dros y cyfnod o 4 blynedd.
Bellach, roedd y Cynllun Gweithredu terfynol yn ddogfen fyw, ac roedd yn cynnwys 47 o gamau gweithredu, a chymeradwywyd hyn gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ym mis Gorffennaf 2016. Roedd y Cynllun Gweithredu wedi’i atodi i’r adroddiad.
Cofnodwyd cynnydd ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1. Pwyntiau allweddol i’w nodi oedd y rhai a amlinellwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, a oedd yn ymwneud â’r canlynol:
Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb grynodeb o bob un o adrannau uchod yr adroddiad, er budd yr Aelodau.
Nododd Aelod, o’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol, fod 69 sesiwn Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb wedi’u cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol, a gofynnodd ym mha leoedd y cynhaliwyd y rhain.
Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb nad oedd yn ymwybodol ar hyn o bryd ym mhle y cafodd pob un o’r rhain eu cynnal, ond y gallai ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn a’i chyfleu i’r Aelod y tu allan i’r cyfarfod.
Teimlai’r Aelod y dylid cynnal y sesiynau ymwybyddiaeth hyn yn ardaloedd y cymoedd yn ogystal ag ardaloedd eraill yn y Fwrdeistref Sirol ac yn y 4 tref.
Cyfeiriodd Aelod at y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a nododd fod oedolion ag Awtistiaeth wedi’u cynnwys fel rhan o gr?p anabledd ehangach. Teimlai y dylai’r gr?p hwn fod â Pholisi/fod mewn Strategaeth eu hunain.
Nododd hefyd o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol fod y cyngor wedi recriwtio prentisiaid sy’n siarad Cymraeg. Teimlai y dylid ystyried Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant a fu’n Derbyn Gofal yn flaenorol ar gyfer prentisiaethau.
Yn olaf, teimlai y byddai’n ddefnyddiol pe bai staff Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael hyfforddiant ar sut i ymdrin â chwsmeriaid ag anghenion arbennig.
Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y gellid ystyried y pwynt cyntaf a wnaeth yr Aelod fel cam gweithredu o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wrth symud ymlaen.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod Gweithgor Prentisiaeth yn bodoli i gefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal â chyfleoedd prentisiaeth a phrofiad gwaith.
O ran y trydydd pwynt, cadarnhaodd fod gan bob Cyfarwyddiaeth ei dyraniad cyllideb ei hun ar gyfer rhai mentrau hyfforddiant staff, yn enwedig staff sy’n wynebu’r cyhoedd, fel Gwasanaethau Cwsmeriaid.
PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi derbyn, ystyried a nodi’r adroddiad a’r Atodiad cysylltiedig.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi diweddariad ar y camau a gymerwyd a’r rhai a gynlluniwyd mewn perthynas â llesiant staff, yn dilyn canfyddiadau’r arolwg staff a gynhaliwyd ym mis Medi 2018.
Amlinellwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir yn yr adroddiad, a chadarnhawyd, yn ystod 2018/19, y collwyd 11.79 o ddiwrnodau oherwydd absenoldeb salwch fesul gweithiwr cyfwerth ag amser llawn, gydag absenoldebau yn ymwneud â straen/gorbryder/iselder/iechyd meddwl yn cyfrif am 30.8% o’r holl ddyddiau a gollwyd.
Cyfeiriwyd at yr arolwg staff a gynhaliwyd, a nodwyd ystod o ffactorau yn ymwneud â boddhad swydd a llesiant staff a fesurwyd fel rhan o’r arolwg. Dangoswyd y math o ymatebion a dderbyniwyd ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 3.5 yr adroddiad.
Mae’r cyngor yn cefnogi ei weithwyr trwy’r defnydd o amrywiaeth o brotocolau AD, Rhaglen Iechyd Galwedigaethol a’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr, yn ogystal ag amrywiaeth o fuddion ar gyfer staff. Dangoswyd crynodeb o’r rhain ymhlith gwybodaeth arall yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Roedd cyfle i weithwyr ofyn am newid eu horiau gwaith, ynghyd â phrynu gwyliau blynyddol ychwanegol, hyd at uchafswm o 10 diwrnod arall. Roedd gwasanaethau cwnsela ar gael hefyd trwy’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Yn ogystal, roedd yr Awdurdod yn datblygu Strategaeth Llesiant Gweithwyr, a’r nod fyddai canolbwyntio ar sut mae’n bwriadu datblygu diwylliant llesiant cryf i gefnogi gweithlu brwdfrydig, hyblyg ac ymroddedig. Mae hyn yn barhaus, ac eisoes, bu mwy o ffocws ar fentrau llesiant gweithwyr.
Roedd paragraffau dilynol yr adroddiad yn amlinellu’n fanylach rai o’r mentrau iechyd roedd y cyngor yn eu darparu wrth symud ymlaen, gan gynnwys cynnull clinigau gwirio iechyd misol.
At hynny, roeddem yn gweithio gydag elusennau lleol i archwilio ffyrdd o wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ystod o gyflyrau iechyd a allai gael effaith gadarnhaol ar lesiant gweithwyr o fewn y gweithlu. Roedd hyn wedi cynnwys trafodaethau ag elusennau sydd wedi’u lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sy’n gweithio ledled rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys hyfforddiant a chefnogaeth bwrpasol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant ehangach y gweithwyr. Byddai unrhyw wasanaethau ychwanegol a gynigir o ganlyniad i’r trafodaethau hyn yn amodol ar achos busnes ar wahân a nodwyd yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd Aelod at baragraff 3.7 yr adroddiad, a gofynnodd pa ddulliau y bwriadwyd eu defnyddio i gynyddu ymwybyddiaeth staff mewn perthynas â buddion o fewn yr Awdurdod a oedd ar gael iddynt, yn enwedig buddion o ran iechyd.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod yr Awdurdod, dros y misoedd diwethaf, wedi bod yn ymgysylltu’n weithredol ag iCOM, gan ofyn am fanylion pellach ynghylch buddion sydd ar gael i staff (y gallent fod â gwybodaeth gyfyngedig yn unig yn eu cylch), a throsglwyddo’r wybodaeth bellach am y rhain trwy Bridgenders.
Cyfeiriodd Aelod at baragraff 3.4 yr adroddiad, lle cyfeiriwyd at broblem gydag absenoldebau oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â straen, a oedd yn cyfrif am ychydig yn llai na thraean yr holl absenoldebau staff oherwydd salwch. Teimlai na fyddai’r ganran hon yn debygol o leihau’n fuan, gyda ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 56. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn y Gweithlu (2018/19) PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu adroddiad, er mwyn rhoi crynodeb o broffil cydraddoldeb gweithlu’r cyngor, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019, i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet, yn ogystal â diweddariad ar adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Cyfeiriodd at Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn rhoi’r proffil cydraddoldeb uchod ar gyfer y cyfnod a nodwyd.
Dywedodd nad oedd yn orfodol i weithwyr ddatgelu eu gwybodaeth bersonol sensitif at ddibenion monitro cydraddoldeb. Fodd bynnag, anogwyd gweithwyr i ddarparu a/neu ddiweddaru eu gwybodaeth bersonol drwy’r system ‘hunanwasanaeth gweithwyr’.
Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fesur o’r gwahaniaeth yng nghyflog cyfartalog dynion a menywod, ni waeth beth yw eu rôl, ledled y cyngor. Ychwanegodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod hyn yn wahanol i gyflog cyfartal, a oedd yn cymharu sut mae dynion a menywod yn cael eu talu am gyflawni’r un rolau neu rolau tebyg.
Esboniodd, gan fod ysgolion yn sefydliadau unigol, nad oeddent wedi’u cynnwys yn nata’r cyngor ar gyflogau menywod a dynion yn Nhabl 1 a ddangosir ym mharagraff 4.2.3 yr adroddiad, a oedd yn darparu crynodeb o’r bwlch cyflog ar gyfer 2017 a 2018.
Aeth ymlaen i gadarnhau, er ei fod yn cydnabod bod amrywiaeth o ffactorau’n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, bod y cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar gyflogaeth, a ddisgrifir ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.2.4 yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Atodiad yr adroddiad, a gofynnodd a oedd rheolwyr wedi tynnu sylw staff yn eu hadran at yr arolwg Holiadur Cydraddoldeb.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod yr holiadur cydraddoldeb wedi’i gynnwys fel cwestiwn ar bob ffurflen arfarnu gweithwyr a bod cwblhau arfarniadau yn cael ei fonitro. Hefyd, anogwyd rheolwyr, yn ystod cyfarfodydd 1:1 â’u staff, i ofyn i weithwyr ddiweddaru eu gwybodaeth bersonol ar-lein.
Wedyn, gofynnodd sut oedd data’n cael ei gyfrifo mewn perthynas â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu yn gyntaf nad oedd staff ysgolion yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo data o’r fath, a bod cyfrifiadau cyflogau menywod a dynion yn berthnasol i staff corfforaethol. Y ffactorau i’w hystyried mewn perthynas â data a luniwyd trwy edrych ar gyflogau menywod a dynion, oedd bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nifer uwch o fenywod nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru. Ychwanegodd fod gan y cyngor nifer o feysydd gwasanaeth lle’r oedd gweithlu mawr benywaidd, ac i’r gwrthwyneb, meysydd gwasanaeth sydd â gweithlu gwrywaidd i raddau helaeth, megis casglwyr sbwriel (sydd ar gontract allanol). Ychwanegodd ymhellach mai staff benywaidd sydd â 92% o swyddi rhan-amser o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, felly roedd hyn yn effeithio’n gyffredinol ar gipio data.
Dywedodd y Prif Weithredwr pe bai staff ysgolion yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo’r data, byddai hyn yn adlewyrchu canran uwch o fenywod mewn swyddi â chyflog uwch. Ychwanegodd fod tri o bum aelod y Bwrdd Rheoli Corfforaethol presennol yn fenywod, a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 57. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |