Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: o bell trwy Skype for Business

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Pwyllgor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

66.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

67.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 99 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21/11/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:              Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet, dyddiedig 21 Tachwedd 2019, yn gywir.

68.

Diweddariad ar Waith Cydraddoldebau Mewn Ysgolion pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet am waith Cydraddoldeb mewn ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys digwyddiadau bwlio, digwyddiadau hiliol, gwaith partneriaeth, effaith rôl y swyddog cydlyniant cymunedol a gweithio gyda'r heddlu.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod canllawiau wedi’u hanfon i'r holl ysgolion ar 18 Mawrth 2019 ar adrodd am ddigwyddiadau hiliol yn yr ysgol.

 

Cafodd yr ysgolion hefyd fersiwn wedi'i diweddaru o'r Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad Hiliol (Atodiad 1 yr adroddiad y cyfeiriwyd ato).

 

Amlinellai'r adroddiad hwn y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ystod blynyddoedd academaidd 2018-2019 a 2019-2020, y gwaith a gyflawnwyd mewn ysgolion gan y tîm cynhwysiant a'r gwaith a gyflawnwyd ar y cyd a'r heddlu dros y cyfnod hwn.

 

Ym mlwyddyn academaidd 2018-2019, adroddodd ysgolion ledled y fwrdeistref sirol am ddeg digwyddiad hiliol. Nodir digwyddiadau a adroddwyd gan yr ysgolion ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Roedd mwyafrif y digwyddiadau a gofnodwyd yn ôl oed y cyflawnwr a'r dioddefwr yn ddigwyddiadau a oedd yn cynnwys plant rhwng 7 ac 11 oed.

 

Yn saith o'r digwyddiadau, cofnodwyd y cyflawnwr yn Wyn Prydeinig, yn y tri digwyddiad arall nid oedd ethnigrwydd y cyflawnwr wedi'i gofnodi. Roedd y rhan hon o'r adroddiad hefyd yn cynnwys manylion rhywedd y cyflawnwyr a'r dioddefwyr.

 

O ganlyniad i'r digwyddiadau hyn, roedd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb wedi cynghori y dylid trefnu hyfforddiant i ddisgyblion ar ffurf cyfres o Weithdai i ysgolion, grwpiau Cymorth Cynnar a darpariaeth gan y Trydydd Sector.

 

Aeth yn ei blaen i ddweud bod rhwydwaith LGBTQ ysgolion wedi cael ei sefydlu i gefnogi staff ysgol a disgyblion. Ymunodd aelodau'r rhwydwaith, ynghyd ag aelodau o'r Cyngor Ieuenctid â'r Tîm Cydraddoldeb a Chynghorau Balch ar gyfer gorymdaith PRIDE Cymru ym mis Awst 2019.

 

Hyd yma ym mlwyddyn academaidd 2019-20, roedd ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol wedi adrodd am 12 o ddigwyddiadau hiliol. Adroddwyd am ddigwyddiadau gan yr ysgolion a nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad. Cafwyd dadansoddiad pellach o natur y digwyddiadau yn adrannau dilynol y rhan hon o'r adroddiad, gan gynnwys, unwaith eto, oedrannau'r cyflawnwyr a'r dioddefwyr. Dyna oedd y ffigurau ym mis Mawrth 2020.

 

Yn nhymor yr Hydref 2019, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ffrydiau wedi'u cyllido drwy grant i ymdrin â Throseddau Casineb. Ymhlith y rhain yr oedd prosiect i weithio'n benodol mewn 100 o ysgolion. Nod y prosiect oedd cyflwyno sgiliau meddwl beirniadol a chodi ymwybyddiaeth ynghylch pob agwedd ar Droseddau Casineb mewn ysgolion, gyda ffocws ar Gyfnod Allweddol 3. Y nod yw dechrau'r gwaith hwn ym mlwyddyn academaidd 2019-2020.

 

Aeth ymlaen i esbonio, yn dilyn cyfres o gyfarfodydd rhwng CLlLC, y Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol a'r darparwyr a ffafrir ar gyfer cyflwyno prosiectau ar droseddau casineb, fod nifer o ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’u dewis yn seiliedig ar ddadansoddiad o adroddiadau am droseddau casineb yn y gymuned, ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal a thrafodaethau â swyddogion cyswllt ysgol.

 

Nodwyd y pum ysgol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 68.

69.

Defnyddio'r Enw Picton mewn Enwau Strydoedd ac Adeiladau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 270 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn rhoi gwybodaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet am y defnydd o'r enw 'Picton' mewn enwau strydoedd ac adeiladau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  

 

I esbonio'r cefndir, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod protestiadau cenedlaethol wedi cael eu cynnal yn rhan o ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys yn dilyn marwolaeth George Floyd yn America. Canlyniad hynny oedd bod amryw o gynghorau'r DU yn cymryd camau i gael gwared â delwau o rai ffigurau hanesyddol. Mae awdurdodau lleol hefyd yn ystyried a allai adeiladau, parciau, caeau chwarae a strydoedd fod yn gysylltiedig ag unigolion sy'n cael eu beirniadu yn rhan o'r protestiadau. Dechreuwyd ymgyrchoedd i gael gwared â chofebau i'r Cadfridog Thomas Picton, gan ganolbwyntio ar ddelw yng Nghaerdydd a chofeb 25 metr o uchder yng Nghaerfyrddin.

 

Gan fod nifer o strydoedd yn cynnwys yr enw 'Picton' ledled y Fwrdeistref Sirol, mae'r adroddiad yn edrych ar hanes y strydoedd hyn er mwyn ceisio canfod a ydynt yn gysylltiedig â'r Cadfridog Thomas Picton. Er na fu modd canfod yr union reswm dros gynnwys yr enw mewn enwau strydoedd, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod awgrym yn y gwaith ymchwil o gysylltiadau rhwng y teulu Picton a pherchnogaeth tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Ychwanegodd fod gwaith ymchwil cychwynnol yn awgrymu bod dwy ffynhonnell bosibl i'r enw Picton ym mwrdeistref Mhen-y-bont ar Ogwr. Argymhellwyd felly, er mwyn gwirio a sicrhau cywirdeb yr wybodaeth hon, y dylai hanesydd lleol gyflawni gwaith pellach ac y bydd canfyddiadau'r gwaith ymchwil hwnnw'n cael eu hystyried wedi i Lywodraeth Cymru gwblhau ei hadolygiad.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o nifer o enwau strydoedd ac adeiladau a oedd yn cynnwys yr enw 'Picton', a'r rheiny mewn gwahanol leoliadau yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Wedyn rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb wybodaeth gyffredinol am Thomas Picton a oedd wedi bod yn Gadfridog â chysylltiadau â chaethwasiaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg/y ddeunawfed ganrif.

 

Er y gallai nifer o strydoedd ac adeiladau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr fod wedi cael eu henwi ar ôl y Cadfridog, esboniai'r adroddiad y gallai rhai strydoedd ac adeiladau fod wedi cael eu henwi ar ôl yr Is-gapten Thomas Picton-Turbeville neu o bosib Richard Picton-Turbeville. Roedd Richard Picton-Turbeville wedi bod yn un o hoelion wyth y Fwrdeistref Sirol yn y gorffennol, ac wedi cyfrannu'n gadarnhaol at waith o fewn y Fwrdeistref (gan gynnwys gwaith elusennol a gwirfoddol).

 

Nid oedd rhai Aelodau'n fodlon â'r ffaith y gallai enwau strydoedd ac ati gael eu cysylltu ag enw unigolyn neu unigolion a oedd wedi cyflawni gweithredoedd erchyll yn y gorffennol yn erbyn ei gyd-ddynion. Serch hynny, roedd Aelodau eraill yn cydnabod y gwaith y byddai angen ei wneud gyda deiliaid tai yn yr adeiladau/strydoedd hyn er mwyn newid yr enw stryd i enw arall na fyddai'n cyfeirio at yr enw Picton. Byddai enghreifftiau o hyn yn cynnwys newid enw'r stryd ar weithredoedd eiddo, ar gofnodion meddygol, newid trwyddedau gyrru a biliau cyfleustodau ac ati. Pe bai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 69.

70.

Adroddiad Cynllun Gweithredu'r Cyllun Cydraddoldeb Strategol 2018 - 2019 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y gwaith a gwblhawyd o fewn Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2016-2020 ar gyfer y cyfnod 2018-2019. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth gefndir ac ar ôl trafod hynny, esboniodd fod yr Adroddiad Blynyddol (ynghlwm yn Atodiad 1) yn trafod y cyfnod Ebrill 2018 hyd 31 Mawrth 2019.

 

Yr oedd yn ofynnol ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor/ei ddarparu erbyn 1 Ebrill 2020, ond oherwydd effaith COVID-19 roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi newid y dyddiad hwn i fis Hydref.

 

Manylwyd ar y saith amcan cydraddoldeb strategol ar gyfer 2016-2020 ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, tra cyfeiriai paragraff 4.3 at rai pwyntiau allweddol ac ymgyrchoedd i'w nodi o'r Adroddiad Blynyddol.

 

Yna aeth y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ati i ymhelaethu ar rai o'r ymgyrchoedd hynny er gwybodaeth i'r Aelodau.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwaith caled y Swyddogion perthnasol wrth lunio Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2018-2019.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018-2019.

     

71.

Adroddiad Diweddaru ar Weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg.

 

Ers derbyn ei hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2015, cadarnhaodd fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd tuag at weithredu'r 171 o safonau a bennwyd.

 

Ychwanegodd fod y newyddion diweddaraf am gydymffurfio wedi cael eu cyflwyno ym mhob cyfarfod o'r Pwyllgor ers 28 Ebrill 2016. Cyfeiriwyd at yr adroddiadau hyn fel dogfennau cefndirol i'r adroddiad.

 

Yna, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod CBSPO wedi dathlu Diwrnod Hawliau'r Gymraeg ar 6 Rhagfyr 2019, drwy rannu postiau ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn perthynas â'r eitemau a ddangosir wrth bwyntiau bwled ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Roedd copi o God Ymarfer Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer Rheoliadau Safonau'r Gymraeg 2015, ynghlwm yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd g?yn newydd i sylw'r Aelodau ynghylch cyfieithiad a oedd wedi'i dderbyn drwy'r Comisiynydd ynghylch Cardiau Pleidleisio Etholiadol. Fodd bynnag, roedd y Cyngor wedi anfon ymateb i'r Comisiynydd, gan gadarnhau nad yw'n gyfrifol yn uniongyrchol am gynllun/gyfieithiad y cardiau pleidleisio. Cyfrifoldeb y Swyddog Cofrestru a'r Swyddog Canlyniadau yw hynny, y mae eu rolau a'u cylch gwaith i'r perwyl hwnnw yn annibynnol ar yr Awdurdod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelodau, dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ei bod yn credu ei bod hi'n dal yn ofynnol i'r Swyddogion uchod gydymffurfio â gofynion Safonau'r Gymraeg.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb wirio bod hynny'n wir, yn hytrach na bod y Comisiwn Etholiadol yn gyfrifol am gynllun a chynhyrchu'r cardiau pleidleisio hynny'n ddwyieithog, mewn pryd ar gyfer cyfarfod Pwyllgor mis Hydref.

 

Nododd Aelod, ym mharagraff 8.1 yr adroddiad, mai ond £4k o gyfanswm cyllideb o £324,649 ar gyfer cyfieithu i'r Gymraeg, a oedd wedi cael ei wario hyd hynny yn 2019-20. Gofynnodd pam bod y gwariant hwn mor isel o gymharu â'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer hynny.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod y rhan fwyaf o'r gyllideb hon yn tarddu o wariant yn gysylltiedig â chostau cyfieithu a ddeuai o dan y gyllideb gorfforaethol, yn hytrach na'r rhai a ddyrannwyd fesul Cyfarwyddiaeth. Serch hynny, ychwanegodd y byddai'n ceisio cael rhagor o wybodaeth am hyn ac yn adrodd yr wybodaeth honno'n ôl i'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:                  (1)          Bod y Pwyllgor wedi derbyn ac ystyried yr adroddiad.

(2)    Bod gwybodaeth bellach yn cael ei rhannu â'r Aelodau am lefelau gwariant ar y Gymraeg fesul Cyfarwyddiaeth, o gymharu â'r hyn a gaiff ei wario yn nyraniad cyllideb corfforaethol ehangach y Cyngor.  

72.

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2019-2020 pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a ddisgrifiai'r cynnwys a'r ymagwedd a fabwysiadwyd mewn perthynas â phumed Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2019-2020.

 

Esboniodd fod Safonau'r Gymraeg yn rhoi hawliau gwell a gorfodadwy mewn perthynas â'r Gymraeg i siaradwyr Cymraeg. Derbyniodd y Cyngor ei hysbysiad cydymffurfio terfynol ar 30 Medi 2015, a amlinellai 171 o safonau yr oedd angen cydymffurfio â hwy.

 

Roedd yr adroddiad yn cadarnhau ei bod yn ofynnol yn ôl Safonau 158, 164 a 170 i'r Awdurdod lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol, yn Gymraeg, erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn.

 

Roedd adroddiad blynyddol y Cyngor ar Safonau'r Gymraeg 2019-2020 yn trafod y cyfnod 1 Ebrill 2019 hyd 31 Mawrth 2020, ac fe'i cyhoeddwyd yn unol â'r gofyniad erbyn 30 Mehefin 2020. Roedd yr adroddiad ynghlwm yn Atodiad un a dau yr adroddiad, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn y drefn honno. 

 

Amlinellai'r adroddiad y modd yr oedd y Cyngor wedi cydymffurfio â'r safonau yr oedd dyletswydd iddo gydymffurfio â hwy dros y cyfnod. Yr oedd hefyd yn nodi unrhyw gynnydd a datblygiadau newydd o ran cydymffurfio.

 

Yn rhan o'r adroddiad blynyddol, yr oedd hi'n ddyletswydd i'r awdurdod lleol adrodd yr wybodaeth ganlynol yn benodol:

 

·         nifer y cwynion a gafwyd gan y cyngor dros y cyfnod;

·         nifer y gweithwyr a ddatgelodd sgiliau Cymraeg ar 31 Mawrth 2020;

·         nifer y gweithwyr a aeth ar gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd yn Gymraeg dros y cyfnod;

·         nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y cyfnod a oedd yn y categorïau:

 

o   Sgiliau Cymraeg yn hanfodol;

o   Sgiliau Cymraeg yn ddymunol.

 

·         Yn ogystal â'r wybodaeth a nodwyd yn adran 4.2 rydym hefyd wedi cynnwys y newyddion diweddaraf am Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, cysylltiadau gan gwsmeriaid a'n gweithgareddau hyrwyddo.

 

Diolchodd Aelod i'r Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb a'i chydweithwyr agos am y gwaith caled a gyflawnwyd ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2019-2020, gan ychwanegu ei bod hi'n amlwg bod yr Awdurdod yn gwneud cynnydd sylweddol o'r naill flwyddyn i'r nesaf o ran cydymffurfio â darpariaethau Safonau'r Gymraeg.

 

Adleisiodd y Cadeirydd y teimladau hyn, gan ychwanegu bod y Safonau bellach wedi'u hymwreiddio ar draws yr holl feysydd gwasanaeth a ddarperir gan y Cyngor, mewn rhyw fodd neu'i gilydd.

 

PENDERFYNWYD:                (1)      Bod y Pwyllgor yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad ac Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2019-2020.

 (2)  Ar y cyd ag Adroddiad y Gweithlu 2019/20 sydd i'w ystyried yng nghyfarfod Cydraddoldeb Pwyllgorau'r Cabinet ym mis Hydref, y dylid rhannu gwybodaeth â'r Aelodau hefyd am y meini prawf a ddefnyddir i  asesu sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi gwag yn rhan o broses recriwtio'r Cyngor. Gofynnodd yr Aelodau am hyn yn y cyfarfod.

    

73.

Rhaglen Gwaith 2020 - 2021 pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer Blaenraglen Waith a gynigiwyd ar gyfer 2020-2021.

 

Yn Atodiad 1 yr adroddiad, cynigiwyd eitemau busnes rheolaidd y Pwyllgor a materion cydraddoldeb allweddol i'w hystyried o fis Mawrth 2020 hyd fis Mawrth 2021.

 

Roedd y cynnig yn seiliedig ar:

 

·         yr amcanion cydraddoldeb strategol yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020, fel gwella cysylltiadau cymunedol yn y fwrdeistref sirol;

·         yr ymgynghoriad ar amcanion drafft Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024;

·         gwaith parhaus i fonitro gweithrediad Safonau'r Gymraeg, gan gynnwys rhoi'r newyddion diweddaraf am ddatblygiadau mewn gwasanaethau;

·         awgrymiadau gan y pwyllgor;

·         materion cydraddoldeb lleol a chenedlaethol;

·         sefydlu trefniadau adrodd ar gyfer Safonau'r Gymraeg a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol;

·         ystyriaeth o flaenoriaethau eraill y cyngor ac adroddiadau allanol.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai'r agenda ar gyfer y pedwar cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn cynnwys y Prif Eitemau a'r eitemau Busnes arfaethedig fel y dangosir yn y Flaenraglen Waith, h.y. Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Yn dilyn trafodaethau a gafwyd rhwng yr Aelodau a'r Swyddogion,

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith 2020-21 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn amodol ar y canlynol:-

 

·         Bod cynllun gweithredu drafft Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn cael ei rannu â'r Pwyllgor, cyn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Medi 2020.

·         Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno am eitem 2 ar Agenda cyfarfod heddiw, o dan y teitl 'Defnyddio'r enw Picton yn Enwau Strydoedd ac Adeiladau ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr', fel bo'n briodol.

·         Bod eitem arall yn cael ei hychwanegu at y Flaenraglen Waith ar gyfer cyfarfod Tachwedd 2020, o dan y teitl "Effaith Covid-19 a'r cyfyngiadau symud ar bobl â chyfrifoldebau gofalu"

·         Bod eitem arall yn cael ei hychwanegu at y Flaenraglen Waith ar gyfer cyfarfod Mawrth 2021, o dan y teitl "Y Diweddaraf am Waith Cydraddoldeb mewn Ysgolion".

    

74.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z