Lleoliad: o bell trwy Skype
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148.
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd N. Burnett fuddiant personol yn eitem agenda 6, gan fod ei rhieni yn byw ar stad Picton Gardens, Pen-y-bont ar Ogwr.
|
|
I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/08/2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD: I dderbyn Cofnodion cyfarfod pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb a gynhaliwyd ar 24 Awst 2020 fel cofnod cywir a manwl gywir.
|
|
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn y Gweithlu (2019/20) PDF 126 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad, i roi crynodeb i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb o broffil cydraddoldeb gweithlu'r Cyngor ar 31 Mawrth 2020 a gwybodaeth am y gofyniad am sgiliau iaith Cymraeg ar gyfer swyddi gwag.
Cadarnhaodd fod darparu gwybodaeth berthnasol a chywir am y gweithlu yn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Safonau'r Gymraeg.
Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, fod Atodiad 1 i'r adroddiad yn darparu proffil cydraddoldeb o weithlu'r Cyngor ar 31 Mawrth 2020, gyda data cymharol o flynyddoedd blaenorol.
Roedd set ddata lawn ar gael ar sail rhyw ac oedran, fodd bynnag, nododd nad oedd yn orfodol i weithwyr ddatgelu eu gwybodaeth bersonol sensitif at ddibenion monitro cydraddoldeb. Ychwanegodd, fod gwaith yn mynd rhagddo ac wedi'i gynllunio i annog gweithwyr i ddarparu a/neu ddiweddaru manylion o'r fath, er gwaethaf y ffaith bod gweithwyr yn rhoi hyn yn wirfoddol (ac nad yw'n rhywbeth gorfodol.)
Gan gyfeirio at Atodiad yr adroddiad, dywedodd y Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod gan CBSPenybont gyfran fwy o weithwyr benywaidd o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, er na ellid cymharu hyn yn llwyr ar sail debyg am debyg, o ystyried bod gwahanol awdurdodau yn allanoli gwasanaethau o wahanol faint.
Cadarnhaodd fod mwy o bobl dros 60 oed yn gweithio o fewn yr awdurdod a dyma'r duedd yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Roedd hyn hefyd yn gyson ag awdurdodau lleol eraill.
Cadarnhaodd data hefyd bod yna gynnydd o oddeutu 1.9% mewn preswylwyr o leiafrif ethnig yn y fwrdeistref sirol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Yn 2020, gwelwyd gostyngiad bach yng nghanran y gweithlu a oedd wedi datgan cyfrifoldebau gofalwr. Er yn ddiddorol, roedd 20% o'r staff a oedd wedi ymateb i'r arolwg (sy'n cyfateb i 350 o weithwyr, wedi nodi bod ganddynt ryw lefel o gyfrifoldebau gofalu.
O ran rhai ymholiadau a godwyd yn y Pwyllgor diwethaf ynghylch prosesau recriwtio'r Cyngor a'r angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn siaradwr Cymraeg ar gyfer unrhyw swydd benodol, cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, pan fydd swydd wag yn codi, rhaid i reolwyr gynnal asesiad o'r sgiliau Cymraeg sy'n ofynnol trwy ystyried dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd unigol yn ogystal â dyletswyddau'r tîm. Mewn perthynas â'r swydd, mae'r meini prawf yn cynnwys, cyswllt â'r cyhoedd a'r disgwyliad i allu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg, maint y cyswllt â siaradwyr Cymraeg a'r angen i ymgymryd â gweinyddiaeth fewnol yn Gymraeg a Saesneg. O safbwynt tîm, pa un a oes yna swyddog arall ar gael sy'n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg.
Er mwyn cynyddu nifer y gweithwyr sy'n siarad Cymraeg a gwella'r gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gan y cyngor, mae'r Polisi cyfredol ar Ddefnyddio'r Gymraeg yn y Gweithle, yn nodi y bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu gyda'r Gymraeg yn ddymunol, oni bai bod yr asesiad yn nodi bod y Gymraeg yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 77. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion gyflwyniad byr ar yr adroddiad, cyn trosglwyddo i'r Rheolwr Gr?p - Atal a Lles, i ehangu ymhellach.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Atal a Lles mai pwrpas yr adroddiad oedd darparu gwybodaeth am raglenni gwaith y gwasanaeth atal a lles a'r cyfraniad cysylltiedig at gynllun cydraddoldeb strategol CBSPenybont.
Esboniodd fod y gwasanaeth Atal a Lles wedi cynnal adolygiad mewnol o'r cynnydd a wnaed yn ystod 2019-20 ac wedi coladu'r wybodaeth mewn fformat a all gynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n cael ei gyflawni o fewn y Gyfarwyddiaeth a'r Cyngor ehangach, gyda nifer o feysydd o'r gwaith hwn yn drawsbynciol.
Cafodd cyfres o ddarnau o'r adroddiad mwy eu cynnwys fel atodiadau i'r adroddiad eglurhaol, er mwyn dangos rhywfaint o'r gwaith sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn. Roedd 6 atodiad yn darparu enghreifftiau o'r gwaith sy'n digwydd yn y gwasanaeth wedi'i gynnwys fel gwybodaeth ategol.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gr?p - Atal a Lles yn gyntaf, at y rhaglen ‘Ein Llais’, a ddatblygwyd i ddal barn pobl ifanc ar les ac i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a chymunedau i ddatblygu cynlluniau gweithredu.
Yna cyfeiriodd at y "Rhwydwaith Merched".
Roedd hon yn fenter a oedd yn gweithredu mewn partneriaeth â chwe ysgol uwchradd gyda ffocws ar wella iechyd a lles. Eglurodd bod y grwpiau yn gwneud ymchwil ac yn dadansoddi anghenion cyn datblygu cyfleoedd cefnogol. Nodwyd bod gwybodaeth bellach am y rhaglen hon ar gael yn Atodiad 1 i'r adroddiad hwn. Roedd y gwasanaeth hwn yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd ac uwchradd i ddefnyddio gweithgaredd allgyrsiol, i ddatblygu ffyrdd o fyw egnïol ac iach.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Atal a Lles fod yna raglenni eraill a oedd yn nodi ffocws cynyddol ar blant sy'n derbyn gofal a gofalwyr ifanc hefyd yn yr adroddiad blynyddol. Yn ystod y flwyddyn, cefnogwyd 19 o gynrychiolwyr o ysgolion i fynd i gwrs Hyfforddiant Cynnwys Anabledd i Athrawon. Rhoddodd y gwasanaeth gefnogaeth i ysgolion ddatblygu eu cynlluniau lles. Nodwyd bod gwybodaeth bellach am hyn ar gael yn Atodiad 2 i'r adroddiad.
Yna aeth ymlaen i gyfeirio at y Cynllun Heneiddio’n Dda ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, datblygu cymunedau ‘cyfeillgar i oed’ a chyfleoedd priodol sy'n pontio'r cenedlaethau.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Atal a Lles, bod ffocws cynyddol ar allgau digidol a'r rhai yr effeithir arnynt. Mae gwaith wedi dechrau gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ar ddatblygu rhaglen ‘gofal i gydweithredu’ sy’n targedu cefnogaeth i 200 o bobl agored i niwed a gofalwyr i adeiladu sgiliau a chysylltiadau. Yn unol â hyn, roedd y gwasanaeth yn datblygu rhaglen “hyrwyddwyr gwybodaeth gymunedol” gyda sefydliadau a gwirfoddolwyr i gefnogi rhannu gwybodaeth gyda'r rhai nad oes ganddynt gysylltiad digidol.
Yna cyfeiriodd at ddatblygu cymunedau sy’n cefnogi dementia, un o amcanion strategol y Cynllun Heneiddio’n Dda ar gyfer Cymru a’r rhaglen ‘Teimlo’n Dda am Oes’, a oedd wedi'i datblygu gyda rhai partneriaid allweddol. Nodwyd bod manylion pellach ar y rhaglen hon wedi'u hamlinellu yn Atodiad 3 i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 78. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr, gyda'r diben o ddarparu gwybodaeth i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar ddefnyddio'r enw Picton ar enwau strydoedd ac adeiladau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyflwynwyd adroddiad cychwynnol i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar 24 Awst 2020, a oedd yn argymell bod hanesydd lleol yn ymgymryd â gwaith ymchwil pellach. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell y dylai Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb aros am ganlyniad archwiliad Llywodraeth Cymru o henebion a cherfluniau hanesyddol Cymru, ac enwau strydoedd ac adeiladau cyhoeddus cyn rhoi ystyriaeth bellach i’r camau sydd eu hangen yn y fwrdeistref sirol.
Roedd paragraff 4.2 o'r adroddiad yn tynnu sylw at sefydliadau posibl a allai wneud gwaith ymchwil pellach o'r fath, fodd bynnag, roedd hi bellach yn gallu diweddaru Aelodau, bod Gwasanaethau Hanesyddol ac Ymgynghori Past Lives wedi'u comisiynu i wneud y gwaith hwn. O ran hyn, nodwyd y byddai adroddiad amlinellol pellach yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf a drefnwyd, a'r gobaith yw y bydd adroddiad canlyniadau manylach yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor yng nghyfarfod mis Mawrth nesaf.
Atgoffodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, yr Aelodau fod archwiliad Llywodraeth Cymru i ddefnydd o'r enw Picton ar strydoedd ac adeiladau fel darn o waith ymchwil ar wahân fel y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad, yn mynd rhagddo.
Nodwyd bod Cyngor Sir Gâr yn gwneud darn tebyg o waith ymchwil mewn perthynas â'r mater hwn a chyfeiriodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb at baragraff 4.4 o'r adroddiad, sy'n rhoi enghraifft o'r hyn yr oeddynt wedi'i ofyn i aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â'r Gofeb i'r Cadfridog Thomas Picton a oedd wedi'i leoli yn y fwrdeistref sirol benodol honno.
Nododd Aelod fod yna stryd o'r enw Llys Picton yn Notais, nad oedd wedi'i ddyrannu trwy CBSPenybont mewn ymgynghoriad â Swyddfa'r Bost a Chyngor Tref Porthcawl ac nad oedd y stryd hon wedi'i chynnwys yn y gwaith parhaus. Nododd fod y stryd hon ar ddatblygiad preifat gan Gymdeithas Tai Hafod.
Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi siarad â Chymdeithas Tai Hafod, a gadarnhaodd eu bod yn bwriadu newid yr enw.
Cydnabu'r Aelod Cabinet - Cymunedau, er bod rhai enwau lleoedd a strydoedd yn y Fwrdeistref Sirol yn gysylltiedig â'r Cadfridog Picton ac felly'n gysylltiedig â'r fasnach gaethweision, bod rhai eraill wedi'u henwi ar ôl Richard Picton Turbeville o Briordy Ewenni, a oedd wedi bod yn Ynad ac a oedd hefyd wedi bod wedi ymrwymo'n sylweddol i waith a gwasanaethau gwirfoddol yn y gymuned leol. Dywedodd felly ei bod yn bwysig i wahaniaethu rhwng pa strydoedd ac adeiladu sydd wedi'u henwi ar ôl pa unigolyn.
PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Cabinet yn ystyried yr adroddiad diweddaru ac yn aros am ymchwil gan hanesydd lleol a chanlyniad archwiliad Llywodraeth Cymru cyn rhoi ystyriaeth bellach i gamau y gallai fod angen eu cymryd o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
|
|
Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb - Adolygiad Blynyddol 2019/2020 PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, i roi diweddariad blynyddol i aelodau ar ofyniad y cyngor i gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AECau), trosolwg o ddull y cyngor o ymdrin ag AECau ac amlinelliad o AECau a gynhaliwyd ym meysydd gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn 2019/20.
Fel cefndir, dywedodd fod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi dyletswydd gyffredinol bod yn rhaid i CBSPenybont, fel corff cyhoeddus yng Nghymru, roi sylw dyladwy i dri ffactor yn ei brosesau gwneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau ariannol) sef:
Ø Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon: Ø Hyrwyddo cyfle cyfartal, a; Ø Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydyn nhw.
Esboniodd bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn offeryn i asesu a allai polisïau/gwasanaethau/swyddogaethau newydd (neu newidiadau i rai presennol), neu gael gwared ar wasanaethau, effeithio ar wahanol sectorau o gymdeithas mewn gwahanol ffyrdd. Pe bai'r Cyngor yn creu polisi neu'n gwneud newid mawr i wasanaeth neu swyddogaeth, trwy adroddiad er enghraifft, i'r Cabinet, yna dylai AEC gyd-fynd â'r adroddiad, neu os na, yna dylid gwneud gwiriad AEC.
Dywedodd bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AECau) yn helpu'r cyngor i wneud penderfyniadau gwell, adnabod sut y gall gwasanaethau fod yn fwy hygyrch neu well ac ystyried y naw nodwedd warchodedig yn ogystal â'r effaith ar y Gymraeg.
Ychwanegodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y bydd y pecyn cymorth AEC yn cael ei ddiwygio yn barod ar gyfer gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ym mis Mawrth 2021, i gynnwys arweiniad i swyddogion ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a phryd y mae angen ystyried hyn.
Bydd gweinyddiaeth y prosesau AEC hefyd yn cael ei hadolygu, a rhoddir ystyriaeth i broses asesu ar-lein i gynorthwyo gyda choladu a chyhoeddi data. Ar hyn o bryd, mae AECau llawn yn gysylltiedig ag adroddiadau Cabinet ac felly maen nhw'n dod yn ddogfennau cyhoeddus. Mae'r holl wiriadau AEC yn cael eu cadw gan y maes gwasanaeth.
O ran hyfforddiant, cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb bod modiwl e-ddysgu yn parhau i fod ar gael i weithwyr sy'n darparu trosolwg o AECau, eu rôl mewn gwella gwasanaethau a chanllawiau i'w cynnal. Ar ddiwedd y modiwl, mae gan staff gyfle i gwblhau AEC a chymharu hyn yn erbyn fersiwn sydd eisoes wedi'i chwblhau i asesu sut mae'r modiwl wedi cynorthwyo o ran gwybodaeth a dealltwriaeth. Ychwanegodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, fod 225 o weithwyr y cyngor hyd yma wedi cwblhau'r modiwl e-ddysgu ar AECau.
Ychwanegodd rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2020, bod 8 AEC llawn wedi'u cynnal gydag adroddiadau Cabinet i gyd-fynd â nhw, a'u bod wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
Nodwyd bod 68 gwiriad AEC wedi'u cynnal yn ystod y cyfnod hwn a bod y rhain wedi'u hatodi yn Atodiad 2. Cyfeiriwyd at y gwiriadau hyn yn yr adroddiad(au) Cabinet perthnasol ac roeddent yn dangos y gallai'r polisi(au) sy'n cael eu hasesu naill ai gael eu hepgor neu y byddai angen gwneud AEC llawn. Roedd hyn wedi cymharu’n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 80. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2016 - 2020 yn ystod 2019/2020. Dyma'r pedwerydd adolygiad blynyddol a'r olaf ar gyfer y cynllun hwn, ychwanegodd.
Esboniodd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) (2016-2020) y Cyngor wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet ar 15 Mawrth 2016.
Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach gyda’r grwpiau cydraddoldeb ac amrywiaeth cyhoeddus yn ystod mis Mai a mis Mehefin 2016, er mwyn datblygu’r cynllun gweithredu a fyddai’n cefnogi cyflawni’r saith amcan yn y CCS dros y cyfnod o bedair blynedd. Ymgynghorwyd â swyddogion allweddol/arweiniol ynghylch datblygu camau gweithredu ystyrlon a chyraeddadwy yn eu priod wasanaethau. Roedd y cynllun gweithredu terfynol yn ddogfen fyw ac yn cynnwys 47 o gamau gweithredu. Cafodd ei gymeradwyo gan Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ym mis Gorffennaf 2016. Cafodd y cynllun gweithredu ei atodi fel dogfen gefndir i'r adroddiad (yn atodiad un).
Atgoffodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb yr Aelodau, fod y Pwyllgor wedi cael tri diweddariad ar gynnydd. Cyflwynwyd cynnydd yn ystod 2016/17 yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2017, cyflwynwyd cynnydd yn ystod 2017/18 ym mis Gorffennaf 2018 a chyflwynwyd cynnydd yn ystod 2018/19 i’r Aelodau ym mis Gorffennaf 2019.
Gan gyfeirio at yr amser presennol, cyfeiriodd yr Aelodau at atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn manylu ar y cynnydd ar gynllun gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) ar gyfer 2019/2020 a dangoswyd pwyntiau allweddol yngl?n â hyn ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad, mewn perthynas â'r meysydd canlynol:
Cadarnhaodd Aelod ei fod yn falch o'r cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chynigion ei Gynllun Gweithredu ategol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf/gyfredol. Yn ystod ei dymor fel Maer, hyd yn ddiweddar iawn, roedd wedi bod yn rhan o'i rôl mewn nifer o ymrwymiadau fel yr adlewyrchwyd yn y cynllun gweithredu, i gefnogi Troseddau Casineb ac Ymgyrchoedd Ymwybyddiaeth eraill yr oedd y Cyngor wedi bod yn ymwneud â'u hyrwyddo fel awdurdod lleol.
Cyfeiriodd at y gefnogaeth i ffoaduriaid o Syria yn ystod pedair blynedd olaf y CCS, ond nododd ei fod yn teimlo y dylid ymestyn hyn yn awr a'i gynnig i bob ffoadur.
Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ei bod yn cydnabod bod angen ystyried hyn.
O ran e-ddysgu gan gynnwys ar faterion pwysig fel codi Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ychwanegodd bod bwriad i gynyddu hyn ynghyd ag ehangu modiwlau e-ddysgu eraill ac i roi proffil uwch i e-ddysgu, fel bod staff yn cael eu hannog i gymryd rhan yn hyn, gyda'r farn tymor hwy yn bosibl, o gynnwys hyn yn rhan o adolygiadau perfformiad staff.
Ychwanegodd Aelod ei fod yn teimlo y dylai'r Cyngor eirioli Swyddogion Cymorth Cyntaf ym maes lles ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 81. |
|
Adroddiad Diweddaru ar Weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg PDF 103 KB Cofnodion: Mae'r adroddiad hwn yn diweddaru Pwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg.
Atgoffodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, yr Aelodau, ers i'r Cyngor gael rhybudd cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2015, bod y cynnydd tuag at weithredu'r 171 o safonau a neilltuwyd wedi parhau.
Ychwanegodd fod crynodeb o'r cynnydd/diweddariadau allweddol o ran cydymffurfio ers yr adroddiad diweddaru diwethaf yn yr adroddiad, fel a ganlyn:
a) Bob blwyddyn mae'r Comisiynydd Iaith yn monitro profiad y defnyddiwr trwy brofi gwasanaethau penodol, gan gynnwys gohebiaeth, sgyrsiau ffôn, y wefan a gwasanaethau derbynfa. Roedd CBSPenybont yn rhan o'r sampl ar hap o sefydliadau a ddewiswyd i'w monitro gan swyddfa'r Comisiynydd yn ystod 2019/2020. Cawsom ganlyniadau’r ymarfer monitro ar 12 Awst 2020 ac rydym wedi paratoi ymateb i’r Comisiynydd ar y canfyddiadau. Mae'r ymateb yn amlinellu'r camau gweithredu perthnasol yr ydym wedi'u cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r meysydd yr oedd angen mynd i'r afael â hwy.
b) Ar 21 Awst 2020 cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg ddatganiad i'r holl awdurdodau lleol. Diben y datganiad oedd rhannu canfyddiadau'r ymchwiliad a gynhaliwyd i Gyngor Sir y Fflint â chynghorau eraill i sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r ddyletswydd i gydymffurfio â safonau wrth drefnu i drydydd partïon ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau ar ein rhan.
c) Gwahoddwyd CBSPenybont i fynd i ddigwyddiad lansio adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg ar 15 Medi 2020. Cynhaliodd y Comisiynydd ddigwyddiad ar-lein byr i gyflwyno darganfyddiadau ei adroddiad sicrwydd ar gyfer 2019/2020. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd diweddariad ar yr adroddiad sicrwydd yn cael ei ddarparu i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb ym mis Tachwedd 2020.
Cyfeiriodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb at yr un g?yn newydd a gafodd y Cyngor ar 14 Awst 2020, y cadarnhawyd ei natur ym mharagraff 4.1 d) o'r adroddiad. Adroddodd bod ymateb wedi'i anfon at y Comisiynydd mewn perthynas â'r g?yn.
Yna amlinellodd yr adroddiad y camau a gymerwyd mewn perthynas â chwynion blaenorol a dderbyniwyd mewn perthynas â chardiau pleidleisio a chydnabyddiaeth gan y Cyngor, ei fod wedi cael taliad am y dreth Gyngor.
Mewn ymateb i nifer o bwyntiau a wnaed gan Aelodau ar y g?yn newydd ac a wnaed yn flaenorol mewn perthynas â chardiau pleidleisio, roedd Aelod yn teimlo ei bod yn ddoeth i'r Cyngor drefnu i brawfddarllen cyfieithiadau a anfonir i'w cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ac yna eu dychwelyd, gan y gellir dehongli rhai geiriau yn y ddwy iaith hyn yn wahanol o ran eu cyd-destun.
Ymatebodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, trwy gadarnhau pan mae'r cyngor yn anfon dogfennau ac ati i'w cyfieithu i'r Gymraeg, bod y rhain yn cael eu prawfddarllen gan fod hyn yn rhywbeth sy'n rhan o'r cytundebau contract rhwng y cyngor a'i gyfieithwyr.
PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Cabinet wedi derbyn, ystyried a nodi'r adroddiad.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim. |