Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Cydraddoldeb - Dydd Iau, 21ain Tachwedd, 2019 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

59.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2014.

Cofnodion:

Dim

60.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 90 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/03/2019 a 04/07/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo bod cofnodion y cyfarfodydd dyddiedig 26/03/2019 a 04/07/2019 yn gywir.

61.

Y Diweddaraf am yr Arolwg Cydlyniant Cymunedol a rôl y Swyddog Cydlyniant Cymunedol o fewn CBSPO. pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydgysylltydd Partneriaethau adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor Cabinet Cydraddoldeb am yr Arolwg Cydlyniant Cymunedol, a rôl y Swyddog Cydlyniant Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO).

 

Esboniodd fod Llywodraeth Cymru, ym mis Rhagfyr 2018, yn anfon ei e-bost 'bwriad i ariannu' at holl Gydgysylltwyr Cymunedol Rhanbarthol Cymru. Nodwyd y byddai £140,000 yn cael ei ddyrannu i bob rhanbarth gan anelu i:

 

           Nodi a lliniaru tensiynau cymunedol (troseddau casineb, eithafiaeth, pryder, ymddygiad gwrthgymdeithasol) sy'n ymwneud â Brexit;

           Gwella cyfathrebu cydlyniant cymunedol;

           Trefnu digwyddiadau / gweithgareddau i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol; a

           Chyflwyno gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â Brexit fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Cydlyniant Cymunedol Cenedlaethol (2019).

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod Cynllun Cyflawni Cydlyniad Cymunedol Brexit wedi cael ei ddatblygu yn rhan o'r cais cyllido. Roedd manylion y cynllun wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd mai un o brif amcanion y cynllun oedd datblygu ymarfer mapio er mwyn cael dealltwriaeth well o effeithiau Brexit ar gymunedau. Ymatebodd cyfanswm o 183 o bobl i'r arolwg, ac mae copi o'r adroddiad i'w gael yn atodiad 2. Rhestrir crynodeb o'r ymatebion yn adran 4.7 yr adroddiad. Ychwanegodd mai anwladolion yr UE oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, gyda chyfranogiad o 2% ymhlith gwladolion yr UE. Roedd hynny'n destun siom, oherwydd gobeithiwyd cael mwy o ymatebion gan Wladolion yr UE.  Ychwanegodd fod system monitro tensiwn wedi cael ei chynnal i ddarparu'r ffigurau ar gyfer troseddau casineb.

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod system monitro tensiynau wedi cael ei chynnal a oedd yn darparu'r ffigurau troseddau casineb ar gyfer mis Ebrill i Fehefin a mis Mehefin i Awst 2019, ac yn eu cymharu â 2018. Rhestrwyd y manylion isod:

 

Dyma'r ffigurau troseddau casineb ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2019:-

           CBSPO = 23 o droseddau casineb

           Hiliol - 10

           Anabledd - 4

           Cyfeiriadedd rhywiol - 10

           Trawsryweddol - 0

 

O gymharu â'r un cyfnod y llynedd (Ebrill i Fehefin 2018)

           CBSPO = 18 o droseddau casineb

           Hiliol - 13

           Crefydd - 1

           Anabledd - 2

           Cyfeiriadedd rhywiol - 2

 

Ffigurau troseddau casineb Mehefin i Awst 2019-

           CYFANSWM = 34 o droseddau casineb

           Hiliol - 26

           Crefydd - 2

           Anabledd - 5

           Cyfeiriadedd rhywiol - 3

           Trawsryweddol - 0

 

O gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn gynt (Mehefin i Awst 2019)

           CYFANSWM = 34 o droseddau casineb

           Hiliol - 19

           Crefydd - 2

           Anabledd - 5

           Cyfeiriadedd rhywiol - 7

           Trawsryweddol - 1

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Partneriaethau, er na chafwyd ymchwydd mewn ffigurau, y cafwyd cynnydd bach iddynt o gymharu â'r un adeg y flwyddyn gynt.

 

Credai'r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod ei bod hi'n ddigon posibl bod y cynnydd mewn troseddau casineb yn deillio o Brexit a'r tensiynau'n gysylltiedig â hynny, ac y gallai llawer o'r achosion hynny fod wedi'u tanadrodd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 61.

62.

Adroddiad diweddaru ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg.

 

Esboniodd fod y polisi Cymraeg yn y Gwaith wedi cael ei ddiweddaru ac ar gael i'r staff drwy'r Fewnrwyd. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y strategaeth 5 mlynedd a'r hyn yr oedd hynny'n ei olygu i gwsmeriaid a chyflogeion.

 

Ychwanegodd eu bod wedi cwrdd â Chomisiynydd y Gymraeg ar 30 Hydref ac wedi derbyn gwybodaeth yn gysylltiedig â'u perfformiad. Roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan o ran gohebiaeth, cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, polisïau a gwefan CBSPO. O ran galwadau ffôn, roedd opsiynau iaith awtomatig ar gael ym mhob un o'r tair galwad, ond nid oedd modd ateb unrhyw un o'r galwadau hyn yn llawn drwy ddefnyddio'r Gymraeg. Ychwanegodd eu bod yn dal i ddisgwyl am god ymarfer Comisiynydd y Gymraeg i roi cyfarwyddyd ychwanegol ar ddehongli Safonau'r Gymraeg. Gobeithir y bydd y rhain yn cael eu darparu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cydraddoldeb.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion yn gysylltiedig â'r g?yn a gafwyd ym mis Gorffennaf 2019 lle honnwyd bod llythyr Saesneg yn unig wedi'i dderbyn yn Ysgol Gynradd Bro Ogwr ynghylch gwersi beicio. Daeth Comisiynydd y Gymraeg â'r g?yn i ben gan nad oedd yn 'gwrs addysg' a'i bod yn fodlon mai gwall dynol oedd wrth wraidd yr achos.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion cwyn a gafwyd ym mis Mawrth 2019. Honnodd yr achwynydd nad oedd wedi derbyn ymateb llawn i ohebiaeth Gymraeg a anfonwyd i gyfeiriad e-bost Talktous. Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod cwynion eisoes wedi dod i law ynghylch hyn, felly penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg beidio mynd ar drywydd y g?yn neilltuol hon gan fod y cwynion blaenorol yn destun ymchwiliad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion cwyn a gafwyd ym mis Hydref 2019. Roedd yr achwynydd wedi derbyn ymateb awtomatig i e-bost a oedd yn cydnabod bod taliad y Dreth Gyngor wedi'i dderbyn. Yn ôl yr achwynydd roedd y Gymraeg yn yr e-bost yn wallus.

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb eu bod wedi darparu tystiolaeth i Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch hyn, gan mai dyma oedd yr ail g?yn a gafwyd o natur debyg.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y newyddion diweddaraf i'r pwyllgor Cydraddoldeb am y cwynion blaenorol a gafwyd. Roedd y rhain, a'r cynnydd yn gysylltiedig â hwy, wedi'u nodi yn adran 4.1.6 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod i ba raddau yr ydym wedi datblygu yn nhermau cydymffurfiaeth gyffredinol wrth weithredu'n Gymraeg.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb mai'r unig feysydd lle nad oeddem wedi sicrhau cydymffurfiaeth lawn eto oedd peiriannau hunanwasanaeth, er enghraifft, nid oedd peiriannau talu meysydd parcio yn rhoi'r dewis i weld cyfarwyddiadau yn Gymraeg eto.

 

Mewn perthynas â'r g?yn am yr e-bost a anfonwyd allan, gofynnodd Aelod a oedd y broblem hon wedi'i datrys, neu beth oedd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 62.

63.

Adroddiad diweddaru blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r amcanion yn y Strategaeth Pum Mlynedd ar gyfer Safonau'r Gymraeg pdf eicon PDF 133 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch y gwaith a gyflawnwyd i fodloni amcanion Strategaeth Pum Mlynedd Safonau'r Gymraeg (2016-2021) yn ystod y drydedd flwyddyn ers cyflwyno'r Strategaeth honno.

 

Esboniodd fod rhybudd cydymffurfio terfynol y Cyngor oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg yn cynnwys dwy safon (145 a 146) a oedd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi Strategaeth Pum Mlynedd erbyn 30 Medi 2016. Roedd y strategaeth wedi'i hatodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod y strategaeth wedi'i rhannu'n ddwy adran, y naill i gyflogeion a'r llall i'r cyhoedd. Roedd manylion y rhain a'r cynnydd a wnaed ers 2018 wedi'u rhestru isod.

 

Datblygiadau o ran cyflogeion

 

Nodi'r gallu mewn meysydd gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg

 

  • Mae offeryn asesu'r Gymraeg a ddatblygwyd i gynorthwyo rheolwyr i ddeall sgiliau ieithyddol eu timau fel bo modd targedu hyfforddiant yn y dyfodol yn well, wedi cael ei roi ar waith yng ngwasanaethau cwsmeriaid Gofal Dydd Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Mae camau wedi cael eu cymryd i fonitro'r galw am wasanaethau Cymraeg yn y ganolfan gyswllt ffôn a'r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid.

 

Darparu datrysiadau dysgu a datblygu priodol ar amryw o lefelau er mwyn bodloni'r angen a nodir o fewn y gyllideb a ddyrennir.

 

  • Mae 18 o gyflogeion wedi cwblhau modiwl e-ddysgu Safonau'r Gymraeg a 32 wedi cwblhau'r cwrs ymwybyddiaeth o'r Gymraeg
  • Mae 10 o gyflogeion wedi cofrestru ar Gwrs Mynediad blwyddyn 1, 7 wedi cofrestru ar flwyddyn 2 ac 8 wedi cofrestru ar y flwyddyn lefel sylfaen.
  • Mae 21 o gyflogeion wedi mynychu hyfforddiant cwrdd a chyfarch Cymraeg

 

Gwneud trefniadau i recriwtio i swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol

 

  • Mae'r system recriwtio ar-lein ar gael yn ddwyieithog.
  • Mae gennym amrywiaeth o ddulliau recriwtio, gan gynnwys drwy Fenter Bro Ogwr a thrwy ymgysylltu ag ysgolion Cymraeg i hyrwyddo prentisiaethau.

 

Datblygiadau o ran y cyhoedd

 

Codi proffil y Gymraeg, diwylliant Cymru a gweithgareddau a digwyddiadau lleol Cymraeg a drefnir gan y Cyngor a'n partneriaid mewn modd strwythuredig

 

Ceir calendr treigl o weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg a rhennir y manylion ar draws sianelau cyfathrebu mewnol ac allanol, fel y wasg, y cyfryngau cymdeithasol a Bridgenders. Dyma rai o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau a gafodd eu hyrwyddo dros y cyfnod:

 

  • Diwrnod Shwmae Sumae
  • Darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg newydd yn Ysgol Calon y Cymoedd
  • Gwledd Nadolig Cymru
  • Cynllun chwarae Cymraeg Menter Bro Ogwr

 

 

Cynyddu'r graddau y mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei hyrwyddo, a'r ymwybyddiaeth ohono.

 

 

  • Rydym wedi amlygu cynnydd o ran canlyniad un y Cynllun, lle gwelwyd cynnydd yn nifer y dysgwyr mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.
  • Yng nghanlyniad dau'r Cynllun, gallwn weld cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n dilyn y cwrs llawn Cymraeg ail iaith (TGAU), ers cael gwared â'r cwrs byr Cymraeg iaith.
  • Yng nghanlyniad pedwar y Cynllun gallwn weld bod disgyblion sy'n cwblhau Safon Uwch Cymraeg Iaith gyntaf wedi parhau'n weddol sefydlog.
  • Rydym wedi gwneud cynnydd o ran datblygu llyfryn i hyrwyddo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 63.

64.

Adroddiad blynyddol ar waith Fforwm Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet am waith Fforwm Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng Heddlu De Cymru a CBSPO yn 2017 ynghylch bwriad i gyfuno Fforwm Cydraddoldeb a Gr?p Cydlyniant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Fforwm Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr ar 27 Ebrill 2018. Dywedodd fod y gr?p wedi cyfarfod bob chwarter ers y cyfarfod cyntaf. Dywedodd mai dyma oedd yr ail waith i adroddiad ar gynnydd y Fforwm gael ei gyflwyno gerbron Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion am y testunau a drafodwyd yn y Fforwm, gan gynnwys cyflwyniadau ar y canlynol:

 

           Hyrwyddo prentisiaethau ymhlith grwpiau wedi'u tangynrychioli, gan gynnwys Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl ag anghenion dysgu ychwanegol, sicrhau bod mwy o ferched yn astudio pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

           Tensiynau cymunedol wrth ymadael â'r UE

           Y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth a thacsis hygyrch

           Y diweddaraf am y "sgoriau ar y drysau" ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n annog busnesau lleol i ddangos a oes ganddynt gyfleusterau i bobl anabl ar eu heiddo.

           Ymgynghoriad ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

           Ymgynghoriad ar Gyllideb CBSPO 2019

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb hefyd fod Heddlu De Cymru hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf ym mhob cyfarfod o'r Fforwm. Roedd hynny'n cynnwys gwybodaeth am nifer o feysydd allweddol, fel troseddau casineb, defnyddio grym, tensiynau yn y gymuned, trais yn erbyn menywod a merched, a chwynion a wnaed yn erbyn yr heddlu.

 

Ychwanegodd fod y gr?p yn weithredol yn annog aelodau newydd i ymuno, a'i fod wedi llwyddo i wneud hynny, gyda nifer o aelodau newydd o'r sefydliadau a ganlyn:

 

           Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr;

           Gwasanaethau camddefnyddio sylweddau Cwm Taf;

           Swyddfa Cyngor ar Bopeth;

           Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth;

           Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot

 

Gofynnodd Aelod pwy oedd holl aelodau'r gr?p.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod y Fforwm yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, Mental Health Matters Wales, Vine Christian Center, Eglwys y Santes Fair, Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub a Chanolfan Loches Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi ystyried a derbyn yr adroddiad.

65.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim