Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: remotely via Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

93.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwblgan Aelodau swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd ganCyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Howells fuddiant personol yn eitem 5 gan fod cyfeiriad at strydoedd sydd o fewn ei ward.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicole Burnett fuddiant rhagfarnllyd yn Eitem 5 gan fod ei rhieni'n byw yng Ngerddi Picton ac y byddai’n gadael y cyfarfod yn ystod yr eitem honno.

 

Datganodd y Cynghorydd Richard Young fuddiant personol yn Eitem 5 gan fod cyfeiriad at strydoedd sydd o fewn ei ward.

 

Datganodd y Cynghorydd Janice Lewis fuddiant personol yn Eitem 4 gan fod ei merch yng nghyfraith a'i g?r ar fwrdd y llywodraethwyr.

94.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 104 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03/12/2020

Cofnodion:

PENDERFYNIAD: Bod cofnodion 03 Rhagfyr 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir

95.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Waith Cydraddoldeb o fewn Ysgolion pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion, fel y'i monitrwyd gan ddefnyddio'r Ffurflen Adroddiad Digwyddiadau Hiliol.

 

Dywedodd fod pob ysgol wedi derbyn canllawiau adrodd am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion ym mis Mawrth 2019, ac roedd y canllawiau'n cynnwys hysbysu'r awdurdod lleol am ddigwyddiadau hiliol yn ogystal â hysbysu'r heddlu a allai gofnodi digwyddiadau fel troseddau casineb. I wneud hyn, darparwyd Ffurflen Adrodd Digwyddiadau Hiliol wedi'i diweddaru i ysgolion i'w llenwi lle bo angen.

 

Darparodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu ffigurau’r achosion a gofnodwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, pan welwyd cyfanswm o 10 ar draws 5 ysgol wahanol. Mae’r math o ddigwyddiadau a gofnodwyd i’w gweld yn adran 4.1.1 o'r adroddiad, a rhestrir oedran y cyflawnwyr ac oedran y dioddefwyr yn 4.1.2. Rhestrwyd dadansoddiad pellach o ryw a'r ystod o ymyriadau sy'n digwydd yn adran 4 o'r adroddiad. Ychwanegodd bod prosiect arfaethedig Troseddau Casineb mewn Ysgolion wedi'i ohirio oherwydd y pandemig Covid-19, ac roedd CLlLC mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yngl?n â'r posibilrwydd o ymestyn y cyllid a ddyrannwyd y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio at ei yrfa flaenorol fel athro, a dywedodd fod hiliaeth achlysurol yn fwy cyffredin bryd hynny, hyd yn oed mewn llysenwau plant, felly roedd yn galonogol clywed bod cynnydd wedi’i wneud ers hynny. Fodd bynnag, mae hiliaeth, boed yn fwriadol neu ddim, yn dal i ddigwydd, ac mae pawb â’r gallu i fod yn hiliol. Gofynnodd a oedd rhieni'n cael gwybod am bethau a adroddir am eu plant, fel mater o rybudd.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod rhieni'n cael gwybod am y materion hyn. Roedd hefyd yn ofynnol i'r Ysgolion hysbysu'r awdurdod lleol yn flynyddol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd ffordd o wneud y ffurflenni a gyflwynwyd yn ddienw, fel bo modd i’w Pwyllgor eu delweddu a chael gwell dealltwriaeth. Eglurodd fod llawer o bobl yn defnyddio'r geiriau ‘gay’ neu ‘queer’ fel ffordd o alw enwau, yn ogystal â llawer o eiriau eraill, heb iddynt gario'r un ystyr, felly byddai gallu delweddu'r g?yn yn ei chyfanrwydd yn rhoi gwell dealltwriaeth o sut mae’r geiriau hyn yn cael eu defnyddio. Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu y byddai adolygiad o sut yr edrychir ar adroddiadau am achosion mewn ysgolion yn rhan o Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod canllawiau wedi'u cyhoeddi gan ESTYN a Llywodraeth Cymru a oedd yn sefydlu protocolau ar sut y dylai ysgolion adrodd am fwlio, ac y byddai'n ei gylchredeg i bob aelod yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas â'r cyllid ar gyfer prosiectau troseddau casineb a grybwyllir yn yr adroddiad, pe bai'r cyllid yn dod i law, sut y byddai'r awdurdod yn gwneud y gwaith.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yn rhaid i'r gwaith fod yn gynaliadwy ac, er bod yr awdurdod yn dibynnu ar gyllid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 95.

96.

Y defnydd o’r enw Picton mewn Enwau Strydoedd ac Adeiladau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Adroddiad i roi’r Wybodaeth Ddiweddaraf pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi’r diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet o ran y wybodaeth a gafwyd a’r ymchwil a wnaed yngl?n â’r defnydd o'r enw Picton mewn enwau strydoedd ac adeiladau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Darparodd ffigurau a oedd yn amlinellu nifer y strydoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a oedd wedi defnyddio'r enw 'Picton', a oedd wedi'i rannu'n 4 ardal; Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Mynydd Cynffig a Nantyffyllon, roedd y ffigurau hyn yn adran 4 o'r adroddiad.

 

Dywedodd fod Archifau Morgannwg wedi'u comisiynu i wneud gwaith ymchwil ar ran y cyngor. Cytunwyd y byddai Archifau Morgannwg yn cynnal hyd at 100 awr o ymchwil, ond oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd yn sgil Covid-19, cyfanswm o 50 awr a 35 munud o ymchwil a gyflawnwyd. Roedd yr adroddiad gan Archifau Morgannwg ynghlwm yn Atodiad 1, a'r casgliad i’w gael yn adran 4.3 o'r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu, ar wahân i'r adroddiad a dderbyniwyd yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor, na chafwyd unrhyw wybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru o ran yr Archwiliad a gynhaliwyd ganddynt, felly nid oeddent yn ymwybodol o'u camau nesaf.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod yr adroddiad yn amlygu pa mor anodd y gall fod i ganfod union darddiad enwau strydoedd Pen-y-bont ar Ogwr, a diolchodd i bawb a oedd yn ymwneud â thynnu'r wybodaeth at ei gilydd o fewn amserlen fer.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod yr ymarfer o ymchwilio i darddiad enwau strydoedd o fudd wrth i ni ddeall a chofio yn ogystal ag ail-ddysgu pethau a aeth yn angof. Ychwanegodd y gallai fod angen polisi yn y dyfodol i atal enwi strydoedd ar ôl rhai pobl, ac i ehangu cwmpas yr enwau y gellid eu defnyddio. Credai na ddylid caniatáu i ddatblygwyr tai enwi strydoedd, a dylai'r hawl gael ei rannu rhwng y Cyngor a’r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o ganfod gwybodaeth. Dywedodd ei bod yn briodol i aros i Lywodraeth Cymru gymryd y camau nesaf ar y mater.

 

Gofynnodd Aelod a oedd gan CBSP Bolisi Cydraddoldeb Hiliol, gan y byddai hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth a’n cynnig cysondeb ar draws y fwrdeistref, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector, ac yn help i ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd. Gofynnodd hefyd sut beth oedd yr ymgysylltu a wneir mewn ysgolion o ran hanes pobl ddu, gan y byddai hyn yn gwella dealltwriaeth ac o bosibl yn help wrth enwi strydoedd.

 

Croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr awgrym a chytunodd i'w godi gyda Phenaethiaid yn ogystal â Llywodraeth Cymru.

 

Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu fod gan CBSP Gynllun Cydraddoldeb Strategol a oedd yn cwmpasu'r holl nodweddion gwarchodedig. Roedd CBSP hefyd wedi ymrwymo i'r polisi dim goddefgarwch i ddileu gwahaniaethu ar sail hil ledled Cymru. Gofynnodd yr Aelod a allai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol gysylltu â'r Swyddog Lles Addysg gan ei bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 96.

97.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019 - 2020 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y gwaith a gwblhawyd yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) 2016 - 2020 ar gyfer y cyfnod 2019 - 2020.

 

Nod y SEP oedd:

  • monitro ac adolygu cynnydd yn erbyn amcanion cydraddoldeb strategol;
  • adolygu ei amcanion a'i brosesau gan ystyried unrhyw ddeddfwriaeth newydd a datblygiadau newydd eraill;
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol ynghylch amcanion cydraddoldeb, gan ddarparu tryloywder;
  • cynnwys diweddariadau perthnasol ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, trefniadau caffael, a hyfforddiant.

 

Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu fod yr adroddiad blynyddol (Atodiad 1) yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Rhaid cyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar wefan y cyngor/sicrhau ei fod ar gael erbyn 1 Ebrill 2021. Amlinellodd bwyntiau allweddol yr adroddiad fel y'i rhestrir yn adran 4.3 o'r adroddiad. Ychwanegodd fod gwybodaeth bellach yn yr Atodiad, gwybodaeth fel;

  • ymgynghori a chysylltu
  • gwybodaeth am y gweithlu
  • gwybodaeth am ryw a graddau cyflog
  • ceisiadau am swyddi
  • hyfforddi staff
  • manylion gweithwyr a oedd wedi gadael y Cyngor

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r tîm a fu'n gweithio ar yr adroddiad ac roedd yn edrych ymlaen at adroddiadau cynnydd pellach. Soniodd fod y Cyngor, o edrych ar ddemograffeg y gweithlu presennol, yn elwa'n fawr o gael aelodau staff profiadol a oedd wedi bod yn y Cyngor ers nifer o flynyddoedd, ond bod yr aelodau staff hyn yn h?n ac y gallent ymddeol. Gofynnodd pa gynlluniau sydd o ran rheoli olyniaeth.

 

Cytunodd Rheolwr y Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod cynllunio olyniaeth yn bwysig, ac mae gweithwyr wedi derbyn cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau eu hunain yn ogystal â hyfforddi staff newydd a throsglwyddo eu harbenigedd. Ychwanegodd fod rhaglenni datblygiad proffesiynol hefyd ar gael i alluogi staff presennol i ennill cymwysterau cydnabyddedig ac i agor drysau i’w hunain. Ychwanegodd fod cynlluniau prentisiaeth ar gael hefyd, a’u bod yn cael eu hehangu bob blwyddyn i ganiatáu ar gyfer hyfforddiant mewn swydd a chymwysterau cydnabyddedig mewn amrywiaeth o feysydd. Roedd cynlluniau hefyd ar gyfer rhaglenni graddedigion a chynlluniau secondio gwaith cymdeithasol.

 

Gofynnodd Aelod pa ddulliau dysgu anffurfiol y gellid eu darparu i'r holl staff er mwyn rhoi cyfle iddynt ddatblygu mewn ffyrdd ychwanegol.

 

Cytunodd Rheolwr y Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod pob math o ddysgu yn angenrheidiol ac yn fuddiol. Eglurodd fod sesiynau un i un gyda rheolwyr ac arfarniadau yn gyfleoedd da i staff drafod eu hanghenion dysgu a'u datblygiad personol. Ychwanegodd fod aelod o'i thîm yn y cyfarfod heddiw er mwyn arsylwi ar sut y rhedir pwyllgor a sut y defnyddir y gwaith yr oedd hi wedi'i ddarparu mewn pwyllgor, a bod hyn yn ffordd dda o roi profiad i staff. Ychwanegodd fod dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn cael ei gynnal a’i fod yn llywio'r ddarpariaeth hyfforddiant corfforaethol, ac roedd hyn yn cael ei drafod gyda rheolwyr. Ychwanegodd fod hyfforddiant i reolwyr ar gael yn ffurfiol yn ogystal ag yn anffurfiol drwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 97.

98.

Adroddiad Diweddaru ar Weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg.

 

Dywedodd na chafwyd unrhyw gwynion newydd ers yr adroddiad diwethaf am sut y mae CBSP yn defnyddio’r Gymraeg, ac na fu unrhyw gwynion i'w datrys eisoes. Roedd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol yn falch o weld nad oedd cwynion heb eu bodloni nac ychwaith unrhyw gwynion newydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu, er nad oedd unrhyw achosion i'w hadrodd, ei bod yn bwysig parhau i adrodd yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod cydymffurfiaeth yn cael ei fonitro'n rheolaidd.

 

PENDERFYNIAD: Bod y pwyllgor wedi nodi'r adroddiad.

 

 

99.

Blaenraglen Waith 2021-2022 pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer 2021–2022.

 

Esboniodd fod Atodiad 1 yn nodi'r cynnig i ystyried eitemau busnes rheolaidd y pwyllgor a materion cydraddoldeb allweddol rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mawrth 2022. Roedd y cynnig yn seiliedig ar:

 

  • yr amcanion cydraddoldeb strategol yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2020–2024, fel gwella cysylltiadau cymunedol yn y fwrdeistref sirol;

 

  • yr ymgynghoriad ar yr amcanion drafft ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024;

 

  • monitro parhaus y gwaith o weithredu Safonau'r Gymraeg, gan gynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gwasanaeth;

 

  • awgrymiadau gan y pwyllgor;

 

  • materion cydraddoldeb cenedlaethol a lleol;

 

  • trefniadau adrodd sefydledig ar gyfer Safonau'r Gymraeg a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol;

 

  • ystyriaeth i flaenoriaethau eraill y cyngor ac adroddiadau allanol.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar am eglurhad ar eitem ar gyfer mis Mawrth 2022 – Dyletswydd economaidd-gymdeithasol – Blwyddyn i ffwrdd, ond ni allai weld unrhyw gynlluniau ar gyfer yr eitem hon cyn y dyddiad hwnnw. Credai y byddai hyn yn dod yn fwyfwy pwysig ac roedd o’r farn y dylid ei roi gerbron Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet i egluro beth ydoedd a sut y byddai'n effeithio ar y Cyngor.

 

Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu y gellid ychwanegu adroddiad ar hyn at y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2021. Ychwanegodd y byddai adroddiad a oedd yn amlinellu pynciau blaenorol a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn ddefnyddiol i sicrhau bod amrywiaeth o bynciau'n cael eu trafod yn ogystal â chyflwyno adroddiadau gloywi ar bynciau'r gorffennol.

 

Gofynnodd Aelod a ellid darparu adroddiad diweddaru yn manylu ar y nifer sy'n manteisio ar hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein, er mwyn helpu'r pwyllgor i ddeall agweddau staff tuag at bwysigrwydd yr hyfforddiant.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a ellid darparu adroddiad ar effeithiau Covid-19 a'r pandemig ar anghydraddoldebau, gan fod pryder y gallai rhai o'r anghydraddoldebau waethygu. Pe bai hyn yn wir, ychwanegodd, efallai y bydd y pwyllgor am ymateb i hyn.

 

Holodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu a oedd y pwyllgor yn dymuno gweld yr eitem Gwaith Cydraddoldeb mewn Ysgolion fel adroddiad blynyddol, neu yn ôl yr angen. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n well ganddi weld yr adroddiad bob blwyddyn neu bob chwe mis, a hynny gan fod yr eitem wedi ennyn llawer o ddiddordeb,. Cytunodd y pwyllgor y byddai’n addas cael adroddiad blynyddol sy'n dechrau ym mis Tachwedd, i gwmpasu'r flwyddyn academaidd, ac yna adroddiadau yn ôl yr angen wedyn.

 

PENDERFYNIAD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi cymeradwyo Blaenraglen Waith arfaethedig 2021-2022 yn amodol ar y gwelliannau a restrir uchod.

 

100.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z