Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Mercher, 18fed Hydref, 2017 14:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr. Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

153.

Datganiad buddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members’ Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau buddiant canlynol:

 

Gwnaed datganiad buddiant gan y Cynghorydd DBF yn eitem 4 o’r agenda – y Rhaglen Trawsnewid ar gyfer Plant Anabl fel ei fod yn aelod o gorff llywodraethu Ysgol Heronsbridge  ac eitem 5 o’r agenda – Monitro Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin gan ei fod wedi ei gyflogi gan Wasanaethau Plant Cyngor Abertawe sy’n rhan o Ranbarth Bae’r Gorllewin.

 

Gwnaed datganiad buddiant personol gan y Cynghorydd J Gebbie yn eitem 5 o’r agenda - Monitro Perfformiad a Chynnydd gan ei bod wedi ei chyflogi gan Wasanaethau Cymdeithasol Plant yng Nghyngor Castell Nedd Port sy’n rhan o Ranbarth Bae’r Gorllewin.

 

Gwnaed datganiad buddiant personol gan y Cynghorydd C Webster yn eitem 4 o’r agenda – Rhaglen Trawsnewid ar gyfer Plant Anabl gan fod aelod o’i theulu yn derbyn cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS).

 

Gwnaed datganiad buddiant personol gan y Cynghorydd J Radcliffe yn eitem 5 o’r agenda – Monitro Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin gan ei fod yn mynd drwy broses fabwysiadu gyda Bae’r Gorllewin ar hyn o bryd.   

154.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 63 KB

To receive for approval the minutes of a meeting of the Corporate Parenting Cabinet Committee dated 19 April 2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo bod y cofnodion o gyfarfod Pwyllgor y Cabinet dros Rianta Corfforaethol ar 19 Ebrill 2017 yn gofnod gwir a chywir.  

155.

Rhaglen Trawsnewid ar gyfer Plant Anabl pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad arm y diweddaraf o waith a wnaed ar fodel newydd o ddarpariaeth arbenigol 52 wythnos ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Gofynnodd hefyd i’r Datganiad o Ddiben a ddatblygwyd ar gyfer y ddarpariaeth newydd, a gafodd gymeradwyaeth gan y Cabinet ym mis Mehefin 2017, gael ei nodi.

 

Adroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant hefyd fod tîm y prosiect wedi rhoi cynlluniau ar waith, yn dilyn cymeradwyaeth i ddatblygu darpariaeth arbenigol 52 wythnos, i symud y prosiect ymlaen gan adrodd ar y cynnydd i Fwrdd y Rhaglen Plant  Anabl. Nododd y gofynnwyd i blant a phobl ifanc sy’n mynd i Ysgol Heronsbridge  roi awgrymiadau ar gyfer y cyfleuster newydd a chynigiwyd yr enw ‘Harwood House’, sef enw’r gofalwr presennol ac sy’n unol ag enwau’r adeiladau eraill. 

 

Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant wybodaeth i’r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed yn y meysydd gwaith canlynol:

 

·         Caffael ac Adeiladu

·         Cynllunio Lleoliadau/Cyfnod Pontio

·         Cofrestru (gan gynnwys strwythur aelodau staff a rota)

 

Gwnaeth y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant grynodeb o’r pwyntiau allweddol sydd wedi eu cynnwys yn y Datganiad o Ddiben ac o’r broses gofrestru a ddechreuodd gydag AGGCC ym mis Mehefin 2017 a bwriedir ei chwblhau  erbyn mis Medi/Hydref 2017, pan fyddai’r garfan gyntaf o unigolion wedi ei chynnwys yn y ddarpariaeth yn ôl y cynllun. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant  fod y prosiect i ddatblygu darpariaeth arbenigol 52 wythnos yn Ysgol Heronsbridge wedi ei roi ar waith  ochr yn ochr â’r gwaith ailwampio yn Bakers Way, a oedd yn cynnig gwyliau byr i blant anabl.

 

Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol A Lles ar bwysigrwydd y prosiect am ddarpariaeth arbenigol  52 wythnos, a ddylai sicrhau llai o ddibynadwyedd ar leoliadau y tu hwnt i’r sir sydd â chost uchel. Dywedodd y byddai’n rhannu manylion agoriad swyddogol y cyfleuster â’r Aelodau ar ôl cwblhau’r trefniadau. Diolchodd y Pwyllgor i dîm y prosiect am eu gwaith yn cyflawni’r prosiect. Mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei ddiolch i Gail Summerhayes, y Rheolwr Preswyl,  am ei rhan yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei wireddu.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oes modd gwneud rhywbeth i roi arwyddion i ddargyfeirio myfyrwyr sy’n mynd i Goleg Pen-y-bont i ffwrdd o’r cyfleuster arbenigol newydd, a hefyd gofynnodd a fyddai lleoedd parcio’n cael eu neilltuo. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y byddai’n edrych ar y mater arwyddion ac y byddai maes parcio penodedig ar gyfer T? Harwood. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddent hefyd yn edrych ar yr hyn y mae’r eiddo drws nesaf, sef T? Heron sy’n gyfleuster ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, yn ei wneud i ymdrin â phroblemau parcio.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor faint o’r lleoliadau sydd y tu allan i’r sir ar hyn o bryd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Plant wrth y Pwyllgor fod 11 o leoliadau y tu allan i’r sir ar hyn o bryd gan na wnaethant fodloni’r meini prawf i gael eu lleoli  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 155.

156.

Monitro Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol adroddiad ar berfformiad a chynnydd  Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Dangosyddion Perfformiad Rhanbarthol  2016/17. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod mabwysiadu yn dal i dderbyn llawer o sylw gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru  a bod creu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn un o brif feysydd polisi Llywodraeth Cymru fel y’i deddfwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ddeddf hon yn rhoi grym i awdurdodau lleol gydweithredu mewn cysylltiad â gwasanaethau mabwysiadu.  Esboniodd y Rheolwr Mabwysiadau Rhanbarthol i’r Pwyllgor fod gwasanaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin yn cael ei gynnal a’i reoli gan Gyngor Abertawe ac yn rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Tynnodd sylw at drefniadau rheoli a goruchwylio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, y mae Cyngor Caerdydd yn ei gynnal ac yn awdurdod arweiniol iddo. 

 

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadau Rhanbarthol fod Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin wedi dod yn llwyr weithredol ym mis Ebrill 2015 a’i fod yn darparu ystod o wasanaethau ac ymyraethau ar draws pum prif faes. Tynnodd sylw at brif gyflawniadau’r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol, a oedd wedi gweld mwy o blant yn cael eu lleoli o fewn y gwasanaeth nag o fewn y rhyngasiantaethau (IA). Cafodd 13 o blant eu lleoli ym Mhen-y-bont drwy’r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol ac 11 drwy’r IA. Roedd yr amser yr oedd yn ei gymryd i gynnig lleoliad i blentyn a oedd yn derbyn gofal wedi gostwng o 19.5 mis i 15.3 mis. Ni lwyddwyd i gyrraedd y meincnod cenedlaethol o 13 mis. 

 

Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol fod yr amser a gymerir ar gyfartaledd i blant sy’n aros am fwy na chwe mis o’r penderfyniad y dylid eu lleoli i’r adeg y cânt eu lleoli  wedi cynyddu o 9.25 mis i 10 mis.  Nododd y cafwyd llawer o ddatrysiadau llwyddiannus gyda nifer o blant yn cael eu lleoli mewn cyfnod byr iawn o amser. Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor fod mwy o gydweithredu’n digwydd rhwng Family Finding a’r Adoption Support i roi pecynnau cymorth ynghyd ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth neu pan fo angen cymorth ychwanegol ar leoliadau.        

 

Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod y cyfnod cyfartalog i gymeradwyo mabwysiadwyr o’r cam ymholi i’r cam penderfyniad gan yr Asiantaeth  wedi gostwng o 10.1 mis y llynedd i 9.7 mis. Nododd fod cynnydd bach yn nifer y plant sydd wedi eu cyflwyno i’r panel gyda thystiolaeth o Ffeithiau Profiadau Bywyd. Llwyddwyd i gynnal lefel y perfformiad o ran nifer y rhieni biolegol sydd wedi eu hatgyfeirio ac sydd wedi cael cynnig gwasanaeth. Amlygodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol yr heriau/datblygiadau  y bydd angen i’r gwasanaeth ymgymryd â nhw yn y flwyddyn i ddod.   

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd patrymau neu dueddiadau wedi dod i’r amlwg lle gwelwyd ymholiadau’n cael eu gwneud gan ddarpar fabwysiadwyr ond nad aethant ymlaen i fabwysiadu. Nododd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol  nad oedd tystiolaeth benodol pam nad oedd darpar fabwysiadwyr yn mynd ymlaen i fabwysiadu. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y cynigion newydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 156.

157.

Eitemau Brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should be reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys.

158.

Eithrio’r Cyhoedd

The Report relating to the following item is not for publication as it contains exempt information as defined in Paragraphs 12 and 13 of Part 4, and Paragraph 21 of Part 5, Schedule 12A of the Local Government Act 1972, as amended by the Local Government (Access to Information) (Variation) (Wales) Order 2007.

 

If following the application of the public interest test Cabinet resolves pursuant to the Act to consider this item in private, the public will be excluded from the meeting during such consideration.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y caiff aelodau’r cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod pan drafodir yr eitem fusnes ganlynol  gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 a 13 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5  Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan  Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

 

Ar ôl rhoi prawf budd y cyhoedd ar waith wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, y caiff yr eitem ei hystyried yn breifat, a bydd aelodau’r cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod gan y byddai’n cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig o’r math a nodwyd uchod..

159.

Adolygiadau Ymarfer Plant