Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

179.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

180.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 61 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 11/07/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Rianta Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2018.

181.

Plant sy'n Derbyn Gofal Mewn Addysg pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a ddiweddarai'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol ynghylch y cymorth i Blant sy'n Derbyn Gofal Mewn Addysg ar draws yr awdurdod lleol. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio'n benodol ar y gefnogaeth a roddir i Blant sy'n Derbyn Gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y flwyddyn academaidd 2017-18, ynghyd â'r deilliannau o ran eu cyrhaeddiad. O ran eu cyrhaeddiad addysgol, esboniodd fod Plant sy'n Derbyn Gofal yn aml yn tangyflawni o'u cymharu â'u cyfoedion a'u bod yn llai tebygol o fynd ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd y daeth y Tîm Grwpiau Agored i Niwed yn gyfrifol am gefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal Mewn Addysg ym mis Mai 2018. Roedd y tîm yn cydweithio'n agos â Gofal Cymdeithasol i Blant a gwasanaethau Cymorth Cynnar eraill i sicrhau bod Plant sy'n Derbyn Gofal yn derbyn addysg o ansawdd uchel a oedd yn bodloni'u hanghenion. Ategodd fod 278 o Blant sy'n Derbyn Gofal i'w cael ym Mhen-y-bont at Ogwr ym mis Ionawr 2018 a broffiliwyd yn unol â'r clystyrau ysgolion a grybwyllwyd yn yr adroddiad. Soniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod llawer o waith yn cael ei wneud yn lleol i sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth gywir. Roedd datblygu'r Panel Mynediad i Addysg yn rhan o hyn. Crëwyd y Panel i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i addysg sy'n bodloni'i anghenion, a hynny mewn modd amserol.

 

Nododd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd mai rhan o hyfforddiant y Tîm Grwpiau Agored i Niwed oedd codi ymwybyddiaeth ar draws ysgolion ynghylch effaith bod yn Blentyn sy'n Derbyn Gofal ar unigolion, gan gynnwys y trawma a'r modd y gallai hyn effeithio ar allu'r plentyn i ymroi i ddysgu. Esboniodd swyddogaeth yr awdurdod o ran datblygu cyfleoedd profiad gwaith a phrentisiaethau i Blant sy'n Derbyn Gofal. Roedd gan bob Plentyn sy'n Derbyn Gofal ym Mlwyddyn 11 gyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith dros wyliau'r haf ac achubodd 7 ohonynt ar y cyfle hwnnw. O ganlyniad, enillodd 4 ohonynt gymhwyster Agored.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod sawl ysgol wedi cyflwyno Cynorthwywyr Cymorth Dysgu i gynorthwyo â llythrennedd a rhifedd Plant sy'n Derbyn Gofal. Cafwyd ymateb cadarnhaol i hyn ac mae wedi arwain at ragor o gysondeb o ran y cymorth sy'n cael ei roi.

 

Gofynnodd Aelod a oedd cynnydd wedi bod yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles na chafwyd llawer o newid yn y niferoedd. Mae'n bosib bod y niferoedd ychydig yn is o'u cymharu â'r llynedd.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd ddiweddariad ynghylch cyrhaeddiad addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar draws y gwahanol grwpiau oedran. Ategodd eu bod mewn sefyllfa gadarnhaol iawn ar y cyfan. Daeth o hyd i gamgymeriad yn y modd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 181.

182.

Adolygiad o'r Model ar gyfer Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd ddiweddariad ynghylch y gwaith a gyflawnwyd hyd yma wrth ymateb i un o argymhellion y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (yr IPC), yn arbennig felly o ran effaith gwasanaethau cymorth cynnar.  Wrth ymateb i'r argymhelliad a oedd yn ymwneud ag adolygu effaith, rhaid i wasanaethau cymorth cynnar sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd. I'r perwyl hwn, roedd y gwasanaethau presennol yn yr Hwb Canolog yn cael eu hadolygu.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Hwb Canolog i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n rhan o'r ddarpariaeth Gofal Cymdeithasol i Blant. Ymhlith y gwasanaethau hyn roedd Cysylltu Teuluoedd, Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd Bae'r Gorllewin, Ymateb Cyflym, y Gwasanaeth 'Baby in Mind' a'r Gwasanaeth Adlewyrchu. Aeth ati hefyd i grynhoi ymweliadau'r awdurdod lleol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Caerfyrddin. Y farn oedd bod gan y rhain i gyd wasanaethau cymorth cynnar da. Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd gweithdy ym mis Mai 2018 i adolygu'r gwasanaethau presennol, i rannu arfer dda ac i nodi unrhyw fylchau canfyddedig yn y gwasanaethau a ddarperir. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd ei bod yn amlwg, yn sgil yr ymweliadau a'r gweithdy, nad oedd gwahaniaeth sylweddol yn y modd yr oedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu'i wasanaethau o'u gymharu â gwasanaethau'r sefydliadau yr ymwelwyd â nhw. Pwysleisiodd fod nifer o wasanaethau newydd wedi dod i fodolaeth yn ddiweddar ac ategodd y byddai effaith y rhain yn cael ei chloriannu maes o law.

 

Ategodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd fod pob awdurdod lleol wedi canmol y cydweithio cadarnhaol rhwng Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol i Blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ei farn ef, roedd yn amlwg bod Pen-y-bont ar Ogwr yn achub y blaen mewn perthynas â gwaith cam-i-fyny/cam-i-lawr rhwng Gofal Cymdeithasol i Blant a Chymorth Cynnar a bod plant a theuluoedd yn gallu symud o'r naill ddarpariaeth i'r llall yn ddiffwdan. Ymddangosai bod pob awdurdod lleol yn gorfod ymdopi â'r un heriau.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd y materion hynny a gyflwynwyd i Fwrdd Rheoli Corfforaethol yr awdurdod lleol yn ôl ym mis Medi 2018 er gwybodaeth.

 

Gofynnodd Aelod a oedd teuluoedd y plant hynny sy'n mynd i mewn i ofal yn cael cymorth i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd fod Barnado's yn cydweithio'n agos â'r teuluoedd hyn i'w cefnogi nhw.

 

Gofynnodd Aelod pa gefnogaeth yr oedd y plant hyn yn ei chael er mwyn iddynt gael profiadau bywyd ehangach, megis cymryd rhan mewn pêl-droed, ac ati. Esboniodd y Rheolwr Gr?p, Rheoli Achosion a Phontio fod disgwyl i ofalwyr maeth gefnogi plant a'u paratoi ar gyfer bywyd mewn ffordd gadarnhaol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig wedi methu am resymau ariannol. Dywedwyd wrtho nad oedd Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yn methu am resymau ariannol. Byddai pobl sy'n ofalwyr ar hyn o bryd yn dod yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 182.

183.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3pm.

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z