Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

184.

Datgan Buddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. DBF White ddatgan sy'n rhagfarnu dan eitem 5 yr Agenda - Monitro Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin gan mai Cyngor Abertawe, sy'n rhan o Fae'r Gorllewin, yw ei gyflogwr. Felly, nid oedd yn bresennol yn yr ystafell gyfarfod pan ystyriwyd yr eitem. Datganodd y Cyng. DBF White fuddiant personol dan eitem 6 yr Agenda – Arolygiaeth Gofal Cymru – Arolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin - Cynllun Gweithredu ac arhosodd yn yr ystafell gyfarfod i glywed y cyflwyniad. 

185.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 61 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/10/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Rianta Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018.  

186.

Prosiect Ailfodelu Gwasanaethau Maethu pdf eicon PDF 97 KB

Gwahoddedigion:

Rebecca Walsh – Gofalwr Maeth

Clive Wilkinson - Gofalwr Maeth

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant ar y gwaith a wnaed yn rhan o brosiect Ailfodelu Gwasanaethau Maethu a'r newid i'r Gwasanaethau Maethu o ganlyniad i hynny. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor y cynhaliwyd adolygiad eang o'r gwasanaethau preswyl. O ran y gwasanaeth maethu, gellid datblygu rhagor ar y gwasanaeth a ddarperir a sicrhau arbedion effeithlonrwydd. Amlinellodd y cynigion a wnaed, y mentrau a roddwyd ar waith ynghyd â'r prif newidiadau a'r cynigion a gafwyd yn sgil yr adolygiad. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y Tîm Maethu wedi'i rannu'n ddau faes penodol; mae gan y naill gyfrifoldeb dros ofalwyr sy'n berthnasau ac mae gan y llall gyfrifoldeb dros ofalwyr maeth cyffredinol.  Hysbysodd y Pwyllgor y bydd y pum swydd bresennol sy'n ymwneud â chyswllt â gofalwyr yn cael eu cynnal. Bydd un ohonynt yn canolbwyntio ar ofalwyr sy'n berthnasau a'r pedwar arall yn gweithio â gofalwyr cyffredinol.   O ran hyfforddiant, bydd y cwrs Skills to Foster yn cael ei ailstrwythuro a'i wneud yn gydnaws â'r cynllun hyfforddi a gynigir ar draws pob Cyfarwyddiaeth. Yn y tymor hirach, bwriedir cryfhau'r hyfforddiant mewnol i ofalwyr maeth drwy ddatblygu a chynnal cyrsiau mewnol. 

 

Er mwyn i daliadau a ffioedd fod yn gystadleuol ag Asiantaethau Maethu Annibynnol, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod yn rhaid i'r awdurdod dalu ffioedd i ofalwyr cyffredinol yn gynharach yn eu gyrfaoedd maethu. Byddai gofalwyr maeth yn cael ffi wedi iddynt gael eu cymeradwyo, a bydd disgwyl iddynt gwblhau'r rhaglen hyfforddi craidd o fewn y flwyddyn gyntaf. O ran uwchsgilio gofalwyr maeth, ac yn rhan o'r broses gymhwyso i dderbyn ffioedd, bydd y meini prawf y mae'n rhaid i ofalwyr eu bodloni i dderbyn y ffioedd uwch hefyd yn cynnwys presenoldeb mewn grwpiau cymorth. O ran taliadau bonws, byddai gofalwyr yn cael cynnig bonws o £250 os byddant yn cyfeirio ffrind i fod yn ofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y bonws hwn yn cael ei dalu pan fydd yr unigolyn newydd hwnnw'n cael ei gymeradwyo a phan fydd wedi cychwyn ar ei leoliad cyntaf. 

 

Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor fod proses newydd wedi'i rhoi ar waith sy'n adolygu lleoliadau Asiantaethau Maethu Annibynnol sydd wedi bodoli ers llai nag 16 wythnos. Nod hyn fydd trosglwyddo cynifer o'r lleoliadau hyn â phosib i'r ddarpariaeth fewnol.  Nododd y bydd ymgyrch farchnata hirdymor yn cael ei gweithredu. Nod yr ymgyrch honno fydd sicrhau cynifer o ofalwyr maeth mewnol â phosib. Hysbysodd y Pwyllgor fod dau aelod o'r staff gwaith cymdeithasol sy'n gyfrifol am hyrwyddo ac am asesu ymgeiswyr am Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig bellach wedi'u lleoli o fewn y Tîm Maethu. Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor fod Swyddog Datblygu wedi'i benodi ac y bydd rhagor o gapasiti gwaith cymdeithasol o fewn y Tîm Maethu yn cael ei greu er mwyn ymgymryd â gwaith asesu.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rebecca Walsh ac i Clive Richards ac fe'u gwahoddwyd i fynegi'u barn ac i sôn am eu profiadau fel gofalwyr maeth.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 186.

187.

Monitro Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol ar berfformiad a chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Ddangosyddion Perfformiad Rhanbarthol 2017/18.

 

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol fod Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin bellach yn rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fel un o'r pum cydweithrediad rhanbarthol a enwyd. Amlinellodd drefniadau rheoli ac arolygu'r Gwasanaeth Cenedlaethol sy'n cynnwys Bwrdd Llywodraethol, Gr?p Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Gweithrediadau a Thîm Canolog. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod yn debygol, yn sgil newid ffiniau'r Bwrdd Iechyd, y bydd gofyn i Ben-y-bont ar Ogwr ddod yn rhan o gydweithrediad y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn rhan o gydweithrediad Bae'r Gorllewin, ac na fyddai'n trosglwyddo i ranbarth newydd cyn mis Ebrill 2020 ar y cynharaf.  

 

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol ar gyraeddiadau allweddol y flwyddyn ac ategodd fod nifer y plant sydd wedi'u lleoli ychydig yn uwch nag yr oedd y flwyddyn flaenorol. Cafodd rhagor o blant eu lleoli â rhieni mabwysiadu Bae'r Gorllewin nag mewn lleoliadau rhyngasiantaethol yn ystod y flwyddyn. Nododd y cafwyd cynnydd yn nifer y plant a allai ddarparu'r rhieni mabwysiadu â deunyddiau Hanes Bywyd. Ar gyfartaledd, roedd yr amser yr oedd yn ei gymryd i gymeradwyo rhieni mabwysiadu, o'r cyfnod ymholi i asiantaeth yn dod i benderfyniad, wedi gostwng o 9.7 mis i 8.2 mis. Cymharer hyn â'r meincnod cenedlaethol o 8 mis. Buddsoddwyd yng ngwefan Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, gan ei gwneud yn fwy rhyngweithiol, yn haws ei defnyddio ac roedd bellach yn cynnwys y cynnig rhagweithiol. Roedd tudalen i'r aelodau hefyd yn cael ei datblygu a cheir tudalennau sy'n gyfeillgar i blant fel y cânt eu hannog i ddefnyddio'r safle we. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod gwaith datblygu a gweithredu'r model Trosglwyddo/Symud Ymlaen, sy'n cynorthwyo i baratoi plant i'w mabwysiadu ac i sicrhau deunydd Hanes Bywyd, wedi parhau ar draws y rhanbarth. Ychwanegodd fod y staff yn derbyn hyfforddiant.

 

Hysbysodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol y Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo i wella mynediad i'r wefan ac i ddatblygu strategaeth farchnata a recriwtio i Gymru gyfan. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y gwasanaeth mabwysiadu yn cael yr un cyhoeddusrwydd â'r gwasanaeth maethu. Hysbysodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol y Pwyllgor fod llawer o waith yn cael ei wneud i godi proffil mabwysiadu ac i godi ymwybyddiaeth yn ei gylch. Soniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y gwasanaeth maethu yn llawer mwy lleol ei naws a bod mabwysiadu yn wasanaeth mwy cenedlaethol a rhanbarthol ei naws. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gwaith datblygu ychwanegol y bwriedir ei wneud ar y system Technoleg Gwybodaeth fel y gellir ei chynnwys yn y system adrodd. Soniwyd hefyd y byddai cipio data yn waith mwy cymhleth. Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod y gwaith sy'n digwydd ar y cyd ag Adran TGCh Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gipio data yn parhau. Dywedodd fod cipio data yn gofyn am lawer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 187.

188.

Arolygiaeth Gofal Cymru - Arolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin - Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 82 KB

I gael cyflwyniad gan Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol drosolwg o ganfyddiadau ac argymhellion arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin. 

 

Hysbysodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol y Pwyllgor fod cynllun gweithredu wedi'i ddatblygu er mwyn ymateb i argymhellion Arolygiaeth Gofal Cymru ac y caiff hwn ei fonitro gan y Bwrdd Rheoli Mabwysiadu Rhanbarthol. Rhoddodd ddiweddariad ar bob un o'r argymhellion a gwelwyd bod cynnydd wedi bod ers cyhoeddi adroddiad yr Arolygiad.

 

Canmolodd y Pwyllgor y gwaith a'r arfer dda yn y rhanbarth a gydnabuwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Fodd bynnag, mynegodd bryder ynghylch trosglwyddo'r gwasanaeth y flwyddyn nesaf i ranbarth y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd. Holodd hefydd a oedd digon o adnoddau wedi'u neilltuo er mwyn trosglwyddo'r systemau TGCh o ganlyniad i'r newid ffiniau.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor y cytunwyd i oedi rhagor cyn trosglwyddo'r gwasanaeth mabwysiadu i'r rhanbarth newydd ac y bydd blwyddyn bontio. Ategodd fod gwaith cwmpasu hefyd yn cael ei gynnal. Os bydd angen cyfnod pontio sy'n hwy na blwyddyn, bydd achos yn cael ei baratoi i ofyn am estyniad.  Neilltuwyd swm o arian i drosglwyddo'r gwasanaeth. Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles hefyd fod 1.5 o swyddogion wedi'u neilltuo i weithio ar y prosiect a bod angen cynnal gwaith cwmpasu i weld a oes digon o adnoddau ar gael. Soniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant wrth y Pwyllgor am y ffrydiau gwaith niferus sydd i'w cael o fewn System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru a fyddai'n ei gwneud hi'n haws trosglwyddo'r systemau TGCh. Holodd y Pwyllgor a oedd cyfle i drosglwyddo unwaith i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y gallai hyn fod yn bosib am fod Cynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn defnyddio System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.

 

PENDERFYNWYD: (1) Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru yn sgil yr arolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin, y Cynllun Gweithredu cysylltiol ac adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru yn sgil yr adolygiad o'r Trefniadau Mabwysiadu Cenedlaethol;

 

(2) Bod y Pwyllgor yn diolch i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol am ganlyniad yr arolygiad a'i fod yn gofyn am adroddiad fel y gall fod yn hollol sicr bod yr holl argymhellion a wnaed yn y Cynllun Gweithredu yn cael sylw.  

189.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim eitemau brys.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z