Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Mercher, 4ydd Mawrth, 2020 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

208.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

209.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 04/09/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Bod cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Medi 2019 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

210.

Strategaeth Lleihau Nifer Plant sy'n Derbyn Gofal a Strategaeth y Bwrdd Diogelu a Chymorth Cynnar pdf eicon PDF 126 KB

Gwahoddedigion:

 

Laura Kinsey – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

Iain McMillan – Rheolwr Gr?p - Rheoli Achos a Throsglwyddo

Mark Lewis – Rheolwr Gr?p Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd

Dave Wright – Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am waith Gr?p Technegol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, cyflwynwyd yr adroddiad i Rianta Corfforaethol ar 29 Mai 2019, ac yr oedd yn nodi'r camau a gymerwyd gan yr Awdurdod Lleol ers y dyddiad hwnnw o ran gweithredu ei strategaeth i leihau’r nifer o Blant sy'n Derbyn Gofal (LAC).

 

Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant gefndir i'r cynnydd a wnaed yn ogystal â’r drafft o gynllun gweithredu newydd a fyddai'n ailffocysu ar weithgarwch y gyfarwyddiaeth drawsbynciol. Amlinellodd Strategaeth Ddisgwyliadau Lleihau’r Nifer o Blant sy'n Derbyn Gofal, yn ogystal â lansiad y Gr?p Monitro Sefydlogrwydd, a'r Cynllun Gweithredu ar y Cyd a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Cymorth a Diogelu Cynnar yn fuan.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn fodlon bod cynnydd yn cael ei wneud, ond nododd y bu cynnydd bach yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn ystod y 12 mis diwethaf, a holodd a allai hyn fod yn arwydd o duedd gyffredinol. Gofynnodd hefyd am effaith y swyddi Gweithwyr Cymorth Ailuno o fewn y Gwasanaeth Maethu yn ogystal â phecyn cymorth ailuno'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y bu problem gyda nifer fach o blant oedd ag anghenion cymhleth, ond ni fu cynnydd sydyn ac nid dyma'r cyfeiriad y byddent yn ei ddilyn. Roedd hi’n cydnabod i’r niferoedd gael eu heffeithio gan grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd.  O ran y swyddi Gweithwyr Cymorth Ailuno, roedd dau berson eisoes yn eu swyddi ac wedi’u hyfforddi, a chanddynt garfan o achosion wedi'u nodi ar eu cyfer. Roedd y ddwy swydd arall wedi'u hail hysbysebu ac roeddent yn hyderus y byddent yn penodi'n fuan. Yr allwedd i becyn cymorth yr NSPCC oedd asesu ac roedd y broses ar waith yn un briodol.      

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw welliant o ran recriwtio gofal maeth o dan Gwm Taf. Y cyngor a roddwyd iddi oedd bod recriwtio'n symud i’r cyfeiriad cywir. Eglurodd Rheolwr y Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod gweithio gyda Chwm Taf yn gadarnhaol iawn. Bellach, roedd gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (a arferai fod o dan fesurau arbennig) weithiwr iechyd penodol, a gallai ddefnyddio swm sylweddol o arian ychwanegol yn gysylltiedig â'r ICF. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod Cwm Taf, o safbwynt y gwasanaethau i blant, wedi bod yn gadarnhaol iawn, a chanddynt gysylltiadau cryf a phrosesau llywodraethu sefydledig wrth gydweithio.     

 

Gofynnodd aelod a oedd yr awdurdod yn ymgysylltu â'r byd academaidd. Ychwanegodd y gallai Brifysgol Caerdydd rannu llawer iawn o wybodaeth o ran y maes hwn. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw waith ar lefel leol ond fod cysylltiadau wedi bod â'r prifysgolion drwy grwpiau cynghori a ffrydiau gwaith. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y bu trafodaethau'n ddiweddar yngl?n â'r ffordd orau o fanteisio ar y wybodaeth hon. Ychwanegodd fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 210.

211.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

212.

Dioch I'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol A Lles

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor mai hwn oedd cyfarfod Pwyllgor y Cabinet Rhianta Corfforaethol diwethaf y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, ac y byddai’n gadael cyn bo hir. Diolchodd iddi am y profiad, y cyngor a'r arweiniad a roddwyd ganddi ac, ynghyd â'r Cadeirydd, yr Aelodau a'r Swyddogion, diolchodd iddi am ei chefnogaeth ac am gadw'r awdurdod yn ddiogel.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i’r swyddogion a'r Pwyllgor am eu dymuniadau cynnes ac atebodd ei bod wedi bod yn fraint ac iddi fod wrth ei bodd â'i swydd. Roedd hi wastad wedi teimlo fod ganddi gefnogaeth, ac roedd hi'n gwerthfawrogi'r berthynas barchus a heriol â’r Aelodau.