Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Mercher, 4ydd Medi, 2019 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

201.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Yn absenoldeb y Cynghorydd P White, enwebodd y Pwyllgor y Cynghorydd Huw David fel Cadeirydd.

202.

Datgan Budd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

203.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 117 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/09/19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar 29/05/2019 fel cofnod manwl gywir.   

204.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC – AGGCC gynt) – Arolygu Cartrefi Gofal pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant adroddiad yn amlinellu adroddiadau a chyhoeddiadau cysylltiedig am y Cynlluniau Gweithredu yn dilyn adroddiadau arolygu ynghylch Sunnybank (Rhagfyr 2018), Bakers Way (Ionawr 2019) a Harwood house (Chwefror 2019).

 

Rhoddodd gefndir AGC i’r pwyllgor a hefyd manylu ar y mathau o arolygiadau blynyddol mae’n eu cynnal ar Gartrefi Plant. Rhoddwyd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad. 

 

Darparodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant grynodeb o’r canfyddiadau am bob un o’r 3 chartref plant a restrwyd yn flaenorol gan hefyd arddangos y meysydd gwelliant. Roedd manylion pellach yn adran 4 yr adroddiad a darparwyd yr adroddiadau llawn ar gyfer pob cartref gofal yn Atodiadau 1, 2 a 3.

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod meysydd gwelliant mawr i ddechrau ar gyfer Harwood house yn dilyn yr arolygiad fel y rhestrwyd yn 4.10 yr adroddiad. Fodd bynnag, ddiwedd mis Gorffennaf, cynhaliwyd arolygiad pellach yn Harwood house a chadarnhaodd bod y meysydd nad oeddent yn cydymffurfio wedi cael sylw. Esboniodd mai dim ond ychydig ddyddiau cyn y cyfarfod hwn oedd yr adroddiad drafft ar yr arolygiad hwn wedi’i dderbyn ac felly nid oedd modd ei ddarparu mewn pryd. Esboniodd y dylai’r adroddiad terfynol fod ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant wrth yr Aelodau bod Karl Culpeck, rheolwr rhanbarthol cartref plant Sunny Bank, yn bresennol heddiw i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan yr Aelodau.    

 

Crybwyllodd yr Arweinydd ei fod wedi nodi dau gam gweithredu yn yr adroddiad oedd yn barhaus, y ddau ar gyfer Harwood House, a gofynnodd a oedd y materion hyn yn cael sylw. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod yr holl faterion a nodwyd wrthi’n cael sylw.

 

Crybwyllodd Aelod nad oedd cynlluniau personol y cartrefi plant wedi cael eu diweddaru’n rheolaidd ac roedd hon yn ymddangos fel thema gyson. Gofynnodd a oedd hyn wedi cael ei fwydo ymlaen i’r sefydliadau, i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru. 

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant mai Maple Tree House oedd y sefydliad arall yn yr ardal a chadarnhaodd bod pethau yn eu lle i sicrhau bod rheolwyr y sefydliadau’n bodloni ac yn rhannu arferion gorau gyda’i gilydd. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd a gwella. Cadarnhaodd Mr Culpeck bod cyfarfodydd rheolwyr yn cael eu cynnal a’u bod bob amser yn ceisio dysgu oddi wrth ei gilydd. Gofynnodd Aelod am iaith arwyddion - a oedd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar Signalong yn ogystal â Pecs fel dull cyfathrebu.

 

Cadarnhaodd Mr Culpeck bod Signalong yn ddull cyfathrebu yr oedd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar ei gyfer. Mae’r hyfforddiant cychwynnol yn darparu gwybodaeth sylfaen am lawer o ddulliau cyfathrebu, i sicrhau bod gan bawb rywfaint o wybodaeth o’r dechrau.

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod pryderon cychwynnol tra oedd newidiadau’n cael eu gwneud mewn perthynas â staff, deddfwriaeth newydd, newidiadau mewn cofrestru ac arolygiadau a newidiadau mewn arolygwyr lleol. Fodd bynnag, roeddent yn teimlo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 204.

205.

Adborth Ar Ymadawyr Gofal Sy’n Mynd i Brifysgol pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Gofynnodd yr Arweinydd am gyflwyno’r eitem hon yn gyntaf gan fod tri ymadäwr gofal wedi’u gwahodd i siarad gyda’r pwyllgor. Cytunodd y pwyllgor i symud yr eitem ymlaen ar yr agenda.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio adroddiad a oedd yn cyflwyno trosolwg i’r pwyllgor mewn perthynas ag ymadawyr gofal sy’n mynychu prifysgol ar hyn o bryd neu a oedd yn bwriadu mynychu prifysgol, eu profiadau a’r gefnogaeth a roddwyd gan yr awdurdod lleol. Hefyd dywedodd wrth yr Aelodau bod tri ymadäwr gofal yn bresennol i gyflwyno eu profiadau o fynychu prifysgol a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio bod y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol wedi derbyn adroddiad ar y 6ed Mawrth 2019 ynghylch y polisi ar Becynnau Cefnogaeth Prifysgol ar gyfer Ymadawyr Gofal, a dderbyniodd gymeradwyaeth y Cabinet wedyn ar 19eg Mawrth 2019. Esboniodd mai un flaenoriaeth allweddol i CBSP oedd sicrhau bod pobl ifanc sydd eisiau mynychu addysg uwch yn gallu cyflawni hyn a bod cefnogaeth yn cael ei darparu. Darparwyd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.  

 

Darparodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio fanylion am y tîm 16+ ym maes Gofal Cymdeithasol Plant a’r gefnogaeth mae’n ei rhoi i ymadawyr gofal yn ystod y cyfnod pontio yn eu bywydadu. Roedd manylion pellach yn adran 4 yr adroddiad.         

 

Darparodd fanylion am Brifysgol Caerdydd a Phrosiect Dyfodol Hyderus First Campus a ddefnyddiwyd gan ymadawyr gofal 14 i 19 oed gan geisio gwella dyheadau a hyder. Cynhaliwyd y sesiynau’n fisol rhwng mis Hydref a mis Ebrill yn flynyddol. Roedd manylion pellach yn adran 4 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio wrth y pwyllgor bod 9 o bobl ifanc yn mynychu cyrsiau Prifysgol ar hyn o bryd, gan gynnwys MSc, MA, BA, HND a TAR. Rhestrwyd ystadegau am bresenoldeb y flwyddyn flaenorol o gymharu â 2019/20 yn 4.6 yr adroddiad.   

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio bod pobl ifanc yn y Brifysgol yn dewis byw yn eu llety annibynnol eu hunain. Fodd bynnag, os oeddent yn dymuno dychwelyd i’w lleoliad y tu allan i’r tymor, bydd y tîm 16+ yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i’r person ifanc, i wneud dewis doeth. 

 

Esboniodd y byddai gan y person ifanc gynghorydd personol sy’n cysylltu ag ef yn rheolaidd i weithio gydag ef a’i gefnogi os oes angen. Dywedodd bod y brifysgol yn lle yn aml lle mae pobl ifanc yn dewis ymddieithrio oddi wrth y tîm 16+ a bod hyn yn aml yn gallu achosi risg i’r person ifanc os bydd yn dechrau cael anawsterau, ac felly mae’r tîm yn ceisio cysylltu’n rheolaidd â’r person ifanc.

 

Darparodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio esiampl i’r pwyllgor o berson ifanc oedd wedi rhoi’r gorau i’w astudiaethau ond a gafodd gefnogaeth gan y tîm i ddychwelyd atynt.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Becky, ymadäwr gofal a oedd wedi dechrau astudio yn y brifysgol yn ddiweddar,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 205.

206.

Cymeradwyo’r Datganiadau o Bwrpas ar gyfer Gwasanaethau Preswyl pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant adroddiad a oedd yn cyflwyno i’r aelodau y datganiadau o bwrpas adolygedig ar gyfer y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau preswyl yng nghyngor bwrdeistref  sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd ei bod yn ofynnol o dan gyfansoddiad y Cyngor i’r rhain gael eu cyflwyno ger bron y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol ar gyfer eu cymeradwyo.  

 

Darparodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant gefndir i’r pwyllgor am nifer y cartrefi plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu gwasanaethau i blant/pobl ifanc 0 i 19 oed. Roedd manylion pellach yn adran 3 yr adroddiad. 

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod pob Awdurdod Lleol yn cael tystysgrif gofrestru yn awr, yn hytrach na chofrestru gwasanaethau unigol. Esboniodd mai’r rheswm dros hyn oedd cyflwyno datganiadau o bwrpas mewn ffordd unffurf. Mae’r Datganiad o Bwrpas ar gyfer pob un o’r pedwar cartref plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’u hatodi yn Atodiad 1 i 4 yn eu trefn, gyda chanllaw ar gyfer llunio datganiad o bwrpas wedi’i atodi yn Atodiad 5.

 

Gofynnodd Aelod i’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant a oes ystafell synhwyraidd yn Bakers Way o hyd, oherwydd mewn adroddiad blaenorol roedd crybwyll am drawsnewid yr ystafell synhwyraidd yn ystafell wely.          

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod lleoliad yr ystafell synhwyraidd wedi newid ond roedd yn dal i fodoli. Amlinellwyd hyn yn Natganiad o Bwrpas Bakers Way sydd wedi’i atodi yn Atodiad 3.

 

Gofynnodd Aelod pam nad oedd ystafell synhwyraidd yn Harwood House ac a oedd cynlluniau ar gyfer ystafell o’r fath.

 

Esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol y byddai hyn yn cael ei weithredu pe bai gofyn amdano ond, hyd yma, nid oedd unrhyw blant wedi bod angen ystafell o’r fath. Roedd y plant oedd angen ystafell synhwyraidd wedi bod mewn cartrefi oedd ag ystafell yn ei lle eisoes.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw staff Cymraeg eu hiaith yn y cartrefi plant.     

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant nad oedd unrhyw ofyn wedi bod hyd yma am aelod o staff Cymraeg ei iaith ond byddai modd darparu hyn i blentyn pe bai angen.                

 

Esboniodd yr Arweinydd pe bai angen unrhyw aelod o staff parhaol  Cymraeg ei iaith yn unrhyw un o’r cartrefi plant y byddai hynny’n cael ei sicrhau rhag i unrhyw blentyn fod o dan anfantais.  

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol yn:

  1. Nodi cynnwys yr adroddiad a;

Cymeradwyo’r datganiad o bwrpas ar gyfer pob darpariaeth o wasanaethau preswyl.     

207.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim