Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Iau, 26ain Tachwedd, 2020 14:00

Lleoliad: o bell trwy Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

213.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

 

214.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 04/03/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                           I dderbyn Cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Cabinet Rhianta Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Awst 2020, fel cofnod cywir a manwl gywir.

 

215.

Cymorth i Blant Bregus yn ystod Covid 19 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi trosolwg i Aelodau o'r gefnogaeth a'r cynllunio parhaus ar gyfer ein plant mwyaf bregus yn ystod Covid-19.

 

Dechreuodd ei hadroddiad drwy dalu teyrnged i'r plant bregus a'u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y ffordd maent wedi ymateb yn gadarnhaol mewn cyfnod sydd hyd heddiw yn hynod ddwys a thrallodus ar brydiau a blwyddyn anodd iddynt yn sgil y pandemig.

 

Teimlodd fod yr adroddiad yn adlewyrchu asesiad cynhwysfawr o sut weithiodd yr Awdurdod fel 'Un Cyngor' pan addasodd yn gyflym iawn i fygythiad y feirws fis Mawrth diwethaf. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, parhaodd y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i bartneriaid i ddiogelu'r mwyaf bregus a'u teuluoedd, drwy ddulliau digidol newydd yn bennaf, gan nad oedd cyswllt wyneb yn wyneb yn bosibl yn y rhan fwyaf o achosion yn sgil Covid-19.

 

Er bod gofyn i'r rhan fwyaf o staff sy'n cefnogi cleientiaid i weithio gartref fel y mwyafrif o staff arall y Cyngor, parhaodd y tîm MASH i weithredu gyda thîm llai o'r swyddfa yn Ravens Court, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ym mharagraff 3.3 yr adroddiad, ar ffurf tabl, ceir data ar weithgareddau Gofal Cymdeithasol Plant yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020. Mae'r data a ddengys yn y rhan hon o'r adroddiad yn rhoi darlun cadarnhaol o ran y lefelau uchel o berfformiad a gafodd eu cynnal yn ystod y cyfnod clo, o ran asesiadau, ymweliadau â phlant (o bell yn bennaf) a chynnal Cynadleddau Gwarchod Plant o fewn yr amserlenni statudol gofynnol.

 

Fel y cyfeirir ato uchod, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod y tîm MASH ynghyd â staff ymholiadau cyffredinol sy'n ateb ymholiadau a galwadau yn parhau i weithio yn y swyddfa. Cafwyd cyfarfodydd o bell gyda phlant a'u teuluoedd etc., ac er eu bod yn cyflawni eu diben, roeddynt yn fwy heriol na rhyngweithiadau wyneb yn wyneb fel y byddai'n digwydd dan amgylchiadau arferol cyn Covid.

 

Mae paragraff 3.6 yr adroddiad yn amlinellu'r mathau o gefnogaeth sydd mewn lle i ddysgwyr bregus drwy Dimau Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, er gwybodaeth Aelodau.

 

Atodwyd fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Gwasanaeth Diogelu lawn i Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Yng ngoleuni Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddai "Cyfnod Atal Byr" neu "Atal Byr" yn dod i rym rhwng 6pm, dydd Gwener 23 Hydref 2020 hyd at ddydd Llun 9 Tachwedd 2020, gwnaed y penderfyniad i adolygu a diweddaru Cynllun y Gwasanaethau Plant yn unol â'r Canllawiau a oedd wedi'u cyhoeddi. Gweithredwyd ychwanegiad yn amlinellu newidiadau dros dro yn y dulliau gweithio ar gyfer y cyfnod penodol hwn a gellir dod o hyd iddo fel Atodiad (i'r adroddiad).

 

Yn ogystal â'r gwasanaethau/swyddogaethau statudol yr ymdrinnir â nhw yn y Cynllun Gwasanaeth, ymatebodd y Cyngor i'r angen i ddarparu cymorth i'n plant a phobl ifanc mwyaf bregus yn ystod gwyliau'r ysgol a sefydlwyd darpariaeth unigryw i gyflawni hyn.

 

Llwyddodd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i wneud  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 215.

216.

Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW - CSSIW Gynt) Arolwg o Gartrefi Gofal Preswyl Plant pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad, er mwyn ei rannu â Phwyllgor y Cabinet, adroddiadau a Chynlluniau Gweithredu cysylltiedig yn dilyn arolygon CIW, ynghylch Maple Tree House (mis Medi 2019, mis Chwefror 2020 a mis Awst 2020) a Harwood House (mis Gorffennaf 2019).

 

Drwy beth wybodaeth gefndirol, dywedodd wrth Aelodau mai Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) sy'n gyfrifol am arolygu pob gwasanaeth gofal a chymorth rheoledig, gan gynnwys Cartrefi Plant, yng Nghymru.  Mae arolygiadau yn cynnwys pedwar cam allweddol: 1) cynllunio a pharatoi arolygon, 2) ymweld a chynnal yr arolwg, 3) adborth, a 4) adrodd.  Yn ystod y broses, byddai arolygwyr yn gwneud beirniadaethau yngl?n â pha mor dda mae'r gwasanaeth yn perfformio dan bedair thema graidd: 1) llesiant; 2) gofal a chefnogaeth; 3) amgylchedd; a 4) arweinyddiaeth a rheolaeth.

 

Yn achos cartrefi plant, byddai CIW yn gwneud arolygon blynyddol fel rhan o'u rhaglen dreigl.  Roedd dau brif fath o arolygon, sef Cyflawn a Chanolbwyntiedig, ac eglurir yr hyn sy'n cael ei gynnwys mewn perthynas â phob un o'r rhain ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Yna mae paragraff(au) 4 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau arolygon CIW o bob un o'r safleoedd dan sylw, a'r Adroddiadau Arolygon Cyflawn wedi'u cynnwys fel Atodiadau i'r adroddiad eglurhaol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth Gofal Plant yr Aelodau at baragraff 4.6 yr adroddiad, lle'r oedd y CIW yn cydnabod bod rhai gwelliannau a restrir yma wedi'u cyflawni yn Maple Tree House, yn dilyn arolygiad CIW pellach o'r Cartref hwn.

 

Yna cyfeiriodd at adran yr adroddiad gyda'r pennawd argymhellion a chamau nesaf.

 

Datblygwyd Cynlluniau Gweithredu i ymateb i'r argymhellion a wnaed gan CIW o ran Cartrefi ac mae'r rhain wedi'u cynnwys yn Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad. Cafodd y rhain eu monitro gan y Rheolwr Gr?p - Tîm Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu, yn ystod goruchwyliaeth â'r Rheolwr/Rheolwyr Preswyl a'r Unigolyn Cyfrifol drwy eu hymweliadau rheolaidd. Fel y nodir yn yr adroddiad, nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn weddill ar gyfer Harwood House ac roedd cynllun gweithredu cynhwysfawr a phecyn cymorth yn hybu'r newidiadau a'r gwelliannau a oedd yn ofynnol yn Maple Tree House.  

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant cyn yr ysgrifennwyd yr adroddiad gerbron yr Aelodau, y cynhaliwyd arolygiad dirybudd gan CIW yn Maple House a dywedodd yr Arolygwr wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol y gwnaethpwyd cynnydd enfawr ers y cynhaliwyd yr arolwg gwreiddiol. Ers y cynhaliwyd hwn, gwnaeth y Panel Gwella a Gorfodi gwrdd a phenderfynu codi'r cyfyngiadau yr oeddynt wedi'u rhoi mewn lle yn flaenorol yn Maple House (oherwydd bod y gwelliannau wedi'u cyflawni). Penderfynodd y Panel i beidio â gweithredu ymhellach oherwydd y cyflawnwyd materion diffyg cydymffurfio blaenorol. Ers hynny, cyflwynodd yr Arolygwr CIW adroddiad ysgrifenedig, yn dilyn ei arolygiad diweddaraf, yn cydnabod y newidiadau cadarnhaol a oedd wedi'u rhoi mewn lle gan gadarnhau bod gwelliannau wedi'u gwneud yn holl feysydd y cartref, heb law am nifer fechan o feysydd lle'r oedd gwaith yn mynd rhagddo.

 

Croesawodd Aelodau y diweddariad hwn a gofynnodd yr Arweinydd a oedd yr holl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 216.

217.

Cymeradwyo'r Datganiadau o Fwriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal Preswyl Plant pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a'i ddiben oedd darparu'r datganiadau o fwriad diwygiedig i Aelodau ar gyfer y ddarpariaeth gwasanaethau preswyl plant a phobl ifanc gyfredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'n ofyniad dan gyfansoddiad y Cyngor i gyflwyno'r rhain i'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol eu cymeradwyo.

 

Dywedodd wrth Aelodau bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bedwar cartref preswyl i blant ar hyn o bryd sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc rhwng 0-19 oed, sef:-

 

  • Maple Tree House;
  • Sunny Bank;
  • Bakers Way; a
  • T? Harwood

 

Daeth Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) i rym ar 2 Ebrill 2018. Diben y Ddeddf oedd adeiladu ar lwyddiant rheoliad yng Nghymru ac adlewyrchu byd newidiol gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth galon y cynllun rheoleiddio ac yn cryfhau diogelwch i'r rheiny sydd ei angen. Byddai rheoliad o'r fath yn mynd y tu hwnt i gydymffurfiaeth â lleiafswm y safonau, a chanolbwyntio mwy ar ansawdd gwasanaethau a'r effaith maent yn ei chael ar y bobl sy'n eu derbyn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu, yn nhymor yr hydref 2018, y cofrestrwyd holl wasanaethau cymdeithasol y Cyngor i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth newydd. Mae gan bob darpariaeth gwasanaeth mewnol ddatganiad o fwriad ei hun a chafodd y rhain eu hatodi yn Atodiadau 1 - 4 yr adroddiad.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor mai o ran y safleoedd y'u crybwyllwyd uchod, roedd gan Sunnybank a Maple Tree House yr un rheolwr.

 

Yn unol â'r Rheoliadau, cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu, bod y Datganiadau o Fwriad bellach wedi bod yn destun eu hadolygiad blynyddol ac mae'r newidiadau i'r datganiadau wedi'u manylu ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Nawr mae'r Datganiadau diwygiedig yn adlewyrchu lefel o gysondeb ar draws y 4 Cartref, rhywbeth na chyflawnwyd yn y gorffennol, ychwanegodd.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn amserol iawn ac yn ddarlleniad difyr. Ynghyd â'r Datganiadau o Fwriad, rhoddwyd uchelgeisiau ar gyfer ein Cartrefi Gofal yn gadarn mewn lle, gyda phersbectif clir bellach o ran anelu am safon uchel yn y cyfleusterau hyn mae angen i'r Gyfarwyddiaeth weithio tuag ati.

 

O ran y Datganiadau o Ddiben diwygiedig, gofynnodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a oedd y staff yn y Cartrefi Gofal wedi cael gwybod am y rhain, yn ogystal ag a oedd unrhyw newidiadau i'w telerau ac amodau o ganlyniad iddynt yn cael eu cyflwyno.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu bod bob un o'r Rheolwyr Preswyl yn y Cartrefi wedi cadarnhau bod unrhyw newidiadau o'r fath wedi'u rhoi mewn lle gyda'r staff sy'n gweithio yno. O ran Maple Tree House a'r strwythur staffio diwygiedig yno, cafwyd ymgynghoriad â gweithwyr yno yngl?n â hyn.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd ein plant a phobl ifanc wedi cyfrannu at y Datganiadau o Fwriad diwygiedig er mwyn datblygu gwasanaeth, yn ogystal â chael peth gydnabyddiaeth bod 'eu lleisiau yn cael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 217.

218.

Datganiadau o Fwriad Diwygiedig ar gyfer Gwasanaethau Maethu Plant pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu adroddiad, er mwyn darparu Aelodau â'r Datganiad o Fwriad diwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Maethu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'n ofyniad dan Gyfansoddiad y Cyngor i gyflwyno'r rhain i'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol eu cymeradwyo.

 

Eglurodd fod y Gwasanaeth Maethu yn darparu ystod o ofal maeth i blant a phobl ifanc y gofalir amdanynt gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'r gwasanaeth yn cynnig y mathau o ofal teulu i blant a phobl ifanc o'u genedigaeth i 18 mlwydd oed, fel y nodwyd ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Daeth darpariaethau perthnasol Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) i rym ar 2 Ebrill 2018.  Diben y Ddeddf oedd adeiladu ar lwyddiant rheoliad yng Nghymru ac adlewyrchu byd newidiol gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth galon y cynllun rheoleiddio ac yn cryfhau diogelwch i'r rheiny sydd ei angen. Bydd rheoliad yn mynd y tu hwnt i gydymffurfio â lleiafswm y safonau, a chanolbwyntio mwy ar ansawdd gwasanaethau a'r effaith maent yn ei chael ar y bobl sy'n eu derbyn.

 

Daeth Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 i rym ar 29 Ebrill 2019 ac mae'n nodi Gofynion yr Awdurdod Lleol i baratoi Datganiad o Fwriad a'i gadw dan adolygiad rheolaidd, yn flynyddol.

 

Yn unol â'r canllawiau i gasglu Datganiad o Fwriad a gafodd eu darparu dan y Ddeddf uchod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (Ebrill 2019), paratôdd Gwasanaeth Maethu Pen-y-bont ar Ogwr ei Ddatganiad o Fwriad ac mae hwn wedi'i gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Fis Ebrill 2020, cafodd y Datganiad o Fwriad ei adolygiad blynyddol ac mae'r newidiadau i'r datganiadau wedi'u manylu ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Yna rhannodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu rai o'r pwyntiau amlwg a nodweddion allweddol y Datganiad o Fwriad Diwygiedig gydag Aelodau.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a ellir rhoi rhagor o adborth ar effaith Covid-19 ar Ofalwyr Maeth, gan fod y rhain yn darparu gofal i'r rhan fwyaf o blant yr oeddem yn eu cefnogi yn eu cartrefi eu hunain. Yn ogystal, ychwanegodd a oes angen adlewyrchu unrhyw fecanweithiau cefnogi gwahanol a weithredwyd ar gyfer y plant hyn ers i'r pandemig ddechrau yn Natganiad o Fwriad y Gwasanaeth Maethu.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu bod y Gofalwyr Maeth yn gwneud gwaith anhygoel yn enwedig ers dechrau'r pandemig.

 

Maent wedi dangos lefel uchel iawn o wytnwch yn cefnogi eu plant yn ystod y cyfnod anoddaf y gellir ei ddychmygu, yn ogystal â pharhau i orfod ymdrin â'u pryderon eraill. Ers mis Mawrth diwethaf mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn monitro sut mae Gofalwyr Maeth a Phlant Maeth yn ymdopi yn wythnosol o leiaf drwy gyswllt dros y ffôn neu e-bost, etc. yn bennaf. Yn ogystal, datblygodd yr adran statws coch, melyn a gwyrdd, er mwyn categoreiddio'r lefelau gwahanol o gefnogaeth yr oedd eu hangen ar y teuluoedd hyn yn ystod yr argyfwng cyfredol, rhag ofn bod angen unrhyw  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 218.

219.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.