Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau canlynol:-
Y Cynghorydd N A Burnett Y Cynghorydd RJ Collins Y Cynghorydd S K Dendy Y Cynghorydd J E Lewis Y Cynghorydd J C Radcliffe Y Cynghorydd K J Watts |
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.
Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb canlynol:-
Y Cynghorydd M C Voisey - P/18/983/FUL – Diddordeb personol fel Aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, nad yw’n cymryd rhan mewn materion cynllunio.
Y Cynghorydd R M Granville – P/19/59/FUL - Diddordeb niweidiol oherwydd ei fod o’r blaen wedi gwrthwynebu’r cais a hynny wedi arwain at ragderfyniad. Siaradodd y Cynghorydd Granville yn y cyfarfod fel siaradwr cyhoeddus/Aelod Ward, ac wedyn gadawodd y cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.
Y Cynghorydd C A Webster - P/18/983/FUL – Diddordeb personol fel aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, nad yw’n cymryd rhan mewn materion cynllunio.
Y Cynghorydd G Thomas – Eitem 16 ar yr Agenda, South Wales Wood Recycling Ltd, ger Heol-y-Cyw – Diddordeb personol fel Aelod y Ward.
Y Cynghorydd D B F White (siaradwr cyhoeddus) – P/18/983/FUL – Diddordeb personol am fod y cais yn ei Ward. Mae hefyd yn un o gleifion Meddygfa Ashfield yn ogystal â bod yn Aelod o’r Bwrdd Iechyd Cymunedol Lleol.
Y Cynghorydd J P Blundell - P/18/163/FUL – Diddordeb personol fel Aelod o Gyngor Cymuned Trelales, nad yw’n cymryd rhan mewn materion cynllunio.
Y Cynghorydd A J Williams - P/18/929/RES - Diddordeb niweidiol oherwydd y ffaith ei bod hi o’r blaen wedi gwrthwynebu’r cais a’i ragderfynu. P/18/163/FUL – Diddordeb niweidiol – Am fod ei mab yn aelod o Glwb Pêl-droed Academi Pen-y-bont ar Ogwr. Gadawodd y cyfarfod tra roedd y ddwy eitem hyn yn cael eu hystyried.
Y Cynghorydd M Kearn – P/18/829/FUL – Diddordeb niweidiol Siaradodd y Cynghorydd Kearn yn y cyfarfod fel siaradwr cyhoeddus/Aelod Ward, ac wedyn gadawodd y cyfarfod tra roedd y cais yn cael ei ystyried oherwydd ei fod yn gwrthwynebu’r cynnig.
Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu – P/18/139/FUL – Gan fod ei fam yng nghyfraith yn breswylydd yn y Cartref Nyrsio oedd wedi ei leoli y drws nesaf i’r datblygiad arfaethedig, oedd yn gwrthwynebu’r cynnig. Gadawodd y cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei hystyried. |
|
Ymweliadau Safle I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 8/5/2019 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cytuno ar y dyddiad o 8 Mai, 2019 ar gyfer yr archwiliadau safle oedd yn codi o’r cyfarfod, neu a gâi eu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 79 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/02/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, dyddiedig 14 Chwefror 2019, fel cofnod gwir a chywir. |
|
Siaradwyr cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).
Cofnodion: Cais cynllunio Rhif. Safle Siaradwyr
P/18/983/FUL Hen Swyddfeydd y Y Cyng. D B F White Cyngor a safle Llys Y Cyng. D Unwin yr Ynadon Heol Kathryn Thomas Sunnyside/Glan y Neil Geraghty Parc, Pen-y-bont Louise Attwood ar Ogwr CF31 4AJ. |
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Cadeirydd yn derbyn Tudalen Diwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefnau'r Cyngor, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor ystyried newidiadau angenrheidiol i Adroddiad y Pwyllgor, er mwyn cymryd i ystyriaeth rai sylwadau a chywiriadau hwyr oedd angen sylw. |
|
Arweiniad y Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 81 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi’r crynodeb o Arweiniad y Pwyllgor Rheoli Datblygu fel y’i cyflwynwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Gyda golwg ar y cais uchod, bod yr ymgeisydd yn gwneud Cytundeb Adran 106 i:
(i) Darparu isafswm o 20% o’r unedau fel tai fforddiadwy gyda’r math o unedau, y lleoliad o fewn y safle a deiliadaeth fforddiadwy i gael eu cytuno gan y Cyngor yn unol â Pholisi COM5 a SPG13; (ii) Darparu cyfraniad ariannol o £115,669 tuag at ddarparu 5 lle mewn ysgol uwchradd ac un lle ôl-16 yn unol â SPG16; (iii) Darparu cyfraniad hyd at y swm o £9,500 i gyllido gorchmynion rheoli trafnidiaeth cyfreithiol, marciau ffordd ac arwyddion yng nghyffiniau’r safle; a, (iv) Rhedeg y Ganolfan Gofal Iechyd yn unol â Chynllun Teithio a Chynllun Rheoli Parcio (yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu/cyllido 24 o drwyddedau parcio ceir cyhoeddus ar gyfer staff Gofal Iechyd) i’w gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
(2) Rhoi pwerau wedi eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd i’r cynnig hwn, unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi gwneud y cytundeb Adran 106 y cyfeiriwyd ato eisoes, yn ddibynnol ar yr Amodau sydd wedi eu cynnwys yn ei adroddiad. Cynnig
Datblygu 59 annedd, Canolfan Gofal Iechyd a gwaith cysylltiedig, yn cynnwys Mynediad, Tirlunio a Pharcio Ceir.
Yn ddibynnol ar yr Amodau pellach/diwygiedig canlynol:-
46. Rhaid codi ffens bren glos 1.8 metr, wedi ei gorfordio, neu rwystr cyfatebol o gwmpas y gerddi sy’n wynebu Heol Glan-y-Parc a gerddi tai’r teras gogleddol fel y dangosir ar y darlun a gyflwynwyd SWV ASL 00 XX DR L0005 a L0006. Rhaid i’r rhwystr fod yn isafswm màs o 10cilogram/m2 fesul arwynebedd uned, heb ddim bylchau na thyllau, yn ddiogel yn erbyn pydredd a fermin ac yn gallu gwrthsefyll grym gwyntoedd. Rhaid cyflwyno manylion dyluniad y rhwystr i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo cyn gwneud defnydd buddiol o’r datblygiad a rhaid iddo gael ei gytuno’n ysgrifenedig. Rhaid gweithredu’r dyluniad fel y cytunwyd a rhaid cynnal a chadw’r rhwystr yn wastadol.
Rhesymau: Er budd mwynder preswylio.
Dylid aileirio Amod 40 fel a ganlyn:-
40. Cyn gwneud unrhyw waith datblygu uwchben y tir yn gysylltiedig â’r cynnig hwn, mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ddatblygu cynllun o fesurau lliniarol yn gysylltiedig â’r cynnig. Er mwyn cael gwybodaeth am lefel y lliniaru sydd ei angen rhaid i asesiad ansawdd aer, wedi ei ddiweddaru, ystyried effeithiau NO2 a PM10 a cheisio cynnwys lleoliadau’r derbynyddion diweddaraf sy’n cael eu monitro gan y Cyngor. Rhaid i’r asesiad gyfrifo gwerth y lliniaru sydd ei angen gan ddilyn dull cost niwed DEFRA. Dylai cost lliniaru fel y’i gweithredir gan yr ymgeisydd fod yn gyfartal yn fras â’r gwerth a gyfrifwyd. Rhaid i'r cynllun hefyd gynnwys amserlen ar gyfer gweithredu’r mesurau lliniaru cymeradwy hyn. Bydd angen cyflwyno’r asesiad ansawdd aer a’r cynllun lliniaru a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
Yn dilyn yr ymweliad â’r safle ddoe a chyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu cyn y cyfarfod heddiw, mae’r Swyddog Priffyrdd wedi gofyn am yr Amodau ychwanegol canlynol er mwyn mynd i’r afael yn llawn ag ystyriaethau priffyrdd y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 239. |
|
P/18/929/RES - Caeau Chwarae ym Mharc Derwen, Pen-y-bont ar Ogwr PDF 901 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau. Cynnig
Ail greu proffil a gwaith tirlunio ar y clawdd pridd ar ochr ddeheuol y caeau chwarae.
Yn amodol ar newid Amod 4 yr adroddiad fel a ganlyn:-
4. Er gwaethaf y cynlluniau a gymeradwywyd, o fewn tri mis i ddyddiad y caniatâd hwn, rhaid cyflwyno cynllun tirlunio llawn ar gyfer y clawdd pridd i’r ochr ddeheuol o’r meysydd chwaraeon a MUGA, gan gynnwys cynllun draenio, i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gytuno’n ysgrifenedig. Rhaid cyflawni’r gwaith datblygu yn unol â’r manylion a gytunwyd. |
|
P/18/139/FUL - Cartref Nyrsio Bro Ewenni, Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5AW PDF 715 KB Cofnodion:
PENDERFYNWYD: (1) Gyda golwg ar y
cais uchod, bod yr ymgeisydd yn gwneud Cytundeb Adran 106
i: ‘Sicrhau bod 5 o’r rhandai yn cael eu darparu fel unedau fforddiadwy yn wastadol, gyda chytundeb deiliadaeth priodol wedi ei ffurfio rhwng yr ymgeisydd/gweithredwr a Rheolwr y Strategaeth Tai neu gyfraniad ariannol o £329,440.00’.
(2) Rhoi pwerau wedi eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd i’r datblygiad, unwaith y bydd y cytundeb uchod wedi ei gwblhau, yn ddibynnol ar yr Amodau sydd wedi eu cynnwys yn ei adroddiad. Cynnig
Dymchwel Cartref Nyrsio presennol Bro Ewenni ac adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol newydd yn cynnwys 16 o ystafelloedd gwely gofal a 25 rhandy gofal ychwanegol. |
|
P/18/829/FUL - Tir i’r Gogledd-ddwyrain o Heol Crofft Goch, Bryn Cynffig, CF33 6HA PDF 658 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Gyda golwg ar y cais uchod, bod yr ymgeisydd yn gwneud Cytundeb Adran 106 i ddarparu:
(i) isafswm o 15% o’r unedau fel tai fforddiadwy gyda’r math o unedau, y lleoliad o fewn y safle a deiliadaeth fforddiadwy i gael eu cytuno gan y Cyngor; ii. cyfraniad ariannol hyd at swm o £32,626 (mynegrifol) tuag at ddarparu 2 le mewn ysgol gynradd; iii. cyfraniad ariannol hyd at swm o £16,179 (mynegrifol) tuag at ddarparu Offer Chwarae Plant a chyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored; iv. cynllun lliniaru, rheoli a chynnal cynefin oddi ar y safle, cyfraniad ariannol ar gyfer plannu, rheoli a chostau cynnal a chadw hyd at swm o £39,907.62 (mynegrifol) a rhaglen weithredu.
(2) Rhoi pwerau wedi eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd amodol i’r cynnig hwn, unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi gwneud y Cytundeb Adran 106 y cyfeiriwyd ato eisoes, yn ddibynnol ar yr Amodau sydd wedi eu cynnwys yn ei adroddiad. Cynnig
Datblygu 21 o gartrefi fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Gyda golwg ar y cais uchod bod y Cyngor yn derbyn Ymgymeriad Unochrog y Clwb -
(2) Cyhoeddi’r hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd i’r cynnig hwn dan yr Amodau fel y maent wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau. Cynnig
Darparu ail stand (250 sedd) ynghyd â phont deledu. |
|
P/18/868/FUL - Yr Hen Ysgubor, Maudlam, Pen-y-bont ar Ogwr CF33 4PH PDF 538 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gohirio’r cais uchod er mwyn caniatáu amser i Aelodau’r Pwyllgor gynnal Archwiliad Safle Pwyllgor llawn o’r eiddo/tir dan sylw. Cynnig
Newidiadau ac estyniadau i’r strwythur presennol a’i drosi’n 3 annedd. |
|
P/19/59/FUL - Delfryn, Heol Las, Maudlam, Pen-y-bont ar Ogwr CF33 4PH PDF 133 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gohirio’r cais uchod, er mwyn caniatáu amser i Aelodau’r Pwyllgor gynnal Archwiliad Safle Pwyllgor llawn o’r eiddo/tir dan sylw. Cynnig
Newid defnydd i’w osod ar gyfer gwyliau uwchben garej dri car; newidiadau i gymeradwyaeth P/16/539/FUL i gynnwys newidiadau i ffenestri, drws mynediad, a gorffeniad y to yn y cefn. |
|
Cofnodion: (1) Nodi’r Apêl fel y’i heglurwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, a dderbyniwyd ers ei adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor.
(2) Bod yr Arolygydd, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apêl ddilynol, wedi rhoi cyfarwyddyd i’w Gwrthod (Atodiad A i’r adroddiad):-
Rhif cod Testun yr Apêl
A/18/3211218 (1840) Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw ar gyfer newid yr hen d? fferm yn Fferm y Ffos, ynghyd â gwaith cysylltiedig, Fferm y Ffos, Heol Cwmdu, Maesteg.
|
|
Safle South Wales Wood Recycling Ltd, Heol Llan, ger Heol-y-Cyw PDF 96 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Datblygu ac Adeiladu adroddiad, i roi diweddariad i'r Aelodau ar y sefyllfa bresennol yn y safle Ailgylchu a grybwyllwyd uchod, ac ymchwiliadau Gorfodi blaenorol gyda golwg ar uchder y tomenni coed, yr oriau gweithredu, symudiadau cerbydau ynghyd â choed yn cael eu gollwng ar y briffordd, a’r camau a gymerwyd ynghylch y materion hyn.
Gorffennodd yr adroddiad drwy ddweud bod y safle yn dal i gael ei fonitro’n rheolaidd a bod Swyddogion yn siarad â’r gweithredwyr newydd ar hyn o bryd ynghylch clirio hen domenni coed oddi ar y safle drwy South West Wood Products Ltd.
PENDERFYNWYD: Nododd yr Aelodau y diweddariadau ar y sefyllfa flaenorol ynghylch cadw deunyddiau ar y safle hwn, fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn tynnu sylw at yr amrywiol sesiynau hyfforddi oedd i ddod i Aelodau fel y’u rhestrwyd yn yr adroddiad, a nodi ymhellach y bwriedir cynnal sesiwn hyfforddi ychwanegol yn yr hydref, sef gweithdy ar Arweiniad Cynllunio Atodol Mannau Agored. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |