Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

60.

Datganiadau o Fuddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers including those who are also Town and Community Councillors, in accordance with the provisions of the Members’ Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008. Members having such dual roles should declare a personal interest in respect of their membership of such Town/Community Council and a prejudicial interest if they have taken part in the consideration of an item at that Town/Community Council contained in the Officer’s Reports below.

Cofnodion:

Gwnaed y Datganiadau o Fuddiant canlynol:

 

Y Cynghorydd RMI Shaw - Eitem 8 ar yr Agenda - Cais Cynllunio P/17/165 /FUL - Buddiant rhagfarnol gan mai ef yw aelod y ward, roedd wedi rhoi cyflwyniad ysgrifenedig ac wedi penderfynu ar y cais ymlaen llaw.  Aeth y Cynghorydd Shaw allan o'r cyfarfod pan gafodd y cais hwn ei ystyried. 

 

Y Cynghorydd TH Beedle - Eitem 14 ar yr Agenda - Diweddariad ynghylch Archwilio Rhandiroedd a Gerddi Cymunedol 2017 - Buddiant personol fel aelod o Gymdeithas Rhandiroedd Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgrifennydd Rhandiroedd Bronfair, Garth, Maesteg

 

Y Cynghorydd G Thomas - Eitem 14 ar yr agenda - Diweddariad ynghylch Archwilio Rhandiroedd a Gerddi Cymunedol 2017 - Buddiant personol fel deiliad rhandiroedd.

 

Y Cynghorydd JE Lewis - Eitem 14 ar yr agenda - Diweddariad ynghylch Archwilio Rhandiroedd a Gerddi Cymunedol 2017 - Buddiant personol fel deiliad rhandiroedd ac Ysgrifennydd Rhandiroedd Sarn.

 

Y Cynghorydd NA Burnett - Eitem 14 ar yr Agenda - Diweddariad ynghylch Archwilio Rhandiroedd a Gerddi Cymunedol 2017 - Buddiant personol gan ei bod yn eistedd ar Bwyllgor Rhandiroedd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Y Cynghorydd RME Stirman - Eitem 8 ar yr Agenda - Cais Cynllunio P/17/165 /FUL - Buddiant personol fel aelod o Gyngor Cymuned Cwm Garw ond nid yw'n cymryd unrhyw ran wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

 

Y Cynghorydd MC Voisey - Eitem 9 ar yr Agenda - Cais cynllunio P/17/165 /FUL - Buddiant personol gan ei fod yn berchen ar eiddo ac yn rhedeg busnes yn Central Park, oddi ar Western Avenue ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, nad yw yng nghyffiniau cais y safle.  Eitem 14 ar yr agenda - Diweddariad ynghylch Archwilio Rhandiroedd a Gerddi Cymunedol 2017 - Buddiant personol gan ei fod yn eistedd ar Bwyllgor Rhandiroedd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd yn berchen ar /yn cynnal rhandiroedd.          

61.

Ymweliadau Safle

To confirm a date of Wednesday 31 January 2018 for proposed site inspections arising at the meeting, or identified in advance of the next Committee meeting by the Chairperson.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod dydd Mercher 31 Ionawr 2018 yn cael ei gadarnhau fel dyddiad ar gyfer arolygiadau safle arfaethedig yn codi yn y cyfarfod neu a nodir cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

62.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 62 KB

To receive for approval the minutes of a meeting of the Development Control Committee dated 9 November 2017. 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:      Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

63.

Siaradwyr Cyhoeddus

To advise Members of the names of the public speakers listed to speak at today’s meeting (if any).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus.

64.

Taflen Ddiwygio pdf eicon PDF 57 KB

That the Chairperson accepts the Development Control Committee Amendment Sheet as an urgent item in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules, in order to allow for Committee to consider necessary modifications to the Committee Report, so as to take account of late representations and revisions that require to be accommodated.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygio'r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn rhoi ystyriaeth i sylwadau a diwygiadau hwyr y mae'n ofynnol eu cynnwys.

65.

P/17/165/FUL - 65 Oxford Street, Pontycymer, ger Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8DD pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod y cais yn cael ei ganiatáu yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau.

 

Cynnig

 

Newid defnydd siop i fflat un ystafell wely hunangynhwysol

66.

P/17/373/FUL - Uned 12D, Adeiladau Kingsway, Kingsway, Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3YH pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: (1) Bod y cais yn cael ei gyfeirio at y Cyngor fel cynnig sy'n ymadawiad o'r Cynllun Datblygu nad yw'r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn dueddol i’w wrthod gan fod y cais wedi ceisio dangos bod lleoliadau eraill wedi cael eu hystyried ond nad oedd unrhyw adeiladau addas mewn lleoliad mwy priodol wedi eu nodi; nid yw'r defnydd yn cael effaith ar y gweithredwyr cyfagos a bod defnyddiau D2 o'r fath yn parhau i fod yn israddol i ac nad ydynt yn fygythiad ar hyn o bryd i ddyraniad ehangach y

stad ddiwydiannol o ran cyflogaeth  Yn holl bwysig, mae'r busnes yn darparu cyflogaeth ar gyfer hyd at 14 o bobl sydd o fudd i'r economi leol.

 

(2) Os bydd y Cyngor yn penderfynu cymeradwyo'r cynnig, bod yr amodau a gynhwysir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn cael eu hatodi i'r caniatâd.   

67.

Apeliadau pdf eicon PDF 635 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu ar apeliadau a dderbyniwyd ac apeliadau a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:           (1) Nodi'r Apêl ganlynol a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor: -

 

Rhif Cod                           Pwnc yr Apêl

 

D/17/3190308 (1819)       Llawr Rhan 2 Arfaethedig, Rhan o Estyniad Cefn  

                                         Un Llawr a Datblygu’r Garej Presennol yn Ystafell 

                                         Ardd: 81 Ewenny Road, Pen-y-bont ar Ogwr

 

(2)  Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apeliadau canlynol wedi gorchymyn bod yr Apêl ganlynol yn cael ei CHANIATÁU YN DDAROSTYNGEDIG I AMODAU:

 

Rhif Cod                           Pwnc yr Apêl

 

A/17/3180379 (1809)        Llacio Amodau 4, 5 ac 8 o P/14/63 /FUL i alluogi'r Ysgubor i gael ei chyfanheddu pan fydd bod y fynedfa newydd yn cael ei hadeiladu:

                                         Parcau Isaf Farm, Laleston, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

A/17/3181972 (1813)       Trosi / Adnewyddu Coed Parc yn 2 Annedd Preswyl (gan gynnwys Estyniad, Addasiadau a Dymchwel Rhannol) ac Adeiladu 13 o Anheddau Preswyl Newydd gyda Mynediad Newydd, Tirlunio, Parcio a Gwaith Cysylltiedig - Coed Parc, Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr

 

                                        Nodyn:  Derbyniwyd y penderfyniad ar yr apêl uchod ers cyhoeddi'r adroddiad ac fe'i cynhwyswyd yn y Daflen Newidiadau. 

 

(3)  Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apeliadau canlynol, wedi gorchymyn bod yr APELIADAU YN CAEL EU GWRTHOD:

 

Rhif Cod                           Pwnc yr Apêl

 

A/17/3180687 (1811)       Disodli’r Hen Weithdy gyda Gweithdy Newydd:   The Yard, Rogers Lane, Cefn Cribwr 

 

A/17/3182456 (1814)      Annedd Newydd: Tir y tu ôl i Osborne Terrace, Nantymoel

68.

Log Hyfforddiant pdf eicon PDF 9 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu ar log hyfforddi wedi'i ddiweddaru.

 

Gwnaeth aelodau'r Pwyllgor sylwadau am ba mor anodd yw mynychu sesiynau hyfforddi yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor oherwydd ymrwymiadau gwaith.  Gofynnodd yr Aelodau felly am roi ystyriaeth i newid amser dechrau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a allai hefyd effeithio ar amser dechrau sesiynau hyfforddi'r Pwyllgor.   

 

PENDERFYNWYD:  (1) Nodi adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ;

 

(2) Gofyn i Aelodau'r Pwyllgor pryd yr hoffent i gyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu ddechrau a bod canlyniad yr arolwg yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.      

69.

Newidiadau a Awgrymir i'r System Gorfodi Cynllunio yng Nghymru pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Datblygu fod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 9 Tachwedd 2017, wedi gofyn i adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn ynghylch cynnig i anfon llythyr gan y Pwyllgor at Ysgrifennydd Cabinet y Cynulliad Cenedlaethol dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ac Aelodau'r Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn am roi gordaliad ar geisiadau cynllunio ôl-weithredol. 

 

Dywedodd, yn dilyn nifer o bryderon a godwyd gan ASau, Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau ynghylch effeithiolrwydd y system orfodi cynllunio wrth reoli gweithgareddau llygredd mawr sy'n arwain at broblemau amwynderau sylweddol, y gofynnwyd i'r Cyngor lunio rhestr o welliannau posibl i'r system orfodi cynllunio a fyddai’n rhoi mwy o rym i'r Awdurdod Cynllunio Lleol reoli datblygiad yn effeithiol ac yn gyflym.  Dywedodd y codwyd y mater hwn gydag awdurdodau a grwpiau cynllunio rhanbarthol eraill.  Fe'i trafodwyd hefyd yng Nghynhadledd Gorfodi Cynllunio Cymru.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor fod cynnwys yr adroddiad yn mynd y tu hwnt i'r cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan y Pwyllgor, a’i fod hefyd yn ymdrin â'r prif faes pryder a godwyd. Roedd yn amser cyfleus i ddwyn y mater hwn ymlaen yn arbennig gan y gofynnwyd amdano gan AC lleol . 

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p Datblygu y system orfodi gyfredol ac adroddodd ar nifer o newidiadau a gwelliannau a awgrymwyd i'r system orfodi cynllunio bresennol.  Dywedodd fod ar y rhan fwyaf o'r newidiadau angen cymalau newydd neu ddiwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth neu bolisi cenedlaethol, er bod gwelliannau eraill y gellir eu gwneud o dan bwerau cyfredol. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor, pe bai Aelodau'n fodlon gyda chynnwys yr adroddiad, y bydd Swyddogion yn drafftio llythyr eglurhaol i'w lofnodi gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor, ac yn anfon yr adroddiad ymlaen at Ysgrifennydd Cabinet Cynulliad Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig fel dogfen drafod.  Dywedodd y byddai AC Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn copi hefyd.

 

Croesawodd Aelodau'r Pwyllgor y newidiadau a awgrymwyd i'r system o orfodi cynllunio a dywedwyd bod angen mwy o degwch, bod yn fwy agored a mwy o gosbau am beidio â chydymffurfio.    

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad ac yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ac ACau lleol yn gofyn am i gynnwys yr adroddiad gael ei ystyried fel dogfen drafod.

70.

Canllawiau Cynllunio Atodol ar Newidiadau ac Estyniadau i Ddeiliaid Tai pdf eicon PDF 11 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu'r ddogfen ‘Canllawiau Cynllunio Atodol i Newidiadau ac Estyniadau Tai' i'w chymeradwyo at ddibenion ymgynghori cyhoeddus. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA), a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008, wedi'u hail-ddrafftio i adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol a lleol diweddaraf ac i wneud y ddogfen yn haws i'r Cynghorwyr, aelodau'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol cynllunio ei darllen.  Dywedodd fod pwrpas sylfaenol y CCA yn parhau i fod yr un fath a’u bod yn ategu Polisi CDLl SP2 'Dylunio a Gwneud Lleoedd Cynaliadwy'.  Mae'r CCA drafft wedi bod yn destun ymgynghori mewnol a gofynnid am gytundeb a chymeradwyaeth i ymgynghori'n ffurfiol â phartïon eraill â diddordeb, cyrff allanol a'r cyhoedd ynghylch y cynnwys. 

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Pwyllgor yn:

 

(1)       cymeradwyo'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar Newidiadau ac Estyniadau i Ddeiliaid Tai (Atodiad 1) fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus;

 

(2)       dirprwyo awdurdod i Reolwr y Gr?p Datblygu wneud unrhyw ddiwygiadau ffeithiol a /neu gartograffig angenrheidiol i'r ddogfen a allai fod yn ofynnol cyn ymgynghori â'r cyhoedd; ac

 

Awdurdodi Rheolwr y Gr?p Datblygu i wneud trefniadau priodol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a chynhyrchu adroddiad pellach ar ganlyniad y broses ymgynghori a fydd yn cael ei hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

71.

Diweddariad ar Archwiliad Rhandiroedd a Gerddi Cymunedol 2017 pdf eicon PDF 48 MB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu ar ganlyniad 'Archwiliad' diweddar o ddarpariaeth Rhandiroedd yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd mai copi diwygiedig oedd hwn i ymgorffori sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2017. 

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod canfyddiadau cyffredinol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn ei chyfanrwydd yn datgelu diffyg o ran darpariaeth rhandiroedd o oddeutu 0.65 hectar, yn seiliedig ar Gyfrifiad poblogaeth 2011 a diffyg o tua 1.50 hectar o ddarpariaeth rhandiroedd yn seiliedig ar Amcangyfrif Canol Blwyddyn o boblogaeth 2016. Dywedodd fod y diffyg cyffredinol o ddarpariaeth ar draws y Fwrdeistref Sirol, ar lefel Is-Ardal, yn cael ei drosi yn wargedau cyffredinol yng Nghwm Llynfi, Cwm Ogwr, Pencoed, y Pîl /Cynffig /Corneli a Phorthcawl gyda diffygion yn y ddarpariaeth gyffredinol yn Is-Ardaloedd Cwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorth y Cymoedd.  Rhoddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu wybod i'r Pwyllgor fod y diffyg mwyaf o ran darpariaeth rhandiroedd o fewn Is-Ardal Pen-y-Bont ar Ogwr, sydd â diffyg o 5.24 hectar, ac mae’r gwarged mwyaf o ran darpariaeth o fewn Is-ardal Y Pîl / Cynffig, sef 1.86 hectar. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y gellir defnyddio'r Archwiliad fel offeryn at ddibenion Rheoli Datblygu sy'n darparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau Cynllunio.  Gellir defnyddio ei ganfyddiadau fel modd o gyfiawnhau darparu cyfleusterau newydd a /neu wella'r diffygion lleol yn y ddarpariaeth.  Gellir ei ddefnyddio hefyd fel modd o ddiogelu a gwella'r cyfleusterau presennol fel bo'n briodol lle bo hwn yn opsiwn dewisol ar gyfer cyfleusterau adloniant awyr agored gan y gymuned leol.  Bydd canfyddiadau'r Archwiliad hefyd yn darparu tystiolaeth ategol i Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) y Cyngor sy'n ymwneud â Chyfleusterau Hamdden Awyr Agored ac yn sail i Bolisïau sy'n ymwneud â darpariaeth hamdden mewn Adolygiad CDLl yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:   Nodi cynnwys yr adroddiad a'r Archwiliad Rhandiroedd a Gerddi Cymunedol - Diweddariad 2017.   

72.

Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygu ar drosolwg o'r system cynllunio datblygu yng Nghymru. Nododd bwysigrwydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r modd y mae'n effeithio ar y broses Rheoli Datblygiad a datblygiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd fod rhaid adolygu'r CDLl bob 4 blynedd ac oherwydd bod CDLl Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei

fabwysiadu yn 2013, rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) bellach ddechrau gweithio ar y cynllun newydd.

 

Dywedodd mai paratoi a mabwysiadu CDLl yw'r darn unigol mwyaf o waith corfforaethol y bydd awdurdod lleol yn ei wneud o ran methodoleg, casglu tystiolaeth ac archwilio annibynnol. Hysbysodd y Pwyllgor fod y CDLl yn dod â manteision sylweddol (cymdeithasol ac ariannol) i’w gymunedau.  Tynnodd sylw at y gwahanol gamau ym mhroses y CDLl. 

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygu ar y camau nesaf, rhoddodd grynodeb o elfennau allweddol y broses adolygu a manylion am yr amserlen a fyddai'n cael ei phennu yn y Cytundeb Cyflawni.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod gan Lywodraeth Cymru b?er 'cyfeirio' i fynnu bod 'CDLl ar y Cyd' yn cael ei baratoi ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau cyfagos.  Dywedodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi ysgrifennu at yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn gwahodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i roi ystyriaeth ddifrifol i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gydag Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill

yn ardal De Ddwyrain Cymru - Gorllewin (yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili).  Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yn ôl i Lywodraeth Cymru yw 28 Chwefror 2018 a hyd hynny ni fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i unrhyw gynllun symud ymlaen yn unigol. 

 

PENDERFYNWYD:             Nodi cynnwys yr adroddiad.      

73.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn - Perfformiad Grŵp Datblygu 2016-2017 pdf eicon PDF 381 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu ar berfformiad y Gr?p Datblygu ar gyfer 2016-17 sy'n rhoi diweddariad ar berfformiad o'i gymharu â 2016 ac yn rhoi manylion ar faterion megis cyfraniadau Adran 106, cwynion a Rheoli Adeiladu. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a adroddwyd i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 9 Tachwedd 2017 ac i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref wedi gweld gostyngiad o bron i hanner yn nifer y staff cynllunio yn ddiweddar, er bod nifer y ceisiadau cynllunio, yn enwedig cynlluniau mawr, wedi cynyddu.  Dywedodd fod yr Adran yn darparu gwasanaeth ardderchog i'w chwsmeriaid er gwaethaf toriadau ariannol.  Tynnodd sylw’r Pwyllgor at y pwyntiau allweddol sy'n deillio o’r gwaith o gasglu data. 

 

Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor am newid cadarnhaol arall mewn lefelau boddhad cwsmeriaid, sef yn ystod y cyfnod 2015-2016, fod 48% o ymatebwyr yr arolwg o'r farn fod Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi cyngor cynllunio da yn erbyn cyfartaledd Cymru o 58%.  Ar gyfer 2016-2017, cytunai 62% o'r ymatebwyr fod yr ACLl yn rhoi cyngor da (yn erbyn cyfartaledd Cymru o 62%).  Dywedodd y gellir priodoli bodlonrwydd cwsmeriaid cynyddol i nifer o ffactorau, megis proses gynghori effeithiol a werthfawrogir cyn gwneud cais a'r raddfa bodlondeb yn cynyddu er gwaethaf y symud i ffwrdd oddi wrth fod â Swyddogion ar gael i ateb ymholiadau cyffredinol dros y ffôn (er bod canllawiau manwl yn cael eu darparu i staff y Ganolfan Galwadau / Cynrychiolwyr Gwasanaeth y Cwsmer i gyfeirio'r cyhoedd at y wybodaeth berthnasol ar y wefan). 

 

Hysbysodd y Pwyllgor mai'r camau nesaf fyddai cynhyrchu adroddiad tebyg ar ddiwedd pob blwyddyn galendr (yn ogystal â'r APR) fel y gallai’r Aelodau archwilio perfformiad yr adran yn erbyn

blynyddoedd calendr blaenorol.   

 

PENDERFYNWYD:             Nodi cynnwys yr adroddiad.              

74.

Adolygiad o'r Gyfundrefn Codi Tâl am Gyngor Cyn Cais pdf eicon PDF 367 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu ar adolygiad o'r gwasanaeth cynghori newydd cyn gwneud cais fel y'i mabwysiadwyd ym mis Mehefin 2016 a rhoddodd ddrafft o drefn codi tâl am gyngor wedi ei diweddaru i'r Pwyllgor hyd nes y byddai adolygiad pellach yn 2018. 

 

Dywedodd fod y gwasanaeth cynghori cyn gwneud cais a'r canllawiau presennol wedi bod mewn grym ers mis Mehefin 2016. Roedd hwn yn amser da i adolygu'r system ac awgrymu newidiadau i ddileu unrhyw anghysondebau, i wella lefel y gwasanaeth ac i fewnosod categorïau newydd er mwyn esbonio ystod ac amrywiaeth y taliadau ymhellach.  Dywedodd nad oedd bwriad i gynyddu'r ffioedd ar hyn o bryd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu fod yr ACLl (LPA) wedi derbyn cyfanswm o 474 o ymholiadau cychwynnol ynghylch hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliaid tai rhwng 13 Mehefin 2016 ac 1 Rhagfyr 2017.  Nododd fod y nifer cyffredinol o 474 o ymholiadau cychwynnol a symudodd ymlaen i'r cam cynghori cyn-cais y derbyniwyd tâl amdanynt wedi gostwng i 286 (£7150).  Hysbysodd y Pwyllgor yr ystyrid bod amser y Swyddogion a gafodd ei arbed (188 awr) wrth beidio â phrosesu'r 188 o ymholiadau "coll", ynghyd â'r incwm ffioedd a gafwyd o'r 286 ymholiad oedd yn weddill (ac unrhyw ffioedd ymgeisio o gyflwyno ceisiadau cynllunio ffurfiol neu Dystysgrifau Datblygu Cyfreithlon) wedi gwella effeithlonrwydd a gwydnwch y tîm.  Ystyrid hefyd bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi'r opsiwn o gael cyngor proffesiynol a bod y system yn canolbwyntio mwy ar y cwsmer na'r system anhyblyg sy’n cael ei mabwysiadu mewn ACLl eraill.  Dywedodd fod mwyafrif y datblygwyr wedi rhoi derbyniad da i wasanaeth y "cyfarfod cwmpasu" am ddim, yn enwedig ynghylch y cynlluniau mwy cymhleth.  Roedd hyn hefyd wedi helpu'r ACLl i alluogi a hyrwyddo datblygiad o ansawdd uchel yn y Fwrdeistref Sirol. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu y newidiadau posibl a gynigir o ganlyniad i adolygu'r broses weithredu ers mabwysiadu'r drefn codi tâl newydd ym mis Mehefin 2016.  Dywedodd wrth y Pwyllgor y bydd swyddogion yn adolygu'r nodyn canllaw drafft sydd wedi'i ddiweddaru i roi cyngor cyn cyflwyno cais a bydd yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor a'r Cabinet yn 2018, ar gyfer mabwysiadu nodyn canllaw wedi'i ddiweddaru ym mis Ebrill 2018.  Adolygir y gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio yn flynyddol.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a'r amserlen ddrafft ar gyfer codi tâl am gyngor cyn cyflwyno cais a’r nodyn canllaw.    

75.

Eitemau Brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys. 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z