Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbynymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth yr Aelodau canlynol:
Cynghorydd T Thomas Cynghorydd R Collins |
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylaiaelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod. Cofnodion: Gwnaethpwyd y datganiadau o fuddiant canlynol: -
Cynghorydd JC Spanswick - Buddiant personol yn eitem 9 ar yr Agenda gan ei fod yn aelod o Gyngor Cymuned Bracla
Cynghorydd JP Blundell - Buddiant rhagfarnus yn eitem 10 ar yr Agenda gan ei fod yn byw gerllaw safle'r cais. Gadawodd y cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei hystyried. |
|
Ymweliadau Safle I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 14/03/17 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cadarnhau dyddiad 14 Mawrth 2018 ar gyfer unrhyw archwiliadau safle arfaethedig a fyddai’n codi yn y cyfarfod, neu a drefnir cyn y Pwyllgor nesaf gan y Cadeirydd. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 77 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21/12/2017
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu dyddiedig 21 Rhagfyr 2017 yn rhai gwir a chywir. |
|
Siaradwyr Cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).
Cofnodion: Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus wedi’u rhestru i siarad yn y cyfarfod heddiw. |
|
Taflen Ddiwygio Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Derbyniodd y Cadeirydd Daflen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn gallu ystyried sylwadau hwyr a diwygiadau y mae'n ofynnol eu cynnwys. |
|
P/17/610/FUL - Lidl, Ffordd Antwn, Tondu, CF32 9GA PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Yng nghyd-destun y cais canlynol, bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106 i ddarparu cyfraniad ariannol o £6500 (sy’n fynegrifedig) i ariannu newidiadau i'r system MOVA a threfniadau gosod cyffordd yr A4063 gyda signalau:-
Cynnig
Dymchwel y siop manwerthu bwyd bresennol a gosod siop manwerthu bwyd newydd (Dosbarth Defnydd A1), yn ei lle ynghyd ag aildrefnu'r maes parcio, mannau allanol a threfniadau gwasanaethu.
(2) Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yn cael pwerau dirprwyedig i anfon rhybudd penderfynu sy'n rhoi caniatâd mewn perthynas â'r cynnig hwn unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi ymrwymo i'r Cytundeb A106 a enwyd eisoes, yn amodol ar yr Amodau a gynhwysir yn ei adroddiad.
Yn amodol ar newid brawddeg olaf Amod 1 yn yr adroddiad i gyfeirio at Luniad Rhif 010001 Diwygiad 5 a dderbyniwyd ar 19 Ionawr 2018, er mwyn osgoi amheuaeth ynghylch natur a maint y cynllun a gymeradwywyd, ac i gynnwys y Nodyn O dilynol: -
"Hysbysir yr ymgeisydd y dylai'r cynllun a gymeradwywyd gael ei weithredu yn unol â'r argymhellion a amlinellwyd yn Adran 8 yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol a'r Arolwg Ystlumod a dylid rhoi sylw i'r strategaeth goleuo o gwmpas y siop newydd er mwyn osgoi unrhyw effeithiau gweddilliol anffafriol sylweddol ar fioamrywiaeth. |
|
P/17/393 /FUL - Tir i'r Gorllewin o Fryn Bragl, Bracla, CF31 2LP PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) O ystyried y cais canlynol, mae'r ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106 i ddarparu isafswm o 2 uned (20%) fel unedau tai fforddiadwy yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol 12 am byth: -
Cynnig
Datblygiad preswyl o 10 uned tai fforddiadwy, lle parcio ceir, mynediad, mannau agored a gwaith cysylltiedig
(2) Rhoi p?er dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol gyhoeddi rhybudd penderfynu sy'n rhoi caniatâd i’r datblygiad yn ddarostyngedig i'r Amodau a gynhwysir yn ei adroddiad.
Yn amodol hefyd ar y canlynol: - ‘Bydd Amod ychwanegol yn cael ei hychwanegu at yr argymhelliad yn gofyn am fanylion lefelau llawr gorffenedig y datblygiad mewn perthynas â lefelau llawr / safle presennol y byngalos presennol, a chroestoriad ar draws y safle a'r byngalos cyfagos.'
Bod Amod 11 yr adroddiad yn cael ei diwygio'n rhannol er mwyn cyfeirio at Ardal Chwarae ag Offer wedi ei Ddarparu’n Lleol (LEAP) |
|
P/17/1043/RLX - Tir i’r Gorllewin o Heol Tŷ Maen, Cefn Glas, CF31 4QF PDF 2 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) O ystyried y cais canlynol, bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Weithred Amrywio neu Rwymedigaeth A106 atodol i gadarnhau bod yr holl rwymedigaethau yn y Cytundeb Adran 106 presennol yn berthnasol i’r caniatâd Adran 73: -
Cynnig
Amrywio Amod 14 o P/15/358 /OUT i gynyddu nifer yr unedau preswyl i 200
(2) Rhoi pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gyhoeddi rhybudd penderfynu sy'n rhoi caniatâd mewn perthynas â'r cynnig hwn, unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi ymrwymo i'r Cytundeb Adran 106 uchod, yn ddarostyngedig i’r Amodau amlinellol safonol a'r Amodau a gynhwysir yn ei adroddiad.
Yn amodol hefyd ar y diwygiad a ganlyn: -
‘Bod telerau'r Cytundeb A106 mewn perthynas â'r cyfraniad addysgol yn cael eu diwygio i gyfeirio at leoedd ysgol gynradd ac/neu uwchradd i’w gadw’n berthnasol i bob lle mewn ysgol.' |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu adroddiad am yr Apeliadau a dderbyniwyd, ac y penderfynwyd arnynt, ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD: (1) Nodi'r Apêl ganlynol a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf:-
Rhif Cod Pwnc yr Apêl
D/17/3190447(1820) Ailwampio t? presennol, portsh mynedfa newydd, codi uchder y to er mwyn addasu’r atig /ail lawr, lle parcio i gerbydau. Maesgwyn House, 63 Blackmill Road, Bryncethin.
(2) Bod yr Arolygydd/Arolygwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apeliadau canlynol wedi gorchymyn y dylai’r Apeliadau gael eu GWRTHOD (a bod y Rhybudd Gorfodi ar gyfer yr Apêl gyntaf isod yn cael ei gadarnhau): -
Rhif Cod Pwnc yr Apeliadau
C/17/3179866(1808) Defnydd heb ei awdurdodi ar gyfer busnes Cyfrifeg, 2 Tythegston Close, Nottage, Porthcawl.
A/17/3184080(1817) Dymchwel byngalo presennol ac adeiladu 3 annedd deulawr ar wahân yn ei le, Summerville Bungalow, Heol Las, Mawdlam
(3) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Un o Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apêl ganlynol wedi gorchymyn y dylid ei CHANIATÁU, yn ddarostyngedig i’r Amodau: -
Rhif Cod Pwnc yr Apêl
A/17/3186945(1816) Newid defnydd annedd preswyl sengl (C3) i gartref gofal byw-â-chymorth 10 ystafell wely (C2) a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys addasu garej i 3 ystafell wely. Addasu ychwanegiad presennol i 2 uned hunangynhwysol a mewnlenwi estyniad portsh, North Lodge, Penyfai. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Datblygu adroddiad yn manylu ar y sesiynau Hyfforddi i ddod a oedd wedi'u trefnu ar gyfer Aelodau yn ystod y misoedd nesaf fel rhan o'u rhaglen datblygu hyfforddiant.
Cytunodd yr Aelodau y dylid trefnu sesiynau hefyd yn ychwanegol at y 3 a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cwmpasu'r meysydd canlynol: -
· Arbed Ynni · Cytundebau A106 (i gynnwys cyfraniadau Addysg/ Priffyrdd ac unrhyw gyfraniadau perthnasol eraill o'r fath) · Cynllun Datblygu Lleol
PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu adroddiad ynghyd ag Atodiadau 1 a 2 ynghlwm, yngl?n â diweddariad ar yr ymateb i Ysgrifennydd y Cabinet, am lythyron Lesley Griffiths ynghylch ei gwahoddiad hi i ymgymryd â Chynlluniau Datblygu Lleol ar y Cyd a Chynllun Datblygu Strategol rhanbarthol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn am gyflwyno ymatebion cadarnhaol i'r gwahoddiad erbyn 28 Chwefror 2018. Tan hynny ni fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i weithio ar unrhyw gynllun ar ei ben ei hun.
O ran Cynlluniau Lleol ar y Cyd, mae’r gwahoddiad yn gofyn am roi ystyriaeth ddifrifol i baratoi cynllun ar y cyd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Caerffili.
Mae goblygiadau arwyddocaol yn ymwneud ag amseru’r llythyrau o ran Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd bod arno angen dechrau gweithio ar unwaith ar Adolygiad o'i CDLl a fydd yn dod i ben yn 2021. Mae cynllun datblygu cyfredol yn bwysig i arwain datblygu cynaliadwy a hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi ac atal datblygu amhriodol.
Er mwyn penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o fynd ymlaen a fyddai’n parhau â chwmpas y cynllun ac yn sicrhau'r canlyniadau cynllunio gorau, ystyrir nifer o opsiynau realistig a bydd risg yn cael ei asesu. Bwriedir i hyn fod yn sail i ymateb y Cyngor hwn i'r Gweinidog.
Eglurodd fod yr opsiynau canlynol yn cael eu hystyried: -
1. Paratoi Cynllun Datblygu Strategol yn unig heb unrhyw adolygiadau unigol o'n CDLl presennol hyd nes y mabwysiadir y Cynllun Datblygu Strategol.
2. Gwneud Adolygiad Unigol o'r CDLl wrth gydweithio yr un pryd ar y Cynllun Datblygu Strategol gyda'r rhanbarth.
3. Cydweithio 'Plws' gydag adolygiad unigol o CDLl Pen-y-bont ar Ogwr wrth weithio yr un pryd â chyngor Rhondda Cynon Taf (ac Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill) i baratoi sail dystiolaeth ar y cyd a gweithio hefyd gyda'r rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol.
4. CDLl ar y cyd gyda Rhondda Cynon Taf a Chaerffili wrth gydweithio yr un pryd â'r rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol.
5. CDLl ar y cyd gyda Rhondda Cynon Taf yn unig wrth gydweithio â'r rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol.
Amlinellwyd ac ystyriwyd pob opsiwn yn yr adroddiad (cyfeiriwyd at baragraff 1.9), a'r hyn sy'n dod i'r amlwg o'r ymarferiad ac o sylwadau ar draws y rhanbarth yw bod manteision a chefnogaeth eang ar draws y rhanbarth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol. Ond mae yna beryglon i Ben-y-bont ar Ogwr pe baem, fel o dan Opsiwn 1, yn rhoi’r gorau i baratoi CDLl, o gofio y byddai gwactod polisi tebygol y tu hwnt i 2021. Byddai hynny’n parhau hyd nes y byddai’r Cynllun Datblygu Strategol yn cael ei fabwysiadu a bod gwaith yn gallu symud ymlaen yn wirioneddol ar y CDLl 'llai'.
Mae hefyd yn dod i'r amlwg o'r ymarferiad hwn ac ar draws y rhanbarth bod yna risgiau a chymhlethdodau sylweddol a dim awydd i ddatblygu CDLl ar y Cyd. O ran Pen-y-bont ar Ogwr, byddai gwactod polisi yn dal i fod o wybod am gymhlethdod paratoi Cynlluniau ar y Cyd, nad ydynt yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 87. |
|
Canlyniadau Arolwg Amseru Cyfarfodydd - Amser Dechrau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 14 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, er mwyn nodi canlyniadau'r ail arolwg amseru cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gais Aelodau'r Pwyllgor, a chynnig cynnwys unrhyw newidiadau i amseriadau ei gyfarfodydd wrth ddatblygu Calendr y Cyfarfodydd, gyda’r bwriad o’i gyflwyno i'r Cyngor ym mis Mai 2018.
Cyflawnwyd yr arolwg ar 5 Ionawr 2017 a chafodd ei gwblhau gan holl Aelodau'r Pwyllgor. Dangosir y canlyniadau ym mharagraff 4.2 yr adroddiad. Dangosodd hyn mai’r amser delfrydol ar gyfer cychwyn cyfarfodydd yn y dyfodol oedd 2.00pm.
Gallai unrhyw newid a gyflwynir yn sgil yr arolwg gael effaith ar amseriadau cyn-gyfarfodydd y Pwyllgor, sesiynau hyfforddi ac Archwiliadau Safle’r Pwyllgor, a thrafodwyd opsiynau posibl ar gyfer amseru'r rhain yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: (1) Bod yr Aelodau'n nodi canlyniadau arolwg amseru cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu.
(2) Y dylid cynnwys unrhyw ddiwygiad i amseru’r cyfarfodydd wrth ddatblygu Calendr y Cyfarfodydd y bwriedir ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Mai 2018. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cymru Gyfan 2016-2017 PDF 20 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Gr?p adroddiad ar yr uchod; dogfen gyhoeddus ffeithiol sy'n amlinellu sut mae awdurdod cynllunio lleol wedi perfformio yn erbyn dangosyddion penodol gan nodi'r hyn a wnaeth yn dda, fel y gellir rhannu hyn gydag eraill, a pha gamau y gellid eu cymryd i ymdrin â meysydd perfformiad sydd angen eu gwella.
Aeth ymlaen i gyflwyno crynodeb o’r adroddiad, a dywedodd wrth yr Aelodau fod perfformiad yr awdurdod cynllunio lleol ar y cyfan wedi gwella yn erbyn mwyafrif y dangosyddion ar gyfer y cyfnod uchod, o'i gymharu â chyfnod adrodd 2015-16. Nodwyd bod perfformiad Pen-y-bont ar Ogwr o gwmpas y cyfartaledd neu'n uwch na'r cyfartaledd am y cyfnod hwn yn gyffredinol, ac roedd enghreifftiau o'i berfformiad ar draws nifer o wahanol feysydd wedi'u nodi ar ffurf pwyntiau bwled yn yr adroddiad.
Teimlai un Aelod y byddai'n fantais i'r cyhoedd pe bai desg gwasanaethau i gwsmeriaid yn cael ei hailgyflwyno yn yr Adran.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Gr?p na allai toriadau mewn staffio ganiatáu ar gyfer hyn, er y gellid cael cyngor cyffredinol ar faterion cynllunio gan adran Gwasanaethau’r Cwsmer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ger prif fynedfa adeilad y Swyddfeydd Dinesig.
Canmolodd yr Aelodau staff yr Adran Gynllunio am eu perfformiad yn ystod 2016-2017, yn enwedig wrth ystyried lefel y toriadau staffio yr oedd wedi eu hwynebu ers y dirwasgiad.
PENDERFYNWYD: Nodi cynnwys adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ac Adroddiad Perfformiad Cynllunio Cymru Gyfan 2016-2017. |
|
I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |