Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

92.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

Cofnodion:

Datganwyd y Buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd T Thomas – Buddiant rhagfarnus yn eitem agenda 8 – Cais cynllunio P/16/366/OUT am ei fod wedi gwrthwynebu’r cais cyn dod yn Gynghorydd ac yn aelod o’r Pwyllgor hwn.  Datganodd y cynghorydd Thomas ei fod hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Ynysawdre ond nad yw’n chwarae rhan yn ystyried materion cynllunio.      

93.

Ymweliadau Safle

I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 25/04/18 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod dyddiad Dydd Mercher 25 Ebrill 2018 yn cael ei gadarnhau ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig yn y cyfarfod neu ei nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

94.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 01/02/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygiadau ar 1 Chwefror 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

95.

Siaradwyr Cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

 

Cofnodion:

Rhestrwyd y siaradwyr cyhoeddus canlynol i siarad yn y cyfarfod:-

 

Cais Cynllunio Rhif                Siaradwr

 

P/16/366/OUT                     y Cynghorydd T Thomas (Gwrthwynebydd)

P/16/366/OUT                     y Cynghorydd J Radcliffe (Gwrthwynebydd)

P/16/366/OUT                     y Cynghorydd G Haines (Cynghorydd Cymuned Newcastle Higher – Gwrthwynebydd)

P/16/366/OUT                     Mrs C Evans (Gwrthwynebydd)

P/16/366/OUT                     Mr V Zarifian (ar ran yr ymgeisydd)

96.

Dalen Ddiwygio pdf eicon PDF 67 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Fod y Cadeirydd yn derbyn Dalen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau fel eitem frys yn unol a Rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor ystyried addasiadau angen rheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn gallu ystyried sylwadau hwyr a diwygiadau sydd angen eu cynnwys.

97.

P/16/366/OUT – Tir i’r Gorllewin o Maesteg Road, Tondu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   (1) Wrth ystyried y cais canlynol, bod yr ymgeisydd yn cytuno ar Gytundeb Adran 106 yn amodol ar amodau sydd yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

 

                                  Cynnig

 

                                  450 o anheddau, 1000 m. sgwârDefnydd Dosbarth B1, gwaith priffyrdd, man cyhoeddus agored

 

                                 (2) Bod Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yn derbyn grymoedd wedi eu dirprwyo i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd amlinellol parthed y cynnig hwn unwaith i’r ymgeisydd ymrwymo i’r cytundeb Adran S106 a nodwyd uchod, yn amodol ar yr amodau amlinellol safonol a’r amodau ychwanegol sydd yn yr adroddiad ac yn dilyn diwygiadau/ychwanegiadau i amodau cynllunio 3 a 22 a phenawdau telerau’r Ddyletswydd S106 sydd wedi ei gynnwys yn y Ddalen Ddiwygio:

 

TRAFFIG A THRAFNIDIAETH

 

Darparu ardal faes parcio i’r gogledd orllewin o’r Orsaf Drosglwyddo Gwastraff yn lle’r maes parcio presennol a gaiff ei ddatblygu fel rhan o’r cais. Bydd manylion y cynllun parcio a’i reolaeth yn y dyfodol yn cael ei gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel rhan o’r Ymrwymiad hwn.

 

3. Bydd y mesurau lliniarol a nodir yn y dogfennau a restrir isod yn cael eu gweithredu fel y nodir yn y dogfennau:

 

a) Adrannau 7.0, 8.0, 9.0 10.0 a 11.0 yn yr Astudiaeth Ddesg  a Pherygl Cloddio Glo

Adroddiad Asesu Tondu – Diw yn Ebrill 2016 darparwyd gan Integral Geotechnique

 

b) Adran 6.0 Casgliadau ac Argymhellion yn yr Adroddiad Arolwg Lefel 2 Terfynol fel y Cyhoeddwyd ar 2016-03-10 a ddarparwyd gan Soltys Brewster Ecology

 

c) Adran 6 – Argymhellion yn yr Arolwg Coed, Categoreiddio a Chyfyngiadau

Adroddiad gan Steve Ambler and Sons Tree Specialist Ltd a ddyddiwyd 20 Chwefror 2016.

 

Rheswm: I osgoi amheuaeth a dryswch ynghylch natur a hyd a lled y datblygiad a gymeradwywyd

 

22. Cyn datblygu unrhyw gam, bydd strategaeth oleuo ar gyfer y cam hwnnw yn cael ei gyflwyno i a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol Bydd y cynlluniau goleuo yn cael eu gweithredu fel y cawsant eu cymeradwyo.

 

Rheswm: I gynnal a gwella golwg yr ardal er budd amwynder gweledol ac i hyrwyddo cadwraeth natur.

98.

P/17/1078/FUL – Clos y Garej, Heol yr Afon / Trefelin, Wildmill pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Caniatáu’r cais canlynol yn amodol ar yr Amodau sydd yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau:-

 

Cynnig

 

Dymchwel y garejus a chreu safle clos ar gyfer gwaith ar Gam 2 Wildmill

99.

P/17/554/RLX – Tir yn Moor Lane, Porthcawl pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Caniatáu’r cais canlynol yn amodol ar yr Amodau sydd yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau:-

 

Cynnig

 

Amrywiad ar amod 2 y P/16/497/FUL yn ymwneud a meddiannaeth y chalets

100.

P/17/1083/FUL – Is-orsaf Grid Pen-y-bont 132KW, oddi ar Great Western Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod y cais yn cael ei gyfeirio i’r Cyngor fel cynnig sydd yn wyriad o’r Cynllun Datblygu nad yw’r Pwyllgor rheoli Datblygu mewn sefyllfa i’w wrthod am fod y datblygiad yn ffurfio rhan o welliannau brys i’r isorsaf grid trydan presennol oddi ar Great Western Avenue yn gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr na fydd yn cael effaith sylweddol ar Safle Adywio a datblygu Defnydd Cymysg fel y neilltuwyd dan Bolisïau PLA(3), COM1)4) a PLA7(21) y CDLl;

 

 (2) Os yw’r Cyngor yn penderfynu cymeradwyo’r cynnig, bod yr amodau a geir yn Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yn cael eu hatodi i’r caniatâd. 

 

Cynnig

 

Estyniad i’r is-orsaf grid 132kV presennol i wneud lle i adeilad ystafell swîts 33/132kV newydd; Ffens balis ddiogelwch o ddur 2.4m o uchder gyda ffens drydanol 3.6m o uchder y tu cefn iddi; ffordd fynediad fewnol ac arwyneb graean iddi

 

101.

Enwebiad Arfaethedig Ardal Gadwraeth Preswylfa Court a Chyfarwyddiadau Erthygl 4 pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio ar gynnig i enwebu Preswylfa Court fel Ardal Gadwraeth, gan ystyried adborth o ymgynghoriad gyda pherchnogion a phreswylwyr.  Fe amlinellodd hefyd reoliadau ychwanegol arfaethedig dros ddatblygiad a ganiateir o fewn yr Ardal Gadwraeth drwy gyflwyno Cyfarwyddiadau Erthygl 4(1) a 4(2) sy’n cynnwys canllaw dylunio drafft i helpu perchnogion a phreswylwyr.

 

Adroddodd fod yr adeiladau a ffurfiai rhan o’r Cartref Plant Preswylfa gwreiddiol neu “Cottage Homes”, yn dyddio o rhwng 1880 a 1902 ac wedi eu rhestru fel Gradd II ym 1997. Hysbysodd y Pwyllgor bod y safle wedi bod yn destun cynllun ailddatblygu sensitif yn y 1990au a warchododd gymeriad yr 13 Adeilad Rhestredig o amgylch y llain werdd canolog, tra’n galluogi datblygiad tai sensitif i ddigwydd hwnt ac yma rhwng yr adeiladau hanesyddol.  Roedd dyluniad a deunyddiau’r datblygiad newydd wedi eu rheoli’n ofalus ar y pryd trwy’r broses gynllunio er mwyn osgoi niweidio diwyg lleoliad yr Adeiladau Rhestredig a chymeriad hanesyddol yr ardal. 

 

Nododd fod swyddogion wedi derbyn nifer gynyddol o ymholiadau a phryderon yn ymwneud â mân ddiwygiadau, yn benodol i’r adeiladau oedd heb eu rhestru o fewn Preswylfa Court, a briodolwyd i newidiadau o ran perchnogaeth a’r angen am gynnal a chadw parhaus i eiddo.  Tra bod addasiadau, estyniadau a dymchwel yr Adeiladau Rhestredig

yn gallu cael ei reoli; roedd diwygiadau i’r eiddo hwnt ac yma mwy diweddar wedi ei ddynodi ar hyn o bryd fel datblygiad a ganiateir ac y tu allan i reolaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol.  Roedd y newidiadau yma fesul cam wedi dechrau cael effaith negyddol ar gymeriad yr ardal ac heb gyflwyno rheoliadau, bod perygl gwirioneddol y byddai’r effaith faterol ar dreftadaeth adeiledig yr ardal gyfryw fel na ellid ei adfer.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio fod yr angen am asesiad o ardal Preswylfa Court ar gyfer statws Ardal Gadwraeth

wedi ei nodi yn y Cynllun Unedol a fabwysiadwyd yn y gorffennol gan y Cyngor ac yr hysbyswyd y Pwyllgor hwn o ganlyniad yr asesiad mewn cyfarfod blaenorol ar 6 Gorff 2017. Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Pwyllgor i swyddogion ymgynghori â’r preswylwyr/perchnogion yn Preswylfa Court parthed dynodi’r ardal yn Ardal Gadwraeth.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio fod y ddau ddigwyddiad  / arddangosfa ymgynghori wedi eu cynnal a bod mwyafrif y preswylwyr a fynychodd yn cefnogi’r cynnig i ddynodi’r Ardal Gadwraeth a chytuno fod angen rheoliadau ychwanegol.  Nododd fod preswylwyr yn benodol bryderus ynghylch cadw cymeriad yr Adeiladau Rhestredig gwreiddiol a’r llain werdd agored y lleolwyd y tai o’i amgylch.  Roedd preswylwyr hefyd yn awyddus i dderbyn rhywfaint o ganllaw ar ddylunio er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol. 

 

Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio y Pwyllgor o gynnig i wneud Cyfarwyddyd dan Erthygl 4(1) ar gyfer y fflatiau am nad ydynt yn destun hawliau Datblygu a Ganiateir o dan ddeddfwriaeth gynllunio.  Cynigiwyd hefyd i wneud Erthygl 4(2) ar gyfer adeiladau domestig gan fod perchnogion eiddo sydd heb ei restru ar hyn o bryd a hawliau datblygu a ganiateir.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 101.

102.

Adroddiad yn amlinellu ymateb yr ACLl i Ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar Gyfundrefnu Cyfraith Cynllunio yng Nghymru pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu fod llywodraeth Cymru yn paratoi Cod Cynllunio newydd, a fydd yn ymgorffori bron y cyfan o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a llawer o’r Deddfau dilynol a ychwanegwyd at ac yn ddiwygiadau ar Ddeddf 1990. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod Comisiwn y Gyfraith yn gweithio ar ddiwygiadau technegol i symleiddio a gwella’r modd yr oedd y system yn gweithredu’n ymarferol ac amlinellodd ymateb yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’r ymgynghoriad.  Nododd fod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi gan Gomisiwn y Gyfraith, a fydd yn cyflwyno adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru, a fydd yn bwydo’r broses o gynhyrchu Cod Cynllunio newydd, y disgwylid iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn 2020.

 

PENDERFYNWYD:          I gynnwys yr adroddiad ac ymateb yr Awdurdod Cynllunio lleol i’r ymgynghoriad gael ei nodi.         

103.

Adroddiad yn hysbysu Aelodau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bolisi Cynllunio Drafft Cymru (Rhifyn 10) pdf eicon PDF 13 KB

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu Polisi Cynllunio Cymru yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod Polisi Cynllunio Cymru wedi ei ail-strwythuro yn themâu polisi yn seiliedig ar y nodau llesiant a’i ddiweddaru i adlewyrchu strategaethau a pholisïau newydd Llywodraeth Cymru.  Nododd fod yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar strwythur newydd Polisi Cynllunio Cymru, y cysyniad o greu lle a’r gofynion polisi newydd diwygiedig.  Mae’r papur ymgynghori yn amlinellu’r newidiadau a dylid ei ddarllen law yn llaw â PCC Drafft – Rhifyn 10.

 

PENDERFYNWYD:         Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad a Polisi Cynllunio Cymru Drafft (Rhifyn 10).            

104.

Apeliadau pdf eicon PDF 801 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr gr?p Datblygu ar apeliadau y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:         Fod yr Archwilydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i bennu’r Apêl canlynol, wedi cyfarwyddo i’r Apêl gael ei wrthod ac y saif yr hysbysiad gorfodi yn amodol ar gywiriadau ac amrywiadau;

 

Cod Rhif                           Pwnc yr Apêl

 

C/17/3180422 (1812)       Storio rhwbel heb ei awdurdodi ar Dir i’r gogledd o Newmarket Works, Wyndham Street, Cwm Ogwr

 

Bod yr Archwilydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i bennu’r Apêl canlynol, wedi cyfarwyddo fod yr Apêl canlynol i gael ei GANIATÁU YN AMODOL AR AMODAU:

 

Cod Rhif                           Pwnc yr Apêl

 

D/17/3190308 (1819)       Estyniad cefn 2 Lawr yn Rhannol, 1 Llawr yn Rhannol a datblygiad i’r garej sydd yno eisoes yn ystafell ardd yn 81 Ewenny Road, Pen-y-bont ar Ogwr 

 

  Bod yr Archwilydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i bennu’r Apêl canlynol, wedi cyfarwyddo fod yr Apêl canlynol i gael ei WRTHOD:

 

Cod Rhif                          Pwnc yr Apêl

 

D/17/3190447 (1820)     Ailwampio annedd sydd yno eisoes, mynedfa portsh newydd, codi uchder y to i hwyluso addasu’r atig / ail lawr, parcio i geir yn Maesgwyn House, 63 Blackmill Road, Bryncethin    

105.

Cofnod Hyfforddi pdf eicon PDF 5 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Gr?p Datblygu ar gofnod hyfforddi wedi ei ddiweddaru.

 

PENDERFYNWYD:       Bod adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yn cael ei nodi.   

106.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys. 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z