Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Ymddiheurodd yr Aelodau canlynol am eu habsenoldeb:-
Y Cyng. RJ Collins Y Cyng. JC Spanswick Y Cyng. MC Voisey |
|
Datgan Buddiant Cofnodion: Dim. |
|
Ymweliadau Safle I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 13/02/2019 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.
Cofnodion: PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal yr archwiliadau safle arfaethedig sy'n deillio o'r cyfarfod, neu y penderfyna'r Cadeirydd eu cynnal cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, ar ddydd Mercher, Chwefror 13 2019. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 58 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/11/18 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion y Pwyllgor Rheoli Datblygu dyddiedig 22 Tachwedd 2018 yn gywir. |
|
Siaradwyr Cyhoeddus Cofnodion: Nid chafwyd dim Siaradwyr Cyhoeddus. |
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygiadau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (Paragraff 4) o Reolau Trefniadaeth y Cyngor, a hynny er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor roi sylw i'r newidiadau angenrheidiol i Adroddiad y Pwyllgor, fel y gellir ystyried y sylwadau a'r diwygiadau a wnaed yn hwyr y bydd yn rhaid eu cynnwys. |
|
Canllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 81 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi crynodeb o Ganllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel yr amlinellir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau. |
|
P/16/609/FUL Tir rhwng 47 a 49, Woodland Avenue, Porthcawl PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gohirio'r cais er mwyn i'r Swyddogion gael rhagor o wybodaeth oddi wrth yr ymgeisydd am y bobl eraill sy'n defnyddio'r adeilad presennol a beth fydd hyd a lled y gwelliannau y bwriedir eu gwneud i Neuadd Eglwys y Bedyddwyr Gilgal, lle bydd Gr?p y Sgowtiaid yn cael ei symud:-
Cynnig
Dymchwel yr adeiladau presennol a chodi 10 annedd a gwaith cysylltiol. |
|
P/18/291/FUL Tir yn Chapel Street, Pontycymer PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) O ystyried y cais uchod, y caiff Cytundeb Adran 106 ei lunio â'r ymgeisydd a chytunwyd y bydd yr ymgeisydd yn cyfrannu £4,160 tuag at uwchraddio'r cyfleusterau chwarae i blant a'r cyfleusterau chwaraeon awyr agored presennol:-
Cynnig
Codi 4 t? rhes (2 d? 2 ystafell wely a 2 d? 4 ystafell wely) â gerddi a llefydd parcio cysylltiol.
(2) Y dirprwyir pwerau i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau gyflwyno rhybudd o benderfyniad a fydd yn cymeradwyo'r cais hwn ar ôl llunio Cytundeb Adran 106 â'r ymgeisydd, yn ddibynnol ar yr Amodau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn. |
|
Apeliadau Cofnodion: PENDERFYNWYD:(1) Nodi'r apeliadau a amlinellir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, a ddaeth i law ers cyflwyno ei adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor.
(2) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ynghylch yr Apeliadau canlynol wedi gorchymyn y dylid eu gwrthod:-
Rhif Cod Testun yr Apeliadau A/18/3210092 (1838) Newid defnydd o weithdy/stordai diffaith i ddosbarthiad defnydd D2 - stiwdio hyfforddi personol â llefydd parcio: Drws nesaf i Seaview Farm, Heol Goedeg, Cefn Cribwr.
D/18/3213525 (1842) Codi estyniad un llawr i'r cefn, 20 Bredenbury Gardens, Porthcawl.
(3) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ynghylch yr Apêl ganlynol wedi gorchymyn y dylid ei chaniatáu ac y dylid cyflwyno Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon:-
Rhif Cod Testun yr Apêl X/18/3209991 Tystysgrif Cyfreithlondeb at ddefnydd presennol darn o dir drws nesaf i'r annedd a'r ardd ddomestig: Gwarycoed, Pant y Pyllau, Coety. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi'r sesiynau hyfforddi yr awgrymwyd y dylai’r Aelodau eu cael ac fel y nodwyd yn Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau. Bwriedir cynnal y sesiynau hyn ar rai dyddiadau yn fuan cyn cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu. |
|
Enwebu a phenodi aelod newydd i wasanaethau ar yr Is-bwyllgor Hawliau Tramwy PDF 62 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad a alluogai'r Pwyllgor Rheoli Datblygu i enwebu a phenodi Aelod newydd i gymryd lle’r Cyng. Tim Thomas ar yr Is-bwyllgor Hawliau Tramwy. Gofynnwyd i'r Cyng. James Radcliffe ymgymryd â'r swyddogaeth honno er mwyn cynnal cydbwysedd gwleidyddol ar y corff penodol hwn.
Cafwyd cadarnhad oddi wrth y Swyddog Cyfreithiol bod y camau uchod yn angenrheidiol, a hynny am nad oedd y Cyng. Thomas yn Aelod o'r Is-bwyllgor Hawliau Tramwy mwyach am ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r Pwyllgor Rheoli Datblygu. Felly, rhaid oedd cael Aelod newydd i wasanaethau ar y Pwyllgor Rheoli Datblygu (h.y. y Cyng. Radcliffe) ac ar yr Is-bwyllgor Hawliau Tramwy.
PENDERFYNWYD: Rhoi caniatâd i'r Cyng. James Radcliffe gymryd lle’r Cyng. Tim Thomas fel Aelod o'r Is-bwyllgor Hawliau Tramwy. |
|
Materion Brys Cofnodion: Dim. |