Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau canlynol:-
Y Cynghorydd M Kearn Y Cynghorydd JE Lewis Y Cynghorydd R Collins |
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod. Cofnodion: Dim. |
|
Ymweliadau â Safleoedd I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 08/04/2020 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cadarnhau Dydd Mercher 26 Chwefror 2020 fel dyddiad ar gyfer arolygiadau arfaethedig o safleoedd sy’n codi yn y cyfarfod, neu a nodir cyn y Pwyllgor nesaf gan y Cadeirydd. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 80 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/01/2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu dyddiedig 16 Ionawr 2020. |
|
Siaradwyr Cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl). Cofnodion: Anerchwyd y cyfarfod gan y siaradwyr cyhoeddus canlynol:-
Rhif y cais: Cyfeiriad Enw’r siaradwr
P/19/911/RLX Tir yn Moor Lane Y Cyngh. N Clarke, gwrthwynebydd Porthcawl J Matthews, ymgeisydd CF36 3EJ
P/19/810/FUL Datblygiad Tai Y Cyngh. A Hussain, gwrthwynebydd oddi ar All Saints Way, G John Ymgeisydd cynllunio/ Pen-y-fai, CF31 4BT asiant
|
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Fe wnaeth y Cadeirydd dderbyn Taflen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor ystyried newidiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn ystyried sylwadau a diwygiadau hwyr y mae’n ofynnol eu cynnwys. |
|
P/19/911/RLX – Tir yn Moor Lane, Porthcawl PDF 344 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau a oedd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau:-
Cynnig
Amrywio amodau 1, 3, 8, 9, 10, 11, 12, 13 14, 18, 19, 23 a 24 yn P/19/115/RLX i’w gwneud yn bosibl cynyddu’r ddarpariaeth o ran unedau llety ar ffurf cabanau pren o 56 i 80.
Dylai Amod 13 ddarllen fel hyn yn awr:-
13. O fewn chwe mis i ddyddiad y caniatâd hwn, dylai Cynllun Rheoli Traffig a Danfoniadau wedi’i ddiweddaru ar gyfer y safle gael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a chael ei gytuno’n ysgrifenedig ganddo. Dylai’r holl symudiadau cyrraedd ac ymadael gan westeion a symudiadau gan gerbydau gwasanaethu a danfon nwyddau i’r safle gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Traffig a Danfoniadau y cytunwyd arno unwaith y bydd y datblygiad mewn defnydd llesiannol.
Rheswm: Er budd diogelwch priffyrdd.
O ganlyniad, dylid newid nodyn cynghori g. ar ddiwedd yr argymhelliad i gyfeirio at Amod 13, nid 10 fel a ganlyn:
g. Bydd angen i’r Cynllun Rheoli Traffig a Danfoniadau sy’n ofynnol i fynd i’r afael ag Amod 13 gynnwys digon o wybodaeth mewn perthynas â’r canlynol:-
(i) Trefniadau cyrraedd ac ymadael gan westeion (cyfarwyddiadau i’r safle ac amseriad y symudiadau hynny); (ii) Symudiadau cyrraedd ac ymadael gan westeion yn safle cyfagos Parc Carafanau Brodawel; (iii) Amserlenni Danfon Nwyddau Arfaethedig; (iv) Meintiau Arfaethedig Cerbydau Danfon Nwyddau/Cerbydau Gwasanaethau; (v) Diagramau llwybr ysgubedig ategol; a hefyd (vi) Yr angen i adolygu’r cynllun os bydd unrhyw drefniadau o blith yr uchod yn newid neu ar gais yr Awdurdod Priffyrdd.
Dylai Amod 22 yn yr argymhelliad gael ei ddisodli gan y geiriad canlynol:
22. Dylai gwaith clirio safle gael ei wneud yn gwbl unol â’r canlynol:-
· Manylion dyluniad goleuadau, y dull clirio llystyfiant, y protocol clymog a gymeradwywyd dan Gais Rhif P/18/827/DOC dyddiedig 15 Chwefror, 2019. · Y mesurau atal llygredd sy’n cynnwys clustogfa 5m o led o’r Safle o Bwysigrwydd Er Cadwraeth Natur ynghyd â bwnd clai 2m x 1m a gymeradwywyd dan Gais Rhif P/19/307/DOC dyddiedig 31 Mai, 2019.
Rheswm: Er budd bioamrywiaeth.
Yn amodol ar gynnwys amod pellach, sef Amod 25, fel a ganlyn:-
25. Cyn meddiant llesiannol y cabannau gwyliau, dylai cynllun ar gyfer darparu arwyddion traffig ar y ffordd ddynesu sy’n rhybuddio ynghylch presenoldeb marchogion sy’n rhannu’r briffordd wrth gyffordd Moor Lane gyda’r A4229 a chyffordd Moor Lane ar bwys Ffynnon Dewi i’r dwyrain a chyffordd Moor Lane gyferbyn â Maes Carafanau Fferm Parc Newydd i’r gorllewin, ynghyd ag unrhyw fesurau goleuo angenrheidiol, gael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a chael ei gytuno’n ysgrifenedig ganddo. Wedyn dylid rhoi’r cynllun a gymeradwywyd ar waith yn unol â’r manylion cymeradwy cyn bod y datblygiad mewn defnydd llesiannol a dylai gael ei gynnal a’i gadw wedi hynny hyd byth.
Rheswm: Er budd diogelwch priffyrdd.
Hefyd, dylid cynnwys yr Amod gwreiddiol canlynol dan yr argymhelliad:
26. Dylai’r holl waith i glirio’r safle gael ei wneud yn unol â’r dulliau a mesurau sydd wedi’u cynnwys yn y Datganiad Dull Lliniaru – Madfall Dd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 365. |
|
P/19/810/FUL – Datblygiad Tai Oddi ar All Saints Way, Pen-y-fai PDF 743 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau a oedd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau:-
Cynnig
Gosod ystafell werthu un llawr dros dro i farchnata’r datblygiad preswyl. |
|
P/19/895/RLX - Ocean Farm, Oddi ar Stryd Dewi, Blaengarw PDF 438 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gohirio’r cais uchod, er mwyn gallu rhoi’r cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle dan sylw:-
Cynnig
Dileu Amod 1 yn P/16/989/RLX i alluogi defnydd parhaol ar gyfer bridio c?n |
|
Cofnodion: (1) Nodi’r pedair Apêl a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, fel a nodir yn adroddiad y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu.
(2) Nodi bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu’r apeliadau canlynol wedi rhoi cyfarwyddyd i’w Caniatáu, gydag Amodau:-
Rhifau Codau Yr Hyn yr Apeliwyd yn Ei Gylch
A/19/3239599 (1876) Newid defnydd i safle golchi ceir â llaw gan godi canopi ar ei draed ei hun a lledu un drws yn 35, Village Farm Road, Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, Y Pîl.
C/19/3240183 (1880) Newid defnydd i safle golchi ceir â llaw gan godi canopi ar ei draed ei hun a lledu un drws yn 35, Village Farm Road, Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, Y Pîl. (Heb ei benderfynu’n ddiweddarach).
(3) Nodi bod yr Apelydd wedi gofyn am Dynnu’r apêl ganlynol Yn Ôl:-
Rhif Cod Yr Hyn yr Apeliwyd yn Ei Gylch
A/19/3241246 (1882) Uned i’w Gosod ar gyfer Gwyliau, Tir ar bwys Fferm Penylan, Abercynffig.
(4) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu’r Apêl ganlynol wedi rhoi cyfarwyddyd i’w Gwrthod:-
Rhif Cod Yr Hyn yr Apeliwyd yn Ei Gylch
A/19/3239912 (1879) Trosi garej bresennol yn Salon Harddwch (Ailgyflwyno P/18/297/FUL), 14 Woodland Avenue, Pen-coed. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau yn nodi’r sesiwn hyfforddi a oedd yn yr arfaeth ar gyfer Aelodau ar 9 Ebrill 2020. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim. |