Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Datblygiad a Rheoli - Dydd Iau, 20fed Awst, 2020 14:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Democratic Services Section 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

393.

Datganiadau Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

Cofnodion:

Dim.

394.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 87 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 23/7/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, dyddiedig 23 Gorffennaf 2020, yn gofnod gwir a chywir.

395.

Siaradwyr Cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus. 

396.

Taflen Ddiwygiadau pdf eicon PDF 46 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Derbyniodd y Cadeirydd Daflen Ddiwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor, fel bod y Pwyllgor yn gallu ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn ystyried cynrychiolaethau a diwygiadau hwyr y mae’n ofynnol rhoi sylw iddynt.

397.

Canllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y crynodeb o Ganllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fel y’i manylir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn cael ei nodi.

398.

P/19/915/RES – Tir i’r Gorllewin o Maesteg Road, Ton-du, CF32 9DF pdf eicon PDF 660 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Gohirio’r cais ar gais yr ymgeisydd i roi amser i ddatrys materion sy’n weddill yn ymwneud â’r briffordd. 

399.

P/19/624/FUL - Llain R20, Parc Derwen, Coety pdf eicon PDF 641 KB

Cofnodion:

Cynnig:                    Adeiladu 102 o anheddau ynghyd â seilwaith a thirweddu cysylltiedig

 

PENDERFYNWYD: (1) Bod yr ymgeisydd yn llunio Cytundeb Adran 106 i ddarparu cyfraniadau ariannol fel a ganlyn:

 

i. Darparu cyfraniad ariannol o £228,382 tuag at ddarparu lleoedd ysgol gynradd yn Ysgol Gynradd Coety.

 

ii. Darparu o leiaf 20% o’r unedau fel tai fforddiadwy, gan gynnwys 7 uned ganolradd ar y safle sy’n destun y cais hwn a 14 uned rhent cymdeithasol yn rhan o’r datblygiad ar y safle Canolfan Ardal (y mae P/19/656/RES yn cyfeirio ato).  Bydd y Cytundeb yn cynnwys amserlen ar gyfer darparu a fydd yn gysylltiedig ag adeiladu’r tai marchnad ar Gam R20.

 

iii. Darparu cyfraniad ariannol o £24,000.00 ar gyfer Gorchmynion Traffig i dalu am gost cyhoeddi’r Gorchmynion ar gyfer y llain hon a datblygu’r Ganolfan Ardal (y mae P/19/656/RES yn cyfeirio ati) cyn i unrhyw ganiatâd gael ei roi.

 

Bydd y Cytundeb hefyd yn cynnwys Cynllun Rheoli sy’n rhoi manylion cynllun ar gyfer rheoli a chynnal a chadw’r ardaloedd parcio a gwasanaeth cymunedol yn y Datblygiad Canolfan Ardal yn y dyfodol (y mae P/19/656/RES yn cyfeirio ato) i’w gyflwyno gan y cwmni sy’n ymgeisio.

 

(2)  Bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i Reolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i gyhoeddi penderfyniad yn rhoi caniatâd yngl?n â’r cynnig hwn pan fydd yr ymgeisydd wedi llunio’r Cytundeb Adran 106 a grybwyllwyd uchod, yn ddarostyngedig i amodau yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig hefyd i ddiwygio amod 5 fel a ganlyn:

 

O fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd hwn, bydd cynllun manwl sy’n cynnwys yr holl eitemau chwarae, gwaith tir cysylltiedig a gwaith tirweddu caled a meddal ar gyfer yr Ardal Chwarae Leol â Chyfarpar arfaethedig ar LEAP 10A ar Gamau R16 a R28, o flaen rhifau 16-22 Llys Ceirios, yn cael ei gyflwyno’n ysgrifenedig i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer cytundeb.  Bydd y cynllun, fel y’i cytunwyd yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, yn cael ei gwblhau a’i ddefnyddio cyn i’r 50fed annedd gael ei meddiannu ar y cam hwn (Llain R20) o’r datblygiad.

 

Rheswm: Er mwyn amwynderau preswyl meddianwyr yn y dyfodol.

 

Nodyn: Roedd y Cynghorydd Radcliffe yn dymuno iddo gael ei nodi y byddai wedi pleidleisio dros wrthod ar sail perfformiad blaenorol y datblygwr o ran darparu ardaloedd chwarae, ond ni ellid defnyddio hyn ar y cais hwn.     

400.

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr – Cytundeb Cyflawni Diwygiedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu wrth yr Aelodau fod angen diwygio Cytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol, a gymeradwywyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2018, a cheisiodd gymeradwyaeth i ddiwygio’r Amserlen ar gyfer paratoi CDLl yng ngoleuni’r pandemig Covid-19.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi cael llythyr gan Lywodraeth Cymru ar 7 Gorffennaf 2020 yn ei gynghori i gynnal asesiad o’r sylfaen dystiolaeth dechnegol sy’n sail i’r CDLl amnewid, ochr yn ochr â’r strategaeth a’r polisïau a ffefrir o ystyried canlyniadau’r pandemig.  Dywedodd fod y dasg hon wedi cael ei chwblhau a bod y canfyddiadau wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad i’w nodi.  Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynghori y dylai Cytundebau Cyflawni gael eu haddasu i ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r amserlen CDLl yng ngoleuni oedi a achoswyd gan y pandemig.  Dylai hyn hefyd gynnwys diwygiadau i’r Cynllun Cynnwys y Gymuned, o ystyried yr angen i addasu i batrymau gweithio newydd ac ystyried dulliau amgen o ymgysylltu â rhanddeiliaid o ganlyniad i’r angen i gadw pellter cymdeithasol.  Amlinellodd y diwygiadau arfaethedig i’r amserlen.  Dylai’r Cynllun Adneuo fod yn destun ymgynghoriad rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021 (mis Gorffennaf i fis Awst 2020 yn flaenorol).  Caniatawyd ymestyn y cyfnod ymgynghori statudol o 6 wythnos i 8 wythnos er mwyn rhoi mwy o amser i bobl gyflwyno’u safbwyntiau, ar yr un pryd ag ystyried unrhyw gyfyngiadau pellach a orfodir o ganlyniad i’r pandemig.  Dywedodd fod oedi canlyniadol o hyd at 6 mis yn debygol cyn i’r CDLl gael ei fabwysiadu’n derfynol, er bod y dyddiadau sy’n ymwneud â’r camau ar ôl cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru yn ddangosol.  Amlinellodd sut mae’r Cynllun Cynnwys y Gymuned wedi cael ei ddiwygio i ystyried dulliau gwahanol o ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn cynnal y mesurau cadw pellter cymdeithasol sy’n debygol o fod yn ofynnol am y dyfodol rhagweladwy.

 

PENDERFYNWYD: 1. Bod y Pwyllgor yn cytuno â’r diwygiadau i’r amserlen a’r Datganiad o Gynnwys y Gymuned, ac yn awdurdodi Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu – Cymunedau i gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni diwygiedig (sydd wedi’i atodi yn Atodiad 2 yr adroddiad) i’r Cyngor i’w gymeradwyo ac i Lywodraeth Cymru yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor; a

 

2. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Reolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i wneud unrhyw gywiriadau ffeithiol neu fân ddiwygiadau i’r Cytundeb Cyflawni fel yr ystyrir y bo’n angenrheidiol.

401.

Cyflwyno Model Hyfywedd Datblygu pdf eicon PDF 41 KB

Cofnodion:

Ceisiodd y Prif Swyddog Polisi Cynllunio Strategol awdurdodiad i ymgynghori â’r diwydiant tai a phrofi’r Model Hyfywedd Datblygu (DVM) fel offeryn y gellir codi tâl amdano sy’n gallu darparu tystiolaeth yngl?n â hyfywedd i gefnogi Safleoedd Ymgeisiol a/neu Geisiadau Cynllunio.  Byddai’r cynllun peilot cychwynnol yn llywio’r broses o sefydlu gweithdrefn a rhestr taliadau newydd (i roi’r Model i ddatblygwyr a/neu hyrwyddwyr safle), yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor.

 

Adroddodd fod y Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau eraill ar draws Rhanbarth y De-ddwyrain i ddatblygu’r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu (DVM).  Crëwyd y DVM fel model cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio i asesu hyfywedd ariannol cynigion datblygu.  Mae wedi’i seilio ar yr un ymagwedd lwyddiannus a ddefnyddir gan Gr?p Cynllunio Strategol Canolbarth a De-orllewin Cymru.  Dywedodd y bydd y model yn cael ei fabwysiadu gan bob awdurdod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y pen draw ac y bydd ar gael i ddatblygwyr, hyrwyddwyr safle, neu unrhyw unigolyn/sefydliad arall i gynnal arfarniad hyfywedd ariannol o ddatblygiad arfaethedig.  Byddai hyn yn rhoi offeryn i hyrwyddwyr safle y gellir ei ddefnyddio i ddangos bod modd darparu safle yn unol â gofynion Polisi Cynllunio Cymru. 

 

Dywedodd fod y Cyngor yn bwriadu rhyddhau’r DVM i ddatblygwyr a hyrwyddwyr safle ar fformat wedi’i gloi sy’n benodol i safle, gyda chanllaw cysylltiedig i ddefnyddwyr, ar ôl derbyn ffi safonol.  Mae hyn yn adlewyrchu’r dull a ddefnyddir yn Rhanbarth y Canolbarth a’r De-orllewin er mwyn bod yn gyson.  Amlinellodd y rhestr ffïoedd arfaethedig, y bwriedir iddynt dalu am gostau gweinyddol y Cyngor wrth gloi a dosbarthu’r model, dilysu’r arfarniad wedi’i gwblhau a darparu adolygiad lefel uchel i’r datblygwr/hyrwyddwr y safle.  Ni fydd talu ffi yn gwarantu bod safle’n cael ei ddyrannu yn y CDLl Amnewid nac yn arwain yn uniongyrchol at roi caniatâd cynllunio.  Dywedodd ar ôl cwblhau’r adolygiad lefel uchel, y bydd y Cyngor yn rhoi datganiad i’r datblygwr/hyrwyddwr y safle i ddangos i ba raddau yr ystyrir bod yr arfarniad a gyflwynwyd yn bodloni’r profion a amlinellwyd.  Hysbysodd y Pwyllgor, cyn argymell yr ymagwedd hon yn ffurfiol i’w chymeradwyo gan y Cyngor, y cynigir cynnal cynllun peilot cychwynnol er mwyn profi’r cysyniad, galluogi cyfnod ymgynghori â’r diwydiant tai a rhannu’r canfyddiadau â’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD: 1. Bod y Pwyllgor yn awdurdodi Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i ymgynghori â’r diwydiant tai a phrofi’r Model Hyfywedd Datblygu (DVM) fel offeryn y gellir codi tâl amdano sy’n gallu darparu tystiolaeth o hyfywedd i gefnogi Safleoedd Ymgeisiol a/neu Geisiadau Cynllunio.

 

2. Bod y Pwyllgor yn nodi y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn dilyn ymgynghoriad i roi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau’r ymgynghoriad ac, os ystyrir ei bod yn briodol, i ofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r model a’r strwythur codi tâl yn ffurfiol.

402.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.