Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell trwy Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Sylwch: Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio, a’r angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau a Swyddogion y Pwyllgor Datblygiad a Rheoli yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

371.

Datganiadau Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

Cofnodion:

Dim.

372.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 76 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/02/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, dyddiedig 22 Chwefror 2020, yn gofnod gwir a chywir, yn amodol ar yr Amod 3 diwygiedig o’r caniatâd a gymeradwywyd mewn perthynas â chais cynllunio P/19/810/FUL a fanylwyd yng Nghofnod 366, a nodwyd fel a ganlyn:-

 

3. Bydd adeilad yr ystafell werthu a ganiateir trwy hyn yn gweithredu ar sail apwyntiad yn unig a bydd ar agor i gwsmeriaid rhwng yr amserau canlynol:

 

Dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Llun rhwng 10:00 a 17:30;

dydd Sul a Gwyliau Banc rhwng 10:00 a 16:30 yn unig.

 

    Ni fydd yr ystafell werthu ar agor i gwsmeriaid ar unrhyw adeg ar ddydd 

     Mawrth na dydd Mercher.

 

Rheswm: Er mwyn amwynder preswyl.

 

373.

Taflen Ddiwygiadau pdf eicon PDF 375 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Derbyniodd y Cadeirydd Daflen Ddiwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor, fel bod y Pwyllgor yn gallu ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn ystyried cynrychiolaethau a diwygiadau hwyr y mae’n ofynnol rhoi sylw iddynt.

 

374.

Canllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Bod y crynodeb o Ganllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fel y’i manylir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn cael ei nodi.

 

375.

P/20/119/FUL - Bridgend Paper Mills, (WEPA), A4063, Llangynwyd, CF34 9RS pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo’r cais cynllunio uchod, yn amodol ar y canlynol:-

 

 

1) Bod yr ymgeisydd yn llunio Cytundeb Adran 106 i ddarparu cyfraniadau ariannol fel a ganlyn:

 

-           swm o £8,000 i ariannu gorchmynion traffig cyfreithiol;

-           swm o £60,000 (i’w dalu o fewn 12 mis o ddyddiad y caniatâd) tuag at asesiad dichonoldeb o lwybr Teithio Llesol trwy Gwm Llynfi;

-           swm o £20,000 i ariannu mesurau gostegu traffig porth yng Ngoetre-hen.

 

2)  Bod y Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yn cael pwerau dirprwyedig i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad sy’n rhoi caniatâd mewn perthynas â’r cynnig hwn pan fydd yr ymgeisydd wedi llunio’r Cytundeb Adran 106 uchod, yn ddarostyngedig i’r Amodau ac unrhyw Nodiadau a gynhwysir yn ei adroddiad a ddiwygiwyd fel y’u hamlinellir yn y Daflen Ddiwygiadau ac a fanylir isod.

 

Cynnig:

 

Ymestyn y gweithrediad presennol, gan gynnwys estyniad ar gyfer ardal paratoi stoc a pheiriant papur newydd, cyfleusterau trawsnewid a warws newydd ac adeiladau atodol.

 

Yn ddarostyngedig i’r canlynol, o ran yr Amodau yn Adroddiad y Swyddog:-

 

Nid oes angen Amod 8 gan fod y manylion wedi’u cynnwys gyda’r cais.

 

Ar ôl derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd, dylai Amod 14 ddarllen fel a ganlyn:

 

14.O fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd hwn, bydd Adroddiad Disgrifiad a Phroses diwygiedig ar gyfer y Prosiect yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau bod digon o gapasiti yn y Gwaith Trin D?r Gwastraff presennol i dderbyn y cynnydd mewn elifion masnach a llifoedd d?r brwnt.  Bydd yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio mewn ffordd fuddiol, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r Drwydded Amgylcheddol.

 

Dylai Amod 17 gynnwys cyfeiriad penodol at Gamau 2 a 3 y datblygiad o ganlyniad i leoliad nodweddion glofaol, a gellir ei ddiwygio fel a ganlyn:

 

17. Ar ôl gweithredu a chwblhau’r cynllun adfer cymeradwy ar gyfer camau 2 a 3 (sy’n ofynnol gan amod 16 uchod), a chyn i’r rhan honno o’r datblygiad gael ei defnyddio’n fuddiol am y tro cyntaf, bydd adroddiad dilysu yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig i gadarnhau bod y cynllun adfer wedi cael ei gwblhau yn unol â’r manylion cymeradwy.

 

Gellir diwygio Amod 18 fel a ganlyn:

 

18.Cyn i bob Cam o’r datblygiad gael ei weithredu uwchben lefel sylfeini/slab, bydd cynllun manwl yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, a’i gytuno ganddo, i ddangos y bydd y gwerthoedd inswleiddio sain a ddefnyddiwyd yn y rhagfynegiadau modelu s?n yn adran 4.3 yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol – S?n 57100_0219_Asesiad S?n ar gyfer yr unedau caeëdig a’r adeiladau canlynol yn cael eu cyflawni:

 

   Bydd byrnwr Adran B wedi’i amgáu yn llwyr.  Bydd uned gaeëdig byrnwr Adran B yn darparu gwerth inswleiddio sain (Rw) o 40dB(A) o leiaf

   Bydd pob elfen o waliau a tho Adran C yn darparu gwerth inswleiddio sain (Rw) o 50dB(A)  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 375.

376.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z