Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Datblygiad a Rheoli - Dydd Iau, 17eg Medi, 2020 14:00

Lleoliad: o bell trwy Skype For Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

403.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

Cofnodion:

Dim.

404.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 67 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/08/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, dyddiedig 20 Awst yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

405.

Siaradwyr Cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

Cofnodion:

Roedd y siaradwyr cyhoeddus canlynol yn bresennol i draethu ar Gais Cynllunio P/19/915/RES (Eitem agenda 7) :

 

Gwrthwynebydd                                                           Ymgeisydd

 

C Evans                                                           S Gray, Llanmoor Homes

406.

Taflen Ddiwygio pdf eicon PDF 87 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem brys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniau i’r Pwyllgor ystyried newidiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, i ystyried  cynrychiolaethau ac adolygiadau hwyr sydd angen eu cynnwys.

407.

Arweiniad Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod crynodeb yr Arweiniad i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fel a nodir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn cael ei nodi

408.

P/19/915/RES – Tir i’r Gorllewin o Heol Maesteg, Tondu, CF32 9DF pdf eicon PDF 709 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                   Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i’r Amodau sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.

 

Cynnig

 

Materion a gedwir yn ôl yn P/16/366/OUT am 405 o unedau preswyl, ffordd gyswllt a maes parcio dros dro.

409.

P/20/285/RLX – Tir ar yr Hen Faes Chwarae, Heol Ffynnon, CF31 3XU pdf eicon PDF 273 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                   Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i’r Amodau sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.

 

Cynnig

 

Amrywio amod 1 penderfyniad apêl A/18/3198111 (yn ymwneud â P/17/891/FUL) i newid y cynlluniau a gymeradwywyd i gynnwys stoc amwynder mwy.

410.

P/20/159/BCB - Plot 50a Heol Village Farm, Stad Ddiwydiannol Village Farm, Y Pîl, CF33 6BN pdf eicon PDF 482 KB

Cofnodion:

RESOLVED:                   Bod caniatâd tybiedig, at ddibenion Rheoliad 4 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 1992, yn cael ei roi i’r cais uchod, yn ddarostyngedig i’r Amodausy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau:-

 

 

Cynnig

 

Codi 8 uned ddiwydiannol newydd mewn bloc unigol yn cynnwys 3 uned fawr a 5 uned fechan gyda pharcio cysylltiedig i gerbydau a beiciau.

411.

P/19/674/RLX - Tir ger Parc Crescent, Stad Ddiwydiannol Waterton (Storewithus), CF32 0EW pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                    Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i’r Amodau sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau

 

Cynnig

 

Cadw’r datblygiad fel y’i gweithredir yn unol â P/16/379/FUL (a ddiweddarwyd gan P/16/836/NMA, P/16/850/DOC a P/17/343/DOC) a P/16/833/FUL (a ddiweddarwyd gan P/17/311/DOC); amrywio amod 1 o P/16/379/FUL ac amod  2 o P/16/833/FUL i ganiatáu cyfleusterau golchi; amrywio amod 3 o P/16/833/FUL i gynnwys bwnd pridd ar hyd ffiniau dwyreiniol a deheuol y safle.

412.

Apeliadau pdf eicon PDF 291 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod yr Apeliadau a dderbyniwyd fel y’u rhestrwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn cael eu nodi.

 

2.    Bod y Penderfyniadau Apêl canlynol, sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a’u penderfynu gan yr Archwilwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru ers yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor, yn cael eu nodi :-

 

(a)  A/20/3245529 (1886) – Tri o dai annedd pâr 3 ystafell wely (cyfanswm o 6 aneddiad) gyda pharcio cysylltiedig i’r gogledd o 12 Heol Pen-y-bont, Pontycymer – Gwrthodwyd yr Apêl.

(b)  A/20/3246041 (1887) – Codi 41 o aneddiadau preswyl fforddiadwy gyda pharcio cysylltiedig i geir ar y safle, mynediad a’r gwaith cysylltiedig – Tir i’r de o Glos Wyndham, Stad Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr – Gwrthodwyd yr Apêl

(c)   A/20/3246041 (1891) - Cais amlinellol am hyd at 9 anheddle a’r gwaith cysylltiedig, Tir oddi ar Heol Tondu, i’r gogledd o Pascoes Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr. - Gwrthodwyd yr Apêl (a gwrthodwyd y cais am gostau.)

(d)   D/20/3253435 (1893) – Estyniad llawr cyntaf uwchben Rhandy ochr presennol, 7 Park Avenue, Porthcawl – Gwrthodwyd yr Apêl.

 

413.

Diwygiadau Dros Dro i Weithdrefn Ymweliadau Safle'r Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, gyda’r bwriad o gynghori Aelodau o’r rheidrwydd i adolygu dros dro Cod Ymarfer y Pwyllgor Rheoli Datblygu gyda golwg ar ymweliadau’r Pwyllgor â safleoedd, yng ngoleuni cyfyngiadau cyfredol Covid-19. 

 

Cafwyd cyngor gan y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, i’r Cod Ymarfer Cynllunio presennol gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn Ebrill 2017 a bod copi o’r ddogfen hon ynghlwm ag Atodiad 1 o’r adroddiad. Mae Adran 9 yn cyfeirio at ymweliadau safle gan y Pwyllgor ac yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer ymgymryd ag ymweliad o’r safle a’r gweithdrefnau i’w dilyn yn ystod ymweliad. Gall ymweliadau safle gan y Pwyllgor fod un ai ar ffurf Panel, h.y. Cadeirydd, Is-gadeirydd a Thrydydd Aelod neu fel ymweliad llawn â safle yn cynnwys holl aeodau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu. Gydag unrhyw un o’r ddwy sefyllfa, mae’r Aelod Ward leol, Cynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned ynghyd â gwrthwynebydd a wnaeth gais i siarad, yr ymgeisydd/asiant a’r Swyddogion perthnasol fel arfer yn mynychu. 

 

Mae’r Cod Ymarfer yn datgan y gall ymweliadau safle’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fod yn gostus ac achosi oedi. Gan hynny, mae hi’n bwysig nad ydyn nhw’n cael eu cynnal ond pa fo angen (fel arfer ar y diwrnod cyn y Pwyllgor) a lle bo gwrthwynebiad Cynllunio perthnasol. Nid cyfarfodydd lle gwneir penderfyniadau ydy’r rhain, na ‘chwaith yn gyfarfodydd cyhoeddus ond, yn bennaf, yn ymarferiadau casglu gwybodaeth a gynhelir er budd yr Aelodau, lle gall fod datblygiad arfaethedig yn anodd ei ddychmygu o’r cynlluniau a’r deunydd cymorth. Mae’n bosib y bydden nhw’n angenrheidiol o ran rhoi ystyriaeth gofalus i’r gydberthynas ag eiddo cyfagos neu’r cyffiniau cyffredinol y cynnig oherwydd ei faint neu’r effaith ar Adeilad Cofrestredig neu Ardal Gadwraeth, er enghraifft.    

 

Aeth ymlaen dan ddatgan fod yn rhaid i gais am ymweliad safle a wneir gan Aelod Ward leol mewn ymateb i ymgynghori ag e/hi ar y datblygiad arfaethedig, gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig neu yn electronig o fewn 21 diwrnod i hysbysiad y cais a bod gofyn iddo ddatgan yn glir y rhesymau cynllunio perthnasol am yr ymweliad.  

 

Fe deimlodd y dylid nodi y bydd Swyddogion yn parhau i ymweld â safleoedd lle be’n ddiogel i wneud hynny a cheisio darparu cymaint o wybodaeth â phosib, gan gynnwys ffotograffau, mapiau, delweddau o’r awyr a deunydd arall perthnasol megis  technoleg ‘gwylio stryd’, i gynorthwyo aelodau i wneud penderfyniadau ar geisiadau Cynllunio. 

 

Yn wyneb y rheolau presennol ynghylch ymbellhau cymdeithasol, fe fyddai ymweliadau Pwyllgor â safleoedd yn eithriadol o anodd ei gynnal yn ddiogel o dan y gweithdrefnau presennol. Byddai hyn yn bennaf oherwydd y niferoedd o bobl a fyddai’n mynychu, gan arwain wedyn at fethu cadw at bellter cymdeithasol diogel, yn ogystal â’r risg gynyddol o orgyffwrdd â phriffyrdd neu fynd i mewn i gartrefi pobl. Ni ddylai’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle heblaw dan amgylchiadau eithriadol.

 

Hysbysodd y Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, lle y cytunir gyda’r Cadeirydd y dylid ymweld â safle, y byddai’n angenrheidiol i gyfyngu’r nifer o gyfranogwyr er  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 413.

414.

Ardal Gadwraeth Nant-y-moel Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr, gyda’r bwriad o ddiweddaru’r Aelodau ar benderfyniad a wnaed ar 27 Mai 2020 trwy bwerau dirprwyedig i gadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn Ardal Gadwraeth Nant-y-moel ar 8 Mehefin 2020.

 

Er gwybodaeth, fe atgoffodd Arweinydd y Tîm Cadwraeth a Dylunio yr Aelodau ar yr hyn a gytunwyd, mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 16 Ionawr 2020, i lunio Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn Ardal Gadwraeth Nant-y-moel. Effaith y Cyfarwyddyd hwn oedd tynnu’n ôl yr hyn a fyddai fel arall yn hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â dymchwel ffin-waliau blaen yn yr ardal a gynhwysid yn y Cyfarwyddyd. Atgoffwyd yr Aelodau am sgôp y Cyfarwyddyd a’r eiddo a effeithir; mae manylion i’w cael yn Atodiad 1 yr adroddiad.   

 

Roedd effaith Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn ddi-oed a rheolau dros yr hyn a oedd yn flaenorol yn ddatblygiad a ganiateir felly mewn grym o 16 Ionawr 2020. Bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i ben oni bai y’i cadarnheir o fewn 6 mis.

 

Hysbysodd Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio, fel canlyniad uniongyrchol i gyhoeddi llythyr hysbysu Erthygl 4 yn dilyn llunio’r Gyfarwyddyd, fod pump ymateb wedi’u derbyn gan berchnogion a meddianwyr yr eiddo. Cafwyd crynodeb o gynnwys yr ymatebion hyn yn Atodiad 2 o’r adroddiad, er gwybodaeth i’r Aelodau. Derbyniwyd tri galwad ffôn yn gofyn am eglurder, yn hytrach na gwrthwynebu. Derbyniwyd dau ymateb ysgrifenedig. O’r ddau yma, roedd un wedi camddeall y llythyr ac yn gofyn am eglurder ynghylch statws Ardal Gadwraethac roedd un yn gwrthwynebu oherwydd fod gormod o gymeriad hanesyddol eisoes wedi’i symud oddi yno.    

 

I osgoi Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) rhag dod i ben, roedd gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gadarnhau erbyn 17 Mehefin 2020 ac, fel canlyniad i gyfnod clo COVID 19 a’r gohirio dilynol fu ar gyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu, cymerwyd penderfyniad ar 27 Mai 2020, o dan bwerau dirprwyedig brys (Cyf CMM-PRU-20-23), mewn ymgynghoriad â  Swyddogion ac Aelodau, i gadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4 heb unrhyw newidiad. Amgaewyd copi o’r cyfarwyddyd a gadarnhawyd, arwyddwyd a seliwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

 

Cyngynted ag y cadarnhawyd y gyfarwyddyd, anfonwyd llythyrau i holl berchnogion / meddianwyr yr eiddo a effeithir, ynghyd â’r copi terfynol o’r daflen arweiniad a gynhyrchwyd. Fe gynigiwyd fod y fersiwn derfynol o’r daflen a gynhwysir yn Atodiad 3 yn cael ei chymeradwyo at ddibenion Rheoli Datblygu.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod Aelodau:

 

  1.  Yn nodi fod y Gyfarwyddyd o dan Erthygl 4 (2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu cyffredinol a Ganiateir) 1995 i symud hawliau datblygu a ganiateir gan berchnogion a meddianwyr tai annedd sy’n gynwysedig o fewn Ardal Gadwraeth Nant-y-moel o dan y telerau a nodir yn Atodiad 1, wedi’i chadarnhau heb ei haddasu ar 8 Mehefin 2020.
  2.  Yn cymeradwyo’r daflen arweiniad yn Atodiad 3 o’r adroddiad, at ddibenion Rheoli Datblygu.

 

415.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.