Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Datblygiad a Rheoli - Dydd Iau, 10fed Rhagfyr, 2020 14:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

428.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

Cofnodion:

Dim.

 

429.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 29/10/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu dyddiedig 29 Hydref 2020 yn wir ac yn gywir.

 

430.

Siaradwyr Cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

 

Cofnodion:

Roedd y gwrthwynebwyr a ganlyn wedi cofrestru i siarad ynghylch y ceisiadau cynllunio y cyfeirir atynt isod. Gan nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, darllenodd y Swyddog Cyfreithiol sylwadau'r ddau wrthwynebydd yn eu habsenoldeb yn y cyfarfod. Roedd asiant yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ac ymatebodd i'r rhain, fel rhan o'i hawl i ymateb i sylwadau a wneir fel hyn, yn gysylltiedig â phob cais.

 

Gwrthwynebydd              Asiant yr Ymgeisydd           Ceisiadau Cynllunio                            

A Corrigan                            S  Courtney                        P/20/263/FUL    

A Frisswell                            S  Courtney                        P/20/266/CAC      

                                                                                        

431.

Taflen Ddiwygio pdf eicon PDF 14 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygio'r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, i roi ystyriaeth i sylwadau a diwygiadau hwyr y mae angen eu trafod.

 

432.

Canllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Nodi'r crynodeb o Ganllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fel y manylir arnynt yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau.

 

433.

P/20/263/FUL - Tir yn Hen Ysgol Sant Ioan, Newton, Porthcawl, CF36 5SJ pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                   (1) Ar ôl ystyried y cais uchod, bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106 i ddarparu:-

 

i. 8 uned o dai fforddiadwy ar y safle, a chyfraniad oddi ar y safle o 9 uned o dai fforddiadwy a fydd yn gydradd o ran gwerth â darparu 4 annedd Rhent Cymdeithasol a 5 annedd ganolradd ar y safle. Bydd y cyfraniad oddi ar y safle'n cael ei gyfrifo'n unol â SPG13 Tai Fforddiadwy, ac yn cael ei addasu'n unol â phrisiau'r farchnad ar adeg adeiladu.

ii. cyfraniad ariannol o £75,450 i wella'r ddarpariaeth oddi ar y safle i'r ardal chwarae leol i blant, er mwyn gwella'r cyfleuster LEAP presennol.

iii. cyfraniad ariannol o £8,000 i dalu am Orchymyn Traffig Ffyrdd i ddynodi'r safle datblygu yn barth 20mya.

iv. Strategaeth / Cynllun Celf Gyhoeddus i'w gytuno gan CBSPO i gynnwys manylion am:

 

• gynllun wedi'i gostio ar gyfer darparu celf gyhoeddus, gan gynnwys lluniadau manwl;

• amserlen ar gyfer gweithredu;

• disgrifiad o'r comisiwn neu'r broses ddethol;

• tystiolaeth o ymgynghori â thrigolion ac Aelodau lleol; a

• manylion gofal a chynnal a chadw'r gwaith / gweithiau celf yn y dyfodol.

 

(2)                                           Dirprwyo pwerau i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd amodol mewn perthynas â'r cynnig hwn, cyn gynted ag y bo'r ymgeisydd wedi ymrwymo i'r Cytundeb Adran 106 uchod, yn ddarostyngedig i'r Amodau a geir yn adroddiad y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu.

 

Cynnig

 

Dymchwel yr adeiladau presennol ac adeiladu 57 annedd, gan gynnwys 8 fflat fforddiadwy, tirlunio, man agored cyhoeddus, SDCau a gwaith cysylltiedig.

 

Sylwer:

Yn amodol ar ddiwygio cyfeiriad at Bryneglwys Gardens yn Amod 23 yr adroddiad, i Bryneglwys Avenue.

 

434.

P/20/266/CAC - Tir yn Hen Ysgol Sant Ioan, Newton, Porthcawl, CF36 5SJ pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Rhoi Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer y cais uchod, yn ddarostyngedig i'r Amodau a geir yn adroddiad y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu.

 

Cynnig

 

Caniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel adeiladau ysgol presennol yn Ardal Gadwraeth Newton.

 

435.

P/19/659/FUL - Plot sy'n ffinio â 40 Bryn Road, Bro Ogwr, CF32 7DW pdf eicon PDF 420 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y cais uchod, yn ddarostyngedig i'r Amodau a geir yn adroddiad y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu.

 

Cynnig

 

Adeiladu dau bâr o dai pâr.

 

436.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     (1)             Nodi'r Apêl a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, fel y manylwyd yn adroddiad y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu.

 

(2)        Nodi'r Penderfyniad a ganlyn ynghylch yr Apêl, fel y mae wedi'i gynnwys yn adroddiad y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, ac yn unol â'r hyn a benderfynwyd gan yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Pwyllgor:-

 

C / 20/350570 (1889) - Defnydd diawdurdod fel llety gwyliau, Ivy Cottage, Llys Colman, CF31 4NG - PENDERFYNIAD - Gwrthod yr Apêl (gweler Atodiad A yr adroddiad).

 

437.

Defnyddio Cytundebau Perfformiad Cynllunio a Mesurau Adennill Costau Eraill er mwyn Penderfynu ynghylch Ceisiadau Cynllunio pdf eicon PDF 34 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad, i gynghori Aelodau ynghylch y potensial i ddefnyddio Cytundebau Perfformiad Cynllunio (CPCau) gyda datblygwyr yn rhan o'r drefn i adennill costau wrth ymdrin â chynigion datblygu graddfa fawr (yn bennaf), a chymhwyso'r egwyddor i'r un graddau i ddatblygiadau graddfa lai.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, cadarnhaodd mai prif ddiben CPC yw creu fframwaith cytunedig rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) a'r ymgeisydd neu'r darpar ymgeisydd, ynghylch y broses ar gyfer ystyried cynnig datblygu graddfa fawr. Roedd CPC yn ymagwedd hyblyg yr oedd modd ei haddasu i gynigion lle'r oedd y materion a godwyd yn gymharol syml hyd at gynigion lle'r oedd y materion yn fwy cymhleth, a allai gynnwys mwy o bartïon, a lle'r oedd y broses wedi'i threfnu fesul cam dros gyfnod hir. Yn achos cais Cynllunio, gallai hyn amrywio rhwng y cyflwyniad cyn-ymgeisio hyd at gytuno'n derfynol ar yr amodau Cynllunio. Nid oedd unrhyw CPC safonol, gan fod pob un yn debygol o fod yn unigryw i gyd-fynd â’i amgylchiadau neilltuol. Ystyrir CPC yn offeryn effeithlonrwydd sy'n creu amserlen glir i fwrw ymlaen â gwaith datblygu sylweddol a buddion economaidd cysylltiedig, yn ogystal ag adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau lle bo angen.

 

Mae diffyg adnoddau digonol ar gyfer swyddogaethau Cynllunio mewn Awdurdodau lleol yng Nghymru yn broblem genedlaethol sydd wedi'i chydnabod gan Lywodraeth Cymru a'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).  Mae'n amlwg bod sgiliau hollbwysig ym maes Cynllunio a meysydd cysylltiedig wedi cael eu colli o fewn Awdurdodau lleol, gan greu effaith gyfatebol ar y gallu i ddarparu datblygiadau cynaliadwy yn unol â pholisi cenedlaethol. Mae diffyg adnoddau digonol o fewn Awdurdodau Cynllunio hefyd wedi'i nodi fel un o'r prif resymau wrth wraidd oedi yn y system Gynllunio.

 

Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru archwiliad trylwyr o'r System Gynllunio yng Nghymru, ac yn benodol o’i gallu i gyflawni nodau ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru, Mehefin 2019). Yn ychwanegol at hyn, cododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru (Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru, Mehefin 2020) a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020) bryderon ynghylch gallu timau Cynllunio i gyflawni deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol allweddol. Cyfeiriwyd at ddiffyg adnoddau o fewn timau Cynllunio fel ffactor risg allweddol ar draws yr holl adroddiadau annibynnol hyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn eithriad i'r darlun cenedlaethol hwn, a bod lefelau staffio ym maes Cynllunio wedi gostwng dros 50% dros yr 8 mlynedd diwethaf. Roedd rolau arbenigol hefyd wedi cael eu colli, gan gynnwys rolau ym maes Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, Cynllunio Mwynau ac arbenigedd dylunio trefol. Roedd y gwasanaeth wedi cael ei resymoli a'i ad-drefnu droeon yn y gorffennol er mwyn goresgyn yr her o ddiffyg adnoddau wrth ddarparu gwasanaeth hanfodol yn erbyn cefndir heriol o newidiadau polisi a deddfwriaeth radical,

 

Aeth yn ei flaen i ddweud bod y llwyth gwaith yn feichus, y dogfennau technegol a gyflwynir yn fwyfwy cymhleth a bod yn rhaid gweithredu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 437.

438.

Rheoliadau Dogfennau Ymgynghori Llywodraeth Cymru - Sefydlu'r Weithdrefn ar gyfer Paratoi Cynllun Datblygu Strategol a Materion Cysylltiedig pdf eicon PDF 36 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad er mwyn hysbysu'r Pwyllgor Rheoli Datblygu fod Llywodraeth Cymru yn gofyn am ei farn ynghylch ei bwriad polisi ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen er mwyn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol, i'w paratoi ar draws Cymru gan Gyd-bwyllgorau Corfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi esboniad manwl o'r cefndir deddfwriaethol ar gyfer llunio a mabwysiadu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) a Chynlluniau Datblygu Strategol (CDSau) yng Nghymru. Bwriad y polisi o ran CDSau yw cyflwyno dull mwy strategol o greu cynlluniau ar raddfa fwy na CDLlau unigol. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae angen wedi'i nodi i wella'r modd y mae'r system Gynllunio yn ymdrin â materion sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol i adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw heddiw, ac y byddant yn byw yn y dyfodol.

Dylai CDSau gynnig dull mwy cyson, cost-effeithiol ac effeithlon o Greu Cynlluniau, gan wneud penderfyniadau allweddol unwaith ar lefel strategol.

 

Cyflwynwyd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau i'r Senedd ym mis Tachwedd 2019. Mae'n cyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol (CBCau) fel y dull o baratoi CDS a ffafrir gan Weinidogion Cymru. Mae'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu CBCau drwy Reoliadau. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu'r CBCau cyntaf cyn gynted ag sy'n bosibl. Gelwir y Rheoliadau yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (Rheoliadau'r CDS).

 

Ar ôl mabwysiadu CDS bydd yn dal yn rhaid i'r awdurdod lleol baratoi CDLl. Bydd mwy o ffocws i CDLlau a gaiff eu paratoi o dan CDS mabwysiedig. Byddant yn ymdrin â materion a pholisïau lleol, yn nodi dyraniadau safle-benodol, ac wedi'u llunio gan gydymffurfio'n gyffredinol â'r CDS mabwysiedig.

 

Gofynnai dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru am farn yr Awdurdod Cynllunio ar 9 chwestiwn manwl. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cwestiynau, ac yn cynnig ymateb ar gyfer pob un ohonynt.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn awdurdodi'r Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu (mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet Cymunedau) i ymateb yn ffurfiol i'r 9 cwestiwn penodol a gafwyd yn yr ymgynghoriad.

 

439.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.