Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

531.

Y Cynghorydd P J White

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Gyda thristwch y cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd P J White; byddai cydymdeimlad y Pwyllgor yn cael ei gyfleu i deulu’r Cynghorydd White. Gofynnodd y Cadeirydd i bawb oedd yn bresennol gynnal dau funud o ddistawrwydd a myfyrdod tawel.

 

Cadwodd pawb oedd yn bresennol ddau funud o ddistawrwydd fel arwydd o barch.

532.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylaiaelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

Cofnodion:

Dim.

533.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 211 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 30/09/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            

Cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 30 Medi 2021 fel cofnod gwir a chywir.   

534.

Siaradwyr cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

Cofnodion:

Nid oedd dim siaradwyr cyhoeddus.

535.

Tudalen diwygiadau pdf eicon PDF 4 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   

Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefnau'r Cyngor, i’r Pwyllgor allu ystyried newidiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn cymryd i ystyriaeth rai sylwadau ac adolygiadau hwyr yr oedd angen eu trafod.

536.

Arweiniad y Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 239 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   

Nodi’r crynodeb o Arweiniad y Pwyllgor Rheoli Datblygu fel y’i cyflwynwyd yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau.

537.

P/20/953/FUL - Parc Gwersylla a Theithio Brodawel, Moor Lane, Porthcawl, CF36 3EJ pdf eicon PDF 736 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           

Gohirio ystyried y cais nes derbyn ateb i gais am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd; adroddir am y cais mewn cyfarfod yn y dyfodol.

538.

Diwygiadau i Brotocolau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu. pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu (“Rheolwr y Gr?p”) ar newidiadau arfaethedig i'r gweithdrefnau oedd yn ymwneud â'r Pwyllgor Rheoli Datblygu, a fu'n destun trafodaeth yn y gweithdy a gynhaliwyd ar 29 Medi 2021. Hysbysodd y Pwyllgor fod y Cod Ymarfer Cynllunio cyfredol wedi'i fabwysiadu gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu ym mis Ebrill 2017, a’i fod yn cynnwys trefniadau ar gyfer y protocol archwilio safle, siarad cyhoeddus a'r cynllun dirprwyo cyfredol. 

 

Adroddodd ar gynnig i gadw nifer y gwrthwynebwyr sy'n ofynnol, cyn adrodd i'r pwyllgor am ddeiliad t? / cais bychan, yn fwy na 2, sef 3 gwrthwynebydd neu fwy, ond cynyddu'r nifer ofynnol o wrthwynebwyr ar gyfer unrhyw fath arall o gais i fwy na 4, sef 5 neu fwy. Cynigiwyd hefyd trin gwrthwynebiadau a gâi eu mynegi dro ar ôl tro gan wahanol aelodau o'r un teulu fel un gwrthwynebiad cymydog. Dywedodd y câi deisebau eu hystyried ar sail cryfder/gwerth/teilyngdod y gwrthwynebiadau a godwyd a phwysau’r gwrthwynebiad i gynllun neilltuol, yn enwedig yn oes y cyfryngau cymdeithasol.

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p hefyd ar gynnig i gynyddu’r amser siarad ar gyfer siarad yn gyhoeddus o’r 3 munud presennol i 5 munud i wrthwynebwyr / Aelodau / Cynghorwyr Tref neu Gymuned / ymgeiswyr / asiantau. Amlinellodd gynnig i ganiatáu i ddau wrthwynebwr siarad am 2½ munud yr un mewn achos lle roedd ganddynt bwyntiau gwahanol i’w codi. Pe bai dau wrthwynebwr yn cytuno i rannu’r 5 munud o amser siarad rhyngddynt, byddai ymgeiswyr / asiantau yn dal i gael yr un faint o amser i gyd (5 munud) ar gyfer ymateb i sylwadau’r gwrthwynebwyr. At hynny, roedd y Gweithdy wedi ystyried y dylai fod yn bosibl gofyn cwestiynau technegol / canfod ffeithiau i'r asiant / ymgeisydd, pe bai aelod o'r Pwyllgor yn dymuno gwneud hynny. Gallai'r asiant / ymgeisydd wedyn egluro pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor ond ni fyddai'r broses hon yn gyfle i gyflwyno sylwadau pellach i'r pwyllgor. Dim ond gyda chytundeb Cadeirydd y Pwyllgor (“y Cadeirydd”) y gellid gofyn unrhyw gwestiynau o'r fath i'r asiant / ymgeisydd. Yn yr un modd, gallai'r Aelodau hefyd holi gwrthwynebwyr, gyda chytundeb y Cadeirydd, ar unrhyw bwyntiau oedd yn codi o'u hanerchiad i'r pwyllgor i egluro unrhyw bwyntiau o natur dechnegol / canfod ffeithiau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p y cytunwyd yn y Gweithdy, pan gâi cais ei ohirio ar ôl i’r siarad cyhoeddus ddigwydd, na ddylid clywed siaradwyr cyhoeddus ar yr ail achlysur y deuai’r cais gerbron y Pwyllgor oni bai bod y gohirio wedi arwain at broses ymgynghori newydd neu ofyniad am gynllun diwygiedig. Fodd bynnag, yn ôl disgresiwn y Cadeirydd mewn ymgynghoriad â Rheolwr y Gr?p a'r Rheolwr Datblygu ac Adeiladu, gellid caniatáu i siaradwyr cyhoeddus annerch y Pwyllgor ar eitem a ohiriwyd o gyfarfod cynharach. 

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p ar y broses gyfredol ar gyfer sylwadau hwyr, lle mae sylwadau a dderbynnir erbyn 4p.m. y diwrnod cyn y Pwyllgor yn cael eu hadrodd ar y Daflen Ddiwygiadau a gylchredwyd i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 538.

539.

Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) 2021 ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) 2006 - 2021 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Polisi Cynllunio Strategol ar ganfyddiadau Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) 2021, gan nodi’n benodol fod yr ymgais i gyflenwi tai yn methu â chadw i fyny â'r gofyn am dai a bod angen brys am ddyraniadau tai newydd y gellid eu cyflawni i leddfu’r pwysau cynyddol i gyflenwi tai. Dywedodd ei bod yn hanfodol bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau i symud ymlaen gyda'r adolygiad statudol o'r CDLl, er mwyn atal datblygiad ad-hoc rhag dod ymlaen y tu allan i system y cynllun datblygu.

 

Adroddodd fod yn rhaid cyflwyno AMB 2021 i Lywodraeth Cymru cyn 31 Hydref 2021 ac mai ei nod oedd asesu i ba raddau yr oedd Strategaeth a Pholisïau'r CDLl yn cael eu cyflawni. Dywedodd fod gan yr AMB ddwy brif swyddogaeth; yn gyntaf ystyried a oedd y polisïau a nodwyd yn y broses fonitro yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus; ac, yn ail, ystyried y Cynllun yn ei gyfanrwydd yn erbyn yr holl wybodaeth a gasglwyd er mwyn penderfynu a oedd angen adolygiad cyflawn neu rannol o'r Cynllun.

 

Dywedodd mai canfyddiadau allweddol yr AMB oedd diffyg blynyddol mewn cyflenwi tai, lle roedd 300 o anheddau'r flwyddyn yn llai nag a ddisgwylid wedi cael eu cwblhau. Roedd 2,920 o anheddau yn brin ymhlith y tai a gyflawnwyd mewn perthynas â'r gofyniad tai blynyddol cyfartalog cronnus, tra roedd 111 o unedau tai fforddiadwy wedi'u hadeiladu ac 1.46 hectar o dir gwag wedi'i ddatblygu yn ystod y flwyddyn. Amlinellodd gyfraddau eiddo masnachol gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. Hysbysodd y Pwyllgor fod y Cabinet wedi cymeradwyo Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft ar 15 Rhagfyr 2020 ac, ers ei gymeradwyo, bod angen wedi'i nodi am 6 llain arall. Dywedodd y byddai unrhyw angen nas diwallwyd am safleoedd yn cael ei ddiwallu drwy'r CDLl Newydd.  

 

Adroddodd hefyd fod Adroddiad Adolygu’r CDLl (2018) eisoes wedi cydnabod angen brys i fynd i’r afael â’r diffyg yn y cyflenwad tir ar gyfer tai drwy nodi safleoedd tai ychwanegol. Roedd y diffyg yn y cyflenwad tai yn fwy difrifol fyth erbyn hyn ac yn methu â chadw i fyny â'r gofyn am dai.  Dywedodd ei fod yn fater sylfaenol bod digon o safleoedd y gellid adeiladu arnynt yn cael eu cynnwys yn y CDLl Newydd er mwyn lleddfu’r pwysau cynyddol ar y cyflenwad tai neu, fel arall, y byddai’r bwlch rhwng nifer y tai a gâi eu cyflenwi a’r nifer yr oedd galw amdanynt yn parhau i ledu a byddai angen safleoedd tai ychwanegol er mwyn sicrhau bod modd cyflawni gofynion tai y Fwrdeistref Sirol. Hysbysodd y Pwyllgor y gallai methu â gweithredu hefyd arwain at ‘gynllunio drwy apêl’ ac y byddai datblygiadau ad-hoc yn dod ymlaen nad oeddent yn unol â strategaeth y Cynllun.    

 

Daeth i'r casgliad bod canfyddiadau'r AMB yn rhoi cyfle pwysig i'r Cyngor asesu effeithiolrwydd y CDLl mabwysiedig a phenderfynu a oedd angen ei adolygu. Dywedodd fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwrw ymlaen ag adolygiad statudol y CDLl, fydd yn mynd i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 539.

540.

Cofnod Hyfforddiant pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:          

Bod adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau ar y Log Hyfforddi a ddiweddarwyd i gael ei nodi.

541.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Nid oedd eitemau brys. 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z