Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Datblygiad a Rheoli - Dydd Iau, 12fed Medi, 2019 14:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

294.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

Cofnodion:

Cynghorydd CA Webster Eitem 13 ar yr Agenda - Apeliadau - P/19/226/FUL - Cadw ffens o flaen annedd 81 Stryd y Parc - Buddiant rhagfarnus gan y bu’n sgwrsio gyda’r preswylydd am yr achos. Gadawodd y Cynghorydd Webster y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.

 

Cynghorydd KJ Watts - Eitem 8 ar yr Agenda - P19/391/FUL - Buddiant  rhagfarnus, gan ei fod yn adnabod y gwrthwynebwyr, un ohonyn nhw’n gyflogai i’r Cyngor (Swyddog Priffyrdd).  Gadawodd y Cynghorydd Watts y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.

 

Cynghorydd NA Burnett - Eitem 10 ar yr Agenda P/18/945/FUL - Buddiant rhagfarnus gan ei bod wedi derbyn cefnogaeth wleidyddol gan Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Hafod.  Gadawodd y Cynghorydd Burnett y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.

 

Mr L Tuck, Swyddog Rheoli Datblygu Trafnidiaeth Eitem 8 ar yr Agenda P/19/391/FUL - Buddiant rhagfarnus gan ei fod yntau a’i wraig wedi gwrthwynebu’r cais. Gadawodd Mr Tuck y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.    

295.

Ymweliadau â Safleoedd

I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 04/12/2019 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Nodwyd gan y Gadair bod dydd Mercher, 23 Hydref 2019 wedi’i gadarnhau fel y dyddiad ar gyfer ymweliadau arfaethedig â safleoedd a drafodir yn ystod y cyfarfod, neu a nodir cyn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.

296.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 01/08/2019 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Bod Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 1 Awst 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar y newidiadau canlynol:

 

(1)  Bod y Cynghorydd JC Spanswick yn cael ei ychwanegu at restr yr aelodau a oedd yn bresennol:

(2)  Bod y canlynol yn cael ei ychwanegu at gais P/18/1006/FUL yng Nghofnod rhif 287 gyda’r frawddeg o dan Amod 40 i ddarllen:

 

Er gwaethaf y cynlluniau fel y'u cymeradwywyd drwy hyn, ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd nes bod cynllun diwygiedig ar gyfer y gilfan tri bae drwy ymgorffori ardal droedffordd i'r gogledd o'r ffordd fynediad newydd sy'n gwasanaethu Rhifau 32-38 Ffordd Llangewydd wedi ei gyflwyno a'i gytuno'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y cynllun cymeradwy yn cael ei gynnal yn unol â'r manylion y cytunwyd arnynt fel rhan o gam cyntaf y datblygiad i ddarparu'r mynediad newydd i'r safle. Rhaid cadw'r llwybr troed am byth i wasanaethu Rhifau 32-38 Ffordd Llangewydd.

 

 

Rheswm: Er mwyn diogelwch y briffordd a cherddwyr.

 

Yn ychwanegol, fe ddylai’r paragraff o dan “Nodyn:” ar dudalen 5 ddarllen fel a ganlyn:

 

Cytunodd y Pwyllgor, yn dilyn peth dadl sylweddol, i atal y cyfarfod am 15:22, fel y gallai cynrychiolydd yr ymgeisydd a fynychodd y cyfarfod (ac a anerchodd y cyfarfod fel siaradwr cyhoeddus), gysylltu â datblygwr y safle, er mwyn egluro rhai pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau ynghylch y droedffordd sydd wedi'i lleoli ar ffordd fynediad y safle. Ailymgynnull y cyfarfod am 15:41 a chytunwyd i ychwanegu amod (40) at yr argymhelliad.

 

Bydd hefyd angen cynnwys y newidiadau i’r S106 sef Cytundeb Cyfreithiol Penawdau’r Telerau yn ogystal ag ychwanegu Amod 40. Fe gytunwyd hefyd bod angen i amod 17 gynnwys y geiriad canlynol:

 

“… A bydd y cyfleusterau LAP a'r LEAP ar waith cyn trosglwyddo'r 50fed annedd ar y safle hwn.”     

297.

Siaradwyr Cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

 

Cofnodion:

Doedd dim siaradwyr cyhoeddus.

298.

Taflen Ddiwygio pdf eicon PDF 25 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Derbyniodd y Cadeirydd Taflen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, i alluogi’r Pwyllgor i ystyried yr addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn gallu ystyried cynrychioliadau ac adolygiadau hwyr sydd angen eu cynnwys.

299.

Canllawiau Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:          Bod crynodeb Canllawiau Pwyllgor Rheoli Datblygu fel y manylir yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau yn cael ei nodi. 

300.

P/19/391/FUL - 3 Nottage Mead, Porthcawl pdf eicon PDF 1023 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Bod y cais canlynol yn cael ei wrthod am y rhesymau a nodir yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:

 

                          Cynnig

                          

                          Ailfodelu’r annedd i gynnwys codi’r uchder, estyniad yn y cefn a’r ochr

301.

P/19/212/OUT - R/O 143-148 Cwrt Coed Parc, Maesteg pdf eicon PDF 702 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Bod y cais canlynol yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau a gynhwysir yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:

 

                           Cynnig

                          

Cais amlinellol i godi annedd deulawr gyda garej

302.

P/18/945/FUL – Tir i’r de o Wyndham Close, Ystad Diwydiannol Brackla, Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

  PENDERFYNWYD:      Bod y cais canlynol yn cael ei wrthod am y rhesymau a nodir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:

 

                          Cynnig

                          

Codi 42 annedd preswyl fforddiadwy, gyda pharcio i geir ar y safle, trefniadau mynediad a’r gwaith sy’n gysylltiedig â hynny.

303.

P/19/416/FUL - 5 Mallard Way, Porthcawl pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:      Bod y cais canlynol yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau a gynhwysir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:

 

                           Cynnig

                          

Dymchwel y t? presennol ac adeiladu t? deulawr a hanner gyda 6 ystafell wely.

304.

P/19/140/FUL – Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   (1) Bod y cais yn cael ei gyfeirio at y Cyngor fel cynnig sy’n mynd yn groes i’r Cynllun Datblygu oherwydd  nad ydy’r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn teimlo ei fod mewn sefyllfa i wrthod gan fod y datblygiad yn ffurfio rhan o strategaeth rhesymoli Heddlu De Cymru i fuddsoddi ar safle eu Pencadlys a fydd yn caniatáu rhyddhau eu tir yn Waterton Cross yn gynnar fel rhan o ardal twf ehangach Adfywio Strategol Pen-y-bont ar Ogwr;

 

(2) Bod yr un a wnaeth gais yn cydsynio i Gytundeb Adran 106 i ddarparu cyfraniad ariannol yn y swm o £9,500 i ariannu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, marciau ffordd ac arwyddion yng nghyffiniau’r safle er mwyn cadw llif rhydd y traffig ar y strydoedd a’r cyffyrdd cyfagos; a

 

(1)        Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau yn derbyn pwerau dirprwyedig i gyhoeddi hysbysiad penderfynu yn rhoi caniatâd mewn perthynas â’r cynnig hwn, unwaith y bydd yr argymhelliad wedi’i gadarnhau gan y Cyngor a bod yr un wnaeth y cais wedi cydsynio â’r Cytundeb Adran 106 a grybwyllwyd eisoes, yn unol â’r amodau yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau.  

 

            Cynnig

 

           Datblygu Canolfan Ddysgu ar gyfer yr Heddlu, campfa, paratoi’r safle, mynediad, maes parcio a gwaith cysylltiol.

 

Yn unol ag Amod 1 yn yr argymhelliad bydd angen cynnwys dyluniad rhif XXX ar gyfer yr hyn sy’n cael ei gynnig ar gyfer y llawr gwaelod:

 

 

Cynllun y Llawr Gwaelod (PLC) – Drwg, Rhif LDS-PDA-V1-00-DR-A-05-1003 – P02 – derbyniwyd 6 Mawrth 2019

305.

Apeliadau pdf eicon PDF 707 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth Rheolwr Gr?p Datblygu adrodd yn ol ar yr Apeliadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd ers y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:       (1) Bod yr Apeliadau canlynol, a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf, yn cael eu nodi:-

 

Rhif Cod                      Testun yr Apêl

 

D/19/3233411 (1866)  Cadw’r ffens o flaen annedd rhif 81 Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr

 

D/19/3233932 (1867)  Estyniad ochr ar y llawr cyntaf (gwag islaw ar gyfer parcio); newid y to i dalcen y t? ac ymestyn y dormer yng nghefn 42 Parcau Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr

 

(2) Bod yr Apeliadau a benderfynwyd ers y cyfarfod Pwyllgor diwethaf yn cael eu nodi:-

 

Rhif Cod                      Testun yr Apêl

 

A/19/3225311 (1856)  Gosod uned breswyl pren eco sy'n symudol: Blackbridge Arabian Stud, Tyla Gwyn, Pont-y-rhyl   

 

Heb ei ddechrau          Ffens heb ei hawdurdodi: 81 Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr

 

C/19/3226631 (1861)  Eiddo mewn cyflwr gwael: 6 Warwick Crescent, Porthcawl

 

A/19/3226420 (1859)  Heb gydymffurfio â’r canlynol a gymeradwywyd: P/16/222/RES, P/17/34/DOC a P/17/1086/FUL 22: Abergarw Meadows (Plot 11), Brynmenyn

 

C/19/3226431 (1860)  Materion a gedwir yn ôl ar gyfer P/14/742/OUT i gadw’r annedd fel yr adeiladwyd gyda phwll nofio a phaneli gwydr uwchlaw waliau ffiniol 22 Abergarw Meadows (Plot 11), Brynmenyn

306.

Cynllun Datblygu Lleol Amgen Pen-y-bont ar Ogwr (LDP) 2018-2033 - Diweddariad ar Sail Tystiolaeth y Strategaeth a Ffafrir. pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu ar ddiweddariad ar baratoadau seiliedig ar dystiolaeth Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Dywedodd bod y cynllun datblygu wrth wraidd y system gynllunio gyda gofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Hysbysodd y Pwyllgor bod y Cynlluniau’n gosod gweledigaeth a fframwaith ar gyfer datblygiad pellach yr ardal, gan fynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd mewn perthynas â thai, yr economi, cyfleusterau a seilwaith cymunedol yn ogystal â sail i gadw a gwella’r amgylchedd naturiol a hanesyddol, lliniaru ac addasu i newid hinsawdd, a llwyddo i lunio lleoedd wedi’u cynllunio’n dda. Roedd hi’n hanfodol bod cynlluniau mewn lle ac wedi’u diweddaru a bod sylfaen Cynllun Datblygu Lleol wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn, sy’n golygu casglu corff sylweddol o dystiolaeth sy’n berthnasol ac yn canolbwyntio ar y prif faterion mae’r cynllun yn ceisio’u hateb.

 

Adroddodd bod nifer o ddogfennau technegol wedi’u paratoi sy’n cefnogi hyn oll er mwyn nodi’r prif faterion a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor Bwrdeistref ac yn hysbysu paratoadau’r Cynllun Datblygu Lleol Amgen. Rhestrir y dogfennau a seiliwyd ar dystiolaeth a’r papurau cefndir yn yr adroddiad, ynghyd â’u rôl a’u pwrpas. Nododd nad rhestr ddiffiniol oedd hon ac y bydd angen diweddaru gofynion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn codi wrth i’r cynllun gael ei ddiwygio.

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y dogfennau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’r papurau cefndir amgaeedig fel atodiadau 1 i 30.   

307.

Asesiad y Farchnad Dai Leol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr 2019/2020 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu ar bwrpas, statws a chasgliadau Asesiad y Farchnad Dai Leol (AFDL) a ddiweddarodd yr AFDL ddiwethaf a gynhaliwyd yn 2012.

 

Nododd bod gofyniad ar Awdurdodau Lleol i ystyried anghenion tai eu hardaloedd lleol o dan Adran 8, Deddf Tai 1985. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol Cymru fformiwleiddio AFDL,  sy’n adolygu anghenion tai trwy adolygiad cyfannol o’r holl farchnad dai. Pwysleisiwyd pwysigrwydd AFDL yn Adolygiad Annibynnol Cyflenwad Tai Fforddiadwy 2019 a nododd bod “sail polisi tai da a phenderfyniadau ynghylch cyflenwad tai fforddiadwy’n deillio o’r data gorau posib ar yr angen a’r galw am dai”. 

 

Adroddodd bod AFDL wedi’i adnewyddu a’i gwblhau yn 2019 yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny’n bodloni rhwymedigaethau statudol y Cyngor. Hysbysodd y Pwyllgor bod AFDL yn nodi wyth Ardal Marchnad Dai gyffredinol ledled y Cyngor Bwrdeisdref, yn seiliedig ar ddaearyddiaeth weithredol, ystyried y sffêr adleoli posib, cost tai (i fesur y ‘natur drosglwyddadwy’ oddi mewn i’r farchnad) a dylanwad prif gysylltiadau trafnidiaeth (i ystyried patrymau cymudo). Yr ardaloedd ydy:

 

  • Pen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau
  • Pencoed a Heol y Cyw
  • Cwm Garw 
  • Porthcawl
  • Cwm Llynfi
  • Y Pîl, Cynffig a Corneli
  • Cwm Ogwr
  • Porth y Cymoedd

 

Fe ddywedodd, er bod lefel yr angen am dai yn ymddangos fel petai wedi ‘lleihau’ yn ddramatig rhwng yr Asesiadau Marchnadoedd Tai Lleol (AFDL)  a bod hyn yn adlewyrchiad o nifer sylweddol o ffactorau rhyngberthynol, yn hytrach na graddfa fwy syml sy’n dangos yr anghenion tai. Amlinellodd y goblygiadau i’r LDP Amgen, sef bod yn rhaid i unrhyw gynlluniau datblygu gynnwys targed trwy’r awdurdod o dai fforddiadwy (a fynegir fel nifer y cartrefi) a ddylai fod yn seiliedig ar yr AFDL a chymryd i ystyriaeth pa mor ymarferol a phosib yw’r dewisiadau. Hysbysodd y Pwyllgor bod yr AFDL diweddaraf, yn gyffredinol, yn darparu sail resymegol adfywiol a chadarn i gyfeirio’r LDP Amgen a’i bolisïau rhyngberthynol ynghyd â phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Asesiad Marchnadoedd Tai Lleol.     

308.

Cofnod Hyfforddiant pdf eicon PDF 4 KB

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu ar ddiweddariad cofnod hyfforddiant.

 

PENDERFYNWYD:       Bod adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i’w nodi.    

309.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.