Agenda a Chofnodion

Is Bwyllgor Hawliau Tramwy - Dydd Iau, 7fed Medi, 2017 14:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

To receive apologies for absence from Members.    

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau canlynol:

 

Y Cynghorydd G Thomas

Y Cynghorydd T Thomas

2.

Datganiadau o Fuddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 54 KB

To receive for approval the Minutes of the Rights of Way Sub-Committees of 7th February 2014 and 22nd February 2016. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Cymeradwyo cofnodion Is-bwyllgor Hawliau Tramwy ar 7 Chwefror 2014 a 22 Chwefror 2016 yn fel cofnod gwir a chywir.

4.

Eitemau Brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Rule 4 of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

5.

Dargyfeiriad Arfaethedig Llwybr Troed rhif 4, Cymuned Coety Uchaf pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Hawliau Tramwy adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a geisiodd am awdurdodiad i wneud Gorchymyn yn unol ag adran 257 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar dir i gyfeiriad y gorllewin o Newlands Avenue, Ystâd Ddiwydiannol Bracla. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod gweithredu caniatadau cynllunio P/14/464/OUT, sef cais amlinellol am hyd at 220 o anheddau ar Dir i gyfeiriad y Dwyrain o’r A4061, Ffordd Ddosbarthu Ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr (BNDR), Coety a P/16/420/RES ar gyfer materion a gedwir yn ôl ar gyfer 220 o anheddau gyda mynediad cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr a pharcio (yn yr un lleoliad) yn gofyn am ddargyfeirio rhan o Lwybr Troed 4, Coety Uchaf. Amlinellodd i’r Is-bwyllgor gynlluniau sy’n dangos cwrtilau caniatâd y ddau ganiatâd cynllunio ac fe ddangosodd y rhan o’r llwybr troed y cynigiwyd ei dargyfeirio rhwng Pwyntiau A-B-C-D-E-F. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod y llwybr ar hyn o bryd yn dechrau ym Mhwynt A (Cyfeirnod Grid SS 91358127) ac yn bwrw i gyfeiriad deheuol i safle Rehab-Invacare ym Mhwynt B (Cyfeirnod Grid SS 91408110) cyn troi i’r gorllewin am oddeutu 255 troedfedd i Bwynt C (Cyfeirnod Grid SS 91348107) ac yna i’r de am ryw 320 troedfedd i Bwynt D (Cyfeirnod Grid SS 91378098) ac yna i gyfeiriad cyffredinol ddwyreiniol am ryw 250 troedfedd i Bwynt E (Cyfeirnod Grid SS 91448101) ar ffin ddeheuol Safle Rehab-Invacare.  Parhaodd y llwybr mewn cyfeiriad cyffredinol ddeheuol ar draws y caeau i bwynt sydd ryw 209 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o gornel gogledd-ddwyreiniol gardd gefn Rhif 29 Dôl y Brochod, Bracla (Cyfeirnod Grid SS 91468094) ac yn parhau mewn cyfeiriad deheuol am ryw 52 metr i Bwynt F (Cyfeirnod Grid SS 91448083). Hyd bras y llwybr troed fydd yn cael ei ddargyfeirio fydd 549 metr gyda lled sydd rhwng 0.7 ac 1.8 metr. Datganodd fod gan y llwybr troed gymysgedd o arwynebau naturiol a tharmacadam. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod llwybr amgen arfaethedig Llwybr Troed 4, Coety Uchaf, yn rhedeg o Bwynt A (Cyfeirnod Grid SS 913581270) ar y cynllun ac yn bwrw i gyfeiriad gorllewin de-orllewinol am ryw 27 metr i Bwynt G (Cyfeirnod Grid SS 91328126), yna mae’n parhau mewn cyfeiriad gogledd-orllewinol am ryw 26 metr i Bwynt H (Cyfeirnod Grid SS 91308127) cyn parhau mewn cyfeiriad cyffredinol gogledd gogledd-ddwyreiniol am 28 metr i Bwynt I (Cyfeirnod Grid SS 91308130), wedyn mae’r llwybr yn parhau mewn cyfeiriad gogledd-orllewinol am 37 metr pellach i Bwynt J (Cyfeirnod Grid SS 91278131) cyn parhau mewn cyfeiriad de-orllewinol am ryw 12 metr i Bwynt K (Cyfeirnod Grid SS 91268130), wedyn mae’r llwybr yn bwrw ymlaen mewn cyfeiriad de de-ddwyreiniol cyffredinol am 319 metr pellach i Bwynt L (Cyfeirnod Grid SS 91348099) cyn parhau mewn cyfeiriad de-orllewinol am 20 metr i Bwynt M (Cyfeirnod Grid SS 91338098), ac felly mewn cyfeiriad de, de-ddwyreiniol cyffredinol am 25 metr i Bwynt N (Cyfeirnod Grid SS 91338096) wedyn mewn cyfeiriad de-orllewinol am 28 metr i Bwynt O (Cyfeirnod Grid SS 91328094), yna mae’n parhau mewn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.