Agenda a Chofnodion

Is Bwyllgor Hawliau Tramwy - Dydd Mawrth, 8fed Ionawr, 2019 11:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datganiadau o Gysylltiad

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

7.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 57 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 7/9/17.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Cymeradwyo cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Hawliau Tramwy ar 7 Medi 2017 fel cofnod gwir a chywir.

8.

Dargyfeiriad Arfaethedig Llwybr Troed 17, Porthcawl pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Is-bwyllgor ddarllen y papur a ddosbarthwyd ar ddechrau’r cyfarfod gan Mr Wheeler, Cymdeithas Ceffylau Prydain. Yna gofynnodd i’r Rheolwr Hawliau Tramwy gyflwyno’r adroddiad.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Hawliau Tramwy’r adroddiad yn gofyn am awdurdod i wneud Gorchymyn yn unol ag Adran 257 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar dir nesaf at 15 The Burrows, Porthcawl, CF36 5AJ.

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y byddai gweithrediad caniatâd cynllunio P/17/595/FUL, cais cynllunio llawn i ddatblygu anhedd-dy deulawr ar wahân newydd gyda thair ystafell wely nesaf at 15 The Burrows, Porthcawl, CF36 5AJ yn gofyn am ddargyfeirio rhan o Lwybr Troed 17, Porthcawl. Esboniodd fod y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad yn dangos cwrtil caniatâd y caniatâd cynllunio. Dangoswyd y rhan o’r llwybr troed y cynigiwyd ei dargyfeirio rhwng Pwyntiau A-B-C ar y cynllun yn Atodiad B yr adroddiad. Ychwanegodd fod y datblygiad arfaethedig hefyd yn cael ei effeithio gan ddau gais am Orchmynion Addasu Mapiau Diffiniol i uwchraddio Llwybr Troed 17 Porthcawl yn Llwybr Ceffylau a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.   

 

Amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy'r llwybr fel y disgrifiwyd yn y Datganiad Diffiniol a ddangoswyd ar y cynllun yn Atodiad B. Esboniodd fod hyd bras y llwybr troed i’w dargyfeirio’n 55 metr ond bod y lled heb ei ddiffinio ar hyn o bryd yn y Datganiad Diffiniol ac roedd ganddo arwyneb naturiol. Roedd trywydd amgen arfaethedig Llwybr Troed 17, Porthcawl yn rhedeg o bwynt D i bwynt C a ddengys yn atodiad B hefyd. Hyd bras y llwybr newydd oedd 51 metr, gyda lled o 1.5 metr ac arwyneb tarmacadam gyda godreon llwybr.

 

Esboniodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y byddai’r llwybr troed newydd yn dechrau rhyw 11 metr i’r gogledd i bwynt lle’r oedd y llwybr troed oedd yn bodoli’n gadael yr un stryd. Roedd y newid hwn yn gwbl dderbyniol o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth. Y rheswm pam na ddangoswyd y dargyfeiriad fel un oedd yn rhedeg ar hyd llwybr troed The Burrows oedd oherwydd bod y llwybr troed eisoes yn cael ei ddangos fel rhan o’r briffordd y gellir ei chynnal. O ystyried y rhan ychwanegol hon, 62 metr oedd cyfanswm hyd y llwybr amgen.

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod y cais i ddargyfeirio’r llwybr troed wedi’i gyflwyno ar 14 Awst 2017 yn dilyn y sylwadau Hawliau Tramwy mewn perthynas â’r cais cynllunio. Esboniodd mewn perthynas â’r ddau gais Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol oedd yn effeithio ar y safle hwn, mai canlyniad ymchwiliadau’r Cyngor oedd y dylid gwneud dau Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol i uwchraddio Llwybr Troed 17 yn llwybr ceffylau gyda lled o 1.5 metr. Gwnaed y penderfyniad cyn cyflwyno’r cais dargyfeirio ond ni wnaed y gorchmynion tan fis Mawrth a mis Medi 2018.

 

Yna, amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori ar gyfer dargyfeiriad arfaethedig Llwybr Troed 17 fel y manylwyd yn yr adroddiad. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan Gymdeithas y Cerddwyr a chyflwynodd Heddlu De Cymru rai sylwadau mewn perthynas â’r cynnig fel y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.