Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell - trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datganiadau o fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

11.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 219 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 08/01/2019.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y 08/01/2019 fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar ychwanegu’r rhai a enwir isod oedd yn bresennol:

 

Gordon Wheeler

Les Meachin

12.

Bwriad i Ddargyfeirio Llwybr Troed 19, Llangrallo Isaf a Dileu Rhan o Lwybr Troed 18 Llangrallo Isaf pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Hawliau Tramwy adroddiad yn gofyn am awdurdodiad i wneud dau Orchymyn yn unol ag Adran 257 (gwyriad) ac Adran 258 (Dileu) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ar dir i'r dwyrain o'r A48 (Bryn Crac), Brocastell, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 5AU.

 

Dywedodd y byddai ymweliad safle wedi cael ei gynnal fel arfer i alluogi'r Is-bwyllgor i fynd ac archwilio'r ardal. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni fu hyn yn bosibl. Yn lle hynny, dangosodd luniau o'r ardal.

 

Rhannodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y llun cyntaf, oedd yn dangos manylion cynllun lleoliad yr ardal. Ychwanegodd er gwybodaeth ei fod wedi ei leoli ychydig i'r de o Ffatri Ford, rhwng ffiniau Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Hawliau Tramwy ddau lun arall yn dangos hyd oes y safle fel ag yr oedd yn 2015, ac eto yn 2020 pan oedd y safle’n cael ei ddatblygu.

 

Dangosodd luniau o lwybr troed 19 (Llangrallo Isaf) sef man cychwyn y llwybr troed ym mhwynt A (a amlygwyd yn Atodiad A yr adroddiad) a dangosodd y giât bresennol yn ogystal â golygfa ar draws canol y safle i gyfeiriad y gogledd ddwyrain.

 

Dangosodd hefyd luniau o'r llwybr amgen arfaethedig oedd yn dangos lle byddai'r llwybr yn ymestyn ar hyd y clawdd wrth ochr yr A48 ac yn wynebu tuag at bwynt C (a amlygwyd yn atodiad A yr adroddiad). Fel gwybodaeth bellach, dangosodd luniau ychwanegol yn dangos y llwybr ar hyd y pwyntiau oedd yn weddill a amlygwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod gwybodaeth bellach wedi cael ei darparu ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ac roedd hon yn dangos giât ychwanegol ym mhwynt E, fyddai'n cael ei chynnwys fel cyfyngiad ar y gorchymyn.

 

Dywedodd fod rhan o'r llwybr yn cynnwys camfa, ond soniodd y gallai unrhyw un nad oedd yn medru defnyddio'r gamfa ddefnyddio'r llwybr dros dro a ddarperir gan y datblygwr am y 5 mlynedd nesaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod pont droed ym mhwynt J oedd o’r golwg ar hyn o bryd o dan ordyfiant o laswellt a phlanhigion, ac y câi hon ei chlirio pan fyddai'r gwyriad yn cael ei wneud.

 

Gofynnodd Aelod ai ymgeisydd y safle datblygu a ofynnodd am orchymyn y gwyriad. Cadarnhaodd y Rheolwr Hawliau Tramwy mai ef oedd wedi gofyn.

 

Holodd Aelod ynghylch y gamfa a ddangosid yn y llun. Roedd hon yn ei gwneud yn anodd i bobl anabl neu bobl â phroblemau symudedd eraill i ddringo drosti, ac felly oni ellid gosod giât yn ei lle? Eglurodd y Rheolwr Hawliau Tramwy, er mwyn diogelu'r glasbrennau yn y mannau plannu tirwedd gwell newydd, bod yr ymgeisydd/tirfeddiannwr wedi penderfynu gosod ffens atal cwningod tra byddent yn aeddfedu dros gyfnod o 5 mlynedd. Roedd rhagor o wybodaeth am hyn yn 4.27 a 4.28 o'r adroddiad.

 

Gofynnodd yr Aelod a ellid codi arwyddion i hysbysu pobl am y llwybr troed ychwanegol. Cytunodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y gellid gosod arwyddion ychwanegol i hysbysu defnyddwyr am y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z