Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau/Swyddogion canlynol: Y Cyng Alex Williams |
|
Datgan Buddiannau Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 66 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/03/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd A gynhaliwyd ar 20/03/2018 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Penodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd PDF 78 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a roddodd wybod i’r Pwyllgor am y broses a ddilynir i benodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ac a geisiodd benodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod Adran 8 (1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gofyn i'r Awdurdod benodi un o'i swyddogion i gyflawni swyddogaethau'r gwasanaethau democrataidd yn Adran 9 y Mesur.
Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n gadael yr awdurdod ar 30 Mehefin 2018 ac mae’r awdurdod wedi ymgymryd â phroses penodi. Mae cynnig cyflogaeth wedi'i roi, ond mae’n bosibl y bydd oedi cyn y gall yr ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd. Mae rhywun wedi’i benodi dros dro i’r swydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn bodloni gofynion statudol a chynigiwyd bod y Prif Gyfreithiwr yn cael ei benodi fel Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaeth Democrataidd o 1 Gorffennaf 2018 ymlaen.
PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd: Yn dynodi swydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn Bennaeth statudol y Gwasanaethau Democrataidd at ddibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
Yn penodi Prif Gyfreithiwr yr Awdurdod fel Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaeth Democrataidd i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd y Cyngor o 1 Gorffennaf 2018 tan fod deiliad newydd y swydd yn dechrau. |
|
Diweddariadau Gwasanaeth a Pherfformiad PDF 96 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad r berfformiad y gwasanaethau wedi’u darparu ar gyfer Aelodau Etholedig.
Cyflwynodd ddiweddariad ar nifer yr atygyfeiriadau a dderbyniwyd rhwng 1 Mawrth a 31 Mai 2018, a gyda’r meincnod a osodwyd ym mis Tachwedd 2013 bod tua 45% atgyfeiriadau wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod targed o 10 diwrnod. Rhoddodd wybod hefyd am nifer yr atgyfeiriadau wedi’u cwblhau rhwng 1 Mehefin 2017 a 31 Mai 2018 ac esboniodd fod y meincnod a osodwyd ym mis Tachwedd 2013 y dylai 90-95% o atgyfeiriadau wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod o 3 mis. Yn ystod y cyfnod, Ionawr 2018 oedd yr unig fis oedd o dan y cyfartaledd hwn gyda 89.05% o atgyfeiriadau’n cael eu cwblhau.
Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ymlaen i esbonio'r gweithgareddau datblygu aelodau a gynhaliwyd yn rhan o'r Rhaglen Ddatblygu Aelodau, ynghyd â chrynodeb o nifer yr aelodau oedd yn bresennol ar gyfer pob pwnc y rhaglen. Yna esboniodd bob un o’r pynciau wedi’i drefnu yn rhan o’r Rhaglen Ddatblygu Aelodau gan amlinellu pynciau wedi’u nodi i’w cynnwys yn y Rhaglen Ddatblygu Aelodau.
Gofynnodd Aelod am y RhDDC yn cael ei ddosbarthu’n hanfodol i bob aelod a’r hyn y gellid ei wneud os nad yw Aelodau'n mynychu. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, er bod yr Awdurdod wedi dweud ei fod yn hanfodol, nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol i aelodau ei wneud ac felly ni ellir eu cosbi, oni bai bod y Papur Gwyn yn dweud fel arall.
Esboniodd hefyd y newidiadau y mae wedi’u gwneud ar gyfer y sesiwn RhDDC nesaf ar sail y sylwadau wedi’u gwneud gan Aelodau aeth i’r sesiwn gyntaf. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor y bydd y Prif Gyfreithiwr hefyd yn mynd i'r sesiwn i roi eglurder ar rai o'r telerau ar ffurf Atgyfeiriadau Aelodau fel y mae gan Aelodau ddealltwriaeth gliriach o'r RhDDC.
Manylodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y pynciau wedi’u trefni ar gyfer Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor yn y Dyfodol. Rhestrwyd y pwnc cyntaf ar y rhestr fel Bryntyrion ond dylai fod wedi'i restru fel Bryncethin - ni fyddai'n digwydd ar 18 Gorffennaf mwyach gan nad oedd modd i gynrychiolwyr Campws Bryncethin fynychu. Cytunodd yr Aelodau i aildrefnu'r sesiwn ar gyfer y Briff Cyn Cyfarfod y Cyngor ar 21 Tachwedd.
Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried aildrefnu’r Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor ar Drafnidiaeth Gymunedol ar 18 Gorffennaf ac ar y Cynllun Datblygu Gwledig ar 24 Hydref. Hefyd ystyriodd y Pwyllgor yr angen i gael Sesiwn Ddatblygu Aelodau ym mis Hydref ar gyfer ‘Sut i Ddefnyddio Mapiau Pontydd’.
Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar nifer o fodiwlau e-ddysgu sydd wedi’u cwblhau gan Aelodau Etholedig. Hyd yn hyn, nid oes llawer o Aelodau wedi manteisio ar gyfleusterau e-ddysgu a gofynnwyd i’r Aelodau am eu barn ar yr hyn y gellid ei wneud i annog Aelodau Etholedig i wneud defnydd mwy o’r cyfleusterau e-ddysgu sydd ar gael. Dywedodd yr Aelodau fod llawer ohonynt wedi cael problemau gyda chwblhau modiwlau penodol ac y byddai’r bar cynnydd yn rhewi sy’n golygu na allent ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 142. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim |