Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman  E-bost: michael.pitman@bridgend.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

131.

Ethol y Cadeirydd

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd (PGD) wrth y Pwyllgor nad oedd y Cadeirydd, y Cyng. RM James yn gallu dod i'r cyfarfod.   Gwahoddodd y PGD enwebiadau i gynrychiolydd o'r pwyllgor gael ei benodi'r Cadeirydd ar y cyfarfod.  Enwebwyd ac eiliwyd y Cyng. K Watts fel y Cadeirydd

 

PENDERFYNWYD:  Penodi’r Cynghorydd K Watts yn Gadeirydd y pwyllgor ar gyfer y cyfarfod.

132.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

133.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 68 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  17/01/2018.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 17/01/2018 fel rhai gwir a chywir. 

134.

Diweddariadau ar Wasanaeth a Pherfformiad pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y PGD adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar berfformiad y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer Aelodau Etholedig.

 

Atgyfeirio Aelodau

Yna siaradodd y Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd trwy’r data perfformiad atgyfeiriadau aelodau.  Amlinellodd ganran yr atgyfeiriadau a gwblhawyd gan gyfarwyddiaethau o fewn 10 a 20 diwrnod a dywedodd fod mwy na 50% o atgyfeiriadau ar gyfartaledd wedi'u cwblhau o fewn 10 diwrnod a bod mwy na 75% wedi’u cwblhau o fewn 20 diwrnod.  Ychwanegodd fod cynnydd o 40% wedi bo yn nifer yr atgyfeiriadau wedi’i wneud y llynedd o’u cymharu i’r nifer o atgyfeiriadau ar gyfartaledd wedi'u derbyn ar gyfer pob un o'r 4 blynedd ddiwethaf.

 

Cytunodd yr Aelodau y dylai canran cwblhau 20 diwrnod fod yn uwch a dywedon nhw y dylai’r rhan fwyaf o atgyfeiriadau gael eu cwblhau o fewn y cyfnod o 20 diwrnod.  Dylid hefyd annog cyfarwyddiaethau i gyflawni canran uwch o atgyfeiriadau sy’n cael eu cwblhau o fewn 10 diwrnod.

 

Credodd y Pwyllgor ei fod yn ddangosydd cadarnhaol fod mwy o atgyfeiriadau'n cael eu gwneud.  Dywedodd y PGD fod sawl aelod hefyd yn adrodd eu hatgyfeiriadau i sefydliadau eraill yn ogystal â’r System Atgyfeirio Aelodau a arweiniodd at rywfaint o ddyblu.

 

Rhoddwyd y PGD wybod i'r aelodau am argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i godi eu pryderon ynghylch gweithredu a defnyddio'r system atgyfeirio aelodau at y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Mae’r argymhelliad hwn yn cyd-fynd â’r cynllun i adolygu’r system Atgyfeirio Aelodau a nodwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Y bwriad oedd adolygu’r holl agweddau ar y system Atgyfeirio Aelodau a phrosesu i wella effeithlonrwydd ac effeithioldeb.

 

Lleisiodd yr aelodau eu pryderon am gyflymder ac effeithlonrwydd sawl un o’r atgyfeiriadau gan eu bod yn cael eu cylchredeg i ganolbwynt gwasanaeth cyn cael eu hanfon i’r adran berthnasol. Awgrymwyd y dylid atgyfeirio’n uniongyrchol i’r person perthnasol fel y gellir ymdrin â’r mater yn gyflym gan osgoi’r ‘canolwr’.   Roedd yr aelodau hefyd yn awyddus blaenoriaethu atgyfeiriadau i alluogi'r rheiny sy’n cael eu hystyried yn rhai brys i gael eu prosesu’n gyflym.  Rhoddodd y PGD wybod i'r aelodau y byddai eu sylwadau'n cael eu cynnwys yn rhan o'r adolygiad.

 

Dywedodd y PGD wrth yr aelodau am gyflwyniad y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) a sut y byddai’r rheoliadau newydd hyn yn effeithio ar Atgyfeiriadau Aelodau. Un o’r goblygiadau fyddai na fyddai modd cadw data personol ar ôl iddo stopio bod yn berthnasol a byddai angen ei ddileu.  Ychwanegodd mai rheolwyr data yw'r aelodau ac wrth ddelio gyda data am unrhyw unigolyn fod ganddynt gyfrifoldeb llwyr dros y data hwnnw, a bod angen iddynt weithredu’n unol â hynny. Cytunodd yr aelodau gynnal hyfforddiant ar y RhDDC ym mis Mehefin 2018 i sicrhau eu bod yn deall y rheoliadau newydd yn llwyr.

 

Datblygu Aelodau

 

Rhoddodd y PGD wybod i’r aelodau am weithgareddau datblygu aelodau oedd wedi’u cynnal ers Hydref 2017 a nifer yr aelodau a gymerodd ran yn y digwyddiadau hyn. Nodwyd, er bod llawer wedi mynychu sawl un o’r gweithgareddau, fod llawer wedi gweld canran presenoldeb o 50%. Rhoddwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 134.

135.

Adolygu ymarferoldeb Modern.gov pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

Amlinellodd PGD ymarferoldeb y system Modern.Gov, y mae Tîm y Gwasanaethau Democrataidd wrthi’n ei defnyddio, a’r agweddau ychwanegol y mae bwriad i’w cyflwyno.

 

Esboniodd y defnyddiwyd Modern.Gov i hwyluso llawer o’r wybodaeth am Aelodau Etholedig a’u rolau.  Diweddarodd y system eu proffiliau, eu cofnodion presenoldeb, eu datganiadau a gwybodaeth arall. Dywedodd wrth y pwyllgor fod staff â’r bwriad o gynyddu’r defnydd o’r nodwedd hon trwy ychwanegu cofnodion pleidleisio i’w proffil i alluogi'r cyhoedd i ddeall yn well benderfyniadau wedi'u gwneud gan y cynghorwyr.

 

Esboniodd hefyd nodwedd ‘tanysgrifio i ddiweddariadau’ y wefan. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i ofyn am ddiweddariadau ar bynciau o’u dewis a fydd yn cael eu cylchredeg iddynt yn awtomataidd.

 

Gofynnodd aelod a yw nifer y weithiau y mae rhywun yn edrych ar ei broffil yn cael ei gofnodi. Esboniodd y PGD fod y nodwedd hon ar gael o’r cyfnod iddo ddechrau ei swydd.

 

Esboniodd aelod arall nad yw hi’n gwybod bod llawer o’r nodweddion hyn yn bodoli gan obeithio y gellir cynnal cwrs gloywi ar nodweddion Modern.Gov.

 

Mae’r PGD yn cydnabod y cynigion hynny ac y byddai’n cynnwys y pwnc hwn mewn cyfarfodydd Fforwm TGCh yr Aelodau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:    Nodi cynnwys yr adroddiad

 

136.

Blaenraglen Waith Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y PGD adroddiad a roddodd wybod i’r Pwyllgor am eitemau arfaethedig i’w hystyried yn ei gyfarfodydd dilynol yn rhan o Flaenraglen Waith Dreiglol yn y dyfodol, a atodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Esboniodd hefyd fod y calendr cyfarfodydd ar gyfer 2019/20 wedi’i gwblhau gyda dyddiadau dros dro’r holl gyfarfodydd gan gynnwys rhai Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Byddai’r calendr yn cael ei anfon allan yn fuan i gael cymeradwyaeth aelodau yn rhan o’r adroddiadau ar gyfer cyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai.

 

Dywedodd aelod fod llawer ohonynt wedi bod yn cael trafferth mewngofnodi i rannau gwahanol o’r wefan, yn ogystal â Modern.Gov, o’r dyfeisiau cludadwy. Awgrymodd y PGD fod y problemau hyn wedi'u cynnwys yn Fforwm TGCh yr Aelodau a gobeithio byddai hyn o fudd mynd i'r afael â phryderon TGCh yr holl aelodau.

 

Byddai hyfforddiant ar Modern.Gov hefyd yn cael ei ychwanegu at y Flaenraglen Waith yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant cyfredol ar fentrau eraill.

 

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo’r flaenraglen waith ar yr amod bod eitem ar yr Adolygiad Atgyfeiriadau Aelodau sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar 25 Hyd 2018 yn  cael ei chynnwys.

 

137.

Eitemau Brys

To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in

accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Dim

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z