Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

153.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

154.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 89 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/10/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: I dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25/10/2018 fel rhai cywir.

155.

Penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn amlinellu'r broses a ddilynwyd wrth benodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd fod Adran 8 (1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod ddynodi un o'i swyddogion i gyflawni swyddogaethau'r gwasanaethau democrataidd yn Adran 9 o'r Mesur a gofynnodd am benodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor.

 

Eglurodd fod y pwyllgor, ar 25 Hydref 2018, wedi cymeradwyo penodi'r Prif Gyfreithiwr i'r rôl statudol dros dro er mwyn bodloni'r gofynion statudol.   Yn ddiweddar, mae'r awdurdod wedi cynnal proses benodi ar gyfer Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd gan y Swyddog Monitro a'r Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

 

Adroddwyd bod y broses recriwtio wedi'i chwblhau a bod cynnig cyflogaeth wedi cael ei wneud.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn penodi Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod yn Bennaeth Statudol y Gwasanaethau Democrataidd at ddibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd y Cyngor i ddechrau ar unwaith.

156.

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol CLILC i Gynghorwyr pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi copi i'r pwyllgor o ganllawiau cyfryngau cymdeithasol i Gynghorwyr a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor, er nad yw Cod Ymddygiad yr Aelodau yn cynnwys yn benodol unrhyw rwymedigaethau mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y cwynion a wnaed yngl?n â sylwadau Aelodau Etholedig ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru. Ychwanegodd fod canllawiau wedi cael eu cylchredeg i Aelodau yn ddiweddar.

 

Esboniodd nad yw defnydd personol o'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan o'r Cod. Fodd bynnag, os yw Aelod yn crybwyll materion cyhoeddus neu weithgaredd y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol, yna mae'n debyg y bydd y sylwadau hynny'n cael eu gweld fel rhai swyddogol.

 

Cyfeiriodd at y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng nghyfarfodydd y cyngor ac nad oes yna unrhyw reswm cyfreithiol dros beidio â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn cyfarfodydd, ond dywedodd bod angen defnyddio synnwyr cyffredin.  Dywedodd y gallai defnydd gormodol greu canfyddiad negyddol i'r cyhoedd a rhoi'r argraff nad yw'r aelod efallai'n canolbwyntio ar y materion sy'n cael eu trafod. Am y rheswm hwn dywedodd nad yw'n synhwyrol i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod trafodaethau. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ar y canllawiau mewn cysylltiad â'r defnydd o'r Gymraeg fel yr amlinellir ym mharagraff 33.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai'n gofyn i CLlLC am eglurhad ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor gan fod yr elfen hon o'r canllawiau yn amwys.

 

PENDERFYNWYD: Y byddai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi cyfarwyddiadau CLlLC.   

157.

Arolygon o Amseriad Cyfarfodydd pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am ganlyniadau arolygon o amseriad cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn perthynas â rhai o Bwyllgorau'r Cyngor, gan gynnwys y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Cynigiwyd bod arolygon tebyg yn cael eu cynnal i gadarnhau amseriad pedwar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn y dyfodol fel rhan o Raglen Gyfarfodydd 2019/2020.

 

Hysbysodd y Pwyllgor o'r gofyniad i gynnal arolwg o amseriad cyfarfodydd yn unol ag adran 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

Eglurodd fod yr Aelodau, mewn cyfarfod o'r Cyngor ar 26 Gorffennaf 2017, wedi ystyried adroddiad at ddibenion gwybodaeth, ar ganlyniadau'r arolwg o amseriad cyfarfodydd a gynhaliwyd ar gyfer y Cyngor a Phwyllgorau'r Cyngor (fesul Pwyllgor), er mwyn cael eu dewisiadau ar gyfer amseroedd dechrau cyfarfodydd o 1 Medi 2017 ymlaen. Dywedodd bod cynnal arolwg o'r fath yn ofynnol o leiaf unwaith ym mhob tymor ar gyfer holl gyfarfodydd Pwyllgorau (sy'n cynnwys y Cyngor).

 

Ers y cyfnod hwnnw, ac ar gais nifer o Aelodau Pwyllgorau neu oherwydd newidiadau i aelodaeth y corff penodol hwnnw, cynhaliwyd arolygon pellach o amseriad cyfarfodydd yn ddiweddar ar gyfer y Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Rheoli Datblygu, y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Yn dilyn yr ymatebion a gafwyd, ni newidiwyd amseriad y cyfarfodydd hyn ac eithrio'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd sydd wedi newid i 10:00am a bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn nyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor yn y Rhaglen o Gyfarfodydd ar gyfer 2019/2020. 

 

 

Mynegodd yr aelodau eu pryderon ynghylch amseriad newydd cyfarfodydd y Gwasanaethau Democrataidd gan fod llawer ohonynt wedi methu ag ymateb, neu wedi colli'r dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r arolwg o amseriad cyfarfodydd. Dywedodd aelodau'r Pwyllgor fod yr amser arfaethedig o 10:00am yn rhy anodd i rai ohonynt fynychu, yn enwedig i'r rhai sy'n gweithio rhan amser/llawn amser.

 

Awgrymodd Aelod y posibilrwydd o gael cyfarfod gyda'r nos i gynnwys Aelodau nad ydynt yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cynharach.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod hwn yn fater ehangach a fyddai'n golygu ymgynghori ag Arweinydd y Gr?p a'r Undebau Llafur gan y byddai'n golygu newidiadau i delerau ac amodau swyddogion.    

 

Eglurodd, fel rhan o adolygiad craffu, y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi, fodd bynnag, i gyfarfodydd craffu gyda'r nos mewn gwahanol ardaloedd cymunedol yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol i roi mwy o hyblygrwydd o ran cynyddu ymwybyddiaeth ac annog y cyhoedd i ymgysylltu â chraffu.  

 

 

PENDERFYNWYD:  Nodi'r arolygon o amseriad cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn perthynas â rhai o Bwyllgorau'r Cyngor, ond bod arolwg newydd yn cael ei gynnal ar amseriad cyfarfodydd  y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a bod arolygon tebyg yn cael eu cynnal i bennu amseriadau pedwar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn y dyfodol fel rhan o Raglen Cyfarfodydd 2019/2020.

158.

Rhaglen Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyflwyno Rhaglen Hyfforddi a Datblygu'r Cyngor i Aelodau a gweithgarwch cysylltiedig.

 

Rhoddodd fanylion i'r Aelodau am y Sesiynau Hyfforddi a Datblygu i Aelodau sydd wedi cael eu cyflwyno ers mis Ebrill 2018 a'r Sesiynau Briffio Cyn Cyfarfodydd y Cyngor a Sesiynau Hyfforddi'r Pwyllgor Rheoli Datblygu a ddarparwyd ers 17 Hydref 2018.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod sesiynau Hyfforddi'r Pwyllgor Datblygu ar gael i holl Aelodau'r Cyngor eu mynychu, nid dim ond Aelodau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gr?p y Pwyllgor at yr amserlen gyfredol ar gyfer sesiynau hyfforddi yn y dyfodol y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ym mharagraff 4.4.

 

Diolchodd un o'r Aelodau i'r swyddogion sy'n cyflwyno sesiynau Hyfforddi'r Pwyllgor Rheoli Datblygu a dywedodd fod y cynnwys bob amser wedi bod yn ddefnyddiol, yn llawn gwybodaeth ac wedi'i gyflwyno'n dda.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wybod i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol o ran modiwlau E-ddysgu. Eglurodd bod cyfanswm o 20 Aelod wedi cael mynediad i'r modiwlau E-ddysgu ers dechrau'r tymor etholiadol. Gofynnodd am farn yr aelodau ar sut y gallai'r cyngor wneud gwell defnydd o Gyfleusterau E-ddysgu.

 

Gofynnodd aelod i nodyn gael ei anfon allan at bawb yn eu hatgoffa o bwysigrwydd y modiwlau E-ddysgu. Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai hynny'n cael ei wneud.

 

Dywedodd nifer o'r Aelodau eu bod yn cael trafferth cael mynediad i'r Modiwlau E-ddysgu neu eu cwblhau nhw. Gofynnwyd am gymorth ac arweiniad ychwanegol gan swyddogion neu'r adran TGCh er mwyn sicrhau bod Aelodau'n gallu cwblhau'r Modiwlau E-ddysgu. Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gellid ymchwilio i hyn i fynd i'r afael â'r problemau y mae Aelodau'n eu cael.

 

Cadarnhaodd yr aelodau eu bod yn cytuno â'r pynciau sydd wedi'u trefnu ar hyn o bryd ar gyfer y Sesiynau Briffio Cyn Cyfarfodydd y Cyngor, Hyfforddiant y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn ogystal â'r modiwlau E-ddysgu sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD: Y byddai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi cynnwys yr adroddiad.

159.

Gweddarlledu Cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a rhoddodd ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau.

 

Esboniodd y trefniadau gweddarlledu cyfredol, amlinellodd y cyfarfodydd a oedd wedi'u gweddarlledu hyd yn hyn, a rhoddodd ystadegau a oedd yn manylu ar nifer y safbwyntiau a dderbyniwyd ar gyfer pob un o'r cyfarfodydd, gan gynnwys darllediadau byw, ar alw a nifer y gwylwyr.

 

Mynegodd Aelod ei bryderon yngl?n â nifer y gwylwyr a gofynnodd a ellir gwneud unrhyw beth i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd ymhellach.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod y tîm Cyfathrebu, yn ddiweddar wedi rhoi cyhoeddusrwydd i'r gweddarllediadau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor cyn cyfarfodydd. Bydd y tîm Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn parhau i edrych am ffyrdd eraill i ymgysylltu ymhellach â'r cyhoedd.

 

Gofynnodd un o'r Aelodau am gost gweddarlledu y pen a chyfanswm y gost.   Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai'n darparu'r wybodaeth hon i'r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD: Y byddai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

 

  1. Yn nodi'r diweddariad ar drefniadau gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau;

 

Nodi'r rhestr o'r cyfarfodydd y bwriedir eu gweddarlledu.   

160.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z